Jones, Eric (g.1948)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfeilydd a chyfansoddwr, hyfforddwr a beirniad sydd wedi cynnal ei weithgaredd cerddorol yn gyfochrog â’i yrfa yn y byd addysg ac ar ôl ymddeol. Cafodd ei eni a’i fagu ym Mhontarddulais. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontarddulais ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn Tre-gŵyr; ymhlith ei gyfoeswyr yno yr oedd y cyfansoddwr Karl Jenkins a’r canwr Dennis O’Neill.

Wedi ennill ar yr unawd piano dan 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965, aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd gan raddio yn 1970. Astudiodd ymhellach yng Ngholeg Cerdd y Drindod, Llundain, ac ennill diploma LTCL am astudio’r piano, a derbyn gwobr Coleman am farciau uchaf y flwyddyn yn 1972 a gwobr gyfansoddi yn 1976. Erbyn hyn, mae’n Gymrawd o’r coleg. Yn 1989, derbyniodd radd MPhil gan y Brifysgol Agored. Bu’n athro yn Ysgol Uwchradd Stebonheath, Llanelli, ac yn Ysgol Gyfun Mynyddbach, Abertawe, lle’r oedd yn bennaeth y gyfadran celfyddydau creadigol rhwng 1974 ac 1985. Wedi hynny, bu’n ddirprwy brifathro yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe, hyd 1997 gan derfynu ei yrfa addysgol fel prifathro Ysgol Gyfun Bro Myrddin (1997-2006).

Daeth i amlygrwydd yn gyntaf fel hyfforddwr corau. Bu’n hyfforddi Côr Merched Ysgol Mynyddbach a thrwy ei waith ef daeth y côr i’r brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cyflwynodd y côr i repertoire ehangach a sicrhau eu bod yn cyrraedd safon uwch, gan eu paratoi ar gyfer perfformiadau cyhoeddus gyda cherddorfeydd proffesiynol dan arweinyddion megis Owain Arwel Hughes, David Willcocks ac Andrew Davis.

Ef oedd cyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais rhwng 1973 ac 1991 a bu’n llywydd y côr ers 2004. Bydd yn beirniadu cystadlaethau lleisiol a chystadlaethau cyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyson, ac fe’i hurddwyd yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd yn 2010 am ei gyfraniad i’r Eisteddfod ac i gerddoriaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn beirniadu mewn gwyliau cerdd.

Derbyniodd gomisiynau gan nifer o gorau yng Nghymru a’r tu hwnt, a dewisir gweithiau ganddo’n gyson fel darnau prawf mewn cystadlaethau cenedlaethol (caneuon megis ‘Min y Môr’ ac ‘Yr Alarch’), eu recordio ar gryno-ddisgiau a’u darlledu ar radio a theledu. Ymhlith ei gyfansoddiadau a’i drefniannau y mae darnau lleisiol amrywiol, pedair cyfrol o ganeuon i blant, dwy gyfrol o unawdau i leisiau amrywiol, darnau corawl ar gyfer corau merched, corau meibion, corau cymysg a chorau plant, dwy sioe gerdd a chantata Nadolig, sef Great is the Story (2012), ar gyfer côr cymysg, côr ieuenctid, unawdwyr a cherddorfa siambr. Cyhoeddir ei gerddoriaeth gan Gwmni Curiad, Sain, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Banks ac Alto Publications.

Ymhlith gweithiau mwyaf adnabyddus Eric Jones mae Y Tangnefeddwyr, gosodiad hynod effeithiol o gerdd Waldo Williams sydd wedi’i drefnu erbyn hyn ar gyfer corau amrywiol ac wedi ei recordio sawl gwaith. Mae’r gân yn nodweddiadol o arddull delynegol, donyddol echblyg y cyfansoddwr. Ef hefyd yw awdur y llyfrau Maestro (Gomer, 2007), sef cofiant Noel Davies, a Brothers Sing On (Y Lolfa, 2010), ar hanes Côr Meibion Pontarddulais.

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • ‘Y Tangnefeddwyr’ ar Corau Ceredigion, Corau Ceredigion (Sain SCD2579, 2008)
  • ‘Y Tangnefeddwyr’ ar The Fron Male Voice Choir, Voices of the Valley Memory Lane (Decca 2708449, 2009)
  • ‘Y Tangnefeddwyr’ ar Côr Meibion Cymry Llundain, Yn Fyw o Neuadd Bridgewater, Manceinion (Sain SCD2619, 2010)
  • ‘Y Tangnefeddwyr’ ar CF1, Con Spirito (Sain SCD2620, 2011)

Llyfryddiaeth

  • Carol yr Alarch a Chaneuon Eraill (Penygroes, 1996)
  • Dagrau Gorfoledd/Tears of Joy (Penygroes, 1999)
  • Canwn Fawl (Penygroes, 2000)
  • Maestro: Cofiant Noel Davies/A Biography of Noel Davies (Llandysul, 2007)
  • Brothers Sing On: A History of Pontarddulais Male Choir (1960–2010) (Talybont, 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.