Metcalf, John (g.1946)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ac yntau’n enedigol o Uplands, Abertawe, symudodd John Metcalf i Gaerdydd pan oedd yn chwech oed gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, ac Ysgol Dean Close, Cheltenham. Astudiodd gyfansoddi gydag Alun Hoddinott ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, gan dderbyn gradd BMus yn 1967 cyn astudio cerddoriaeth electronig yn 1970–1 yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain, dan adain Hugh Davies. Yn ogystal derbyniodd wersi cyfansoddi yn breifat gan Don Banks.

Eng.1. Y gyfres nodau mewn tair rhan gymesurol sy’n sail i Auden Songs John Metcalf.
Yn 1969 sefydlodd Ŵyl Bro Morgannwg sydd er 1991 wedi canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth gan gyfansoddwyr byw; derbyniodd yr ŵyl gydnabyddiaeth genedlaethol i safon ei rhaglennu trwy Wobr Prudential i’r Celfyddydau yn 1994. Yn 1986 daeth Metcalf yn un o gyfarwyddwyr artistig Canolfan Gelf y Banff yng Nghanada ac yn gyfansoddwr preswyl ym maes theatr gerdd. Tra parhai i fod yn gyfarwyddwr artistig cyswllt yng Nghanolfan y Banff, dychwelodd i Gymru i fyw a rhwng 1996 a 2007 bu’n gyfarwyddwr artistig ar Ŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe.

Fe’i penodwyd yn gyfansoddwr cyswllt Canolfan Gerdd Canada ynghyd â’i urddo’n gymrawd er anrhydedd o brifysgolion Caerdydd, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn 1995 derbyniodd Wobr Goffa John Edwards gan yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru bellach) am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru ac yn 2012 cafodd MBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Eng.2. Llyfr Lloffion y Delyn, rhif 4 (‘Astudiaeth Rhythmau’), mm. 28–52 (defnyddiwyd trwy ganiatâd y cyfansoddwr).
Bu gwahanol ddylanwadau ei fentoriaid cyfansoddi yn amlwg iawn ar ei weithiau cynnar lle ceir defnydd helaeth o dechnegau’r gyfres deuddeg nodyn. Seiliwyd ei Auden Songs (1973) ar gyfres deuddeg nodyn esgynnol sy’n rhychwantu dau wythfed gyda’r nodyn olaf ym mha bynnag drawsgyweiriad yr un nodyn â’r cyntaf (gw. Eng.1).
Eng.3. Paradise Haunts, mm. 288–303 (defnyddiwyd trwy ganiatâd y cyfansoddwr).

Yn ogystal defnyddia Dyad (1976) y deuddeg nodyn cromatig i gyd ond y tro hwn mewn cyfresi esgynnol a gostyngol nid annhebyg i’r raga Indiaidd. Mae cromatyddiaeth fwy rhydd yn amlwg yn ei gomisiwn i Ŵyl Abertawe, Boundaries of Time (1985), sy’n waith ar raddfa fawr ar gyfer unawdwyr, corws a cherddorfa ac yn un cyfansoddiad ymysg nifer o’r 1980au lle mae Metcalf yn archwilio pryderon gwleidyddol ac amgylcheddol, nid annhebyg i Or Shall We Die (1983) gan Michael Berkeley. Yn ei opera Tornrak (1990) hefyd, gwaith sy’n adwaith dwys i’r un materion, ceir cerddoriaeth sy’n llawn dicter ac egni ar yr un pryd.

Mae’n debyg mai Llyfr Lloffion y Delyn (1992) yw’r gwaith cyntaf i gael ei ysgrifennu yn arddull fwy diweddar y cyfansoddwr, sy’n rhoi lle canolog i ddwy brif nodwedd. Y nodwedd gyntaf yw’r symleiddio ar yr harmoni a’r defnydd o harmonïau diatonig a moddawl, sy’n symud i ffwrdd oddi wrth ieithwedd dra chromatig ei gynnyrch yn ystod yr 1980au. Yn aml llenwir y cordiau cyfeiliol gyda nodau ychwanegol o’r un raddfa foddawl gan ffurfio cordiau clystyrog a rhai heb eu hadfer (megis gyda’r 4ydd gohiriedig) sy’n cyfoethogi’r harmonïau, fel y gwelir ym mm.32–44 (gw. Eng.2).

Yr ail nodwedd yw’r pwyslais cynyddol ar rythm yn yr ieithwedd gyfansoddi, lle dibynnir yn helaeth ar ailadrodd patrymau rhythmig croesacennog i greu llif cerddorol. Er enghraifft, yn dilyn rhagarweiniad araf a digyffro yn Paradise Haunts... (1995) ceir ffigwr cyson rhythmig sy’n cynnwys cwaferi yn sylfaen ddi-dor ddiddorol i’r gwaith. Yn ddiweddarach yn y gwaith ychwanegir rhythmau cymhleth (megis 5:4 neu 7:6) yn achlysurol, fel yr amlygir yn y dyfyniad allan o’r gwaith (gw. Eng.3).

Er iddo gyfansoddi nifer sylweddol o weithiau ar raddfa fawr, awgryma arddull Metcalf ei fod ar y cyfan yn fwy cyfforddus yn creu cerddoriaeth unawdol neu ensemble ar raddfa lai. Mae ieithwedd symlach ei arddull aeddfed a’r ailadrodd uniongyrchol yn eu cynnig eu hunain yn fwy naturiol i idiom siambr fwy personol, ac eisoes cafwyd ganddo dros hanner cant o ddarnau o’r fath.

Guto Puw

Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)

Cerddorfaol:

  • Dyad (1976), ar gyfer cerddorfa linynnol
  • Boundaries of Time (1985), ar gyfer tri unawdydd, corws a cherddorfa
  • Passus (2000), ar gyfer cerddorfa lawn
  • Cello Symphony (2004), ar gyfer soddgrwth unawdol a cherddorfa
  • In Time of Daffodils (2006), ar gyfer bariton a cherddorfa

Operâu:

  • The Journey (1979), a gomisiynwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru
  • Tornrak (1990), a gomisiynwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru
  • Kafka’s Chimp (1996), a seiliwyd ar stori fer ‘A Report to An Academy’ gan Franz Kafka
  • A Chair in Love (2002–8)

Ensemble/offerynnol:

  • Llyfr Lloffion y Delyn (1992)
  • Inner Landscapes (1994), ar gyfer piano
  • Never Odd or Even (1995), ar gyfer chwe phiano
  • Paradise Haunts... (1995), ar gyfer ffidil a phiano
  • Mapping Wales (2000), ar gyfer telyn a phedwarawd llinynnol
  • Transports (2000), ar gyfer clarinet, ffidil, soddgrwth a phiano
  • Three Mobiles (2001), ar gyfer sacsoffon a phiano (neu gerddorfa linynnol)
  • Pedwarawd Llinynnol – Llwybrau Cân (2007)
  • Septet (2008), ar gyfer ffliwt, clarinet, telyn a phedwarawd llinynnol

Lleisiol/corawl:

  • Auden Songs (1973), ar gyfer mezzo-soprano a phiano
  • Caneuon y Gerddi (1999), ar gyfer llais uchel/isel a phiano
  • Plain Chants (2001), ar gyfer côr SATB digyfeiliant

Disgyddiaeth

  • Mapping Wales; Plain Chants; Cello Symphony (Nimbus NI5746, 2005)
  • In Time of Daffodils (Signum SIGCD103, 2007)
  • Paradise Haunts ... music by John Metcalf (Lorelt LNT111, 1997)
  • Paths of Song (Signum SIGCD203, 2010)

Llyfryddiaeth

  • Meic Stephens (gol.), Artists in Wales (Llandysul, 1971) Malcolm Boyd, ‘Metcalf and the Journey’, Musical Times 122/1660 (Mehefin, 1981), 369–71
  • Meinir Llwyd Jones, ‘John Metcalf: Y Gŵr a’i Grefft’ (traethawd MA Prifysgol Cymru Bangor, 2001)
  • Geraint Lewis, ‘John Metcalf’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
  • Paul Conway, ‘CD Reviews’, Tempo (Mawrth, 2005)
  • Peter Reynolds, ‘The Intuitive Minimalist’, Planet, 178 (Awst/Medi, 2006), 27–34



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.