Microflogio
Oddi ar WICI
Saesneg: Microblogging
Math o flogio sy’n rhannu negeseuon testun trwy wefannau rhwydweithio cymdeithasol, megis Twitter. Wrth rannu cofnodion sy’n llai o faint na’r blog nodweddiadol, mae microblogio yn cynnig modd i ysgrifennu negeseuon byr sy’n cael eu dosbarthu trwy e-bost, ffonau symudol, a’r rhyngrwyd ar unwaith. Mae hyd yn oed safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook yn caniatáu microblogio trwy eu nodwedd sy’n galluogi’r defnyddiwr i ddiweddaru statws.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.