Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Morris, Haydn (1891-1965)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 6: Llinell 6:
 
Er cynnig iddo swyddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Nghanada, penderfynodd yn hytrach ddilyn gyrfa yng Nghymru fel organydd a chôr-feistr, i ddechrau yn Eglwys Heol Undeb, Caerfyrddin (1923-6), yna yn Soar, Merthyr Tudful (1926–8), a maes o law yng Nghapel Als, Llanelli (1928-60). Ymddangosodd ei ''Cân Moliant'' yn 1926. Bu’n dysgu yn Llanelli hefyd ac yn 1924 cyhoeddodd ''The Celtic Pianoforte Tutor'', yr unig gyhoeddiad o’i fath bryd hynny gan gyfansoddwr Cymreig. Mae ei ran-ganeuon, gan gynnwys ''Y Gwanwyn Mwyn'' (1935), ''Y Blodau Aur'' (1937) ac ''Yr Ynys Wen'' (1940), yn perthyn i gorff o dros 450 o gyfansoddiadau sy’n cwmpasu [[Opera | operâu]], [[Cantata | cantatas]] a darnau lleisiol, cerddorfaol ac offerynnol a gyhoeddwyd gan amryfal gyhoeddwyr, yn eu plith Hughes, Gwynn a Snell.
 
Yn ddi-os, un o’i gyfraniadau pwysicaf i gerddoriaeth yng Nghymru oedd ei waith yn hyrwyddo cerdd dant fel crefft, un o nifer fechan iawn o gerddorion proffesiynol i wneud hynny - un arall oedd [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896-1978). Ar 10 Tachwedd 1934, daeth nifer fawr o gerddorion a chefnogwyr o gyffelyb fryd at ei gilydd yn Neuadd Buddug, y Bala, a sefydlu’r [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru | Gymdeithas Cerdd Dant]]. Am dros ddeng mlynedd ar hugain cymerodd HM ran flaenllaw ac egnïol yng ngweithgareddau’r Gymdeithas. Gan ddechrau yn 1936, trefnai’r Gymdeithas ysgolion haf blynyddol lle byddai ef, ac aelodau eraill, yn darlithio.
+
Yn ddi-os, un o’i gyfraniadau pwysicaf i gerddoriaeth yng Nghymru oedd ei waith yn hyrwyddo cerdd dant fel crefft, un o nifer fechan iawn o gerddorion proffesiynol i wneud hynny - un arall oedd [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896-1978). Ar 10 Tachwedd 1934, daeth nifer fawr o gerddorion a chefnogwyr o gyffelyb fryd at ei gilydd yn Neuadd Buddug, y Bala, a sefydlu’r [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru | Gymdeithas Cerdd Dant]]. Am dros ddeng mlynedd ar hugain cymerodd [[Morris, Haydn (1891-1965) | Haydn Morris]] ran flaenllaw ac egnïol yng ngweithgareddau’r Gymdeithas. Gan ddechrau yn 1936, trefnai’r Gymdeithas ysgolion haf blynyddol lle byddai ef, ac aelodau eraill, yn darlithio.
  
Yn 1937 enillodd yr wobr yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Cymru ym Machynlleth am gasgliad o drefniannau o osodiadau cerdd dant. Arweiniodd hynny at gyhoeddi dau ddarn ar hugain yn y ddwy gyfrol ''Hen Ganu’r Cymry...'' (1939 ac 1940). Roedd yr holl gerddoriaeth naill ai wedi’i hysgrifennu’n arbennig gan Morris neu ymhlith rhai o’i drefniannau cynnar. Bu hynny’n fodd i ehangu apêl cerdd dant ac annog astudio’r grefft ledled Cymru. Cafwyd casgliadau tebyg ganddo’n ddiweddarach, gan gynnwys dwy gyfrol ''Telyn Cymru ...'' (1948 ac 1951) ac ''Alawon Telyn'' (1961), a gynhwysai’n bennaf, unwaith eto, alawon gwreiddiol gan Morris. Ysgrifennodd hefyd lawlyfr i’r canwr penillion, ''Gwerslyfr ar ganu Penillion'' (1957). Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill y mae ''Caneuon Bob Tai’r Felin'' (1959) a ''Baledau Hen a Newydd'' (1960).
 
Diwygiad 20:00, 31 Mai 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a hyrwyddwr cerdd dant ac awdur llyfrau addysgol am gerddoriaeth. Fe’i ganed yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o saith o blant; dechreuodd weithio’n ddeuddeg oed ym mhwll glo New Cross Hands ond gadawodd yn 1916 i astudio cerddoriaeth, gydag athrawon lleol i ddechrau ac wedyn gyda D. Vaughan Thomas (1873-1934) yn Abertawe. Enillodd ei ARCM yn 1918 ac yn yr un flwyddyn aeth i’r Academi Gerdd Frenhinol lle dyfarnwyd iddo wobr Oliviera am gyfansoddi. Cafodd glod arbennig yno gan Edward Elgar (1857-1934) a graddiodd yn BMus yn 1923. Derbyniodd radd DMus gan Brifysgol Efrog Newydd yn 1943.

Er cynnig iddo swyddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Nghanada, penderfynodd yn hytrach ddilyn gyrfa yng Nghymru fel organydd a chôr-feistr, i ddechrau yn Eglwys Heol Undeb, Caerfyrddin (1923-6), yna yn Soar, Merthyr Tudful (1926–8), a maes o law yng Nghapel Als, Llanelli (1928-60). Ymddangosodd ei Cân Moliant yn 1926. Bu’n dysgu yn Llanelli hefyd ac yn 1924 cyhoeddodd The Celtic Pianoforte Tutor, yr unig gyhoeddiad o’i fath bryd hynny gan gyfansoddwr Cymreig. Mae ei ran-ganeuon, gan gynnwys Y Gwanwyn Mwyn (1935), Y Blodau Aur (1937) ac Yr Ynys Wen (1940), yn perthyn i gorff o dros 450 o gyfansoddiadau sy’n cwmpasu operâu, cantatas a darnau lleisiol, cerddorfaol ac offerynnol a gyhoeddwyd gan amryfal gyhoeddwyr, yn eu plith Hughes, Gwynn a Snell.

Yn ddi-os, un o’i gyfraniadau pwysicaf i gerddoriaeth yng Nghymru oedd ei waith yn hyrwyddo cerdd dant fel crefft, un o nifer fechan iawn o gerddorion proffesiynol i wneud hynny - un arall oedd W. S. Gwynn Williams (1896-1978). Ar 10 Tachwedd 1934, daeth nifer fawr o gerddorion a chefnogwyr o gyffelyb fryd at ei gilydd yn Neuadd Buddug, y Bala, a sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant. Am dros ddeng mlynedd ar hugain cymerodd Haydn Morris ran flaenllaw ac egnïol yng ngweithgareddau’r Gymdeithas. Gan ddechrau yn 1936, trefnai’r Gymdeithas ysgolion haf blynyddol lle byddai ef, ac aelodau eraill, yn darlithio.

Yn 1937 enillodd yr wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Machynlleth am gasgliad o drefniannau o osodiadau cerdd dant. Arweiniodd hynny at gyhoeddi dau ddarn ar hugain yn y ddwy gyfrol Hen Ganu’r Cymry... (1939 ac 1940). Roedd yr holl gerddoriaeth naill ai wedi’i hysgrifennu’n arbennig gan Morris neu ymhlith rhai o’i drefniannau cynnar. Bu hynny’n fodd i ehangu apêl cerdd dant ac annog astudio’r grefft ledled Cymru. Cafwyd casgliadau tebyg ganddo’n ddiweddarach, gan gynnwys dwy gyfrol Telyn Cymru ... (1948 ac 1951) ac Alawon Telyn (1961), a gynhwysai’n bennaf, unwaith eto, alawon gwreiddiol gan Morris. Ysgrifennodd hefyd lawlyfr i’r canwr penillion, Gwerslyfr ar ganu Penillion (1957). Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill y mae Caneuon Bob Tai’r Felin (1959) a Baledau Hen a Newydd (1960).

Yn 1958-9 (ar y cyd ag Ithel Williams) ac yn 1960 (ar y cyd â Trebor Roberts) bu’n golygu cylchgrawn y Gymdeithas, Allwedd y Tannau, a oedd wedi ymddangos gyntaf ddiwedd 1936. Roedd hefyd yn feirniad ac arweinydd cyson, ac yn dad i’r arweinydd nodedig Wyn Morris (1929–2010).

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Aled Lloyd Davies, Hud a Hanes Cerdd Dannau (Y Bala, 1984)
  • Delyth G. Morgans, Cydymaith Caneuon Ffydd (Caernarfon, 2006)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.