Newyddiaduraeth busnes

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Business journalism

Mae newyddiaduraeth busnes yn cyflwyno gwybodaeth am yr economi, busnes, cyllid, masnach a materion defnyddwyr. Nod newyddiaduraeth busnes yw hysbysu’r cyhoedd am ddigwyddiadau a materion pwysig sy’n gysylltiedig ag agweddau economaidd bywyd, ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau newyddion cyfoes yn cyflogi arbenigwyr a all fynd i’r afael â newyddion busnes wrth iddo ddatblygu.

Roedd yr adroddiadau cynnar am faterion masnachol ymhlith yr enghreifftiau cyntaf o ddosbarthu newyddion y tu hwnt i leoliad penodol, a chafodd gwybodaeth am longau, cyfraddau cyfnewid a phrisiau nwyddau eu rhannu’n rheolaidd ymhlith aelodau’r dosbarth masnachol yn Fenis ac Antwerp mor gynnar â chanol y 1500au.

Wrth i weithgaredd masnachol symud yn ddaearyddol, felly y gwnaeth y cyhoeddiadau, gan ledaenu i Amsterdam yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac i Lundain, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thyfodd y nifer o gyhoeddiadau busnes mewn sawl lleoliad. Er enghraifft, roedd y New York Herald ymhlith y papurau newydd cyntaf i adrodd yn rheolaidd ar newyddion busnes yn 1835, a sefydlwyd y Wall Street Journal yn 1889. Daeth newyddiaduraeth busnes yn rhan gynyddol o newyddion prif ffrwd wrth i’r papurau newydd ddod yn fwy amrywiol eu cynnwys. Cychwynnwyd cyfnodolion ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan deitlau fel y Commercial Advertiser a’r Merchants’ Magazine. Roedd y datblygiad hwn yn gofyn am newid o’r hyn a fu, sef rhestrau o ffeithiau o ddiddordeb i’r cwmnïau a oedd yn tanysgrifio, i ymagwedd fwy beirniadol am faterion busnes nad oedd o reidrwydd yn cyd-fynd â buddiannau arweinwyr busnes a’u cwmnïau. Yn ganolog yn hyn o beth, roedd ymddangosiad nifer o gylchgronau busnes wythnosol a misol, megis Business Week, Fortune a Forbes, a ddechreuodd yn Unol Daleithiau’r America (UDA) yn y 1920au a’r 1930au. Cychwynnodd y cylchgrawn materion defnyddwyr cyntaf – Consumer Reports – hefyd yn y cyfnod hwn.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, daeth newyddiaduraeth busnes yn fwy amlwg gan fod materion ariannol yn cael eu hystyried yn uniongyrchol berthnasol i fywyd bob dydd, a dechreuodd sawl papur newydd (yn eu plith y Wall Street Journal yn UDA a’r Financial Times yn y Deyrnas Unedig) ddechrau adrodd am dueddiadau economaidd a’u perthnasedd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Arweiniodd hyn yn ei dro at bapurau prif ffrwd yn ymdrin yn fwy cynhwysfawr â busnes a digwyddiadau cysylltiedig, gan gynnwys newyddion eang am yr economi, cwmnïau penodol, dyfynbrisiau marchnad stoc, rheoleiddio a pholisi economaidd, ynghyd â materion defnyddwyr.

Dechreuodd rhaglenni busnes ymddangos ar y teledu erbyn diwedd y 1960au yn America wrth i rai gorsafoedd cebl, megis CNBC neu Fox Business News, ganolbwyntio ar newyddiaduraeth busnes gyda rhaglenni fel Wall Street Week.

Daeth newyddiaduraeth busnes yn ganolog yn ystod y 1990au yn sgil buddsoddiadau ar raddfa fawr yn y farchnad stoc, a pharhaodd i dyfu mewn pwysigrwydd gydag argyfwng ariannol 2008 ac wedi hynny (er gwaethaf beirniadaeth eang oddi wrth newyddiadurwyr busnes am fethu â rhagweld graddfa a difrifoldeb yr argyfwng).

Heddiw, yn groes i’r hen arferion o adrodd yn uniongyrchol ar ffeithiau moel byd busnes, mae newyddiadurwyr busnes yn mynd ati’n aml i daflu amheuon a herio cwmnïau.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.