Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiaduraeth busnes"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Saesneg: ''Business journalism'' Mae newyddiaduraeth busnes yn cyflwyno gwybodaeth am yr economi, busnes, cyllid, masnach a materion defnyddwyr. No...')
 
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 
 
Saesneg: ''Business journalism''
 
Saesneg: ''Business journalism''
  
 
+
Mae [[newyddiaduraeth]] busnes yn cyflwyno gwybodaeth am yr economi, busnes, cyllid, masnach a materion defnyddwyr. Nod [[newyddiaduraeth]] busnes yw hysbysu’r cyhoedd am ddigwyddiadau a materion pwysig sy’n gysylltiedig ag agweddau economaidd bywyd, ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau newyddion cyfoes yn cyflogi arbenigwyr a all fynd i’r afael â newyddion busnes wrth iddo ddatblygu.
Mae [[newyddiaduraeth]] busnes yn cyflwyno gwybodaeth am yr economi, busnes, cyllid, masnach a materion defnyddwyr. Nod newyddiaduraeth busnes yw hysbysu’r cyhoedd am ddigwyddiadau a materion pwysig sy’n gysylltiedig ag agweddau economaidd bywyd, ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau newyddion cyfoes yn cyflogi arbenigwyr a all fynd i’r afael â newyddion busnes wrth iddo ddatblygu.
 
  
 
Roedd yr adroddiadau cynnar am faterion masnachol ymhlith yr enghreifftiau cyntaf o ddosbarthu newyddion y tu hwnt i leoliad penodol, a chafodd gwybodaeth am longau, cyfraddau cyfnewid a phrisiau nwyddau eu rhannu’n rheolaidd ymhlith aelodau’r dosbarth masnachol yn Fenis ac Antwerp mor gynnar â chanol y 1500au.
 
Roedd yr adroddiadau cynnar am faterion masnachol ymhlith yr enghreifftiau cyntaf o ddosbarthu newyddion y tu hwnt i leoliad penodol, a chafodd gwybodaeth am longau, cyfraddau cyfnewid a phrisiau nwyddau eu rhannu’n rheolaidd ymhlith aelodau’r dosbarth masnachol yn Fenis ac Antwerp mor gynnar â chanol y 1500au.
  
Wrth i weithgaredd masnachol symud yn ddaearyddol, felly y gwnaeth y cyhoeddiadau, gan ledaenu i Amsterdam yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac i Lundain, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thyfodd y nifer o gyhoeddiadau busnes mewn sawl lleoliad. Er enghraifft, roedd y ''New York Herald'' ymhlith y papurau newydd cyntaf i adrodd yn rheolaidd ar newyddion busnes yn 1835, a sefydlwyd y ''Wall Street Journal'' yn 1889. Daeth newyddiaduraeth busnes yn rhan gynyddol o newyddion prif ffrwd wrth i’r papurau newydd ddod yn fwy amrywiol eu cynnwys. Cychwynnwyd cyfnodolion ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan deitlau fel y ''Commercial Advertiser'' a’r ''Merchants’ Magazine.'' Roedd y datblygiad hwn yn gofyn am newid o’r hyn a fu, sef rhestrau o ffeithiau o ddiddordeb i’r cwmnïau a oedd yn tanysgrifio, i ymagwedd fwy beirniadol am faterion busnes nad oedd o reidrwydd yn cyd-fynd â buddiannau arweinwyr busnes a’u cwmnïau. Yn ganolog yn hyn o beth, roedd ymddangosiad nifer o gylchgronau busnes wythnosol a misol, megis ''Business Week'', ''Fortune'' a ''Forbes'', a ddechreuodd yn Unol Daleithiau’r America (UDA) yn y 1920au a’r 1930au. Cychwynnodd y cylchgrawn materion defnyddwyr cyntaf – ''Consumer Reports'' – hefyd yn y cyfnod hwn.
+
Wrth i weithgaredd masnachol symud yn ddaearyddol, felly y gwnaeth y cyhoeddiadau, gan ledaenu i Amsterdam yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac i Lundain, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thyfodd y nifer o gyhoeddiadau busnes mewn sawl lleoliad. Er enghraifft, roedd y ''New York Herald'' ymhlith y papurau newydd cyntaf i adrodd yn rheolaidd ar newyddion busnes yn 1835, a sefydlwyd y ''Wall Street Journal'' yn 1889. Daeth [[newyddiaduraeth]] busnes yn rhan gynyddol o newyddion prif ffrwd wrth i’r papurau newydd ddod yn fwy amrywiol eu cynnwys. Cychwynnwyd cyfnodolion ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan deitlau fel y ''Commercial Advertiser'' a’r ''Merchants’ Magazine.'' Roedd y datblygiad hwn yn gofyn am newid o’r hyn a fu, sef rhestrau o ffeithiau o ddiddordeb i’r cwmnïau a oedd yn tanysgrifio, i ymagwedd fwy beirniadol am faterion busnes nad oedd o reidrwydd yn cyd-fynd â buddiannau arweinwyr busnes a’u cwmnïau. Yn ganolog yn hyn o beth, roedd ymddangosiad nifer o gylchgronau busnes wythnosol a misol, megis ''Business Week'', ''Fortune'' a ''Forbes'', a ddechreuodd yn Unol Daleithiau’r America (UDA) yn y 1920au a’r 1930au. Cychwynnodd y cylchgrawn materion defnyddwyr cyntaf – ''Consumer Reports'' – hefyd yn y cyfnod hwn.
  
 
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, daeth newyddiaduraeth busnes yn fwy amlwg gan fod materion ariannol yn cael eu hystyried yn uniongyrchol berthnasol i fywyd bob dydd, a dechreuodd sawl [[papur newydd]] (yn eu plith y ''Wall Street Journal'' yn UDA a’r ''Financial Times'' yn y Deyrnas Unedig) ddechrau adrodd am dueddiadau economaidd a’u perthnasedd i’r cyhoedd yn gyffredinol.  
 
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, daeth newyddiaduraeth busnes yn fwy amlwg gan fod materion ariannol yn cael eu hystyried yn uniongyrchol berthnasol i fywyd bob dydd, a dechreuodd sawl [[papur newydd]] (yn eu plith y ''Wall Street Journal'' yn UDA a’r ''Financial Times'' yn y Deyrnas Unedig) ddechrau adrodd am dueddiadau economaidd a’u perthnasedd i’r cyhoedd yn gyffredinol.  

Y diwygiad cyfredol, am 14:01, 7 Awst 2018

Saesneg: Business journalism

Mae newyddiaduraeth busnes yn cyflwyno gwybodaeth am yr economi, busnes, cyllid, masnach a materion defnyddwyr. Nod newyddiaduraeth busnes yw hysbysu’r cyhoedd am ddigwyddiadau a materion pwysig sy’n gysylltiedig ag agweddau economaidd bywyd, ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau newyddion cyfoes yn cyflogi arbenigwyr a all fynd i’r afael â newyddion busnes wrth iddo ddatblygu.

Roedd yr adroddiadau cynnar am faterion masnachol ymhlith yr enghreifftiau cyntaf o ddosbarthu newyddion y tu hwnt i leoliad penodol, a chafodd gwybodaeth am longau, cyfraddau cyfnewid a phrisiau nwyddau eu rhannu’n rheolaidd ymhlith aelodau’r dosbarth masnachol yn Fenis ac Antwerp mor gynnar â chanol y 1500au.

Wrth i weithgaredd masnachol symud yn ddaearyddol, felly y gwnaeth y cyhoeddiadau, gan ledaenu i Amsterdam yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac i Lundain, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thyfodd y nifer o gyhoeddiadau busnes mewn sawl lleoliad. Er enghraifft, roedd y New York Herald ymhlith y papurau newydd cyntaf i adrodd yn rheolaidd ar newyddion busnes yn 1835, a sefydlwyd y Wall Street Journal yn 1889. Daeth newyddiaduraeth busnes yn rhan gynyddol o newyddion prif ffrwd wrth i’r papurau newydd ddod yn fwy amrywiol eu cynnwys. Cychwynnwyd cyfnodolion ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o dan deitlau fel y Commercial Advertiser a’r Merchants’ Magazine. Roedd y datblygiad hwn yn gofyn am newid o’r hyn a fu, sef rhestrau o ffeithiau o ddiddordeb i’r cwmnïau a oedd yn tanysgrifio, i ymagwedd fwy beirniadol am faterion busnes nad oedd o reidrwydd yn cyd-fynd â buddiannau arweinwyr busnes a’u cwmnïau. Yn ganolog yn hyn o beth, roedd ymddangosiad nifer o gylchgronau busnes wythnosol a misol, megis Business Week, Fortune a Forbes, a ddechreuodd yn Unol Daleithiau’r America (UDA) yn y 1920au a’r 1930au. Cychwynnodd y cylchgrawn materion defnyddwyr cyntaf – Consumer Reports – hefyd yn y cyfnod hwn.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, daeth newyddiaduraeth busnes yn fwy amlwg gan fod materion ariannol yn cael eu hystyried yn uniongyrchol berthnasol i fywyd bob dydd, a dechreuodd sawl papur newydd (yn eu plith y Wall Street Journal yn UDA a’r Financial Times yn y Deyrnas Unedig) ddechrau adrodd am dueddiadau economaidd a’u perthnasedd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Arweiniodd hyn yn ei dro at bapurau prif ffrwd yn ymdrin yn fwy cynhwysfawr â busnes a digwyddiadau cysylltiedig, gan gynnwys newyddion eang am yr economi, cwmnïau penodol, dyfynbrisiau marchnad stoc, rheoleiddio a pholisi economaidd, ynghyd â materion defnyddwyr.

Dechreuodd rhaglenni busnes ymddangos ar y teledu erbyn diwedd y 1960au yn America wrth i rai gorsafoedd cebl, megis CNBC neu Fox Business News, ganolbwyntio ar newyddiaduraeth busnes gyda rhaglenni fel Wall Street Week.

Daeth newyddiaduraeth busnes yn ganolog yn ystod y 1990au yn sgil buddsoddiadau ar raddfa fawr yn y farchnad stoc, a pharhaodd i dyfu mewn pwysigrwydd gydag argyfwng ariannol 2008 ac wedi hynny (er gwaethaf beirniadaeth eang oddi wrth newyddiadurwyr busnes am fethu â rhagweld graddfa a difrifoldeb yr argyfwng).

Heddiw, yn groes i’r hen arferion o adrodd yn uniongyrchol ar ffeithiau moel byd busnes, mae newyddiadurwyr busnes yn mynd ati’n aml i daflu amheuon a herio cwmnïau.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.