Newyddiaduraeth dinasyddion

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Citizen journalism

Math o newyddiaduraeth lle y mae dinasyddion cyffredin yn mabwysiadu rôl newyddiadurwr er mwyn cofnodi’r newyddion, yn aml yn ddigymell yn ystod cyfnod o argyfwng neu drasiedi pan fyddant yn digwydd bod yn bresennol.

Mae newyddiaduraeth dinasyddion yn cynnwys cyfraniadau llygad-dystion, recordiadau sain neu fideo o ffonau symudol a chamerâu digidol. Fel rheol caiff ei rannu ar-lein trwy flogiau, wikis, gwefannau personol, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol a chymunedau ar y we. Fe’i gwelir gan rai fel estyniad o newyddiaduraeth gyhoeddus neu ddinesig ac mae’n gysylltiedig â chynnydd mewn cyfathrebu ar-lein a ffurfiau newydd o gyfryngau sydd ar gael i ddinasyddion ers diwedd y 1990au.

Cafodd y term ‘citizen journalism’ ei fathu yn syth ar ôl tswnami De Asia ym mis Rhagfyr 2004, pan gyhoeddwyd straeon a delweddau gan unigolion a oedd yng nghanol y gyflafan, ac roedd yn gyfraniad unigryw at newyddiaduraeth prif ffrwd. Barn sawl papur newydd oedd bod newyddiaduraeth dinasyddion yn chwyldro llwyr oherwydd y defnydd a wnaed o dechnoleg y rhyngrwyd. Roedd sefydliadau newyddion mewn sefyllfa letchwith o fod yn ddibynnol ar ddeunydd amatur er mwyn adrodd hanes yr hyn a oedd yn digwydd yn y maes.

Yn y blynyddoedd ers y tswnami, mae ‘newyddiaduraeth dinasyddion’ wedi sicrhau ei lle mewn geirfa newyddiaduraeth (er gwell neu waeth yng ngolwg llawer o sefydliadau newyddion), yn amlach na pheidio pan fydd argyfwng neu ddigwyddiad mawr penodol. Mae sawl ffordd o ddisgrifio’r newyddiaduraeth hon; ‘newyddiaduraeth llawr gwlad’, ‘newyddiaduraeth ffynhonnell agored’, ‘newyddiaduraeth gyfranogol’, ‘cylchgrawn hyperleol’ neu ‘newyddiaduraeth rwydweithio’ (yn ogystal â ‘chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr’), ond nid oes fawr o amheuaeth iddi gael effaith ddwys ar flaenoriaethau a phrotocolau gohebu yn dilyn argyfwng (gweler hefyd Allan a Thorsen 2009).

Wrth olrhain ecoleg newyddiaduraeth dinasyddion, mae’n amlwg i’r dulliau amrywiol o adrodd stori yn sgil y ‘chwyldroadau’ mewn technoleg gyfrannu at ffurfiau newydd o lunio adroddiadau mewn cyfnod o argyfwng neu drychineb. Yn ystod y misoedd yn dilyn y tswnami, diflannodd y cyhuddiadau ei fod yn ‘fad’ neu’n ‘gimmick’ ymhlith pawb ond y beirniaid mwyaf ffyrnig.

Mae’n rhaid gwneud asesiad gwerthusol o’r modd y mae newyddiaduraeth dinasyddion yn ail-lunio egwyddorion gohebu penodol, a hynny yng ngolau achosion fel yr achos o derfysgaeth yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 pan laddwyd 56 o bobl, a’r difrod a achoswyd gan Gorwynt Katrina y mis canlynol.

Yn y blynyddoedd ers hynny, ni fu unrhyw brinder o ddigwyddiadau argyfyngus sydd wedi amlygu’r berthynas newidiol rhwng newyddiaduraeth ‘broffesiynol’ ac ‘amatur’. Mae’r enghreifftiau’n niferus, gan gynnwys adroddiadau am ffrwydrad depo olew Buncefield yn y Deyrnas Unedig, bomio trenau ym Mumbai, protest mynachod Myanmar, dienyddiad Saddam Hussein, y saethu ym Mhrifysgol Virginia Tech, daeargryn Wenchuan a’r gwrthdystiadau yn etholiad Iran.

Llyfryddiaeth

Allan, S. A. a Thorsen, E. gol. 2009. Citizen Journalism: Global Perspectives. New York: Peter Lang.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.