Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Newyddiadurwr"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saesneg: ''Journalist'' Enw cyffredinol ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu newyddion. Yn fras, ma...')
 
 
Llinell 5: Llinell 5:
 
Gellir olrhain y term Saesneg ''journalist'' cyn belled â’r ''Journal des Sauvants'' yn Ffrainc yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, a heddiw mae’r term yn cyfeirio at unigolion sy’n ymgymryd â nifer o weithgareddau cysylltiedig sef, yn ôl Adam (1993), ‘gohebu, beirniadu, ysgrifennu erthyglau [[golygyddol]] a chyflwyno barn ar bethau’.  
 
Gellir olrhain y term Saesneg ''journalist'' cyn belled â’r ''Journal des Sauvants'' yn Ffrainc yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, a heddiw mae’r term yn cyfeirio at unigolion sy’n ymgymryd â nifer o weithgareddau cysylltiedig sef, yn ôl Adam (1993), ‘gohebu, beirniadu, ysgrifennu erthyglau [[golygyddol]] a chyflwyno barn ar bethau’.  
  
Ond mae’r ddadl dros bwy sy’n newyddiadura ai peidio yn parhau. A yw merch yn ei harddegau sy’n ysgrifennu’n ddyddiol yn ei [[dyddiadur]] a rhannu’r cynnwys gyda’i ffrindiau yn newyddiadurwr? Gall fod, yn enwedig os mai [[blog]] yw ei dyddiadur. Gellid dweud yr un peth am yr awdur llawrydd sydd yn y carchar am ddirmyg llys am wrthod datgelu ei ffynonellau.
+
Ond mae’r ddadl dros bwy sy’n newyddiadura ai peidio yn parhau. A yw merch yn ei harddegau sy’n ysgrifennu’n ddyddiol yn ei [[dyddiadur]] a rhannu’r cynnwys gyda’i ffrindiau yn newyddiadurwr? Gall fod, yn enwedig os mai [[blog]] yw ei [[dyddiadur]]. Gellid dweud yr un peth am yr awdur llawrydd sydd yn y carchar am ddirmyg llys am wrthod datgelu ei ffynonellau.
  
Mae amryw o sefydliadau – o ''IndyMedia'' i sefydliadau newyddion mawr, o’r llysoedd i’r Cenhedloedd Unedig – wedi ceisio cynnig diffiniad terfynol. Bydd penderfynu pwy sy’n newyddiadurwr yn fwyfwy anodd o hyn ymlaen wrth i swyddogaethau [[newyddiaduraeth]] ymledu ar draws llwyfannau amlgyfrwng.
+
Mae amryw o sefydliadau – o ''IndyMedia'' i sefydliadau [[newyddion]] mawr, o’r llysoedd i’r Cenhedloedd Unedig – wedi ceisio cynnig diffiniad terfynol. Bydd penderfynu pwy sy’n newyddiadurwr yn fwyfwy anodd o hyn ymlaen wrth i swyddogaethau [[newyddiaduraeth]] ymledu ar draws llwyfannau amlgyfrwng.
  
 
+
==Llyfryddiaeth==
[[Llyfryddiaeth]]
 
  
 
Adam, G. S. 1993. ''Notes Toward A Definition of Journalism: understanding an old craft as an art form''. St Petersburg, FL: Poynter Institute.
 
Adam, G. S. 1993. ''Notes Toward A Definition of Journalism: understanding an old craft as an art form''. St Petersburg, FL: Poynter Institute.
Llinell 16: Llinell 15:
  
 
{{CC BY-SA}}
 
{{CC BY-SA}}
 +
[[Categori:Newyddiaduraeth]]
 
[[Categori:Newyddiaduraeth]]
 
[[Categori:Newyddiaduraeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 11:10, 2 Mai 2019

Saesneg: Journalist

Enw cyffredinol ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu newyddion. Yn fras, mae’n cyfeirio at y rhai sy’n ‘ysgrifennu mewn cyfnodolyn’ neu gylchgrawn, ond mae’r term ‘newyddiadurwr’ bellach yn nodi’r rhai sy’n cadw cofnodion o ddigwyddiadau penodol yn systematig o fewn amserlen benodol ac yn gwneud y record honno’n gyhoeddus.

Gellir olrhain y term Saesneg journalist cyn belled â’r Journal des Sauvants yn Ffrainc yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, a heddiw mae’r term yn cyfeirio at unigolion sy’n ymgymryd â nifer o weithgareddau cysylltiedig sef, yn ôl Adam (1993), ‘gohebu, beirniadu, ysgrifennu erthyglau golygyddol a chyflwyno barn ar bethau’.

Ond mae’r ddadl dros bwy sy’n newyddiadura ai peidio yn parhau. A yw merch yn ei harddegau sy’n ysgrifennu’n ddyddiol yn ei dyddiadur a rhannu’r cynnwys gyda’i ffrindiau yn newyddiadurwr? Gall fod, yn enwedig os mai blog yw ei dyddiadur. Gellid dweud yr un peth am yr awdur llawrydd sydd yn y carchar am ddirmyg llys am wrthod datgelu ei ffynonellau.

Mae amryw o sefydliadau – o IndyMedia i sefydliadau newyddion mawr, o’r llysoedd i’r Cenhedloedd Unedig – wedi ceisio cynnig diffiniad terfynol. Bydd penderfynu pwy sy’n newyddiadurwr yn fwyfwy anodd o hyn ymlaen wrth i swyddogaethau newyddiaduraeth ymledu ar draws llwyfannau amlgyfrwng.

Llyfryddiaeth

Adam, G. S. 1993. Notes Toward A Definition of Journalism: understanding an old craft as an art form. St Petersburg, FL: Poynter Institute.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.