Newyddion ffug

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Fake news

Daeth y term newyddion ffug i sylw’r cyhoedd yn ystod 2016, wedi’i ysgogi i rannau helaeth gan negeseuon Trydar Donald Trump yn ystod ei ymgyrch arlywyddiaeth Unol Daleithiau’r America (UDA), ynghyd â post truth a ‘ffeithiau amgen’ (alternative facts).

Cyn 2016, roedd fake news yn golygu dehongliad ffuglennol o newyddiaduraeth gan ddiwylliant poblogaidd gyda’r bwriad o gymylu’r gwahaniaeth rhwng ffaith a ffuglen mewn rhaglenni dychan neu gomedi.

Wrth dynnu hwyl am ben ffurfiau a chonfensiynau newyddion, gan gynnwys gwerthoedd newyddion, trefniannau’r swyddfa, blaenoriaethau a strategaethau fframio, mae’r math hwn o dwyll yn tynnu sylw at ragdybiaethau cyffredinol sy’n sail i newyddion ‘priodol’, mewn ffordd a ddylai fod yn ddifyr a dadleuol.

Roedd The Daily Show ar sianel Comedy Central yn UDA yn enghraifft o raglen a oedd yn bwrw golwg ar ddigwyddiadau’r newyddion a gwleidyddiaeth mewn ffordd ddychanol.

Torrodd That Was The Week That Was (TW3), rhaglen gomedi deledu ddychanol ar deledu’r BBC yn 1962 a 1963, dir newydd ym myd rhaglenni dychan ym Mhrydain. Cafodd ei dyfeisio, ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Ned Sherrin a’i chyflwyno gan David Frost. Mae’r rhaglen yn cael ei hystyried yn elfen sylweddol yn nhwf rhaglenni dychan yn y Deyrnas Unedig (DU) ar ddechrau’r 1960au, lle yr oedd ffigurau’r sefydliad a gwleidyddol yn cael eu gwawdio.

Bellach nid yw’r term ‘newyddion ffug’ yn cael ei gysylltu â dychan yn unig, ond yn hytrach, yn ôl Bakir a McStay:

We define fake news as either wholly false or containing deliberately misleading elements incorporated within its content or context. (Bakir a McStay 2017, t. 1).

Yn ôl Tandoc (2018), mae sawl math o newyddion ffug: dychan; parodi, sydd yn defnyddio gwybodaeth nad yw’n seiliedig ar ffeithiau i greu hiwmor; straeon ffug (fabrication) lle nad oes sail ffeithiol i’r stori ond sydd yn copïo arddull erthyglau newyddion, yn enwedig ar lwyfannau digidol gyda’r bwriad o hyrwyddo camwybodaeth; trin lluniau a fideo drwy feddalwedd soffistigedig i newid delweddau; hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus lle mae’r ffin rhwng gweithrediadau golygyddol a masnachol sefydliad newyddion yn annelwig; a phropaganda.

Oherwydd bod llwyfannau ar-lein, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, yn dod yn brif ffynonellau newyddion ar gyfer nifer cynyddol o unigolion, mae’n ymddangos bod y rhai sy’n ymwneud â chamwybodaeth wedi dod o hyd i sianel newydd (Tandoc et al. 2018).

Yng nghynhadledd gyntaf Donald Trump i’r wasg fel Arlywydd-etholedig y daeth y term newyddion ffug i’r amlwg y tu hwnt i drafodaethau yn y cyfryngau ac i mewn i’r brif ffrwd. Gan bwyntio at Jim Acosta, gohebydd CNN, meddai Donald Trump, “You are fake news!” gan wrthod gwrando ar ei gwestiwn (Carson 2017).

Mae Donald Trump wedi beirniadu’r cyfryngau, yn arbennig y darlledwr CNN a’r New York Times, sawl gwaith yr wythnos am gyhoeddi newyddion ffug drwy ei ffrwd Twitter (@realDonaldTrump). Er enghraifft, ‘The FAKE NEWS media (failing @nytimes, @NBCNews, @ABC, @CBS, @CNN) is not my enemy, it is the enemy of the American People!’ (17 Chwefror 2017).

Bu’r wefan newyddion ac adloniant BuzzFeed yn un o’r prif gyfryngau i ddadansoddi’r ffenomen ‘newyddion ffug’ wythnos ar ôl etholiad arlywyddol UDA 2016 (Brummette et al. 2018). Canfu’r dadansoddiad bod defnyddwyr Facebook wedi ymgysylltu mwy â’r straeon ffug na storïau newyddion y sefydliadau newyddion credadwy (Silverman 2016). O’r straeon ffug a ymddangosodd yn ystod y tri mis cyn yr etholiad, rhannwyd y rhai hynny a oedd yn ffafrio Trump 30 miliwn o weithiau ar Facebook, tra bod y rhai a oedd yn ffafrio Hillary Clinton wedi eu rhannu wyth miliwn o weithiau (Allcott a Gentzkov 2017). Gwelwyd un neu fwy o storïau ffug gan yr Americanwr cyffredin yn ystod y misoedd o gwmpas yr etholiad, gyda mwy na hanner y rhai a oedd yn cofio eu gweld yn eu credu (ibid).

Oherwydd natur y cyfrwng digidol, mae awduron anhysbys yn gallu ysgrifennu a dosbarthu newyddion ffug yn gyflym ac yn gallu targedu cynulleidfa benodol. Daeth i’r amlwg yn ystod etholiad arlywyddiaeth UDA bod tref Veles ym Macedonia yn ganolfan cynhyrchu gwefannau newyddion ffug lle yr oedd nifer o bobl ifanc yn ysgrifennu storïau ffug er mwyn denu hysbysebion (BBC 2016).

Mae rhai yn honni bod gwleidyddion a sylwebyddion yn defnyddio’r term i ddisgrifio unrhyw beth y maen nhw’n anghytuno ag ef a gall y gorddefnydd o’r term yn y cyswllt hwn golli’i effaith (Carson 2017). Ond mae eraill fel y New York Times yn awgrymu bod cyhuddiadau o greu newyddion ffug yn cael effaith niweidiol ar rôl newyddiaduraeth fel y Bedwaredd Ystâd ac yn niweidio ymddiriedaeth pobl mewn newyddion, sydd yn y pen draw yn niweidio democratiaeth (Lischka 2017).

Yng Nghymru, mae bron i dri chwarter y plant 8–12 oed (73%) sy’n mynd ar-lein yn ymwybodol o’r cysyniad o newyddion ffug, ac mae pedwar ymhob deg (39%) yn dweud eu bod wedi gweld stori newyddion ffug ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol. (OFCOM 2017).

Mae sylfaenydd Facebook, Mark Zuckerberg wedi ymddiheuro am y nifer o storïau ffug sy’n ymddangos ar y wefan, ac wedi rhannu gwybodaeth am sut i adnabod storïau newyddion ffug ynghyd â dileu nifer o gyfrifon ffug a grëwyd er mwyn twyllo’r cyhoedd. Mae Facebook a Google wedi lansio teclynnau newydd er mwyn nodi storïau ‘amheus’. Gwelwyd y BBC yn lansio gwasanaeth Reality Check yn 2017 er mwyn gwirio a dinoethi gwefannau sy’n rhannu storïau ffug. Mae sefydliadau fel FullFact a Snopes yn cydweithio gyda Facebook er mwyn gwirio storïau ffug a ffeithiau anghywir (Murgia 2017).

Ym mis Ionawr 2018, sefydlodd y Comisiwn Ewropeaidd grŵp o arbenigwyr ar lefel uchel (y High Level Expert Group on Fake News and Disinformation) er mwyn cynghori ar fentrau polisi i wrthsefyll newyddion ffug a lledaenu twyllwybodaeth. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp, ac ymhlith yr argymhellion oedd gwella tryloywder newyddion ar-lein a hyrwyddo llythrennedd cyfryngau ynghyd â gwybodaeth i wrthsefyll twyllwybodaeth, a hynny er mwyn helpu pobl i lywio eu ffordd drwy amgylchedd y cyfryngau digidol.

Yn gyffredinol, mae llawer o berchnogion papurau newydd ac arsylwyr yn dweud eu bod yn gweld arwyddion calonogol bod darllenwyr yn dod yn fwy parod i dalu am newyddion. Gwêl rhai bod ymosodiadau’r Arlywydd Trump ar y cyfryngau am gyhoeddi ‘newyddion ffug’, yn ogystal â phryder cynyddol ynghylch lledaenu gwybodaeth anghywir ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ffafrio’r diwydiant prif ffrwd (Bond a Bond 2017).

Llyfryddiaeth

Allcott, Hunt a Gentzkow, Matthew. 2017. Social Media and Fake News in The 2016 Election. Journal of Economic Perspectives 31(2), tt. 211–36.

Bakir, V. a McStay, A. 2017. Fake news and the economy of emotions. Digital Journalism 6, tt. 154–75.

Bond, S. a Bond, D. 2017. Newspapers welcome more digital subscribers in time of fake news [Ar-lein]. Ar gael: https://www.ft.com/content/d97bef40-f19b-11e6-8758-6876151821a6.

Brummette, John, et al. 2018. Read All About It: The Politicization of “Fake News” on Twitter, Journalism & Mass Communication Quarterly 95(2), tt. 497–517.

Burshtein, S. 2017. The True Story on Fake News. Intellectual Property Journal 29(3), tt. 397–446.

Carson, J. 2017. What is fake news? Its origins and how it grew in 2016. The Telegraph [Ar-lein]. Ar gael: https://grassrootjournalist.org/2017/06/17/what-is-fake-news-its-origins-and-how-it-grew-in-2016/Google Scholar [Cyrchwyd: 5 Mehefin 2018].

Tandoc Jr., Edson C., Lim, Zheng Wei a Ling, Richard. 2018. Defining “Fake News”: A typology of scholarly definitions, Digital Journalism 6(2), tt. 137–53.

Kirby, E. J. 2016. BBC. The city getting rich from fake news [Ar-lein]. Ar gael: https://www.bbc.co.uk/news/magazine-38168281 [Cyrchwyd: 20 Mehefin 2018].

Lischka, Juliane. A. 2017. A Badge of Honor?. Journalism Studies, t. 14.

Murgia, M. 2017. Facebook campaigns against fake news in UK ahead of election [Ar-lein]. Ar gael: https://www.ft.com/content/3b9700ce-31ad-11e7-9555-23ef563ecf9a [Cyrchwyd: 5 Mehefin 2018].

OFCOM, 2017. Ar gael: https://www.ofcom.org.uk/cymru/research-and-data/media-literacy-research/childrens/children-parents-2017 [Cyrchwyd: 5 Mehefin 2018].

Silverman, C. 2016. This analysis shows how viral fake election news stories outperformed real news on Facebook [Ar-lein]. Ar gael: https://www.buzzfeed.com/craigsilverman/viral-fake-election-news-outperformed-real-news-on-facebook?utm_term=.hcwekYOeZ#.piXxDgWxP [Cyrchwyd: 5 Mehefin 2018].



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.