Ongl

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Angle

Y persbectif, pwyslais, rhagfarn neu ffocws a ddewisir i gyflwyno eitem newyddion. Mae gwahanol onglau newyddion yn codi wrth gasglu newyddion. Mae’r cyfrwng y cyhoeddir y stori ynddo yn gallu effeithio ar ei hongl, neu’r gwerthoedd newyddion a meini prawf dethol sy’n penderfynu a yw’n newyddion ai peidio.

Deellir bod ongl yn agwedd ar eitem newyddion sy’n rhoi gwerth i’r cyhoedd, ac mae’r ongl newyddion yn amlwg mewn sawl agwedd ar gyflwyno newyddion: yn y darn sy’n arwain at yr eitem (intro neu lead), yn y pennawd, yn y dyfyniadau sy’n ymhelaethu ar brif bwynt yr ‘intro’, hyd yn oed yn y capsiwn wrth ochr y lluniau cysylltiedig.

Mae gwrthrychedd yn mynnu bod yr ongl yn codi o ffeithiau amlwg y sefyllfa, yn hytrach na bod newyddiadurwr yn dilyn agenda benodol, er bod enghreifftiau o newyddiaduraeth bleidiol yn arddangos onglau newyddion fel prawf o’u persbectif.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.