Pryddest

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio


Math o gerdd hir a gysylltir yn bennaf â chystadleuaeth y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yw pryddest. Poblogeiddiwyd y term yn yr 19g. ar ôl ei ddefnyddio gan William Williams (Caledfryn) yn ei Drych Barddonol (1839). Fel arfer cerdd ddigynghanedd yn y mesurau rhydd neu'r wers rydd yw pryddest. Dwy o bryddestau mwyaf poblogaidd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd ‘Gwerin Cymru’ (1919) gan Crwys, a ‘Mab y Bwthyn’ (1921) gan Cynan. Ceir detholiad o rai o bryddestau’r cyfnod wedi'i golygu gan E. G. Millward..

Gall pryddest fod ar gynghanedd, ond heb wneud defnydd o’r pedwar mesur ar hugain traddodiadol. Defnyddiodd Euros Bowen, er enghraifft, gynghanedd yn ei ddwy bryddest arobryn yn 1948 (‘O’r Dwyrain’) a 1950 (‘Difodiant’). Ystyrid pryddest anfuddugol Dyfnallt Morgan, ‘Y Llen’ (1953), yn arloesol gan Saunders Lewis a beirniaid eraill. Ni chyfyngir y ffurf yn llwyr i’r Eisteddfod, ychwaith: yn wir, mae'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru yn cyfeirio at bryddest radio J. Kitchener Davies, ‘Sŵn y gwynt sy’n chwythu’ (1953) fel ‘un o’r pryddestau grymusaf a gyfansoddwyd yn yr ugeinfed ganrif’. Ceir rhai o bryddestau mwyaf trawiadol canol yr 20g yn y detholiad Cerddi Hir.

Ers dechrau’r 21g. mae'r term yn graddol golli tir yng nghystadleuaeth y goron i’r dilyniant neu’r casgliad o gerddi. Y mae’n ddigon posibl na fydd y term yn cael ei ddefnyddio’n gyson ymhen amser, ac mai fel ffenomen sy’n perthyn yn bennaf i’r 19g. a’r 20g. yr ystyrir y bryddest maes o law. Serch hynny, gwnaed defnydd arbrofol a chyffrous o’r ffurf gan Aled Jones Williams yn ei bryddest arobryn ‘Awelon’ (2002).

Robert Rhys


Llyfryddiaeth

Hughes, G. R. a Jones, I. (!970), Cerddi Hir (Llandysul: Gwasg Gomer)

Millward, E. G. (1973), gol., Pryddestau Eisteddfodol Detholedig 1911-1953 (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.