Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rees, J. T. (1857-1949)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cyfansoddwr a aned ar fferm [[teulu]] ei fam yng Nghwmgïedd, Sir Frycheiniog, oedd John Thomas Rees. Ei enw gwreiddiol oedd John Morgan Rees. Fe’i magwyd mewn awyrgylch cerddorol a daeth dan ddylanwad cerddorion lleol megis Silas Evans, [[arweinydd]] Cymdeithas Gorawl Abertawe, a David Prosser (Eos Cynlais), arweinydd Côr Ffilharmonig Rhondda yn ddiweddarach. Yn ystod ei blentyndod hefyd y gwelwyd sefydlu Cymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, ac mae’n debyg iddo glywed y bandiau Almaenig a’r bandiau pib a drwm a fyddai’n ymweld â’r ardal, er nad oedd ganddo lawer i’w ddweud wrth y math hwn o gerddoriaeth. Yn wyth oed bu’n rhaid iddo fynd i weithio dan ddaear, a newidiodd ei enw i John Thomas Rees i osgoi dryswch rhyngddo a glöwr arall o’r enw John Morgan Rees yng nglofa Abergorci. Dychwelodd i Gwmgïedd yn 1871 ac ymaelodi â dosbarth [[sol-ffa]] y cerddor Philip Thomas (1857-1939): daeth yn rhugl yn y ddau nodiant a dysgu eraill, gan gynnwys [[Daniel Protheroe]].
+
Cyfansoddwr a aned ar fferm teulu ei fam yng Nghwmgïedd, Sir Frycheiniog, oedd John Thomas Rees. Ei enw gwreiddiol oedd John Morgan Rees. Fe’i magwyd mewn awyrgylch cerddorol a daeth dan ddylanwad cerddorion lleol megis Silas Evans, [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] Cymdeithas Gorawl Abertawe, a David Prosser (Eos Cynlais), arweinydd Côr Ffilharmonig Rhondda yn ddiweddarach. Yn ystod ei blentyndod hefyd y gwelwyd sefydlu Cymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, ac mae’n debyg iddo glywed y bandiau Almaenig a’r bandiau pib a drwm a fyddai’n ymweld â’r ardal, er nad oedd ganddo lawer i’w ddweud wrth y math hwn o gerddoriaeth. Yn wyth oed bu’n rhaid iddo fynd i weithio dan ddaear, a newidiodd ei enw i John Thomas Rees i osgoi dryswch rhyngddo a glöwr arall o’r enw John Morgan Rees yng nglofa Abergorci. Dychwelodd i Gwmgïedd yn 1871 ac ymaelodi â dosbarth [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]] y cerddor Philip Thomas (1857-1939): daeth yn rhugl yn y ddau nodiant a dysgu eraill, gan gynnwys [[Protheroe, Daniel (1866-1934) | Daniel Protheroe]].
  
Symudodd i Gwmaman, Aberdâr, yn 1876 a pharhau i astudio, gan ennill A.C. ''(Advanced Certificate)'' y Coleg Tonic Sol-ffa. Yn sgil ei lwyddiant yn ennill gwobr am gyfansoddi mewn [[eisteddfod]] yn Nhreherbert cododd ei gyfeillion arian er mwyn iddo fynd i astudio gyda [[Joseph Parry]] yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth. Yn 1882 symudodd i Emporia, Kansas, ac aros yno am flwyddyn cyn dychwelyd i Gymru ac ymsefydlu yn Bow Street, Ceredigion, i weithio fel athro a beirniad cerdd yn lleol ac yn Ysgolion Sir Tregaron a Machynlleth. Enillodd radd MusBac o Brifysgol Toronto yn 1889.
+
Symudodd i Gwmaman, Aberdâr, yn 1876 a pharhau i astudio, gan ennill A.C. ''(Advanced Certificate)'' y Coleg Tonic Sol-ffa. Yn sgil ei lwyddiant yn ennill gwobr am gyfansoddi mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfod]] yn Nhreherbert cododd ei gyfeillion arian er mwyn iddo fynd i astudio gyda [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth. Yn 1882 symudodd i Emporia, Kansas, ac aros yno am flwyddyn cyn dychwelyd i Gymru ac ymsefydlu yn Bow Street, Ceredigion, i weithio fel athro a beirniad cerdd yn lleol ac yn Ysgolion Sir Tregaron a Machynlleth. Enillodd radd MusBac o Brifysgol Toronto yn 1889.
  
Daeth i amlygrwydd fel cyfansoddwr pan enillodd
+
Daeth i amlygrwydd fel cyfansoddwr pan enillodd wobr am bedwarawd llinynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1885, dan feirniadaeth John Stainer a [[Thomas, John (Pencerdd Gwalia; 1826-1913) | John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia), mewn cyfnod pan oedd [[Ffurfiau Offerynnol | cerddoriaeth offerynnol]] gan gyfansoddwyr Cymreig yn beth prin iawn (gw. [[Ffurfiau Offerynnol]]). Yn 1890 enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am osodiad [[Corau Cymysg | corawl]] o Salm 46, ac yn 1893 perfformiwyd agorawd o’i waith yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd. Yn 1912 ymwelodd â Pharis i arsylwi ar y Gystadleuaeth Gerddorol Ryngwladol.
wobr am bedwarawd llinynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1885, dan feirniadaeth John Stainer a [[John Thomas]] ([[Pencerdd]] Gwalia), mewn cyfnod pan oedd [[cerddoriaeth offerynnol]] gan gyfansoddwyr Cymreig yn beth prin iawn (gw. [[Ffurfiau Offerynnol]]). Yn 1890 enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am osodiad [[corawl]] o Salm 46, ac yn 1893 perfformiwyd agorawd o’i waith yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd. Yn 1912 ymwelodd â Pharis i arsylwi ar y Gystadleuaeth Gerddorol Ryngwladol.
 
  
Fe’i cyfrifid yn feirniad cytbwys, a chyfrannodd nifer o ysgrifau ar gerddoriaeth Gymreig i amryw gyfnodolion. Arweiniodd gymanfaoedd canu ledled Cymru ar hyd ei oes. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, yn bennaf ym maes [[cerddoriaeth grefyddol]]: er gwaetha’r llwyddiannau cynnar ni ddatblygodd ei ddawn fel cyfansoddwr offerynnol. Ychydig o’i waith sydd wedi para’n adnabyddus. Mae’n debyg mai ei [[emyn-dôn]] ‘Llwynbedw’ (enw’r fferm lle y’i ganwyd) yw ei gyfansoddiad mwyaf [[cyfarwydd]] erbyn heddiw, ynghyd â’r dôn ‘Pen-parc’, a gyfansoddodd pan oedd yn Unol Daleithiau America ac a fu’n boblogaidd ymhlith Cymry America.
+
Fe’i cyfrifid yn feirniad cytbwys, a chyfrannodd nifer o ysgrifau ar gerddoriaeth Gymreig i amryw gyfnodolion. Arweiniodd gymanfaoedd canu ledled Cymru ar hyd ei oes. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, yn bennaf ym maes [[Crefyddol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth grefyddol]]: er gwaetha’r llwyddiannau cynnar ni ddatblygodd ei ddawn fel cyfansoddwr offerynnol. Ychydig o’i waith sydd wedi para’n adnabyddus. Mae’n debyg mai ei [[Emyn-donau | emyn-dôn]] ‘Llwynbedw’ (enw’r fferm lle y’i ganwyd) yw ei gyfansoddiad mwyaf cyfarwydd erbyn heddiw, ynghyd â’r dôn ‘Pen-parc’, a gyfansoddodd pan oedd yn Unol Daleithiau America ac a fu’n boblogaidd ymhlith Cymry America.
  
Golygodd ''Perorydd yr Ysgol Sul'' (1915), casgliad o
+
Golygodd ''Perorydd yr Ysgol Sul'' (1915), casgliad o emynau a thonau i blant, a ''Detholiad o donau, [[anthemau]] a rhanganau ... Dafydd Lewis, Llanrhystyd'' ([1930]). Bu’n aelod o fyrddau golygyddol ''Hymnau a Thônau y Methodistiaid Calfinaidd'' (1897) a ''Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd'' (1929), a chyfrannodd donau i’r ddau gasgliad.
emynau a thonau i blant, a ''Detholiad o donau, [[anthemau]] a rhanganau ... [[Dafydd]] Lewis, Llanrhystyd'' ([1930]). Bu’n aelod o fyrddau [[golygyddol]] ''Hymnau a Thônau y Methodistiaid Calfinaidd'' (1897) a ''Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd'' (1929), a chyfrannodd donau i’r ddau gasgliad.
 
  
 
'''Rhidian Griffiths'''
 
'''Rhidian Griffiths'''

Y diwygiad cyfredol, am 20:45, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned ar fferm teulu ei fam yng Nghwmgïedd, Sir Frycheiniog, oedd John Thomas Rees. Ei enw gwreiddiol oedd John Morgan Rees. Fe’i magwyd mewn awyrgylch cerddorol a daeth dan ddylanwad cerddorion lleol megis Silas Evans, arweinydd Cymdeithas Gorawl Abertawe, a David Prosser (Eos Cynlais), arweinydd Côr Ffilharmonig Rhondda yn ddiweddarach. Yn ystod ei blentyndod hefyd y gwelwyd sefydlu Cymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, ac mae’n debyg iddo glywed y bandiau Almaenig a’r bandiau pib a drwm a fyddai’n ymweld â’r ardal, er nad oedd ganddo lawer i’w ddweud wrth y math hwn o gerddoriaeth. Yn wyth oed bu’n rhaid iddo fynd i weithio dan ddaear, a newidiodd ei enw i John Thomas Rees i osgoi dryswch rhyngddo a glöwr arall o’r enw John Morgan Rees yng nglofa Abergorci. Dychwelodd i Gwmgïedd yn 1871 ac ymaelodi â dosbarth sol-ffa y cerddor Philip Thomas (1857-1939): daeth yn rhugl yn y ddau nodiant a dysgu eraill, gan gynnwys Daniel Protheroe.

Symudodd i Gwmaman, Aberdâr, yn 1876 a pharhau i astudio, gan ennill A.C. (Advanced Certificate) y Coleg Tonic Sol-ffa. Yn sgil ei lwyddiant yn ennill gwobr am gyfansoddi mewn eisteddfod yn Nhreherbert cododd ei gyfeillion arian er mwyn iddo fynd i astudio gyda Joseph Parry yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1882 symudodd i Emporia, Kansas, ac aros yno am flwyddyn cyn dychwelyd i Gymru ac ymsefydlu yn Bow Street, Ceredigion, i weithio fel athro a beirniad cerdd yn lleol ac yn Ysgolion Sir Tregaron a Machynlleth. Enillodd radd MusBac o Brifysgol Toronto yn 1889.

Daeth i amlygrwydd fel cyfansoddwr pan enillodd wobr am bedwarawd llinynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1885, dan feirniadaeth John Stainer a John Thomas (Pencerdd Gwalia), mewn cyfnod pan oedd cerddoriaeth offerynnol gan gyfansoddwyr Cymreig yn beth prin iawn (gw. Ffurfiau Offerynnol). Yn 1890 enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am osodiad corawl o Salm 46, ac yn 1893 perfformiwyd agorawd o’i waith yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd. Yn 1912 ymwelodd â Pharis i arsylwi ar y Gystadleuaeth Gerddorol Ryngwladol.

Fe’i cyfrifid yn feirniad cytbwys, a chyfrannodd nifer o ysgrifau ar gerddoriaeth Gymreig i amryw gyfnodolion. Arweiniodd gymanfaoedd canu ledled Cymru ar hyd ei oes. Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, yn bennaf ym maes cerddoriaeth grefyddol: er gwaetha’r llwyddiannau cynnar ni ddatblygodd ei ddawn fel cyfansoddwr offerynnol. Ychydig o’i waith sydd wedi para’n adnabyddus. Mae’n debyg mai ei emyn-dôn ‘Llwynbedw’ (enw’r fferm lle y’i ganwyd) yw ei gyfansoddiad mwyaf cyfarwydd erbyn heddiw, ynghyd â’r dôn ‘Pen-parc’, a gyfansoddodd pan oedd yn Unol Daleithiau America ac a fu’n boblogaidd ymhlith Cymry America.

Golygodd Perorydd yr Ysgol Sul (1915), casgliad o emynau a thonau i blant, a Detholiad o donau, anthemau a rhanganau ... Dafydd Lewis, Llanrhystyd ([1930]). Bu’n aelod o fyrddau golygyddol Hymnau a Thônau y Methodistiaid Calfinaidd (1897) a Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1929), a chyfrannodd donau i’r ddau gasgliad.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • D. H. Lewis, Cofiant J. T. Rees (Llandysul, 1955)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.