Rhaniad llafur

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Division of labour)

Mae rhaniad llafur yn gysyniad pwysig yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae’n dynodi’r ffordd y mae tasgau a gwaith yn cael eu rhannu rhwng unigolion a grwpiau o fewn cymdeithasau. Mae llawer o’r gwaith cynharaf ar raniad lafur wedi edrych ar ganlyniadau’r newid yn natur gwaith wedi’r Chwyldro Diwydiannol. Cyn hyn, roedd y rhan fwyaf o bobl o fewn Ewrop yn gweithio mewn cymdeithasau amaethyddol, lle’r oedd dim ond ychydig o broffesiynau ar gael. Yn sgil diwydianeiddio, datblygodd mwy o swyddi a oedd yn dibynnu ar fwy o gydweithrediad rhwng unigolion. Tra oedd y rhan fwyaf o broffesiynau yn y cyfnod amaethyddol yn cynhyrchu pob rhan o’u nwyddau eu hunain, ar ôl y Chwyldro roedd nifer o bobl yn gweithio mewn ffatrïoedd oedd yn dibynnu ar gydweithrediad llawer o bobl i greu nwyddau (Giddens a Sutton, 2017). Yn y cyfnod amaethyddol roedd yn rhaid i grefftwyr dreulio blynyddoedd yn hyfforddi er mwyn datblygu eu crefft, ond gallai gweithwyr y ffatrïoedd ddysgu’n gyflym iawn, gan fod eu gwaith nawr mor arbenigol. Arweiniodd hyn at ddirywiad mewn crefftau traddodiadol, gan fod ffatrïoedd mawr yn gallu cynhyrchu yr un nwyddau yn llawer rhatach.

Roedd gwaith Émile Durkheim (1893/2014) ar raniad llafur yn canolbwyntio ar sut y gellir cynnal solidariaeth gymdeithasol yn sgil y newidiadau i natur gwaith oedd yn deillio o’r Chwyldro Diwydiannol. Credai Durkheim fod cymdeithasau cyntefig, amaethyddol, wedi’u seilio ar solidariaeth fecanyddol. Roedd y cymdeithasau hyn yn unedig gan eu bod yn rhannu’r un credoau a’r un gwerthoedd. Ond dadleuodd Durkheim fod angen math newydd o solidariaeth o fewn cymdeithasau diwydiannol – solidariaeth organig. Roedd yn hollbwysig fod y swyddi newydd hyn yn dibynnu ar gydweithrediad rhwng unigolion. Roedd hwn yn un o’i brif resymau dros gredu y gallai solidariaeth gymdeithasol barhau er gwaethaf y dirywiad mewn gwerthoedd cyffredin a chrefydd.

Mae rhaniad llafur hefyd yn gysyniad pwysig yng ngwaith Marcswyr. Ym Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol (Manifest der Kommunistischen Partei, 1848), dadleuodd Karl Marx a Friedrich Engels fod rhaniad llafur anghyfiawn yn bodoli o fewn gwledydd â systemau economaidd cyfalafol, oherwydd anghydraddoldeb rhwng gweithwyr a’r bobl oedd yn berchen ar y moddion cynhyrchu. Credent fod economïau cyfalafol yn dibynnu ar escbloetio’r dosbarth gweithiol.

Mae cymdeithasegwyr mwy diweddar hefyd wedi tanlinellu’r problemau cymdeithasol sy’n deillio o newidiadau i raniad llafur. Er bod gwaith pobl mewn ffatrïoedd a diwydiannau masnachol yn tueddu i fod yn fwy arbenigol, mae hefyd wedi arwain at ddatsgilio (deskilling) (Giddens a Sutton, 2017). O ganlyniad, nid yw pobl yn teimlo balchder yn eu gwaith, ac yn aml nid oes parch tuag at weithwyr yn y diwydiannau hyn. Yn yr unfed ganrif ar hugain mae’r rhan fwyaf o’r swyddi hyn o fewn gwledydd sy’n datblygu, ond mae’r nwyddau y maent yn eu cynhyrchu yn tueddu i gael eu gwerthu i wledydd datblygedig yn Ewrop a Gogledd America. Felly, mae rhaniad llafur yn digwydd yn rhyngwladol, ac mae hyn yn cael ei weld fel ffurf ar escbloetio (Giddens a Sutton, 2017).

Rhian Barrance

Llyfryddiaeth

Durkheim, É. (1893/2014), The Division of Labour in Society (gol. S. Lukes) (New York: Free Press).

Giddens, A. a Sutton, P. (2017), Essential Concepts in Sociology (Cambridge: Polity Press).

Marx, K. ac Engels, F. (1848/2014), Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol, https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?id=1982~4u~vx7iUPMZ [Cyrchwyd: 28 Mai 2021].


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.