Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhydderch, Llio (g.1937)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Telynores yn y dull traddodiadol Gymreig yw Llio Rhydderch. Fe’i magwyd ar fferm Coed Mawr, Bangor, ar aelwyd gerddorol. Yn blentyn ifanc dysgodd ganeuon a [[cherddoriaeth werin]], [[canu penillion]], y gynghanedd a [[sol-ffa]], a byddai’n mynychu nosweithiau llawen ac [[eisteddfodau]] lleol yng nghwmni ei thad, [[baledwr]] a chanwr [[cerdd dant]] o fri.
+
Telynores yn y dull traddodiadol Gymreig yw Llio Rhydderch. Fe’i magwyd ar fferm Coed Mawr, Bangor, ar aelwyd gerddorol. Yn blentyn ifanc dysgodd ganeuon a [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | cherddoriaeth werin]], [[Canu Penillion (gwreiddiau) | canu penillion]], y gynghanedd a [[Tonic Sol-ffa | sol-ffa]], a byddai’n mynychu nosweithiau llawen ac [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] lleol yng nghwmni ei thad, [[Baled | baledwr]] a chanwr [[Cerdd Dant | cerdd dant]] o fri.
  
Dechreuodd chwarae piano’n gynnar a’r delyn pan oedd yn wyth oed. Derbyniodd wersi gan [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), gan ddysgu alawon a thechnegau traddodiadol Gymreig yn ôl y glust; trwy hynny daeth yn gyfarwydd â thechnegau’r [[delyn deires]], er mai telyn ''Grecian'' oedd ganddi ar y dechrau. Tra oedd yn Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, cafodd wersi [[telyn]] gan Freda Holland, merch-yng-nghyfraith i Delynores Cybi ac etifeddes i draddodiad chwarae telynorion Ynys Môn. Daeth hefyd dan ddylanwad ei hathrawes gerdd, Megan Morris, hithau’n ogystal yn hyddysg yn y traddodiad gwerin, a bu’n aelod o Gôr Telyn Eryri.
+
Dechreuodd chwarae piano’n gynnar a’r delyn pan oedd yn wyth oed. Derbyniodd wersi gan [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), gan ddysgu alawon a thechnegau traddodiadol Gymreig yn ôl y glust; trwy hynny daeth yn gyfarwydd â thechnegau’r [[Telyn Deires | delyn deires]], er mai telyn ''Grecian'' oedd ganddi ar y dechrau. Tra oedd yn Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, cafodd wersi [[telyn]] gan Freda Holland, merch-yng-nghyfraith i Delynores Cybi ac etifeddes i draddodiad chwarae telynorion Ynys Môn. Daeth hefyd dan ddylanwad ei hathrawes gerdd, Megan Morris, hithau’n ogystal yn hyddysg yn y traddodiad gwerin, a bu’n aelod o Gôr Telyn Eryri.
  
Daeth Llio’n gyfarwydd â pherfformio mewn cyngherddau, nosweithiau llawen ac eisteddfodau ar hyd a lled y wlad gan brofi llwyddiant wrth ganu’r delyn, [[canu gwerin]] a [[chanu penillion]] i’w chyfeiliant ei hun. Ymddangosodd ar lwyfannau Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Ryng-golegol yn 1952, ac yn ystod yr un flwyddyn bu’n fuddugol yng nghystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Cyfeiliodd i [[ddawnswyr gwerin]] a pherfformio ar sawl achlysur yn Neuadd Albert, y Royal Festival Hall a’r Queen Elizabeth Hall. Cafodd ei hurddo’n aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1955.
+
Daeth Llio’n gyfarwydd â pherfformio mewn cyngherddau, nosweithiau llawen ac eisteddfodau ar hyd a lled y wlad gan brofi llwyddiant wrth ganu’r delyn, [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] a chanu penillion i’w chyfeiliant ei hun. Ymddangosodd ar lwyfannau Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Ryng-golegol yn 1952, ac yn ystod yr un flwyddyn bu’n fuddugol yng nghystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Cyfeiliodd i [[Gwerin, Dawnswyr | ddawnswyr gwerin]] a pherfformio ar sawl achlysur yn Neuadd Albert, y Royal Festival Hall a’r Queen Elizabeth Hall. Cafodd ei hurddo’n aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1955.
  
 
Ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1960 bu’n dysgu Cymraeg a cherddoriaeth ym Mhontarddulais, y Sblot a’r Bont-faen. Parhaodd yn weithgar yn gerddorol gyda Merched y Wawr a’r Urdd, a chadwodd gysylltiad â Nansi Richards, gan berfformio gyda hi yn America yn 1973. Priododd yn 1961 a chafodd ddau o blant, gan symud yn ôl gyda’r teulu maes o law i Fôn, lle bu’n dysgu’n rhan-amser yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
 
Ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1960 bu’n dysgu Cymraeg a cherddoriaeth ym Mhontarddulais, y Sblot a’r Bont-faen. Parhaodd yn weithgar yn gerddorol gyda Merched y Wawr a’r Urdd, a chadwodd gysylltiad â Nansi Richards, gan berfformio gyda hi yn America yn 1973. Priododd yn 1961 a chafodd ddau o blant, gan symud yn ôl gyda’r teulu maes o law i Fôn, lle bu’n dysgu’n rhan-amser yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
  
Ailafaelodd yn y delyn yn yr 1990au a bu ynghlwm â sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru gan ddysgu technegau traddodiadol y delyn deires mewn gweithdai ac i’w grŵp o ddisgyblion ei hun, sef Telynorion Llio. Gyda Huw Roberts cyhoeddodd y gyfrol ''Telynorion Llannerch-y-medd'' (Cyngor Sir Ynys Môn, 2000) a ffurfiodd [[grŵp gwerin]] o’r enw Penceirddiaid Cymru. Daeth i gysylltiad â’r cerddor a’r cynhyrchydd Ceri Rhys Matthews, ac yn 1997 rhyddhaodd ei CD cyntaf, ''Telyn'', ar label Fflach Tradd. Casgliad o alawon Cymreig ydoedd, gan gynnwys amrywiadau yn y dull traddodiadol a thechnegau arbennig y delyn deires.
+
Ailafaelodd yn y delyn yn yr 1990au a bu ynghlwm â sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru gan ddysgu technegau traddodiadol y delyn deires mewn gweithdai ac i’w grŵp o ddisgyblion ei hun, sef Telynorion Llio. Gyda Huw Roberts cyhoeddodd y gyfrol ''Telynorion Llannerch-y-medd'' (Cyngor Sir Ynys Môn, 2000) a ffurfiodd [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] o’r enw Penceirddiaid Cymru. Daeth i gysylltiad â’r cerddor a’r cynhyrchydd Ceri Rhys Matthews, ac yn 1997 rhyddhaodd ei CD cyntaf, ''Telyn'', ar label Fflach Tradd. Casgliad o alawon Cymreig ydoedd, gan gynnwys amrywiadau yn y dull traddodiadol a thechnegau arbennig y delyn deires.
  
Bu’r CD yn arbennig o boblogaidd, gan dderbyn darllediadau cyson ar raglenni megis ''Late Junction'' ar Radio 3. Yn dilyn llwyddiant ''Telyn'' bu’n gyfnod prysur i Llio o gadw cyngherddau, recordio a chyfansoddi. Rhyddhaodd ''Melangell'' (2000), ''Enlli'' (2002) a ''Gwenllian'' (2005) ar label Fflach Tradd, pob un yn ei dro yn cynnwys elfen fwy estynedig o’i chyfansoddiadau ei hun yn seiliedig yn harmonig ar [[alawon gwerin]] ac alawon telyn o’r traddodiad cerdd dant.
+
Bu’r CD yn arbennig o boblogaidd, gan dderbyn darllediadau cyson ar raglenni megis ''Late Junction'' ar Radio 3. Yn dilyn llwyddiant ''Telyn'' bu’n gyfnod prysur i Llio o gadw cyngherddau, recordio a chyfansoddi. Rhyddhaodd ''Melangell'' (2000), ''Enlli'' (2002) a ''Gwenllian'' (2005) ar label Fflach Tradd, pob un yn ei dro yn cynnwys elfen fwy estynedig o’i chyfansoddiadau ei hun yn seiliedig yn harmonig ar [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] ac alawon telyn o’r traddodiad cerdd dant.
  
Mentrodd arbrofi mwy yn 2011 gyda ''Carn Ingli'', lle clywir hi’n chwarae, weithiau’n fyrfyfyr, gyda’r trwmpedwr [[jazz]] Tomos Williams. Cyfrannodd hefyd at sawl recordiad arall gan gynnwys ''Journey'' gan Donal Lunny (2000), ''Ochre'' gan Andrew Cronshaw (2003) a ''Blodeugerdd'' (2009), ac ymddangosodd gyda’r cerddor [[John Cale]] ar y [[ffilm]] ''Beautiful Mistake'' (2001).
+
Mentrodd arbrofi mwy yn 2011 gyda ''Carn Ingli'', lle clywir hi’n chwarae, weithiau’n fyrfyfyr, gyda’r trwmpedwr [[jazz]] Tomos Williams. Cyfrannodd hefyd at sawl recordiad arall gan gynnwys ''Journey'' gan Donal Lunny (2000), ''Ochre'' gan Andrew Cronshaw (2003) a ''Blodeugerdd'' (2009), ac ymddangosodd gyda’r cerddor [[Cale, John (g.1942) | John Cale]] ar y [[ffilm]] ''Beautiful Mistake'' (2001).
  
Bu’n cyngherdda’n rhyngwladol gan gynnwys chwarae yn Celtic Connections (Rhufain, 2001), [[Gŵyl]]  Caeredin (2002) a Chyngres Telyn y Byd (Dulyn, 2005), a bu’n rhannu llwyfan gyda cherddorion byd-enwog megis y telynor Andrew Lawrence-King, Justin Vali o Fadagasgar a Baba Maal o Senegal. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth er Anrhydedd, Prifysgol Bangor yn 2018 fel arwydd o’i chyfraniad i fyd cerddoriaeth y genedl. Cydnabyddir Llio heddiw fel cerddor o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn enwedig am ei chyfraniad i barhau ac ymestyn traddodiad y [[delyn deires]] yng Nghymru.
+
Bu’n cyngherdda’n rhyngwladol gan gynnwys chwarae yn Celtic Connections (Rhufain, 2001), [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]]  Caeredin (2002) a Chyngres Telyn y Byd (Dulyn, 2005), a bu’n rhannu llwyfan gyda cherddorion byd-enwog megis y telynor Andrew Lawrence-King, Justin Vali o Fadagasgar a Baba Maal o Senegal. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth er Anrhydedd, Prifysgol Bangor yn 2018 fel arwydd o’i chyfraniad i fyd cerddoriaeth y genedl. Cydnabyddir Llio heddiw fel cerddor o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn enwedig am ei chyfraniad i barhau ac ymestyn traddodiad y delyn deires yng Nghymru.
  
 
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2018 am ei chyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.
 
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2018 am ei chyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Y diwygiad cyfredol, am 20:40, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telynores yn y dull traddodiadol Gymreig yw Llio Rhydderch. Fe’i magwyd ar fferm Coed Mawr, Bangor, ar aelwyd gerddorol. Yn blentyn ifanc dysgodd ganeuon a cherddoriaeth werin, canu penillion, y gynghanedd a sol-ffa, a byddai’n mynychu nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol yng nghwmni ei thad, baledwr a chanwr cerdd dant o fri.

Dechreuodd chwarae piano’n gynnar a’r delyn pan oedd yn wyth oed. Derbyniodd wersi gan Nansi Richards (Telynores Maldwyn), gan ddysgu alawon a thechnegau traddodiadol Gymreig yn ôl y glust; trwy hynny daeth yn gyfarwydd â thechnegau’r delyn deires, er mai telyn Grecian oedd ganddi ar y dechrau. Tra oedd yn Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, cafodd wersi telyn gan Freda Holland, merch-yng-nghyfraith i Delynores Cybi ac etifeddes i draddodiad chwarae telynorion Ynys Môn. Daeth hefyd dan ddylanwad ei hathrawes gerdd, Megan Morris, hithau’n ogystal yn hyddysg yn y traddodiad gwerin, a bu’n aelod o Gôr Telyn Eryri.

Daeth Llio’n gyfarwydd â pherfformio mewn cyngherddau, nosweithiau llawen ac eisteddfodau ar hyd a lled y wlad gan brofi llwyddiant wrth ganu’r delyn, canu gwerin a chanu penillion i’w chyfeiliant ei hun. Ymddangosodd ar lwyfannau Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Ryng-golegol yn 1952, ac yn ystod yr un flwyddyn bu’n fuddugol yng nghystadleuaeth y delyn yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Cyfeiliodd i ddawnswyr gwerin a pherfformio ar sawl achlysur yn Neuadd Albert, y Royal Festival Hall a’r Queen Elizabeth Hall. Cafodd ei hurddo’n aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1955.

Ar ôl graddio o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1960 bu’n dysgu Cymraeg a cherddoriaeth ym Mhontarddulais, y Sblot a’r Bont-faen. Parhaodd yn weithgar yn gerddorol gyda Merched y Wawr a’r Urdd, a chadwodd gysylltiad â Nansi Richards, gan berfformio gyda hi yn America yn 1973. Priododd yn 1961 a chafodd ddau o blant, gan symud yn ôl gyda’r teulu maes o law i Fôn, lle bu’n dysgu’n rhan-amser yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Ailafaelodd yn y delyn yn yr 1990au a bu ynghlwm â sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru gan ddysgu technegau traddodiadol y delyn deires mewn gweithdai ac i’w grŵp o ddisgyblion ei hun, sef Telynorion Llio. Gyda Huw Roberts cyhoeddodd y gyfrol Telynorion Llannerch-y-medd (Cyngor Sir Ynys Môn, 2000) a ffurfiodd grŵp gwerin o’r enw Penceirddiaid Cymru. Daeth i gysylltiad â’r cerddor a’r cynhyrchydd Ceri Rhys Matthews, ac yn 1997 rhyddhaodd ei CD cyntaf, Telyn, ar label Fflach Tradd. Casgliad o alawon Cymreig ydoedd, gan gynnwys amrywiadau yn y dull traddodiadol a thechnegau arbennig y delyn deires.

Bu’r CD yn arbennig o boblogaidd, gan dderbyn darllediadau cyson ar raglenni megis Late Junction ar Radio 3. Yn dilyn llwyddiant Telyn bu’n gyfnod prysur i Llio o gadw cyngherddau, recordio a chyfansoddi. Rhyddhaodd Melangell (2000), Enlli (2002) a Gwenllian (2005) ar label Fflach Tradd, pob un yn ei dro yn cynnwys elfen fwy estynedig o’i chyfansoddiadau ei hun yn seiliedig yn harmonig ar alawon gwerin ac alawon telyn o’r traddodiad cerdd dant.

Mentrodd arbrofi mwy yn 2011 gyda Carn Ingli, lle clywir hi’n chwarae, weithiau’n fyrfyfyr, gyda’r trwmpedwr jazz Tomos Williams. Cyfrannodd hefyd at sawl recordiad arall gan gynnwys Journey gan Donal Lunny (2000), Ochre gan Andrew Cronshaw (2003) a Blodeugerdd (2009), ac ymddangosodd gyda’r cerddor John Cale ar y ffilm Beautiful Mistake (2001).

Bu’n cyngherdda’n rhyngwladol gan gynnwys chwarae yn Celtic Connections (Rhufain, 2001), Gŵyl Caeredin (2002) a Chyngres Telyn y Byd (Dulyn, 2005), a bu’n rhannu llwyfan gyda cherddorion byd-enwog megis y telynor Andrew Lawrence-King, Justin Vali o Fadagasgar a Baba Maal o Senegal. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth er Anrhydedd, Prifysgol Bangor yn 2018 fel arwydd o’i chyfraniad i fyd cerddoriaeth y genedl. Cydnabyddir Llio heddiw fel cerddor o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn enwedig am ei chyfraniad i barhau ac ymestyn traddodiad y delyn deires yng Nghymru.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Bangor yn 2018 am ei chyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Cass Meurig

Disgyddiaeth

  • Telyn (Fflach CD196H, 1997)
  • Melangell (Fflach CD234H, 2000)
  • Enlli (Fflach CD250S, 2002)
  • Gwenllian (Fflach 287H, 2008)
  • ‘Bedd F’anwylyd’ ar Blodeugerdd (Smithsonian Folkways SFW40552, 2009)
  • Carn Ingli (‘Hud ar Ddyfed’) [gyda Tomos Williams] (Fflach CD331H, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.