Smith, Robert (1922-98)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Robert (Bob) Charles Smith yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Lewis Pengam lle’r oedd y cyfansoddwr David Wynne (1900–83) yn athro cerdd. (Ei ragflaenydd yntau yn y swydd oedd y cerddor D. E. Parry Williams.) Er bod Bob yn aelod selog o gôr yr ysgol ac yn canu’r cello, roedd dylanwad yr eglwys Anglicanaidd leol ynghyd â’i gweithgaredd cerddorol yn drwm iawn arno, i’r graddau iddo gael ei dderbyn yn ymgeisydd i’r offeiriadaeth eglwysig yn un ar bymtheg oed. Fodd bynnag, yn 1940, cyn diwedd ei gyfnod yn y chweched dosbarth, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Gerdd Agored Sir Forgannwg i astudio cerddoriaeth fel pwnc gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn wyneb anawsterau’r Ail Ryfel Byd a’r tebygrwydd y byddai gorfodaeth arno i ymuno â’r fyddin, cychwynnodd Bob ar ei gwrs prifysgol yn ddwy ar bymtheg oed dan gyfarwyddyd yr Athro John Morgan Lloyd ac yn ddiweddarach yr Athro Joseph Morgan.

Rhwng 1942 ac 1945 treuliodd gyfnodau yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen fel peiriannydd ac aelod o’r Royal Corps of Signals cyn dychwelyd i gwblhau ei radd Gyffredin yn 1946 a’i radd Anrhydedd (BMus) yn 1947. Wedi tair wythnos aflwyddiannus fel athro yn Swydd Caint, fe’i penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol yn adran gerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, dan oruchwyliaeth y pennaeth, D. E. Parry Williams, rhwng 1947 ac 1969, gan ei ddyrchafu’n uwch-ddarlithydd yn 1969.

Roedd ei gyfrifoldebau yn cynnwys dysgu harmoni, gwrthbwynt, ffiwg, cerddorfaeth a hanes yn ogystal ag arwain côr a cherddorfa’r Brifysgol. Bu’n darlithio ar destunau cerddorol i’r adran efrydiau allanol ar hyd gogledd Cymru, a gweithiodd yn ddiflino ar ran Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru fel arholwr ymarferol (Safon Gyffredin a Safon Uwch) ac fel Prif Arholwr Cerddoriaeth gan osod cyfeiriad a safon y maes ymhlith cenedlaethau lawer o ddisgyblion ei ddydd. Sicrhaodd barch ac edmygedd athrawon cerdd y cyfnod yn ogystal.

Fel awdur, cyfrannodd yn gyson i gyfnodolyn yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru, Cerddoriaeth Cymru, yn enwedig drwy gyfrwng ei adolygiadau a’i erthyglau ar waith Béla Bartók. Fel golygydd The Catalogue of Contemporary Welsh Music (sef rhestr gynhwysfawr o gyfansoddiadau gan gerddorion Cymreig ym mhob cyfrwng), bu’n hyrwyddo maes cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru yn ei amrywiol weddau o ran hanesyddiaeth ac ysgolheictod. Er mai hwyrfrydig iawn y bu i gyfrannu fel cyfansoddwr, eto i gyd bu ei lwyddiant cynnar mewn cystadleuaeth ryngwladol yn 1955 (Passacaglia i gerddorfa mewn arddull ddigywair) yn gyfrwng i’w ysgogi. Cyfansoddodd weithiau sy’n gyfuniad o arddull rhythmig ac egnïol Bartók a swyn alawon gwerin Cymreig, er mai anaml iawn y byddai’n cynnwys dyfyniadau uniongyrchol ohonynt, e.e. clywir adlais o ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ yn ei Divertimento for Strings a chaiff ‘Y Gelynnen’ sylw yn y Pedwarawd llinynnol (1973).

Fel cyfansoddwr gweithiau corawl y gwnaeth yr argraff bennaf, fodd bynnag. Mae ei osodiad o ‘Cwyn y Gwynt’ (geiriau Syr John Morris-Jones) i gôr cymysg yn cynrychioli ei arddull leisiol odidog, a sicrhaodd ei ‘Sweet was the song the Virgin sang’ (William Ballet) a ‘Who is this?’ (‘Pa Fab yw hwn?’, cyf. Gwyn Thomas) iddo dderbyniad rhyngwladol. Bu farw Robert Smith yn 1998 wedi oes gyfan o weithgaredd cerddorol. Dyfarnwyd iddo Wobr Goffa John Edwards yn 1972 am ei gyfraniad arbennig i gerddoriaeth yng Nghymru. Nid atebodd yr alwad i wasanaeth eglwysig, a da o beth am hynny!

Wyn Thomas

Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)

  • Pan Oeddwn Fachgen (1962), ar gyfer côr SATB a piano
  • Cathl i’r eos (1975), ar gyfer côr SATB a piano
  • Y Gylfinir (1985), ar gyfer côr SA a piano
  • Cwyn y Gwynt (1991), ar gyfer unawd Soprano a chôr SATB
  • Two pieces for guitar [dim dyddiad]
  • Winter Song, ar gyfer côr SATB a piano [dim dyddiad]
  • In Excelsis Gloria, ar gyfer côr merched [dim dyddiad]
  • Star of Bethlehem ar gyfer côr SATB a phiano [dim dyddiad]



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.