Theori ffeminyddol
Gellir meddwl am feirniadaeth lenyddol ffeministaidd ar dair lefel. Ar y lefel gyntaf, yn syml iawn, gellir astudio llenyddiaeth sy’n digwydd bod gan ferched, neu, o symud y ffocws o’r awdur i’r testun, sydd yn ymdrin â bywydau a phrofiadau merched fel thema yn y gwaith. Mae astudio’r cymeriadau benywaidd mewn gwaith llenyddol yn fan cychwyn da i ddysgu am rôl a statws merched mewn cymdeithas ar y pryd. Gellir sôn am feirniadaeth o’r fath fel beirniadaeth ‘fenywaidd’, ac, wrth gwrs, gall y gweithiau hyn fod gan ddynion neu gan ferched. Ar yr ail lefel ceir testunau llenyddol cynradd, neu feirniadaeth lenyddol sy’n ymwybodol wrth-batriarchaidd, neu yn ymrwymedig engagé. Mae gan y llenorion a’r beirniaid hyn agenda, ac mae’n un gwleidyddol. Mae gwaith ffeministiaid Ffrainc wedi mynd â’r syniad i drydedd lefel, trwy fabwysiadu theorïau ôl-strwythurol a seicdreiddiol, gan dynnu yn enwedig ar waith Jacques Lacan (1901-1981), Michel Foucault (1926-1984), a Jacques Derrida (1930-2004). O safbwynt beirniaid ffeministaidd theoretig ôl-strwythurol, nid cynrychioli realiti a wna testun llenyddol yn y lle cyntaf, ac mae’r awdur, boed yn wryw neu’n fenyw, ‘wedi marw’, chwedl Roland Barthes (1915-1980). Iaith lenyddol ei hunan yw ffocws theori ffeministaidd felly. Theori ydyw sy’n deillio o’r gred bod iaith ei hun o dan ormes patriarchaeth, ac sy’n pwysleisio lluosogrwydd ystyr yn hytrach nag ystyron caeëdig. Yr enwau a gysylltir fynychaf â theori ffeminstaidd Ffrengig yw: Luce Irigaray (1930-), Hélène Cixous (1938-) a Julia Kristeva (1941-). Eu syniadau a’u dylanwad hwy fydd ffocws y cofnod hwn, oherwydd fel y dwedodd Jane Aaron mewn erthygl flaengar yn 1992: ‘nid oes corff o ddamcaniaeth cyffelyb i’w heiddo hwy sy’n gallu treiddio i wraidd y problemau sy’n wynebu ffeminyddiaeth gyfoes’.
Cysylltir eu gwaith ag un cysyniad yn arbennig, sef écriture féminine (yn llythrennol: ysgrifennu benywaidd). Gellir ystyried traethawd enwog Hélène Cixous ‘Le Rire de la Méduse’ [Chwerthin y Medwsa] (1975), yn fath o faniffesto, ac yma y defnyddir y term ‘écriture féminine’ am y tro cyntaf, a hynny mewn gwrthgyferbyniad â’r term ‘littérature’, sy’n dynodi llenyddiaeth wrywaidd. Ni cheir gan Cixous ddiffiniad clir (yn yr un modd ni cheir diffiniadau cyfleus o fathiadau enwog Derrida), ond mae’n bwysig cofio mai syniad yw ‘écriture féminine’ yn hytrach na rhywbeth sy’n bodoli eisoes o angenrheidrwydd, ac mae’n syniad sydd wedi cael dylanwad mawr ac wedi cael ei ddatblygu ymhellach gan theorïwyr eraill. Yn y lle cyntaf honnir fod y math hwn o ysgrifennu yn deillio o’r corff benywaidd. Mae’n ysgrifennu somatig felly, a gysylltir nid â rheswm ond â rhyddid, nid â’r canol ond â’r ymylol. Diffiniodd Elaine Showalter ef fel hyn: ‘the inscription of the female body and female difference in language and text’. Heriwyd Cixous maes o law am ei phwyslais ar y corff, am fod hyn yn hanfodiaethol, h.y. yn lleoli’r benywaidd yn y corff yn hytrach na mewn ideoleg. Ffordd arall o ddeall ‘écriture féminine’, sy’n dod allan o waith Cixous ei hunan ac eraill, yw fel disgwrs sydd yn ymylol neu yn danseiliol. Nid yw bod yn fenywaidd yn angenrheidiol, felly, ar gyfer cynhyrchu ‘écriture féminine’, ac mae’r ffaith bod cynifer o feirniaid llenyddol ffeministaidd wedi canolbwyntio ar weithiau llenyddol gan ferched yn ddewis gwleidyddol, efallai, ond nid yw’n greiddiol. I fynd â’r ddadl hon i’r pen, nid oes y fath beth â menyw yn bod, oherwydd mai trwy wleidyddiaeth a iaith yr adeiledir y cwbl yn hytrach na thrwy fioleg. Daw enghreifftiau Julia Kristeva o ‘ysgrifennu benywaidd tanseiliol’ o waith dynion Modernaidd, a dangosodd ysgrif Mererid Puw Davies ar y bardd gwrywaidd o Lydaw Tristan Corbière, nad oes angen corff benyw er mwyn ysgrifennu ‘écriture féminine’.
Canolbwyntia Cixous hefyd ar y ffordd y diffinnir y ‘benywaidd’, gan dynnu sylw at y ffaith bod ein diwylliant yn derbyn, neu hyd yn oed wedi ei seilio ar barau pegynol a restrir ganddi yn ei thraethawd ‘Sorties’.> Mae parau fel: ‘gweithredol/goddefol’ ‘haul/ lleuad’ ‘celfyddyd/natur’ ‘dydd/nos’ ‘tad/mam’ ‘pen/calon’, neu ‘rheswm/emosiwn’ ‘deall/sensitif’ ‘logos/pathos’, oll yn deillio o’r prif bâr pegynol, sef: Dyn/Menyw. Mae pob pâr, o’i ddadansoddi, yn dangos hierarchiaeth ble mae’r benywaidd yn negyddol neu yn annormal o’i gymharu gyda’r gwrywaidd. Felly mae’r pâr biolegol Dyn/Menyw wedi esgor ar nifer ddiddiwedd o werthoedd neu nodweddion ‘benywaidd’ sydd wedi eu gorfodi ar ‘y fenyw’, ac sydd yn pennu yr hyn y dylai menyw fod. Ym marn Cixous, sy’n cymhwyso syniadau Derrida at ffeministiaeth, mae traddodiad athronyddol y Gorllewin yn ei gyfanrwydd yn gaeth i’r parau diddiwedd hyn sydd bod amser yn dod yn ôl i’r pâr creiddiol, sef Dyn/Menyw. Felly iddi hi mae yna debygrwydd a chysylltiad rhwng logoganolrwydd (logocentrism) a phalloganolrwydd (phallocentrism). Yn aml defnyddir y gair ‘ffalogoganolog’ (phallogocentrism) i ddynodi system batriarchaidd sy’n cyfyngu llais y fenyw gan ei gorfodi i fabwysiadu system y dyn er mwyn gallu ysgrifennu. Mae menyw sy’n ysgrifennu neu’n meddwl o fewn y ddeuoliaeth yma yn dal y tu fewn i batriarchiaeth, a dadleua Cixous fod ‘écriture féminine’ yn gallu dad-wneud y ddeuoliaeth batriarchaidd sydd wedi bod yn hanfodol i’n disgwrs athronyddol. Mae Cixous yn gosod ‘différance’ yn erbyn patriarchiaeth. Tasg y beirniad ffeministaidd, felly, yw dadadeiladu metaffiseg batriarchaidd. Metaffor am hyn yw’r gwyrdroi ar y chwedl Roegaidd a geir yn ‘Chwerthin y Medwsa’, chwedl a grynhoir gan Katie Gramich fel ‘delwedd o’r dduwies a ddiorseddwyd yn dychwelyd i’w theyrnas. Nid Persews yw arwr y chwedl nawr, ond Medusa ei hun, sy’n chwerthin yn orfoleddus, yn wawdlyd, yn mwynhau ei phleser, ei chorff ei hun’.
Os nad yw ‘écriture féminine' o angenrheidrwydd yn gorfod cael ei ysgrifennu gan fenyw, mae hefyd yn wir y gall menywod greu llenyddiaeth sydd ddim yn ‘écriture féminine’ o gwbl. Yn wir, dangosodd Showalter yn ei llyfr pwysig a dylanwadol A Literature of their Own (1977) fod ysgrifennu gan ferched wedi gorfod mynd trwy gyfnod hir o ‘efelychu’ ffyrdd gwrywaidd o ysgrifennu, gan ddatblygu wedyn i fod yn ‘ymrwymedig’ i’r achos (ond heb ymryddhau'n llwyr o'r traddodiad patriarchaidd), cyn cyrraedd y cam nesaf.
Yn ‘Amser Menywod’ dadleua Julia Kristeva mai ‘myth’ neu ‘fetaffiseg’ yw ein syniadau cyfoes am y gwahaniaethau rhwng y ddau ryw. Mae’n fyth a gredwyd gyhyd am ei fod yn ffordd o osgoi cymhlethdod ein gwir gyflwr. Symleiddiad cyfleus a aeth yn rhemp ydyw, ac nid rhwng y ddau ryw y mae’r ffin, ond rhwng yr elfennau gwahanol yng nghyfansoddiad pob unigolyn cymhleth. Nid yw Julia Kristeva yn diffinio’r benywaidd, ond iddi hi mae’n cynrychioli popeth a ymylir gan batriarchaeth. Felly gall dynion hefyd gael eu hymylu a chreu ‘écriture feminine’, fel y dengys ei dadansoddiadau llenyddol hi. Iddi hi safbwynt ydyw ac nid hanfod. Ac os honnodd Cixous mai mewn barddoniaeth yn unig y mae yn bosibl, dengys Kristeva ei bod hi’n hollol bosib mewn rhyddiaith arbrofol hefyd.
Datblygodd Kristeva syniadau’r seicdreiddiwr Jacques Lacan am strwythur iaith. Yn nherminoleg Kristeva y ‘symbolaidd’ yw’r lefel awdurdodol neu swyddogol o iaith, a’r ‘semiotig’ yw’r hyn sydd yn cael ei wadu gan reswm a threfn. Cyfetyb y ddwy lefel hyn hefyd i ymwybod ac isymwybod Sigmund Freud. Yn ei hastudiaeth o farddoniaeth avant-garde Stéphane Mallarmé a Lautréamont La Révolution du langage poétique (1974) [Chwyldroad mewn Iaith Farddonol] dengys Kristeva sut y gall grym y semiotig frigo i arwyneb y tesun. Felly nid dwy iaith wahanol, neu ddwy ffordd wahanol o ysgrifennu a geir yn ôl Kristeva, ond dwy agwedd ar yr un iaith. Amlygir y ffaith bod y ‘semiotig’ yn llifo o dan wyneb y ‘symbolaidd’ yn ddi-baid mewn cysylltiadau gwrthresymol neu random, e.e. odl. Yn y modd hwn mae’r hyn sy’n ‘fenywaidd’, neu yn fwy sylfaenol, yr hyn sy’n danseiliol yn wleidyddol, yn gallu brigo i’r wyneb, fel ym marddoniaeth Mallarmé a Lautréamont, yn ôl y dadansoddiad yn llyfr heriol Kristeva La Révolution du langage poétique (1974).
Teitl un o weithiau mwyaf dylanwadol Luce Irigaray yw ‘Y rhyw hon nad yw’n un’, ac yma mae’n datblygu delwedd o ddwy wefus y wain sy’n gyffelyb i gysyniad y ffalws. Yn ôl ei dadl, nid yw organau rhywiol benywaidd yn ‘un’ (fel y mae’r ffalws) ond yn ddwy ran, sy’n cyffwrdd â’i gilydd yn barhaus. Fel yn achos Cixous, cafwyd adlach yn erbyn Irigaray am fod rhai yn honni bod ei phwyslais o’r newydd ar y corff benywaidd yn arwain at hanfodolaeth, h.y. dweud mai ei chorff, neu ei gwahaniaeth corfforol, yw hanfod merch. Yn ôl nifer o ffeministiaid mae gwaith Cixous ac Irigaray yn gadael ‘rheswm’ yn ddiogel yn nwylo dynion, tra bod merched yn cael eu cyfyngu i’r emosiynol a’r afresymol.
Mae dylanwad theorïwyr ffeministaidd Ffrangeg yn drwm ar feirniadaeth lenyddol yn y Saesneg. Yn y Gymraeg dechreuwyd talu sylw iddynt yn 1992 gydag erthygl ragarweiniol gan Jane Aaron, ‘Gwahaniaeth a lluosogedd: golwg ar rai o theoriau'r ffeminyddion Ffrengig’, mewn rhifyn arbennig o Efrydiau Athronyddol a neilltuwyd i ‘Syniadau Ffeminyddol’. Yma cynhwysir yr athronydd Michèle Le Doeuff yn ogystal â’r drindod arferol (Cixous, Irigaray, Kristeva), a chynigia Aaron astudiaethau achos effeithiol iawn hefyd. Yn gyntaf ceir ganddi ddadansoddiad o olygfa o nofel ‘Cyfres y Fodrwy’ sy’n defnyddio theorïau’r ffeminyddion Ffrengig, ac sy’n tynnu sylw i’r berthynas rhwng iaith a rhagfarn rywiol. Yna gan ddilyn dadansoddiad gan Irigaray o derminoleg sy’n dynodi llwyddiant gyrfaol, trosglwydda’r syniad yn ddeheuig i gyd-destun Cymraeg, gan arddangos y trafferth a gaiff yr iaith Gymraeg i gofnodi llwyddiant proffesiynol menywod: ‘Y mae’r iaith fel petai’n gwrthod derbyn y ffaith fod menyw’n meddu ar ddeallusrwydd cymaint uwch na’r hyn a ddisgwylir gan ei rhyw yn gyffredinol, ac mae’n rhoi teitlau dynion arni.’ Dyma enghraifft ardderchog o fenthyg syniadau theoretig o dramor a’u rhoi ar waith mewn cyd-destun Cymraeg.
Awgrymodd sawl ffeminydd o Gymraes fod yna debygrwydd arbennig rhwng sefyllfa’r fenyw a diwylliant lleiafrifol. Mewn erthygl yn rhifyn arbennig ffeminyddol Tu Chwith (1996) mae Mererid Puw Davies yn sôn am Gloria Anzaldúa fel un ‘sy’n gweld ei ffeministiaeth yn fater ac yn fenter o ffiniau, lle mae’r ffiniau ieithyddol, fel y ffiniau gwleidyddol a ffiniau cenedl/ gender, yn ganolog’, ac felly’n awgrymu bod modd tynnu cymhariaeth rhwng ffeministiaeth liw a ‘ffeministiaid amlieithog Cymru’. Yn fwy diweddar yn ail rifyn ffeminyddol Y Traethodydd (2017) esboniodd Rhiannon Marks sut y gallai’r: ‘pwyslais ar luosogrwydd o fewn ffeminyddiaeth gynnig cyfle am ragor o drafodaeth â diwylliannau lleiafrifol neu ôl-drefedigaethol yn hytrach na dibynnu’n ormodol ar naratifau Eingl-Americanaidd dosbarth canol, gwyn a deyrnasai yn ystod cyfnod yr ail don’.
Mae erthygl Francesca Rhydderch yn rhifyn ffeminyddol Tu Chwith (1996) yn cynnig dadansoddiad manwl ac ysgubol o ddisgwrs theoretig Cymraeg, yn arbennig yng nghyd-destun yr adlach a fu yn erbyn Tu Chwith ers sefydlu’r cyfnodolyn yn 1993. Yn gyffredinol mae Rhydderch yn gwrthod y ddadl bod dadadeiladaeth yn wag o bosibiliadau gwleidyddol, gan ddangos bod yma botensial arbennig i ffeminyddion. Yr esiampl dan sylw yw’r ddadl a gododd o amgylch y gair ‘di-ffin-io’, y ffurf a ddefnyddiwyd gyntaf gan Mererid Puw Davies yn ei herthygl arloesol ar Tristan Corbière yn rhifyn cyntaf Tu Chwith. Ond mae’r beirniaid sy’n lladd ar y ffurf newydd ar y gair ‘diffinio’ yn ymateb yn hytrach i ddefnydd diweddarach Simon Brooks o’r un gair. Yn y modd hwn gwelwn sut y ‘rhoddwyd llais y fenyw o’r neilltu, - neu yn waeth fyth, fe’i gormesir a’i mygu’. Felly wrth i Simon Brooks, ac yna Richard Wyn Jones a Jerry Hunter anwybyddu bathiad Mererid Puw Davies yn eu trafodaethau yn y wasg am ieithwedd Tu Chwith, yn ôl dadl Francesca Rhydderch, mae’r ‘benywaidd wedi cael ei harneisio at ddibenion ffalogo-ganolrwydd’. Wrth amlygu’r ffordd y ‘llyncir y gair’ ac y ‘trefedigaethir y gair’, casgliad Rhydderch yw bod prosiect Tu Chwith o dan ‘Ddeddf y Tad’, a’i fod yn trosglwyddo pŵer o un genhedlaeth o academyddion i’r llall.
Eiddo Mair Rees yw’r ymdriniaeth theoretig ffeministaidd fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael yn Gymraeg. Mae ei chyfrol Y Llawes Goch a’r Faneg Wen (2014) yn canolbwyntio ar y drindod gyfarwydd (Cixous, Irigaray, Kristeva) ‘oherwydd bod gan eu gwaith hwy gysylltiadau diddorol iawn â’r sefyllfa lenyddol, ieithyddol, gymdeithasol a gwleidyddol yn y Gymru gyfoes’. Ceir ganddi gyflwyniad theoretig sy’n rhoi sylw i’r tair, ac yna â ati i gymhwyso syniadau’r tair i ffuglen gan fenywod yn Gymraeg yn ail hanner ei hastudiaeth, gan rannu’r testunau yn ôl thema: beichiogrwydd, mislif, y corff benywaidd symbolaidd. Mae hi hefyd yn tynnu cymhariaeth rhwng disgyrsiau ffeministaidd ac ôl-drefedigaethol, gan sôn am y ‘[b]erthynas agos rhwng gwledyddiaeth rhywedd a gwleidyddiaeth iaith yn y cyd-destun Cymraeg’. Ac amcan yr astudiaeth, meddai, yw: ‘archwilio’r posibilrwydd bod cyfeiriadau at brofiadau corfforol yn ffuglen y Gymraeg nid yn unig yn cyfleu gwybodaeth am hynt a helynt gwleidyddiaeth rhywedd yn y gymdeithas Gymraeg, ond iddynt hefyd gael eu defnyddio, yn aml, ac yn drosiadol, i gyfeirio at hynt y genedl a’r iaith’. Os mai dwyieithog yw menywod yn eu hanfod, gan fod rhaid iddynt fod yn rhugl yn iaith y benywaidd yn ogystal â gorfod dysgu iaith y tad, a oes felly raid i’r Gymraes bontio nid yn unig rhwng iaith (symbolaidd) y tad ac iaith (semiotig) y fenyw ond hefyd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg? Ceir gan Mair Rees hefyd drafodaeth o symbol y fenyw-yn-genedl, gyda ffocws ar un o gerddi mwyaf eiconig y Gymraeg, sef ‘Hon’ gan T. H. Parry-Williams, o berspectif ffeministaidd. Codir y cwestiwn a yw ‘pwysigrwydd statws y fenyw symbolaidd yn cyferbynnu â statws y fenyw go iawn’.
Serch hynny, nid pawb sy’n awyddus i gymhwyso syniadau tramor i achos Cymru, ac fel arall y gwelai Kathryn Hughes a Ceridwen-Lloyd Morgan hi yn rhifyn ffeminyddol Tu Chwith (1996). Wrth ddatgan siom na chafodd rhifyn arloesol Traethodydd 1986 fwy o effaith ar faes ysgrifennu merched (‘Roeddem yn disgwyl gwell na hyn’), maent yn dadlau yn erbyn mabwysiadu theorïau Ffrengig am fod cyd-destun, hanes a diwylliant Cymru yn wahanol: ‘teimlwn mai mwy priodol fyddai datblygu damcaniaethau newydd a fyddai’n tyfu’n naturiol o’n profiadau unigryw ni fel merched yng Nghymru.’
Heather Williams
Llyfryddiaeth
Aaron, J. (1992), ‘Gwahaniaeth a lluosogedd: golwg ar rai o theoriau'r ffeminyddion Ffrengig’, Efrydiau Athronyddol, 55, 33-46
Aaron, J. (1995), ‘Y Flodeuwedd gyfoes: llên menywod 1973-1993’, yn DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru, gol. M. Wynn Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 195-208.
Aaron, J., Crockett, K. a Rhydderch, F. (goln) (1996), Tu Chwith rhifyn arbennig ffeminyddol ‘O’r Iard Gefn’.
Brooks, S. (2004), ‘Ffeminyddiaeth’, Dan Lygaid y Gestapo: Yr oleuedigaeth Gymraeg a theori lenyddol yng Nghymru (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 175-92.
Cixous, H. (1975), ‘Le rire de la Méduse’, L’Arc, 61, ar gael mewn cyfieithiad yn New French Feminisms: An Anthology, gol. Courtivron, I. a Marks, E. (Amherst, Gwasg Prifysgol Massachusetts, 1980).
Cixous, H. (1975), ‘Sorties’, yn 'La Jeune Née', ar gael mewn cyfieithiad gan Ann Liddle yn New French Feminisms: An Anthology, Courtivron, I. a Marks, E. (Amherst, Gwasg Prifysgol Massachusetts, 1980).
Courtivron, I. a Marks, E. (1980), New French Feminisms: An Anthology (Amherst, Gwasg Prifysgol Massachusetts).
Davies, M. (1993), ‘Féminin singulier: argyfwng hunan gwrywaidd Tristan’, Tu Chwith 1, 50-55.
Davies, M. (1996), 'Datod tafodau: Gloria Anzaldúa a ffeministiaethau 'color' ', Tu Chwith, 6, 11-19
Elfyn, M. (1992), ‘Trwy lygaid ffeministaidd’, yn Rowlands, J. (gol.), Sglefrio ar Eiriau (Llandysul: Gomer), 22-41.
Gramich, K. (1996), ‘Mapio’r corff’, Tu Chwith 4, 86-94.
Hughes, K. a Lloyd-Morgan, C. (1996), ‘Cylchoedd Dieflig’, Tu Chwith, 6, 66-69.
Irigaray, L. (1974), Spéculum: de l’autre femme (Paris: Minuit), cyfieithiwyd fel Speculum of the Other Woman, Gillian C. Gill (Efrog Newydd, Gwasg Prifysgol Cornell, 1985).
Irigaray, L. (1977) Ce sexe qui n’en est pas un (Paris: Minuit), cyfieithiwyd fel This Sex Which is Not One, Catherine Porter a Carolyn Burke (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Cornell, 1985).
Kristeva, Julia (1974), La Révolution du langage poétique (Paris: Seuil), wedi ei gyfieithu gan Margaret Waller fel Revolution in Poetic Language (Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Columbia).
Marks, R. (2017), ‘Syrffio’r drydedd don?’, Y Traethodydd, 172, 47-62.
Moi, T. (1985), Sexual Textual Politics (Llundain, Methuen).
Price, Angharad (1998), ‘Y Gymraeg: iaith sy’n swcro gwrywdod ?’, Tu Chwith, 9, 104-14.
Rees, M. (2014), Y Llawes Goch a’r Faneg Wen: Y corff benywaidd a’i symbolaeth mewn ffuglen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Rees, M. (2014), ‘Y Famwlad neu’r fenyw: “twyll llygaid” Hon T. H. Parry-Williams’, Ysgrifau Beirniadol, 33, 73-80.
Rhydderch, F. (1996), ‘Diffinio ffeminyddiaeth yng Nghymru heddiw’, Tu Chwith, 6, 33-40
Showalter, E. ‘Feminist criticism in the wilderness’, yn Modern Criticism and Theory: A Reader, gol. David Lodge (Llundain: Longman, 1988), 331-53.
Thomas, C. (1998), ‘Y llif ffalig’, Tu Chwith 9, rhifyn arbennig ar wrywdod, 69-75.
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.