Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tomkins (Teulu'r)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 4: Llinell 4:
 
Teulu o gerddorion o’r 17g. a hanai o Dyddewi, Sir Benfro; cerddorion mwyaf blaenllaw Prydain yn ystod teyrnasiad Iago I a Siarl I.
 
'''Thomas Tomkins (yr hynaf)''' (''c''.1545–1627)  
+
==Thomas Tomkins (yr hynaf) (''c''.1545–1627)==
  
Ymddengys enw Thomas Tomkins gyntaf yn Llyfrau Gweithredoedd y Cabidwl yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1565, lle disgrifir ef fel ficer corawl. Bu’n Feistr y Cantorion ac yn Organydd o tua 1573 tan 1586, pan symudodd ef a’i deulu i Gaerloyw. Cymerodd Tomkins urddau eglwysig a dod yn is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw; o 1610 hyd ei farwolaeth ef oedd Blaenor y Gân. Tadogir arno nifer o weithiau hynafiaethol, gan gynnwys hanes Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Lladin, sydd bellach ar goll. Priododd Tomkins ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Margaret Poher (pr.''c.'' 1572–1586), a ganed iddynt dri o blant; yr ieuengaf ohonynt oedd y cyfansoddwr, Thomas Tomkins (gw. [[Tomkins, Thomas (1572-1656) | Tomkins, Thomas]]). Rywbryd cyn 1586 priododd Anne Hergest, o fferm Penarthur gerllaw, a chafodd gyda hi saith plentyn arall; etifeddodd John, Robert a Giles ddoniau cerddorol eu tad, gan wasanaethu fel organyddion yn y Capel Brenhinol; bu Peregrine yn un o weision y brenin.
 
'''John Tomkins''' (1586–1638)
+
==John Tomkins (1586–1638)==
  
Ystyrid John Tomkins yn un o chwaraewyr offerynnau llawfwrdd gorau ei genhedlaeth, a gwasanaethodd fel organydd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt o 1606 hyd 1619. Yn ystod ei gyfnod yno cafodd ei anfarwoli gan ei gyfaill, y bardd Phineas Fletcher, fel ‘Thomalin’ yn nifer o’i gerddi. Symudodd John i Lundain i fod yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul o 1619 hyd ei farwolaeth. Yn 1625 fe’i gwnaed yn ‘Wrda Arbennig’ ''(‘Gentleman Extraordinary’)'' yn y Capel Brenhinol a rhoddwyd iddo aelodaeth lawn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Nifer fechan yn unig o’i weithiau [[Corau Cymysg | corawl]] a llawfwrdd sydd wedi goroesi, ond yn eu plith y mae’r [[Anthemau | anthem]] lawn ''The King shall rejoice'' a’r amrywiadau llawfwrdd ''John come kiss me now''.
 
'''Giles Tomkins''' (1587–1668)
+
==Giles Tomkins (1587–1668)==
  
Etifeddodd Giles Tomkins hefyd dueddfryd cerddorol y teulu, a daeth yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt, yn 1624. Symudodd i Gaersallog yn 1629 ac yno bu’n dal swydd organydd tan y Rhyfel Cartref, gan ailafael yn ei ddyletswyddau yno pan ddaeth yr Adferiad. Daeth yn gerddor yr organau tannau yn y llys yn 1630, ac yn ystod 1633 aeth gyda’r Brenin ar ei daith i’r Alban. Ni oroesodd unrhyw gyfansoddiadau o’i eiddo.
 
'''Robert Tomkins''' (''c''.1628–41)
+
==Robert Tomkins (''c''.1628–41)==
  
Mae’n hysbys i Robert Tomkins wasanaethu’r teulu brenhinol fel chwaraewr feiol. Rhestrwyd Giles a Robert yn gerddorion y liwtiau, y feiolau a’r lleisiau yn y Capel Brenhinol yn 1641. Goroesodd drylliau o ddwy anthem lawn a chwe anthem wersi ganddo yn Llyfr Organ Batten (llsgr. Tenbury 791).
 
'''Nathaniel Tomkins''' (1599–1681)
+
==Nathaniel Tomkins (1599–1681)==
  
Nathaniel Tomkins oedd unig blentyn Thomas Tomkins yr ieuengaf, ac astudiodd ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan ddod yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon wedi hynny o 1629 hyd ei farwolaeth. Roedd Nathaniel yn organydd medrus, ac ef oedd golygydd y casgliad o waith ei dad, ''Musica Deo sacra''.
 
Diwygiad 22:18, 16 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Teulu o gerddorion o’r 17g. a hanai o Dyddewi, Sir Benfro; cerddorion mwyaf blaenllaw Prydain yn ystod teyrnasiad Iago I a Siarl I.

Thomas Tomkins (yr hynaf) (c.1545–1627)

Ymddengys enw Thomas Tomkins gyntaf yn Llyfrau Gweithredoedd y Cabidwl yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1565, lle disgrifir ef fel ficer corawl. Bu’n Feistr y Cantorion ac yn Organydd o tua 1573 tan 1586, pan symudodd ef a’i deulu i Gaerloyw. Cymerodd Tomkins urddau eglwysig a dod yn is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw; o 1610 hyd ei farwolaeth ef oedd Blaenor y Gân. Tadogir arno nifer o weithiau hynafiaethol, gan gynnwys hanes Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Lladin, sydd bellach ar goll. Priododd Tomkins ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Margaret Poher (pr.c. 1572–1586), a ganed iddynt dri o blant; yr ieuengaf ohonynt oedd y cyfansoddwr, Thomas Tomkins (gw. Tomkins, Thomas). Rywbryd cyn 1586 priododd Anne Hergest, o fferm Penarthur gerllaw, a chafodd gyda hi saith plentyn arall; etifeddodd John, Robert a Giles ddoniau cerddorol eu tad, gan wasanaethu fel organyddion yn y Capel Brenhinol; bu Peregrine yn un o weision y brenin.

John Tomkins (1586–1638)

Ystyrid John Tomkins yn un o chwaraewyr offerynnau llawfwrdd gorau ei genhedlaeth, a gwasanaethodd fel organydd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt o 1606 hyd 1619. Yn ystod ei gyfnod yno cafodd ei anfarwoli gan ei gyfaill, y bardd Phineas Fletcher, fel ‘Thomalin’ yn nifer o’i gerddi. Symudodd John i Lundain i fod yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul o 1619 hyd ei farwolaeth. Yn 1625 fe’i gwnaed yn ‘Wrda Arbennig’ (‘Gentleman Extraordinary’) yn y Capel Brenhinol a rhoddwyd iddo aelodaeth lawn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Nifer fechan yn unig o’i weithiau corawl a llawfwrdd sydd wedi goroesi, ond yn eu plith y mae’r anthem lawn The King shall rejoice a’r amrywiadau llawfwrdd John come kiss me now.

Giles Tomkins (1587–1668)

Etifeddodd Giles Tomkins hefyd dueddfryd cerddorol y teulu, a daeth yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt, yn 1624. Symudodd i Gaersallog yn 1629 ac yno bu’n dal swydd organydd tan y Rhyfel Cartref, gan ailafael yn ei ddyletswyddau yno pan ddaeth yr Adferiad. Daeth yn gerddor yr organau tannau yn y llys yn 1630, ac yn ystod 1633 aeth gyda’r Brenin ar ei daith i’r Alban. Ni oroesodd unrhyw gyfansoddiadau o’i eiddo.

Robert Tomkins (c.1628–41)

Mae’n hysbys i Robert Tomkins wasanaethu’r teulu brenhinol fel chwaraewr feiol. Rhestrwyd Giles a Robert yn gerddorion y liwtiau, y feiolau a’r lleisiau yn y Capel Brenhinol yn 1641. Goroesodd drylliau o ddwy anthem lawn a chwe anthem wersi ganddo yn Llyfr Organ Batten (llsgr. Tenbury 791).

Nathaniel Tomkins (1599–1681)

Nathaniel Tomkins oedd unig blentyn Thomas Tomkins yr ieuengaf, ac astudiodd ddiwinyddiaeth yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan ddod yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon wedi hynny o 1629 hyd ei farwolaeth. Roedd Nathaniel yn organydd medrus, ac ef oedd golygydd y casgliad o waith ei dad, Musica Deo sacra.

David Evans

Llyfryddiaeth

  • Denis Stevens, Thomas Tomkins ([arg. diw.] Efrog Newydd, 1967)
  • David R. A. Evans, ‘The life and works of John Tomkins’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 6/4 (1980), 56–62
  • ———, ‘A short history of the music and musicians of St. David’s Cathedral’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/8 (1984–5), 50–66
  • ———, ‘A Cornish Musician in Wales’, Journal of the Institute of Cornish Studies, 15 (1987)
  • ———, ‘John Tomkins and the Batten Organ Book’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 8/7 (1987), 13–22
  • ———, ‘“Cerddor euraid”: lle John Tomkins ym marddoniaeth Saesneg yr ail ganrif ar bymtheg’, Taliesin, 114 (2002)
  • Anthony Boden, Thomas Tomkins: the last Elizabethan (Aldershot, 2005)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.