Traethydd
Y traethydd yw’r person sy’n adrodd digwyddiadau’r stori. Mae ei sylwebaeth ar lafar neu’n ysgrifenedig yn cyfleu’r digwyddiadau i’r gynulleidfa. Mae awdur yn rhydd i wneud penderfyniadau gwahanol o ran safbwynt a llais sy’n datgelu safle’r traethydd mewn perthynas â'r stori sy'n cael ei dweud.
Traethydd yn y person cyntaf
Mae’r traethydd yn y person cyntaf yn gymeriad yn y testun. Mae felly yn rhan o ddigwyddiadau’r stori ac yn adrodd y stori o’i safbwynt ef. Mae safle'r traethydd person cyntaf yn gyfyngedig i raddau; rhaid iddo ddweud wrth y gynulleidfa yr hyn a welodd ac a brofodd neu y clywodd sôn amdano. Ond y mae'r awdur yn rhydd i ddefnyddio mwy nag un traethydd person cyntaf o fewn yr un testun, a gall hynny fod yn ffordd ddyfeisgar o gyflwyno ymatebion gwahanol i'r un digwyddiadau craidd.
Dywed John Mullan bod y modd hwn o ysgrifennu yn galluogi’r darllenydd i gydymdeimlo’n ddyfnach â’r cymeriad: '[the author] engages us not simply by giving access to a character’s thoughts... but by opening a gap between the ‘I’ who tells the story and the ‘I’ who is the past self. Here, potentially, is the drama of a person trying to make sense of him - or herself.'
Nofel sy’n gwneud defnydd o’r person cyntaf yw Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Dywed John Rowlands bod y darllenydd yn dysgu am berthynas atgofion y mab â sefydlogrwydd meddwl yr oedolyn trwy eiriau’r prif gymeriad:
'Yn Un Nos Ola Leuad, dysgwn ystyr taith yr adroddwr trwy atgofion y mab. Rhan o hudoliaeth enbyd y nofel yw mai ymbalfalu am ei harwyddocâd yr ydym wrth ddarllen... Yr hyn sy'n ei gwneud yn ddryslyd yw nad oes yma adroddwr hollwybodol sy'n gosod pethau mewn trefn ac yn eu hegluro fel yn y nofel drydydd person.
Traethydd yn yr ail berson
Mae traethydd yn yr ail berson hefyd yn gymeriad yn y stori ac yn cyfarch eraill, gan ddefnyddio rhagenwau megis ‘ti’ a ‘chi’. Mae hwn yn fath cyffredin o naratif mewn cerddoriaeth boblogaidd a rhai mathau o farddoniaeth, er ei fod yn gymharol brin mewn ffurfiau fel y nofel a straeon byrion. Pan ddefnyddir y dechneg yn gywir mae fel petai’r traethydd yn siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa – yn gwneud i’r darllenydd deimlo’n rhan o’r stori. Gwneir defnydd dethol o'r dechneg yn aml trwy gyfrwng llythyr neu gyfathrebiad arall. Mae Eurig Wyn yn defnyddio’r ail berson ochr yn ochr â’r person cyntaf yn ei waith buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch 2000, Tri Mochyn Bach. Y person cyntaf mewn inc du a’r ail berson mewn inc coch – y person cyntaf yn dweud y stori a’r ail berson yn cynnig sylwadaeth ar y digwydd, yn holi cymhellion y prif gymeriad ac yn ei atgoffa o ddigwyddiadau fel pe bai ei gydwybod yn siarad. Mae’r defnydd o’r ail berson yn ategu’r ymdeimlad bod y llais yn herio’r cymeriad.
Traethydd yn y trydydd person
Yn y trydydd person, cyfeirir at bob cymeriad gan yr adroddwr fel ‘ef’, ‘hi’, neu ‘nhw’, ond byth fel ‘fi’ neu ‘ni’ (person cyntaf), neu ‘chi’ (ail berson). Mae hyn yn ei gwneud hi'n glir nad yw’r adroddwr yn gymeriad penodol o fewn y nofel.
Nid yw’n ofynnol bod bodolaeth y traethydd yn cael ei esbonio na’i ddatblygu fel cymeriad. Mae’r stori felly yn cael ei thraethu heb fanylion ynglŷn â’r traethydd. Yn hytrach, mae’r traethydd trydydd person yn ‘sylwebaeth’ neu’n ‘llais’ yn hytrach na chymeriad datblygedig.
Mae dau fath o safbwynt trydydd person; gellir cael trydydd person hollwybodol, lle rydym yn eistedd yn ôl ac yn gwylio'r bywydau o bellter. Does dim cysylltiad emosiynol; mae’r traethydd yn cyflwyno'r ffeithiau’n syml.
Y math arall yw’r trydydd person cyfyngedig. Os yw'n gyfyngedig, ni ŵyr y traethydd ond am feddyliau un neu fwy o gymeriadau penodol. Cyfeirir at y cymeriadau o hyd fel ‘hi’ neu ‘ef’ ond mae’r traethydd yma’n gallu darparu profiad mwy personol o fywydau cymeriadau.
Mae’r dewis a wna’r awdur o ran y traethydd yn pennu faint y mae’r darllenydd yn cael gwybod am y stori ac felly yn effeithio ar farn gyffredinol y darllenwr o’r hanes. Fel dywed Ioan Williams:
Mae gan bob adroddwr mewn ffug-chwedlau safbwynt arbennig sydd yn effeithio ar y ffurf mae’n ei roi i’r stori. Derbyniwn y safbwynt hwn fel confensiwn wrth ddechrau darllen nofel. Trwyddo caiff yr awdur fodd i reoli ein hymateb i’r deunydd.
Catrin Heledd Richards
Llyfryddiaeth
Mullan, J. (2006), How novels work (Oxford: Oxford University Press).
Prichard, C. (1961), Un Nos Ola Leuad (Dinbych: Gwasg Gee).
Rowlands, J. (1993) , ‘Y Fam a’r Mab – Rhagarweiniad i Un Nos Ola Leuad’, gol. J.E. Caerwyn Williams, Ysgrifau Beirniadol XIX (1993).
Williams, I. (1984), Y Nofel (Llandysul: Gwasg Gomer).
Wyn, E. (2000), Tri Mochyn Bach (Tal-y-bont: Y Lolfa).
- Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.