Tuedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Bias

Cymryd safbwynt sy’n gogwyddo tuag at un ochr wrth ohebu ar ddigwyddiad neu fater newyddion. Mewn newyddiaduraeth, er mwyn canfod tuedd mae’n rhaid awgrymu bod newyddiadurwyr yn methu â chyflwyno’r byd fel ag y mae, neu’n pwysleisio un safbwynt dros un arall. Wedi’i chysylltu ers tro â newyddiaduraeth bleidiol, newyddiaduraeth dinasyddion, newyddiaduraeth eirioli a newyddiaduraeth amgen, mae tuedd yn broblem yn y rhannau hynny o’r byd lle y mae modelau newyddiaduraeth niwtral a gwrthrychedd, didueddrwydd a chydbwysedd wedi esblygu gyda phroffesiynoldeb newyddiadurwyr.

Mae ysgolheictod wedi tanlinellu natur anochel tuedd gan arwain at gydnabyddiaeth bod gohebu heb duedd yn amhosibl. Serch hynny, mae’r syniad o duedd yn parhau i fod yn ‘gerdyn trwmp’ yn y sffêr cyhoeddus, lle mae dadleuon dros ac yn erbyn barn benodol yn ymddangos yn rheolaidd mewn sylw newyddion.

Dywedir bod tuedd yn digwydd fwyaf aml wrth ddewis pynciau i’w cyflwyno ar y newyddion. Gellid dweud bod tuedd i’w gweld yn y dewis o eiriau, ffynonellau, dyfyniadau, penawdau, cyflwyniad ar dudalen neu linell a chapsiwn (caption), gan awgrymu bod tuedd yn gorwedd i ryw raddau ym mron pob agwedd ar ddewis newyddion a’i gyflwyno (Zelizer et al. 2002).

Mae tuedd yn deillio o sawl man. Gall fod yn bersonol, yn sefydliadol neu’n strwythurol, yn ymwybodol neu’n isymwybodol, yn swyddogol neu’n answyddogol, yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Wrth wraidd pob un o’r nodweddion hyn rhagdybir, wrth gyflwyno digwyddiad newyddion neu fater mewn un ffordd, bod newyddiadurwyr yn defnyddio tuedd er mwyn tynnu sylw a chael ymateb y cyhoedd i’r stori newyddion. Am y rheswm hwnnw, ystyrir bod tuedd bleidiol – neu ragfarn sy’n dilyn rhyw fath o ideoleg, fel arfer ideoleg ryddfrydol neu geidwadol – yn fygythiad go-iawn i newyddiaduraeth o safon, oni bai bod adroddiadau yn dilyn trywydd pleidiol fel mater o drefn.

Llyfryddiaeth

Zelizer, B. Park, D. a Gudelunas, D. 2002. How bias shapes the news: challenging the New York Times’ status as a newspaper of record on the Middle East. Journalism: Theory, Practice, and Criticism 3(3), tt. 283–308.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.