Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tystion"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
O’r 1990au cynnar ymlaen llwyddodd [[Steffan Cravos]] i sbarduno’r sîn roc Gymraeg mewn amrywiol foddau, gan gynnwys ei act hip-hop Tystion. Un o Gaerfyrddin oedd yn wreiddiol a dechreuodd gyfrannu i’r sîn fel golygydd y ffansîn ''Psycho'' cyn cyfnod byrhoedlog fel aelod o [[Gorky’s Zygotic Mynci]]. Bu hip-hopwyr Americanaidd megis Public Enemy, KRS-One ac A Tribe Called Quest yn ddylanwad arno. Bu ef ac Owain Meredith (MC Mabon) yn cyd-chwarae am gyfnod gyda Datsyn, a byddai Meredith yn ddiweddarach hefyd yn dod yn aelod o Tystion.
+
O’r 1990au cynnar ymlaen llwyddodd Steffan Cravos i sbarduno’r sîn roc Gymraeg mewn amrywiol foddau, gan gynnwys ei act hip-hop Tystion. Un o Gaerfyrddin oedd yn wreiddiol a dechreuodd gyfrannu i’r sîn fel [[golygydd]] y ffansîn ''Psycho'' cyn cyfnod byrhoedlog fel aelod o [[Gorky's Zygotic Mynci]]. Bu hip-hopwyr Americanaidd megis Public Enemy, KRS-One ac A Tribe Called Quest yn ddylanwad arno. Bu ef ac Owain Meredith (MC Mabon) yn cyd-chwarae am gyfnod gyda Datsyn, a byddai Meredith yn ddiweddarach hefyd yn dod yn aelod o Tystion.
  
Yn 1996 rhyddhaodd Cravos sengl gasét hip-hop, ‘Dan y Belt’, o dan y ffugenw MC Sleifar, a hynny gydag Alffa Un (Curig Huws) ar ei label annibynnol newydd Fitamin Un. Roedd y traciau’n arloesol yn Gymraeg ar y pryd yn sgil eu defnydd o dechneg lle mae un rapiwr yn gorffen llinell y llall (un o nodweddion y Beastie Boys ymhlith eraill).
 
Llinell 8: Llinell 8:
 
Erbyn ymddangosiad ‘Dan y Belt’ yn 1996, roedd Tystion eisoes wedi cael ei ffurfio gan Cravos, Meredith a Huws. Yn ystod y saith mlynedd nesaf byddai aelodaeth y criw yn newid yn rheolaidd, gyda mwy nag ugain o gerddorion ar un adeg neu’i gilydd yn cyfrannu i’w tri albwm, ''Rhaid i Rywbeth Ddigwydd'' (Fitamin Un, 1997), ''Shrug Off Ya Complex'' (Ankst, 1999) a ''Hen Gelwydd Prydain Newydd'' (Ankst, 2000)), yn ogystal â nifer o senglau a’r EP ''Brewer Spinks'' (Ankst, 1998) a ddyfarnwyd yn ‘Single of the Week’ yn y cylchgrawn ''Melody Maker''. Daeth Tystion hefyd i sylw John Peel, gan recordio sesiwn iddo yn 2000. Mae’r traciau hyn i’w cael ar ''Hen Gelwydd Prydain Newydd'', a ystyrir yn gampwaith y band. Mae sŵn y record yn fwy sgleiniog na gwaith cynnar y grŵp, ac mae’r traciau - sydd yn delio â phynciau gwleidyddol megis llygredd llosgachol honedig cymdeithas ddinesig y cyfnod ôl-ddatganoli a Llafur Newydd Tony Blair – yn cynnwys beirniadaeth ddeifiol ar fywyd y Gymru gyfoes.
 
Nid perfformio’n unig a wnaeth Cravos yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn 2001 roedd yn ffigwr canolog mewn sîn danddaearol fechan ond bywiog a oedd yn seiliedig ar gerddoriaeth hip-hop, pync ac ''avant-garde''. Roedd ei ffansîn ''Brechdan Tywod'', ei label Fitamin Un a’i orsaf radio [[rhyngrwyd]] Radio Amgen i gyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i artistiaid o feddylfryd tebyg yng Nghymru a thu hwnt, a rhoddodd bresenoldeb i’r iaith Gymraeg mewn maes cerddorol newydd a heriol. Arbrofodd Cravos yn y maes hwn o dan y ffugenw Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, gan greu cerddoriaeth ''avant-garde'' mewn arddull debyg i un Merzbow (Masami Akita, g.1956), y cerddor sŵn o Japan. Rhyddhawyd un albwm, ''Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr'', yn 2000, ond cymysg fu’r adolygiadau.
+
Nid perfformio’n unig a wnaeth Cravos yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn 2001 roedd yn ffigwr canolog mewn sîn danddaearol fechan ond bywiog a oedd yn seiliedig ar gerddoriaeth hip-hop, pync ac ''avant-garde''. Roedd ei ffansîn ''Brechdan Tywod'', ei label Fitamin Un a’i orsaf radio [[Rhyngrwyd, Cerddoriaeth a'r | rhyngrwyd]] Radio Amgen i gyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i artistiaid o feddylfryd tebyg yng Nghymru a thu hwnt, a rhoddodd bresenoldeb i’r iaith Gymraeg mewn maes cerddorol newydd a heriol. Arbrofodd Cravos yn y maes hwn o dan y ffugenw Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, gan greu cerddoriaeth ''avant-garde'' mewn arddull debyg i un Merzbow (Masami Akita, g.1956), y cerddor sŵn o Japan. Rhyddhawyd un albwm, ''Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr'', yn 2000, ond cymysg fu’r adolygiadau.
  
Rhyddhaodd Tystion yr EP ''Y Meistri'' yn 2001, ac wedyn eu sengl olaf, ‘M.O.M.Y.F.G.’, cyn chwalu ar ôl [[Eisteddfod]] Genedlaethol 2002. Aeth Cravos ymlaen i recordio’r albwm ''Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl'' (Boobytrap, 2004) gyda Curig Huws o dan yr enw Lo-Cut a Sleifar a chafodd adolygiadau ffafriol. Erbyn hyn roedd yna garfan fechan o rapwyr a hip-hopwyr yn perfformio yn Gymraeg, gan gynnwys [[Pep Le Pew]], Cofi Bach a Tew Shady, ac MC Saizmundo (a.k.a. Deian ap Rhisiart). Disgrifiwyd hip-hop fel ‘y canu protest newydd’ gan y cynhyrchydd Dyl Mei mewn erthygl yn ''Y Cymro'' yn 2005. Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd roedd y rhan fwyaf o’r labeli, y ffansîns a’r grwpiau a oedd wedi ffurfio’r sîn danddaearol wedi dod i ben.
+
Rhyddhaodd Tystion yr EP ''Y Meistri'' yn 2001, ac wedyn eu sengl olaf, ‘M.O.M.Y.F.G.’, cyn chwalu ar ôl [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol 2002. Aeth Cravos ymlaen i recordio’r albwm ''Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl'' (Boobytrap, 2004) gyda Curig Huws o dan yr enw Lo-Cut a Sleifar a chafodd adolygiadau ffafriol. Erbyn hyn roedd yna garfan fechan o rapwyr a hip-hopwyr yn perfformio yn Gymraeg, gan gynnwys [[Pep Le Pew]], Cofi Bach a Tew Shady, ac MC Saizmundo (a.k.a. Deian ap Rhisiart). Disgrifiwyd hip-hop fel ‘y canu protest newydd’ gan y cynhyrchydd Dyl Mei mewn erthygl yn ''Y Cymro'' yn 2005. Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd roedd y rhan fwyaf o’r labeli, y ffansîns a’r grwpiau a oedd wedi ffurfio’r sîn danddaearol wedi dod i ben.
  
'''Craig Owen Jones'''
 
'''Craig Owen Jones'''

Y diwygiad cyfredol, am 15:04, 8 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

O’r 1990au cynnar ymlaen llwyddodd Steffan Cravos i sbarduno’r sîn roc Gymraeg mewn amrywiol foddau, gan gynnwys ei act hip-hop Tystion. Un o Gaerfyrddin oedd yn wreiddiol a dechreuodd gyfrannu i’r sîn fel golygydd y ffansîn Psycho cyn cyfnod byrhoedlog fel aelod o Gorky's Zygotic Mynci. Bu hip-hopwyr Americanaidd megis Public Enemy, KRS-One ac A Tribe Called Quest yn ddylanwad arno. Bu ef ac Owain Meredith (MC Mabon) yn cyd-chwarae am gyfnod gyda Datsyn, a byddai Meredith yn ddiweddarach hefyd yn dod yn aelod o Tystion.

Yn 1996 rhyddhaodd Cravos sengl gasét hip-hop, ‘Dan y Belt’, o dan y ffugenw MC Sleifar, a hynny gydag Alffa Un (Curig Huws) ar ei label annibynnol newydd Fitamin Un. Roedd y traciau’n arloesol yn Gymraeg ar y pryd yn sgil eu defnydd o dechneg lle mae un rapiwr yn gorffen llinell y llall (un o nodweddion y Beastie Boys ymhlith eraill).

Erbyn ymddangosiad ‘Dan y Belt’ yn 1996, roedd Tystion eisoes wedi cael ei ffurfio gan Cravos, Meredith a Huws. Yn ystod y saith mlynedd nesaf byddai aelodaeth y criw yn newid yn rheolaidd, gyda mwy nag ugain o gerddorion ar un adeg neu’i gilydd yn cyfrannu i’w tri albwm, Rhaid i Rywbeth Ddigwydd (Fitamin Un, 1997), Shrug Off Ya Complex (Ankst, 1999) a Hen Gelwydd Prydain Newydd (Ankst, 2000)), yn ogystal â nifer o senglau a’r EP Brewer Spinks (Ankst, 1998) a ddyfarnwyd yn ‘Single of the Week’ yn y cylchgrawn Melody Maker. Daeth Tystion hefyd i sylw John Peel, gan recordio sesiwn iddo yn 2000. Mae’r traciau hyn i’w cael ar Hen Gelwydd Prydain Newydd, a ystyrir yn gampwaith y band. Mae sŵn y record yn fwy sgleiniog na gwaith cynnar y grŵp, ac mae’r traciau - sydd yn delio â phynciau gwleidyddol megis llygredd llosgachol honedig cymdeithas ddinesig y cyfnod ôl-ddatganoli a Llafur Newydd Tony Blair – yn cynnwys beirniadaeth ddeifiol ar fywyd y Gymru gyfoes.

Nid perfformio’n unig a wnaeth Cravos yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn 2001 roedd yn ffigwr canolog mewn sîn danddaearol fechan ond bywiog a oedd yn seiliedig ar gerddoriaeth hip-hop, pync ac avant-garde. Roedd ei ffansîn Brechdan Tywod, ei label Fitamin Un a’i orsaf radio rhyngrwyd Radio Amgen i gyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i artistiaid o feddylfryd tebyg yng Nghymru a thu hwnt, a rhoddodd bresenoldeb i’r iaith Gymraeg mewn maes cerddorol newydd a heriol. Arbrofodd Cravos yn y maes hwn o dan y ffugenw Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, gan greu cerddoriaeth avant-garde mewn arddull debyg i un Merzbow (Masami Akita, g.1956), y cerddor sŵn o Japan. Rhyddhawyd un albwm, Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr, yn 2000, ond cymysg fu’r adolygiadau.

Rhyddhaodd Tystion yr EP Y Meistri yn 2001, ac wedyn eu sengl olaf, ‘M.O.M.Y.F.G.’, cyn chwalu ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 2002. Aeth Cravos ymlaen i recordio’r albwm Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl (Boobytrap, 2004) gyda Curig Huws o dan yr enw Lo-Cut a Sleifar a chafodd adolygiadau ffafriol. Erbyn hyn roedd yna garfan fechan o rapwyr a hip-hopwyr yn perfformio yn Gymraeg, gan gynnwys Pep Le Pew, Cofi Bach a Tew Shady, ac MC Saizmundo (a.k.a. Deian ap Rhisiart). Disgrifiwyd hip-hop fel ‘y canu protest newydd’ gan y cynhyrchydd Dyl Mei mewn erthygl yn Y Cymro yn 2005. Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd roedd y rhan fwyaf o’r labeli, y ffansîns a’r grwpiau a oedd wedi ffurfio’r sîn danddaearol wedi dod i ben.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Dyma’r Dystiolaeth [casét] (Fitamin Un 001, 1995)
  • Tystion vs Alffa Un (gydag Alffa Un) [casét] (Fitamin Un 002, 1996)
  • Rhaid i Rywbeth Ddigwydd (Fitamin Un 004, 1997)
  • Shrug Off Ya Complex (Ankst CD088, 1999)
  • Hen Gelwydd Prydain Newydd (Ankst CD093, 2000)
  • Brewer Spinks [EP] (Ankst 083, 1998)
  • Shrug EP [EP] (Ankst 087, 1999)
  • E.P. Toys (Ankst 090, 1999)

Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front:

  • Croeso i’r Ganolfan Ymwelwyr (Fitamin Un 007, 2000)
  • Y Meistri [EP] (Fitamin Un 012, 2001)
  • M.O.M.Y.F.G. [EP] (Fitamin 014, 2002)

Lo-Cut a Sleifar:

  • Miwsig i’ch Traed a Miwsig i’ch Meddwl (Boobytrap BOOBREC009CD, 2004)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.