Ymwybyddiaeth ddwbl

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Double consciousness)

Bathwyd y cysyniad o ymwybyddiaeth ddwbl gan W. E. B. Du Bois yn ei waith ymchwil oedd wedi’i seilio ar ei brofiadau personol ac a gyhoeddwyd ganddo yn The Souls of Black Folk yn 1903. Yn wreiddiol yr oedd y term yn disgrifio cyflwr sydd wedi gwreiddio ym mhrofiad hanesyddol Americanwyr Affricanaidd (Bruce, 1992).

Dywedodd W. E. B. Du Bois (1903/1996) yn ei eiriau eu hun fod ymwybyddiaeth ddwbl yn egluro:

this sense of always looking at one’s self through the eyes of others, of measuring one’s soul by the tape of a world that looks on in amused contempt and pity. One ever feels his twoness,— an American, a Negro; two souls, two thoughts, two unreconciled strivings; two warring ideals in one dark body, whose dogged strength alone keeps it from being torn asunder.

I W. E. B. Du Bois, mae ymwybyddiaeth ddwbl yn disgrifio’r gwrthdaro mewnol y mae cymunedau du yn eu profi mewn cymdeithas ormesol. Felly, mae gan Americanwr Affricanaidd ddwy hunaniaeth – fel Americanwr ac fel Affricaniad – sy’n wrthweithiol i’w gilydd (Nyawalo, 2013). Mae’r term yn ceisio cyfryngu rhwng galluedd a strwythur cymdeithasol, gan bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng yr unigolyn a’r gymdeithas, yn ogystal â’r gwahaniaeth rhwng cymunedau gormesol ac israddol mewn cymdeithas. Wrth egluro profiadau Americanwyr Affricanaidd, mae Itzigsohn a Brown (2015) yn dadlau bod y cysyniad o ymwybyddiaeth ddwbl yn pwysleisio’r pwyntiau’r canlynol:

1. Mae Americanwyr Affricanaidd yn dioddef dirmyg pobl wyn tuag at y bobl ddu.
2. Mae gan Americanwyr Affricanaidd olwg arall, ychwanegol, ar gymdeithas Americanaidd (o fod yn ddu, yn ychwanegol at fod yn Americanwyr) oherwydd yr ormes y maent yn ei hwynebu.
3. Mae Americanwyr Affricanaidd yn deall y ddeuoliaeth hon (o fod yn ddu, yn ychwanegol at fod yn Americanwyr) fel gwrthgyferbyniad. O bersbectif Americanwyr Affricanaidd mae ymwybyddiaeth ddwbl yn disgrifio’r cyflwr o fod yn rhan o gymdeithas America, a’r un pryd, o ganlyniad i hiliaeth, yn disgrifio’r diffyg mynediad cyfartal sydd gan Americanwyr Affricanaidd at wasanaethau a hawliau gwahanol o’u cymharu â’r boblogaeth wyn.

Honna’r ddamcaniaeth hon fod tynged ymwybyddiaeth unigolion yn dibynnu ar ddeialog rhwng cymunedau gormesol ac israddol yn y gymdeithas (Meer, 2019).

Mae’r cysyniad o ymwybyddiaeth ddwbl yn ddefnyddiol i ddeall safbwyntiau cymunedau ethnig lleiafrifiedig (ethnically minoritised communities) sydd o dan ormes yn ein cymdeithas ormesol. Er bod W. E. B. Du Bois wedi datblygu’r cysyniad o ymwybyddiaeth ddwbl er mwyn egluro profiadau Americanwyr Affricanaidd, mae ymchwilwyr wedi defnyddio’r cysyniad er mwyn egluro profiadau pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifiedig eraill, er enghraifft astudiaeth Meer (2007) o brofiadau Mwslemiaid ym Mhrydain. Defnyddiwyd y cysyniad hefyd gan gymdeithasegwyr sydd wedi astudio anghydraddoldebau cymdeithasol eraill. Fe ddefnyddiodd y damcaniaethwr ôl-drefedigaethol Frantz Fanon (2008) y cysyniad o ymwybyddiaeth ddwbl yn ei lyfr, Black Skin, White Masks, er mwyn egluro profiadau unigolion oedd yn dod o wledydd oedd wedi cael eu trefedigaethu. Datblygwyd y term ymwybyddiaeth driphlyg (triple consciousness) er mwyn egluro sut mae nodweddion cymdeithasol eraill fel rhywedd, dosbarth a rhywioldeb yn gallu effeithio ar fywydau unigolion. Er enghraifft, mae ffeministiaid amlhiliol wedi defnyddio’r term ymwybyddiaeth driphlyg er mwyn egluro sut mae menywod du yn America yn eu gweld eu hunain drwy dri lens gwahanol: lens Americanaidd, lens pobl ddu a lens menyw (Welang, 2018).

Savanna Jones

Llyfryddiaeth

Bruce, D. (1992), ‘W. E. B. Du Bois and the idea of double consciousness’, American Literature, 64(2), 299–309.

Du Bois, W. E. B. (1903/1996), The Souls of Black Folk, https://www.gutenberg.org/files/408/408-h/408-h.htm [Cyrchwyd: 2 Mehefin 2021].

Fanon, F. (2008), Black Skin, White Masks (London: Pluto Press).

Itzigsohn, J. a Brown, K. (2015), ‘Sociology and the theory of double consciousness: W. E. B. Du Bois’s phenomenology of racialized subjectivity’, Du Bois Review: Social Science Research on Race, 12(2), 231–48.

Meer, N. (2007), ‘Citizenship and double consciousness: Muslims and multiculturalism in Britain’, traethawd PhD, Prifysgol Bryste, Bryste, 2007.

Meer, N. (2019), ‘W. E. B. Du Bois, double consciousness and the “spirit of recognition”’, The Sociological review, 67(1), 47–62.

Nyawalo, M. (2013), ‘From “badman” to “gangsta”: double consciousness and authenticity, from African-American folklore to hip hop’, Popular Music and Society, 36(4), 460–75.

Welang, N. (2018), ‘Triple Consciousness: The Reimagination of Black Female Identities in Contemporary American Culture’, Open Cultural Studies, 2 (1), 296–306.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.