Zabrinski

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Zabrinski yn fand roc o Gaerfyrddin a gafodd ei ffurfio yn niwedd yr 1990au gan Matthew Durbridge (prif leisydd, gitâr), Iwan Morgan (allweddellau) a Gareth Richardson (gitâr). Dros y blynyddoedd bu mwy na 30 o gerddorion yn chwarae gyda’r band. Ond ar ôl i’r band poblogaidd Topper ddod i ben yn gynnar yn 2001, ymunodd cyn-aelodau o’r band hwnnw, Rhun Lenny (bas) ac Owain Jones (drymiau), gan ddarparu’r aelodaeth fwyaf sefydlog.

Recordiwyd albwm cyntaf y band, Screen Memories (2000), ar label ad hoc Microgram. Yn sgil llwyddiant y record arwyddodd y band gytundeb recordio gydag Ankst. Yn 2000 cefnogodd y band Coldplay ar gyfer gig gan BBC Radio 1 yng Nghaerdydd, a’r flwyddyn ddilynol rhyddhawyd ail albwm, Yeti (Ankst), a gafodd adolygiadau cadarnhaol. Cafodd y band wahoddiad gan John Peel i recordio sesiwn ar ei sioe ar BBC Radio 1 yn 2001, cyn mynd ymlaen i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn Awst. Yn ddiweddarach yn ystod yr un flwyddyn aethant ar daith o gwmpas Prydain yn cefnogi Gorky's Zygotic Mynci.

Yn 2002 recordiwyd trydydd albwm, Koala Ko-Ordination (Ankstmusik), yn Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy a Stiwdio Bryn Derwen ym Methesda gyda’r cynhyrchydd medrus Dave Wrench wrth y llyw. Derbyniodd yr albwm ganmoliaeth yn y wasg gerddorol Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau cyhoeddusrwydd yn y New Musical Express, Q, The Fly a nifer o bapurau newydd Saesneg. Yn sgil eu sain seicedelig cafodd y band eu cymharu gyda’r Super Furry Animals, y Coral a’r Zutons, sef grwpiau a ymwelodd drachefn ag estheteg seicedelig diwedd yr 1960au yn ystod diwedd yr 1990au a dechrau’r mileniwm newydd. Ymddangosodd Zabrinski hefyd ar sioe S4C Y Sesiwn Hwyr yn 2003.

Ar ôl recordio’r EP Executive Decision (Ankstmusik) yn 2004, ailryddhawyd Koala Ko-Ordination pan aeth Zabrinski ar daith ym Mhrydain gyda’r Super Furry Animals a Goldie Lookin’ Chain. Ym mis Awst 2004 chwaraeodd y band mewn gig yn TJ’s, Casnewydd, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, ochr yn ochr â Baswca a’r DJ ar BBC Radio 1 Huw Stephens, a oedd wedi bod yn gefnogwr brwd i’r band ers rhyddhau ‘Freedom of the Hiway’ ar ei label Boobytrap yn 2001.

Yn 2005 cynhyrchodd y band bedwerydd albwm Ill Gotten Game ar label Ankstmusik, cyn mynd ar daith arall gyda’r Super Furry Animals. Fodd bynnag, siomedig fu gwerthiant yr albwm a daeth y band i ben yn 2007.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Screen Memories (Microgram micro001, 2000)
  • ‘Freedom of the Hiway’ [sengl] (Boobytrap BOOB005CD, 2001)
  • Yeti (Ankst CD99, 2001)
  • Koala Ko-ordination (Ankstmusik ANKST106, 2002)
  • Executive Decision [EP] (Ankstmusik ANKST110, 2003)
  • Feeding on Our Filth (dienw, 2004)
  • Ill Gotten Game (Ankstmusik ANKST113, 2005)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.