Zeitschrift für celtische Philologie

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Zeitschrift für celtische Philologie yw’r cylchgrawn cyfredol hynaf sy'n ymroddedig i bynciau astudiaethau Celtaidd yn unig, gan ganolbwyntio ar yr ieithoedd Celtaidd a llenyddiaethau ynddynt. Talfyriad arferol ei deitl (sy’n golygu ‘cyfnodolyn ar gyfer ffiloleg Geltaidd’) yw ZcP neu, yn fwy anffurfiol ac mewn cyd-destun astudiaethau Celtaidd, ‘y Zeitschrift’. Mae ZcP yn cynnwys erthyglau ysgolheigaidd yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau perthnasol i’r maes.

Fe’i sefydlwyd yn 1896 gan yr ysgolheigion Celtaidd Almaenig adnabyddus Kuno Meyer (1858–1919) a Ludwig Christian Stern (1846–1911). Yn neilltuol yn ei flynyddoedd cynnar roedd prif ffocws ZcP ar ffiloleg Geltaidd yr oesoedd canol a’r hen fyd. Fodd bynnag, cynhwysir pob agwedd ar ieithoedd a llenyddiaethau Celtaidd o fewn ei rychwant, gyda nifer cynyddol o gyfraniadau sy’n ymwneud â’r ieithoedd modern. Rhwng 1921–67, fe’i golygwyd gan Julius Pokorny (1887–1970), o bosibl yr ieithydd Indo-Ewropeg mwyaf ei ddylanwad yn yr 20g. Olynydd Pokorny, hyd 1988, oedd Heinrich Wagner (1923–88), brodor o’r Swistir ac arbenigwr ar deipoleg ieithyddol a thafodieithoedd Gwyddeleg. Fe’i dilynwyd gan yr ieithydd hanesyddol Karl Horst Schmidt (1929–2012) tan 2008, ac wedyn, tan 2014, yr ysgolhaig Celtaidd Stefan Zimmer. Yn 2018 tîm golygyddol ZcP yw Jürgen Uhlich (Coleg y Drindod, Dulyn), Torsten Meissner (Caergrawnt) a Bernhard Maier (Tübingen). Dylai cyfraniadau a gynigir i’r cylchgrawn fynd at un o’r rhain. Er bod llawer o gyfraniadau, yn enwedig yn y cyfrolau cynharach, wedi’u hysgrifennu yn Almaeneg, cynhwysir erthyglau yn Saesneg a Ffrangeg, yn ogystal ag Eidaleg a Sbaeneg yn ZcP. Yn wreiddiol, ymddangosodd yn flynyddol. Yn ddiweddarach, mae wedi ymddangos yn fwy afreolaidd gyda chyhyd â thair blynedd rhwng rhai cyfrolau.

Mae’r cylchgrawn yn parhau i fod yn ganolog i ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn astudiaethau Celtaidd, ac mae'r cyfrolau cynnar yn sefyll o hyd fel adnodd hanfodol; ceir ynddynt olygiadau heb eu disodli o destunau yn yr ieithoedd Celtaidd cynnar. Mae’r Zeitschrift yn tystio i wreiddiau Astudiaethau Celtaidd mewn ffiloleg Indo-Ewropeg yn ogystal â’i ddatblygiad fel disgyblaeth academaidd eang. Mae ei restr o gyfranwyr yn cynnwys y rhan fwyaf o ysgolheigion Celtaidd blaenllaw yr 20g. Mae gan y cylchgrawn gyfres gysylltiedig, y Buchreihe der Zeitschrift für celtische Philologie, lle cyhoeddir ymchwil yn yr un maes.

John T. Koch

Llyfryddiaeth

Hellmuth, P. S. (2006), ‘Stern, Ludwig Christian’, yn Koch, J. T. (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara a Rhydychen: ABC-Clio), t. 1627.

Hellmuth, P. S. (2006), ‘Zeitschrift für celtische Philologie’, yn Koch, J. T. (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara a Rhydychen: ABC-Clio), t. 1823.

Löffler, M. B. (2006), ‘Meyer, Kuno’, yn Koch, J. T. (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara a Rhydychen: ABC-Clio), tt. 1295–1296.

Mac Eoin, G. (2013), ‘Karl Horst Schmidt’, Zeitschrift für celtische Philologie, 60, 1, tt. 1–4.

Ó Cuív, B. (1988), ‘Heinrich Wagner (1923–1988)’, Celtica, 20, tt. 233–234.

Zimmer, S. (2006), ‘Pokorny, Julius’, yn Koch, J. T. (gol.), Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (Santa Barbara a Rhydychen: ABC-Clio), tt. 1451–1452.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.