Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Pan ymddangosodd cyfrol Maria Jane Williams (1795–1873), Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, yn 1844, daeth tro ar fyd yn hanes a datblygiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Wedi canrif a mwy o gyhoeddi ceinciau offerynnol (yn bennaf ar gyfer y delyn) mewn casgliadau tebyg i Antient British Music (1742), British Harmony (1781), Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), The Bardic Museum (1802), Hen Ganiadau Cymru/Cambro-British Melodies (1820) a The Welsh Harper (1839), cyhoeddwyd y casgliad cyntaf hwn o alawon gwerin y genedl a hynny o ganlyniad i gystadleuaeth a noddwyd gan y Fonesig Coffin Greenly yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni yn 1837 ‘for the best collection of original Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales’. Ymhlith y deugain a thair o eitemau a geir yn y gyfrol hon, ymddengys caneuon megis ‘Y Ddafad Gyrnig’, ‘Y Ferch o’r Scer’, ‘Y Deryn Pur’, ‘Y Deryn Du Pigfelyn’, ‘Merch y Melinydd’ a ‘Bugeila’r Gwenith Gwyn’ (gw. Eng.1)
Eng.1. ‘Bugeilio’r gwenith gwyn’ allan o ANAGM.
a ddaeth yn hynod boblogaidd yng Nghymru’r 19g. Atgynhyrchwyd yr alawon ond ychwanegwyd hefyd gyfeiliant digon disylwedd ar gyfer y delyn neu’r piano ynghyd ag addurniadau lleisiol (troadau, triliau, appoggiatura a.y.b.) sy’n tystio mai cynulleidfa estron a ymddiddorai’n bennaf mewn cerddoriaeth glasurol, Ewropeaidd ei naws a oedd ym meddwl y golygydd. Ceir yn y cyhoeddiad nifer o alawon serch, caneuon gwasael a thribannau, ac er bod rhai wedi eu gosod yn y modd Doraidd, cyweiriau llon yw’r graddfeydd ar gyfer y mwyafrif ohonynt. John Thomas (Ieuan Ddu; 1795–1871) oedd enillydd yr ail wobr yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni (1837). Er bod ei gasgliad yntau, Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel (1845) yn cynnwys dros gant o alawon ynghyd â geiriau Cymraeg a Saesneg (gw. Eng.2),
Eng.2. ‘Pa bryd y deui eto?’ allan o gasgliad John Thomas (Ieuan Ddu).
gwelir eu bod yn gyfuniad o ganeuon brodorol, ceinciau telyn (wedi eu dethol o gasgliadau rhai fel John Parry (Parry Ddall) ac Edward Jones (Bardd y Brenin) yn bennaf, a chyfansoddiadau gwreiddiol o waith y golygydd ei hun. Rhyw ddeugain o’r alawon hyn sy’n ganeuon gwerin ond mynnodd Ieuan Ddu gyfnewid y geiriau traddodiadol am ei eiriau a’i benillion ef ei hun ac o ganlyniad, dibrisir gwerth y casgliad hwn yn fawr. Eto i gyd, ceir ynddo rai alawon gwerin hynod swynol a chrefftus sy’n gynnyrch y traddodiad llafar ac ôl blynyddoedd o newid, o ddatblygu a mireinio’r arddull arnynt.

Gwelir bod cwmpas yr alawon yng nghyfrol Ieuan Ddu yn gydnaws â’r hyn a gasglwyd gan ei ragflaenwyr, Iolo Morganwg a Maria Jane Williams, ond addaswyd rhai o eitemau’r Caniedydd Cymreig hefyd ar gyfer eu perfformio gan ddeuawdau, triawdau a phartïon lleisiol mewn cyngherddau ac eisteddfodau, fel y rhai y byddai Ieuan yn eu harwain yn rhinwedd ei alwedigaeth. Brychwyd y gyfrol hon, er hynny, gan gamgymeriadau cerddorol, camosodiadau o eiriau a thestun, gwendidau yn y gynghanedd (gerddorol) a diofalwch cyffredinol sy’n arwydd o’r brys i gyhoeddi’r gwaith yn ei gyfanrwydd.

Nodweddwyd y bywyd Cymreig yn y 19g. gan dwf syfrdanol yn y boblogaeth yn sgil datblygu’r ardaloedd diwydiannol. Daeth gweithwyr yn eu miloedd i’r meysydd glo, y gweithfeydd haearn a dur, y chwareli llechi ac ati, gan ymsefydlu mewn lleoedd fel y Rhondda, Abertawe a Llanelli yn y de a Bethesda a Rhosllannerchrugog yn y gogledd. Wrth i’r iaith Saesneg raddol ennill tir dros y Gymraeg yn sgil mewnfudo, newidiodd natur diwylliant y wlad; tyfodd poblogrwydd y cyngherddau cyhoeddus, y music halls, y traddodiad baledi (Cymraeg a Saesneg), corau mawr a chorau meibion, a gwelid dylanwad diwylliant oes Victoria a nodweddai’r bywyd y tu hwnt i Glawdd Offa.

Er hynny, parhaodd y diddordeb ym myd canu gwerin ymhlith rhai, gan gynnwys John Jenkins (Ifor Ceri; 1770–1829) y mae ei gasgliad llawysgrifol ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Nicholas Bennett (1823–99) a gyhoeddodd Alawon fy Ngwlad (1896), sy’n gyfuniad o tua 500 o alawon a cheinciau telyn a gasglwyd o ffynonellau llafar (yn eu plith y sipsiwn Cymreig), a detholion o lawysgrif Thomas David Llewelyn (Llewelyn Alaw; 1828–79), a oedd yn delynor teuluol i Blas Aberpergwm, cartref Maria Jane Williams. Yn ogystal, lluniodd rhai o gerddorion amlwg Cymru’r 19g. gyfrolau o drefniannau o alawon brodorol y genedl (caneuon gwerin a cheinciau offerynnol) a fu’n gyfrwng i boblogeiddio’r traddodiad. Yn eu plith, gwelwyd cyhoeddiadau John Parry (Bardd Alaw; 1776–1851), John Owen (Owain Alaw; 1821–83), Brinley Richards (Cerddor Towy; 1817–85), Joseph Parry (1841–1903) a D. Emlyn Evans (1843–1913).

Yn sgil sefydlu colegau prifysgol yng Nghymru ar ddiwedd y 19g. a’r awydd am addysg uwch o safon, gwelwyd hefyd ddyfodiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1907) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1907), gyda’u pwyslais ar gadwraeth ac ymchwil i’r byd a’r bywyd Cymreig.
Eng.3. ‘Ffarwel i Aberystwyth’ CCAGC.
Yn 1906 sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a than arweiniad J. Lloyd Williams (1854– 1945), Mary Davies (Mair Mynorydd; 1855–1930), Ruth Herbert Lewis (1871–1946) ac eraill profwyd adfywiad ym maes canu gwerin Cymraeg. Trwy gyfrwng Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1909–77) a Canu Gwerin (1978–), diogelwyd rhai cannoedd o alawon traddodiadol Cymreig, gan gynnwys ‘Dacw nghariad i lawr yn y berllan’, ‘Ffarwél i Aberystwyth’ (gw. Eng.3), ‘Lisa Lân’, ‘Tra bo dau’, ‘Gwcw fach’ a ‘Suo Gân’.
Eng.4. ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ allan o gasgliad RHL.
Sbardunwyd nifer o aelodau cynnar y Gymdeithas i gywain alawon trwy gyfrwng gwaith maes mewn ardaloedd penodol o Gymru. Aeth Ruth Herbert Lewis, er enghraifft, ati i gasglu alawon gyda chymorth ffonograff yn Sir y Fflint a Dyffryn Clwyd gan gyhoeddi ffrwyth ei hymchwil, a oedd yn cynnwys caneuon fel ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ (gw. Eng.4) a ‘Chwech o eifr’, yn 1914 ac 1934. Ar Ynys Môn bu Grace Gwyneddon Davies yn casglu ei deunydd ac ymddangosodd ei threfniannau o ganeuon fel ‘Cyfri’r geifr’ ac ‘Un o fy mrodyr’ yn 1914 ac 1923–4. Bu’r cyswllt a’r cydweithio rhwng Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn agos ac yn adeiladol ers dechrau’r 20g. a chafwyd cystadlaethau canu caneuon gwerin, canu carolau traddodiadol a baledi (yn ogystal â llunio trefniannau lleisiol ohonynt) fel dull o hyrwyddo’r traddodiad a chynnal y grefft. Pan ymddangosodd cenhedlaeth newydd o arbenigwyr yn y maes yng nghanol y ganrif, unigolion fel William Hubert Davies (1893–1965), W. S. Gwynn Williams (1896–1978) ac Emrys Cleaver (1904–85), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyhoeddiadau a’r casgliadau o alawon traddodiadol Cymreig a ddaeth o’r wasg, a chafwyd cryn bwyslais ar boblogeiddio’r maes ac addysgu plant a phobl ifanc. Un o’r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol oedd Caneuon Traddodiadol y Cymry (1961 ac 1963) a oedd yn cyfuno alawon a gasglwyd gan selogion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a chynnyrch cyhoeddiadau poblogaidd y dydd. Ers yr 1960au ac ymdrechion D. Roy Saer ( Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan) i gasglu alawon a baledi yn Llŷn a charolau plygain (yng ngogledd-ddwyrain Cymru), cafwyd cyfres gyfoes o gyhoeddiadau, Caneuon Llafar Gwlad/ Songs from Oral Tradition (1974 ac 1994), yn seiliedig ar waith a chasglu alawon traddodiadol yn y maes (gw. Eng.5).
Eng.5. Un o garolau Roy Saer allan o Caneuon Llafar Gwlad.

Dilynwyd y rhain gan gyfres o recordiadau masnachol (gan Sain) a ddarlledwyd yn gyson mewn rhaglenni radio wedi hynny. Yr awydd i gyfoethogi adnoddau addysg gerddorol yng Nghymru a chefnogi’r ifanc i ddysgu a chanu caneuon traddodiadol fu’r symbyliad i Phyllis Kinney a Meredydd Evans i gyhoeddi eu Caneuon Gwerin i blant (1981) a Canu’r Cymry (1984 ac 1987), ac ateb gofyn partïon a chorau gwerin (SSA, TTBB, SATB) oedd nod y gyfres amrywiol o drefniannau cyhoeddedig, Lleisiau’r Werin (1980, 1986, 1989, 1999, 2002, 2009).

Er mai prin iawn fu’r ymgyrchoedd casglu alawon gwerin yng Nghymru’r 1990au, rhoddwyd cryn bwyslais gan ysgolheigion y maes ( Meredydd Evans, Rhidian Griffiths, Rhiannon Ifans, Phyllis Kinney, E. Wyn James, D. Roy Saer a’u tebyg) ar ddwyn alawon y traddodiad o ffynonellau llawysgrifol mewn llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru i sylw ehangach. Tra mae gweithgaredd y Gymdeithas Alawon Gwerin yn ffynnu a’i chynhadledd flynyddol yn parhau, cafwyd cryn bwyslais ym mlynyddoedd cynnar yr 21g. ar adfywio’r traddodiad gwerin offerynnol (y delyn, y delyn deires, ffidil a phib) yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach), Y Glerorfa a trac.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper (Llundain, 1839, 1848)
  • Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Llanymddyfri, 1844)
  • John Thomas (Ieuan Ddu), Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel (Merthyr, 1845)
  • John Jenkins (Ifor Ceri), Ancient Welsh Music (Dinbych-y-Pysgod, 1859)
  • John Owen (Owain Alaw), Gems of Welsh Melody (Rhuthun, 1860)
  • Henry Brinley Richards, The Songs of Wales/Caneuon Cymru (Llundain, 1873)
  • John Parry (Bardd Alaw), A Select Collection of Welch Airs (Llundain, c.1886)
  • D. Emlyn Evans, Alawon Cymru/Melodies of Wales (Aberystwyth, c.1889)
  • Joseph Parry, Cambrian Minstrelsie/Alawon Gwalia(Caeredin, 1893)
  • Nicholas Bennett, Alawon fy ngwlad/The Lays of my land(Y Drenewydd, 1896)
  • J. Lloyd Williams ac Arthur Somervell, Sixteen Welsh Melodies (Llundain, 1907 & 1909)
  • Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru/Journal of the Welsh Folk Song Society (1909–77)
  • Ruth Herbert Lewis, Folk Songs Collected in Flintshire and the Vale of Clwyd (Wrecsam, 1914 & 1934)
  • Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Wrecsam, 1914, 1923 ac 1924)
  • W. Hubert Davies, Welsh Folk Songs/Caneuon Gwerin Cymru (Wrecsam, 1919)
  • W. S. Gwynn Williams, Hen Ganeuon Cymreig Gwaith a Chwarae (Llangollen, 1943)
  • ———, (gol.), Caneuon Traddodiadol y Cymry (Llangollen, 1961 ac 1963)
  • Canu Gwerin/Folk Song [Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru/Journal of the Welsh Folk Song Society], 1978–
  • D. Roy Saer, Caneuon Llafar Gwlad (Caerdydd, 1974 ac 1994)
  • Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Caneuon Gwerin i blant(Llandysul, 1981)
  • ———, Canu’r Cymry (Penygroes, 1984 ac 1987)
  • Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Lleisiau’r Werin (Penygroes, 1980, 1986, 1989, 1999, 2002 a 2009)
  • Rhiannon Ifans, Yn Dyrfa Weddus – Carolau ar gyfer Y Plygain (Aberystwyth, 2003)
  • Leila Salisbury (gol.), Alawon Gwerin Iolo Morganwg (Aberystwyth, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.