Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Geraint Løvgreen (g.1955)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Cerddor a chyfansoddwr yn bennaf ym maes [[canu poblogaidd]], ac un a gyfrannodd nifer o ganeuon crefftus a chofiadwy mewn gyrfa sydd hyd yma wedi cwmpasu bron hanner canrif. Fe’i ganed yn Nhrefalun, Yr Orsedd, ger Wrecsam. Mynychodd ysgolion yn Wrecsam a’r Drenewydd cyn astudio’r Gymraeg yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, gan raddio yno yn 1977. | + | Cerddor a chyfansoddwr yn bennaf ym maes [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu poblogaidd]], ac un a gyfrannodd nifer o ganeuon crefftus a chofiadwy mewn gyrfa sydd hyd yma wedi cwmpasu bron hanner canrif. Fe’i ganed yn Nhrefalun, Yr Orsedd, ger Wrecsam. Mynychodd ysgolion yn Wrecsam a’r Drenewydd cyn astudio’r Gymraeg yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, gan raddio yno yn 1977. |
− | Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn chwarae’r allweddellau ar sengl Talcen Crych, ‘Angharad’ (Afon, 1975). Daeth i sylw fel canwr unigol yn sgil poblogrwydd ei gân ‘Pump ar hugain oed’, a ryddhawyd ar yr LP amlgyfrannog ''Yn Dawel Hyd Nawr'' (Legless, 1980), a gafodd ei chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru yn ystod yr 1980au cynnar. Daeth prawf pellach o’i ddawn i lunio caneuon trawiadol a gafaelgar pan enillodd gystadleuaeth [[Cân i Gymru]] yn 1980 gyda ‘Golau tan Gwmwl’, yn cael ei chanu gan y [[grŵp gwerin]] [[Plethyn]] i eiriau gan Myrddin ap Dafydd. Cipiodd y ddau y wobr am yr ail waith yn 1982 gyda ‘Nid Llwynog oedd yr Haul’ – un o’r caneuon mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. [[Caryl Parry Jones]] a’i canodd yn y gystadleuaeth cyn i Løvgreen ei hun recordio’r gân yn ddiweddarach gyda’i fand Yr Enw Da. | + | Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn chwarae’r allweddellau ar sengl Talcen Crych, ‘Angharad’ (Afon, 1975). Daeth i sylw fel canwr unigol yn sgil poblogrwydd ei gân ‘Pump ar hugain oed’, a ryddhawyd ar yr LP amlgyfrannog ''Yn Dawel Hyd Nawr'' (Legless, 1980), a gafodd ei chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru yn ystod yr 1980au cynnar. Daeth prawf pellach o’i ddawn i lunio caneuon trawiadol a gafaelgar pan enillodd gystadleuaeth [[Cân i Gymru]] yn 1980 gyda ‘Golau tan Gwmwl’, yn cael ei chanu gan y [[Gwerin, grwpiau | grŵp gwerin]] [[Plethyn]] i eiriau gan Myrddin ap Dafydd. Cipiodd y ddau y wobr am yr ail waith yn 1982 gyda ‘Nid Llwynog oedd yr Haul’ – un o’r caneuon mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. [[Jones, Caryl Parry (g.1958) | Caryl Parry Jones]] a’i canodd yn y gystadleuaeth cyn i Løvgreen ei hun recordio’r gân yn ddiweddarach gyda’i fand Yr Enw Da. |
− | Yn 1981 daeth yn aelod o’r grŵp ton newydd Doctor, a oedd hefyd yn cynnwys Gwyn Williams (llais), Elwyn Williams (gitâr), Iwan Llwyd (gitâr fas) ac Owen Owens (drymiau). Ymddangosodd ar senglau megis ‘Merch o Donegal’ (Coch, 1981) a ‘George Street’ (Sain, 1983), y naill wedi ei rhyddhau ar label Y [[Trwynau Coch]] a’r llall yn rhan o sesiwn recordio ar gyfer rhaglen radio BBC Cymru, ''Sosban''. | + | Yn 1981 daeth yn aelod o’r grŵp ton newydd Doctor, a oedd hefyd yn cynnwys Gwyn Williams (llais), Elwyn Williams (gitâr), Iwan Llwyd (gitâr fas) ac Owen Owens (drymiau). Ymddangosodd ar senglau megis ‘Merch o Donegal’ (Coch, 1981) a ‘George Street’ (Sain, 1983), y naill wedi ei rhyddhau ar label Y [[Trwynau Coch, Y | Trwynau Coch]] a’r llall yn rhan o sesiwn recordio ar gyfer rhaglen radio BBC Cymru, ''Sosban''. |
Ffurfiodd Geraint Løvgreen a’r Enw Da yn 1981, grŵp hwyliog, ffwrdd-â-hi a barhaodd i berfformio am dros 30 mlynedd gyda llu o offerynwyr gwahanol, megis y ddau gyn-aelod o Doctor, Elwyn Williams (gitâr) ac Iwan Llwyd (bas), ynghyd ag adran bres ddeinamig a oedd yn cynnwys Gwil John, Huw Owen ac Edwin Humphreys (sacsoffonau), John Keith Roberts a Bari Gwilliam (cornet a thrwmped), a Bob Morgan ac Owain Arwel Davies (trombonau), ymysg nifer o gerddorion eraill. | Ffurfiodd Geraint Løvgreen a’r Enw Da yn 1981, grŵp hwyliog, ffwrdd-â-hi a barhaodd i berfformio am dros 30 mlynedd gyda llu o offerynwyr gwahanol, megis y ddau gyn-aelod o Doctor, Elwyn Williams (gitâr) ac Iwan Llwyd (bas), ynghyd ag adran bres ddeinamig a oedd yn cynnwys Gwil John, Huw Owen ac Edwin Humphreys (sacsoffonau), John Keith Roberts a Bari Gwilliam (cornet a thrwmped), a Bob Morgan ac Owain Arwel Davies (trombonau), ymysg nifer o gerddorion eraill. |
Y diwygiad cyfredol, am 21:14, 31 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cerddor a chyfansoddwr yn bennaf ym maes canu poblogaidd, ac un a gyfrannodd nifer o ganeuon crefftus a chofiadwy mewn gyrfa sydd hyd yma wedi cwmpasu bron hanner canrif. Fe’i ganed yn Nhrefalun, Yr Orsedd, ger Wrecsam. Mynychodd ysgolion yn Wrecsam a’r Drenewydd cyn astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yno yn 1977.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn chwarae’r allweddellau ar sengl Talcen Crych, ‘Angharad’ (Afon, 1975). Daeth i sylw fel canwr unigol yn sgil poblogrwydd ei gân ‘Pump ar hugain oed’, a ryddhawyd ar yr LP amlgyfrannog Yn Dawel Hyd Nawr (Legless, 1980), a gafodd ei chwarae’n rheolaidd ar Radio Cymru yn ystod yr 1980au cynnar. Daeth prawf pellach o’i ddawn i lunio caneuon trawiadol a gafaelgar pan enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1980 gyda ‘Golau tan Gwmwl’, yn cael ei chanu gan y grŵp gwerin Plethyn i eiriau gan Myrddin ap Dafydd. Cipiodd y ddau y wobr am yr ail waith yn 1982 gyda ‘Nid Llwynog oedd yr Haul’ – un o’r caneuon mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. Caryl Parry Jones a’i canodd yn y gystadleuaeth cyn i Løvgreen ei hun recordio’r gân yn ddiweddarach gyda’i fand Yr Enw Da.
Yn 1981 daeth yn aelod o’r grŵp ton newydd Doctor, a oedd hefyd yn cynnwys Gwyn Williams (llais), Elwyn Williams (gitâr), Iwan Llwyd (gitâr fas) ac Owen Owens (drymiau). Ymddangosodd ar senglau megis ‘Merch o Donegal’ (Coch, 1981) a ‘George Street’ (Sain, 1983), y naill wedi ei rhyddhau ar label Y Trwynau Coch a’r llall yn rhan o sesiwn recordio ar gyfer rhaglen radio BBC Cymru, Sosban.
Ffurfiodd Geraint Løvgreen a’r Enw Da yn 1981, grŵp hwyliog, ffwrdd-â-hi a barhaodd i berfformio am dros 30 mlynedd gyda llu o offerynwyr gwahanol, megis y ddau gyn-aelod o Doctor, Elwyn Williams (gitâr) ac Iwan Llwyd (bas), ynghyd ag adran bres ddeinamig a oedd yn cynnwys Gwil John, Huw Owen ac Edwin Humphreys (sacsoffonau), John Keith Roberts a Bari Gwilliam (cornet a thrwmped), a Bob Morgan ac Owain Arwel Davies (trombonau), ymysg nifer o gerddorion eraill.
Roedd rhai o ganeuon mwyaf cofiadwy Løvgreen, fel ‘Nid Llwynog oedd yr Haul’ a enwyd eisoes, yn ffrwyth cydweithio gyda beirdd megis Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd, yn eu plith ‘Babi Tyrd i Mewn o’r Glaw’, ‘Dyna lle nei di ffeindio fi’ a ‘Ffarwelio’. Bu’n cydweithio hefyd gyda nifer o feirdd ar deithiau barddol, er enghraifft Twm Morys, Ifor ap Glyn a Mei Mac (cyfansoddodd un o’i ganeuon gorau a mwyaf teimladwy gyda Mei Mac, sef ‘Yma wyf finna i fod’). Er mai am eu perfformiadau byw egnïol y cofir Geraint Løvgreen a’r Enw Da yn bennaf, rhyddhaodd y band nifer o recordiau a chasetiau, gan gynnwys record hir eponymaidd yn 1985, Os Mêts, Mêts (1988), Busnes Anorffenedig... (2008), ynghyd â set CD ddwbl Goreuon 1981-98, i gyd ar label Sain.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Geraint Løvgreen a’r Enw Da (Sain C951N, 1985)
- Os Mêts, Mêts [casét] (Sain C671N, 1988)
- Enllib Jiwbilol 1990 [casét] (Gwalia GWA01, 1990)
- Be ddigwyddodd i Bulgaria [casét] (Crai C019, 1993)
- Busnes Anorffenedig... (Sain SCD2583, 2008)
casgliad:
- Goreuon 1981-98 (Sain SCD2159, 1997)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.