Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cerdd Dant"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Cerdd dant yw’r grefft o ganu geiriau ar gainc osodedig a chwaraeir ar delyn ac mae’n chwaer-grefft i gerdd dafod (crefft y bardd). Ystyrir bod cerdd dant neu [[ganu penillion]] yn ddull unigryw Gymreig o ganu, ac er mai crefft i unigolyn yn unig oedd hi ar hyd y canrifoedd, yn ystod yr 20g. gwelwyd cyfuniadau lleisiol yn datblygu, yn ddeuawdau, triawdau, pedwarawdau, partïon a chorau. Mewn eisteddfodau – cenedlaethol a lleol – y clywir y rhan fwyaf o gerdd dant yn y Gymru gyfoes. | + | Cerdd dant yw’r grefft o ganu geiriau ar gainc osodedig a chwaraeir ar delyn ac mae’n chwaer-grefft i gerdd dafod (crefft y bardd). Ystyrir bod cerdd dant neu [[Canu Penillion (gwreiddiau) | ganu penillion]] yn ddull unigryw Gymreig o ganu, ac er mai crefft i unigolyn yn unig oedd hi ar hyd y canrifoedd, yn ystod yr 20g. gwelwyd cyfuniadau lleisiol yn datblygu, yn ddeuawdau, triawdau, pedwarawdau, partïon a chorau. Mewn eisteddfodau – cenedlaethol a lleol – y clywir y rhan fwyaf o gerdd dant yn y Gymru gyfoes. |
Prif egwyddor cerdd dant fel y’i clywir heddiw yw bod cyfalaw yn cael ei ‘gosod’ ar eiriau (barddoniaeth ran amlaf, ond weithiau hefyd ryddiaith) ac yn cael ei datgan i gyfeiliant cainc benodol. Erbyn heddiw mae cryn 600 o geinciau i ddewis o’u plith, y mwyafrif llethol wedi eu cyfansoddi o’r newydd yn ystod yr 20g. a’r gweddill yn draddodiadol. Y delyn sy’n dechrau chwarae bob amser, cyn i’r datgeinydd ‘daro i mewn’ mewn man sy’n sicrhau bod y pennill a’r gainc yn diweddu gyda’i gilydd. Byddai’r ‘hen’ gantorion yn cyfansoddi eu cyfalaw yn fyrfyfyr (‘gosod ar y pryd’) ond bellach, yn ddieithriad bron, cyfansoddir y gyfalaw ymlaen llaw a’i dysgu. | Prif egwyddor cerdd dant fel y’i clywir heddiw yw bod cyfalaw yn cael ei ‘gosod’ ar eiriau (barddoniaeth ran amlaf, ond weithiau hefyd ryddiaith) ac yn cael ei datgan i gyfeiliant cainc benodol. Erbyn heddiw mae cryn 600 o geinciau i ddewis o’u plith, y mwyafrif llethol wedi eu cyfansoddi o’r newydd yn ystod yr 20g. a’r gweddill yn draddodiadol. Y delyn sy’n dechrau chwarae bob amser, cyn i’r datgeinydd ‘daro i mewn’ mewn man sy’n sicrhau bod y pennill a’r gainc yn diweddu gyda’i gilydd. Byddai’r ‘hen’ gantorion yn cyfansoddi eu cyfalaw yn fyrfyfyr (‘gosod ar y pryd’) ond bellach, yn ddieithriad bron, cyfansoddir y gyfalaw ymlaen llaw a’i dysgu. | ||
− | Credir bod gwreiddiau aruchel i’r grefft, yn tarddu o’r traddodiad hynafol o ganu mawl i frenhinoedd, tywysogion ac uchelwyr, mor bell yn ôl â’r cyfnod Celtaidd. Gellir dychmygu y byddai’r farddoniaeth a genid i gyfeiliant [[telyn]] yn y canrifoedd cynnar hyn yn swnio’n bur wahanol i’r hyn a glywir heddiw, ond nid oes fawr o amheuaeth fod crefft yn bodoli a oedd yn cyfuno llais a thelyn. Credir bod y grefft honno yn llawer mwy arbenigol na cherdd dant y cyfnod presennol, gan mai’r un person ar un adeg oedd y bardd, y telynor a’r datgeiniad. | + | Credir bod gwreiddiau [[aruchel]] i’r grefft, yn tarddu o’r traddodiad hynafol o ganu [[mawl]] i frenhinoedd, tywysogion ac uchelwyr, mor bell yn ôl â’r cyfnod Celtaidd. Gellir dychmygu y byddai’r farddoniaeth a genid i gyfeiliant [[telyn]] yn y canrifoedd cynnar hyn yn swnio’n bur wahanol i’r hyn a glywir heddiw, ond nid oes fawr o amheuaeth fod crefft yn bodoli a oedd yn cyfuno llais a thelyn. Credir bod y grefft honno yn llawer mwy arbenigol na cherdd dant y cyfnod presennol, gan mai’r un person ar un adeg oedd y bardd, y telynor a’r [[datgeiniad]]. |
− | Mae peth tystiolaeth yn awgrymu y gallai ffurf ar ganu i gyfeiliant telyn fod yn boblogaidd ymhlith y werin bobl hefyd. Mewn un gerdd o’r 16g. ceir cyfeiriad at gyfeillion yn dod ynghyd: ‘Cael [[telyn rawn]] a’ chweirio / A phawb ar hwyl pennhyllio.’ O’r un cyfnod y ceir y cwpled: ‘Kawn rai yn Kany Telyn / Kowydd Triban ac Englyn.’ | + | Mae peth tystiolaeth yn awgrymu y gallai ffurf ar ganu i gyfeiliant telyn fod yn boblogaidd ymhlith y werin bobl hefyd. Mewn un gerdd o’r 16g. ceir cyfeiriad at gyfeillion yn dod ynghyd: ‘Cael [[Telyn Rawn | telyn rawn]] a’ chweirio / A phawb ar hwyl pennhyllio.’ O’r un cyfnod y ceir y [[cwpled]]: ‘Kawn rai yn Kany Telyn / Kowydd [[Triban]] ac [[Englyn]].’ |
− | Yn Statud Gruffydd ap Cynan (llawysgrif o tuag 1523) ceir disgrifiad o’r hyn a oedd yn ddisgwyliedig gan ddatgeiniad: ‘A wedi hynny y dichon atkeiniad | + | Yn Statud Gruffydd ap Cynan ([[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | llawysgrif]] o tuag 1523) ceir disgrifiad o’r hyn a oedd yn ddisgwyliedig gan ddatgeiniad: ‘A wedi hynny y dichon atkeiniad ... dysgu i blethiadau oll a ffroviad kyffredin ai ostegion a thair ar ddec o brif geinciau ai gwybod yn iawn yn i partiau ac atkan i gywydd gida hwy’ (Ac wedi hynny fe all datgeiniad ... ddysgu’r holl blethiadau a’r profiad cyffredin, a’r tair brif gainc ar ddeg, a’u gwybod yn iawn yn eu holl rannau, a sut i ddatgan ei gywydd gyda nhw). |
Ddwy ganrif yn ddiweddarach, ceir y disgrifiad hwn mewn llythyr a anfonwyd gan Lewis Morris yn 1738: | Ddwy ganrif yn ddiweddarach, ceir y disgrifiad hwn mewn llythyr a anfonwyd gan Lewis Morris yn 1738: | ||
− | :It is a custom in most counties of North Wales (but better preserved in the mountainous parts of Merionethshire &c) to sing to the Harp certain British verses in rhyme (called pennills) upon various subjects. Three or four kinds of them they can adapt and sing to the measures of any of the tunes in use among them, either in common or triple times, making some parts of the tune a symphony | + | :It is a custom in most counties of North Wales (but better preserved in the mountainous parts of Merionethshire &c) to sing to the Harp certain British verses in rhyme (called pennills) upon various subjects. Three or four kinds of them they can adapt and sing to the measures of any of the tunes in use among them, either in common or triple times, making some parts of the tune a symphony ... these Pennills that our Countrymen ... this day sing to the Harp and [[Crwth]], a method of singing perhaps peculiar to themselves. |
− | Yn ei chyfrol ar y casglwr alawon [[ffidil]] John Thomas (canol y 18g.), dywed [[Cass Meurig]] fod | + | Yn ei chyfrol ar y casglwr alawon [[ffidil]] John Thomas (canol y 18g.), dywed [[Meurig, Cass | Cass Meurig]] fod canu penillion yn digwydd i gyfeiliant ffidil yn ogystal â thelyn – yn ‘Null y De’ a ‘Dull y Gogledd’ (Dull y De oedd dechrau canu yr un pryd â’r offeryn; Dull y Gogledd oedd aros am rai barrau cyn ‘taro i mewn’). |
− | Un o Lanfair Talhaearn yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd John Jones, Talhaiarn ( | + | Un o Lanfair Talhaearn yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd John Jones, Talhaiarn (1810-69). Yn ei atgofion, ceir disgrifiad dadlennol ''(c''.1828) o natur werinol y grefft o ‘ganu gyda’r tannau’: |
− | :Pan oeddwn yn laslanc deunaw oed yr oeddwn yn ffond iawn o ganu gyda’r tannau. Fy nghyn- athro yn y gelfyddyd honno oedd Sam y Teiliwr, Efenechtyd. Yr oeddwn … yn y dafarn beunydd ben wedi bod nos. Yr oedd Efenechtyd yr amser hwnnw yn nodedig am ei ddatgeiniaid, sef Sam y Teiliwr, Huw Huws y Gof, Pwll Glas, John Davies y Clochydd, a minnau hefyd. Yr oedd Sam y pryd hwnnw rhwng hanner cant a thrigain oed ac yn ddigri i’w ryfeddu. Ni wyddai lythyren ar lyfr, ond er hynny yr oedd ganddo lond trol o garolau, cerddi a phenillion wedi eu storio yn ei benglog | + | :Pan oeddwn yn laslanc deunaw oed yr oeddwn yn ffond iawn o ganu gyda’r tannau. Fy nghyn- athro yn y gelfyddyd honno oedd Sam y Teiliwr, Efenechtyd. Yr oeddwn … yn y dafarn beunydd ben wedi bod nos. Yr oedd Efenechtyd yr amser hwnnw yn nodedig am ei ddatgeiniaid, sef Sam y Teiliwr, Huw Huws y Gof, Pwll Glas, John Davies y Clochydd, a minnau hefyd. Yr oedd Sam y pryd hwnnw rhwng hanner cant a thrigain oed ac yn ddigri i’w ryfeddu. Ni wyddai lythyren ar lyfr, ond er hynny yr oedd ganddo lond trol o garolau, cerddi a phenillion wedi eu storio yn ei benglog ... |
Aiff ymlaen i ddyfynnu’r math o benillion yr oedd fwyaf hoff ohonynt, a hefyd y ceinciau y byddai’n canu arnynt, a daw’n amlwg mai’r dull ‘hoffusaf’ o ganu ganddo oedd y dull y cyfeirir ato heddiw fel ‘canu croesacen’. | Aiff ymlaen i ddyfynnu’r math o benillion yr oedd fwyaf hoff ohonynt, a hefyd y ceinciau y byddai’n canu arnynt, a daw’n amlwg mai’r dull ‘hoffusaf’ o ganu ganddo oedd y dull y cyfeirir ato heddiw fel ‘canu croesacen’. | ||
− | Yn wahanol iawn i heddiw, ymddengys mai hwyl a miri oedd cerdd dant i lawer iawn, a bod llawer o’r geiriau yn fras ac yn anweddus. Ond yn ôl un llygad-dyst yn [[Eisteddfod]] Madog 1852, roedd y miri hwnnw yn gallu mynd dros ben llestri: | + | Yn wahanol iawn i heddiw, ymddengys mai hwyl a miri oedd cerdd dant i lawer iawn, a bod llawer o’r geiriau yn fras ac yn anweddus. Ond yn ôl un llygad-dyst yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Madog 1852, roedd y miri hwnnw yn gallu mynd dros ben llestri: |
− | :Yn y rhagolygon am ddigonedd o fîr a bwyd, ac ychydig sylltau o arian hefyd, ymrestrai i’r gystadleuaeth hon bob math o faldorddwyr, gloddestwyr, [[baledwyr]], pastynfeirdd, clerwyr, bolerwyr, diotwyr, meddwon – ysgubion y byd a sorod pob dim – fel y daeth yr hen ymarferiad a gwir Gymreig i warth a dirmyg, ac i gael edrych arno fel peth israddol ac annheilwng … yn Eisteddfod Madog yr oedd ysgrechfeydd, cabledd a rhegfeydd yr ymgeiswyr yn llawer mwy amlwg, yn eu hymosodiadau ar y naill a’r llall, nag ydoedd unrhyw gystadledd reolaidd a threfnus mewn datganu gyda’r tannau, a hynny er gwaethaf holl ymdrechion Talhaiarn (yr arweinydd ar y pryd) i’w cadw mewn trefn a dosbarth. | + | :Yn y rhagolygon am ddigonedd o fîr a bwyd, ac ychydig sylltau o arian hefyd, ymrestrai i’r gystadleuaeth hon bob math o faldorddwyr, gloddestwyr, [[Baled | baledwyr]], pastynfeirdd, clerwyr, bolerwyr, diotwyr, meddwon – ysgubion y byd a sorod pob dim – fel y daeth yr hen ymarferiad a gwir Gymreig i warth a dirmyg, ac i gael edrych arno fel peth israddol ac annheilwng … yn Eisteddfod Madog yr oedd ysgrechfeydd, cabledd a rhegfeydd yr ymgeiswyr yn llawer mwy amlwg, yn eu hymosodiadau ar y naill a’r llall, nag ydoedd unrhyw gystadledd reolaidd a threfnus mewn datganu gyda’r tannau, a hynny er gwaethaf holl ymdrechion Talhaiarn (yr arweinydd ar y pryd) i’w cadw mewn trefn a dosbarth. |
− | Canlyniad hyn, meddai, oedd i ganu penillion gael ei ddileu o raglen rhai | + | Canlyniad hyn, meddai, oedd i ganu penillion gael ei ddileu o raglen rhai eisteddfodau wedi hynny. Er enghraifft, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn hytrach na chynnal cystadleuaeth, dewiswyd tri chanwr penillion ‘o nodwedd parchus’ i ddifyrru’r gynulleidfa. |
Un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd oedd Canu Cylch. Byddai’r cystadleuwyr i gyd yn sefyll yn un rhes ar y llwyfan. Y gamp oedd canu pennill yn fyrfyfyr ar fesur o ddewis y beirniad, heb rybudd ymlaen llaw: prawf llym ar allu i osod ar y pryd, ond mwy fyth o brawf ar y cof. Gallai’r gystadleuaeth fynd ymlaen am amser maith iawn. Penderfynwyd yn ffurfiol mewn cynhadledd yn 1934 ddileu’r math hwn o ganu cerdd dant. | Un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd oedd Canu Cylch. Byddai’r cystadleuwyr i gyd yn sefyll yn un rhes ar y llwyfan. Y gamp oedd canu pennill yn fyrfyfyr ar fesur o ddewis y beirniad, heb rybudd ymlaen llaw: prawf llym ar allu i osod ar y pryd, ond mwy fyth o brawf ar y cof. Gallai’r gystadleuaeth fynd ymlaen am amser maith iawn. Penderfynwyd yn ffurfiol mewn cynhadledd yn 1934 ddileu’r math hwn o ganu cerdd dant. | ||
− | Un o’r ffigyrau pwysicaf ym myd cerdd dant y 19g. oedd Idris Fychan ( | + | Un o’r ffigyrau pwysicaf ym myd cerdd dant y 19g. oedd Idris Fychan (1825-87), crydd o Ddolgellau a enillodd wobr am ysgrifennu traethawd ar ‘Hanes a Hynafiaeth Canu Gyda’r Tannau’ yn Eisteddfod Genedlaethol Caer (1866). Mae ei osodiadau yn wahanol iawn i rai ein dyddiau ni: y cyfalawon yn dilyn nodau’r gainc neu’n cadw at yr un nodyn am sawl bar. Ar ddiwedd ei draethawd mae Idris Fychan yn rhestru 64 o brif ddatgeiniaid y cyfnod, rhestr sy’n dangos pwysigrwydd ardaloedd Mawddwy, Dolgellau, Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a Bro Hiraethog yn y traddodiad cerdd dant ar y pryd. |
Cyfraniad mawr Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy, oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw ''Y Tant Aur''. Mae’r gwahaniaethau rhwng argraffiad cyntaf y llawlyfr hwn a’r ail yn arwyddocaol iawn, oherwydd iddo ddechrau rhoi mwy o bwyslais ar safon gerddorol y cyfalawon – pwyslais a gynyddodd wrth i’r ganrif fynd rhagddi. | Cyfraniad mawr Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy, oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw ''Y Tant Aur''. Mae’r gwahaniaethau rhwng argraffiad cyntaf y llawlyfr hwn a’r ail yn arwyddocaol iawn, oherwydd iddo ddechrau rhoi mwy o bwyslais ar safon gerddorol y cyfalawon – pwyslais a gynyddodd wrth i’r ganrif fynd rhagddi. | ||
− | Yn sgil y galw am reolau cydnabyddedig a’r angen am drefn, sefydlwyd [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]] yn 1934. Roedd un o’r prif ysgogwyr, Dewi Mai o Feirion, yn frwd o blaid gwella safonau cerddorol y grefft, ond nid pawb oedd yn cytuno. Yn ei llyfr ''Cwpwrdd Nansi'', meddai [[Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), ‘clywais rai o’r hen osodwyr yn dweud … pan o’wn i’n blentyn, “Pan aiff | + | Yn sgil y galw am reolau cydnabyddedig a’r angen am drefn, sefydlwyd [[Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]] yn 1934. Roedd un o’r prif ysgogwyr, Dewi Mai o Feirion, yn frwd o blaid gwella safonau cerddorol y grefft, ond nid pawb oedd yn cytuno. Yn ei llyfr ''Cwpwrdd Nansi'', meddai [[Richards, Nansi (Telynores Maldwyn; 1888-1979) | Nansi Richards]] (Telynores Maldwyn), ‘clywais rai o’r hen osodwyr yn dweud … pan o’wn i’n blentyn, “Pan aiff canu penillion i ddwylo cerddorion, mi fydd yn Ta-Ta arno!”’ Un o benderfyniadau cyntaf y gynhadledd a alwyd yn y Bala oedd dileu cystadleuaeth Canu Cylch, prif lwyfan y grefft fyrfyfyr. |
Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd cerdd dant. Roedd y gosodiadau yn rhai digon undonog a diddychymyg gyda llawer o gamacennu a phethau y byddid yn ddiweddarach yn eu hystyried yn feiau. Drwy gydol y ganrif cafwyd gwared â’r beiau hyn a bu cryn broffesiynoli ar yr holl faes. Dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 1970au ymlaen, ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. | Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd cerdd dant. Roedd y gosodiadau yn rhai digon undonog a diddychymyg gyda llawer o gamacennu a phethau y byddid yn ddiweddarach yn eu hystyried yn feiau. Drwy gydol y ganrif cafwyd gwared â’r beiau hyn a bu cryn broffesiynoli ar yr holl faes. Dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 1970au ymlaen, ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. | ||
− | Law yn llaw â’r cynnydd hwn, bu ambell i ymgais hefyd i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu. Un o’r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams ( | + | Law yn llaw â’r cynnydd hwn, bu ambell i ymgais hefyd i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu. Un o’r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams (1950-82), brodor o Fôn a ddaeth yn hyfforddwr ar Gôr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ar ddechrau’r 1980au. Gyda’i osodiadau newydd a beiddgar sbardunodd drafodaeth frwd, ac er iddo farw’n ifanc, gwnaeth ei farc a chreu esiampl i eraill. |
− | Bu newidiadau mawr yn natur cerdd dant yn ystod yr 20g. | + | Bu newidiadau mawr yn natur cerdd dant yn ystod yr 20g. - newidiadau llesol ar y cyfan, er y gellid dadlau, gyda pheth cyfiawnhad, fod hynny wedi digwydd ar draul yr hen elfen werinol, hwyliog, fyrfyfyr. Ond goroesodd y grefft ac mae lle parchus iddi o fewn diwylliant y genedl. |
'''Arfon Gwilym''' | '''Arfon Gwilym''' | ||
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 08:57, 2 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cerdd dant yw’r grefft o ganu geiriau ar gainc osodedig a chwaraeir ar delyn ac mae’n chwaer-grefft i gerdd dafod (crefft y bardd). Ystyrir bod cerdd dant neu ganu penillion yn ddull unigryw Gymreig o ganu, ac er mai crefft i unigolyn yn unig oedd hi ar hyd y canrifoedd, yn ystod yr 20g. gwelwyd cyfuniadau lleisiol yn datblygu, yn ddeuawdau, triawdau, pedwarawdau, partïon a chorau. Mewn eisteddfodau – cenedlaethol a lleol – y clywir y rhan fwyaf o gerdd dant yn y Gymru gyfoes.
Prif egwyddor cerdd dant fel y’i clywir heddiw yw bod cyfalaw yn cael ei ‘gosod’ ar eiriau (barddoniaeth ran amlaf, ond weithiau hefyd ryddiaith) ac yn cael ei datgan i gyfeiliant cainc benodol. Erbyn heddiw mae cryn 600 o geinciau i ddewis o’u plith, y mwyafrif llethol wedi eu cyfansoddi o’r newydd yn ystod yr 20g. a’r gweddill yn draddodiadol. Y delyn sy’n dechrau chwarae bob amser, cyn i’r datgeinydd ‘daro i mewn’ mewn man sy’n sicrhau bod y pennill a’r gainc yn diweddu gyda’i gilydd. Byddai’r ‘hen’ gantorion yn cyfansoddi eu cyfalaw yn fyrfyfyr (‘gosod ar y pryd’) ond bellach, yn ddieithriad bron, cyfansoddir y gyfalaw ymlaen llaw a’i dysgu.
Credir bod gwreiddiau aruchel i’r grefft, yn tarddu o’r traddodiad hynafol o ganu mawl i frenhinoedd, tywysogion ac uchelwyr, mor bell yn ôl â’r cyfnod Celtaidd. Gellir dychmygu y byddai’r farddoniaeth a genid i gyfeiliant telyn yn y canrifoedd cynnar hyn yn swnio’n bur wahanol i’r hyn a glywir heddiw, ond nid oes fawr o amheuaeth fod crefft yn bodoli a oedd yn cyfuno llais a thelyn. Credir bod y grefft honno yn llawer mwy arbenigol na cherdd dant y cyfnod presennol, gan mai’r un person ar un adeg oedd y bardd, y telynor a’r datgeiniad.
Mae peth tystiolaeth yn awgrymu y gallai ffurf ar ganu i gyfeiliant telyn fod yn boblogaidd ymhlith y werin bobl hefyd. Mewn un gerdd o’r 16g. ceir cyfeiriad at gyfeillion yn dod ynghyd: ‘Cael telyn rawn a’ chweirio / A phawb ar hwyl pennhyllio.’ O’r un cyfnod y ceir y cwpled: ‘Kawn rai yn Kany Telyn / Kowydd Triban ac Englyn.’
Yn Statud Gruffydd ap Cynan ( llawysgrif o tuag 1523) ceir disgrifiad o’r hyn a oedd yn ddisgwyliedig gan ddatgeiniad: ‘A wedi hynny y dichon atkeiniad ... dysgu i blethiadau oll a ffroviad kyffredin ai ostegion a thair ar ddec o brif geinciau ai gwybod yn iawn yn i partiau ac atkan i gywydd gida hwy’ (Ac wedi hynny fe all datgeiniad ... ddysgu’r holl blethiadau a’r profiad cyffredin, a’r tair brif gainc ar ddeg, a’u gwybod yn iawn yn eu holl rannau, a sut i ddatgan ei gywydd gyda nhw).
Ddwy ganrif yn ddiweddarach, ceir y disgrifiad hwn mewn llythyr a anfonwyd gan Lewis Morris yn 1738:
- It is a custom in most counties of North Wales (but better preserved in the mountainous parts of Merionethshire &c) to sing to the Harp certain British verses in rhyme (called pennills) upon various subjects. Three or four kinds of them they can adapt and sing to the measures of any of the tunes in use among them, either in common or triple times, making some parts of the tune a symphony ... these Pennills that our Countrymen ... this day sing to the Harp and Crwth, a method of singing perhaps peculiar to themselves.
Yn ei chyfrol ar y casglwr alawon ffidil John Thomas (canol y 18g.), dywed Cass Meurig fod canu penillion yn digwydd i gyfeiliant ffidil yn ogystal â thelyn – yn ‘Null y De’ a ‘Dull y Gogledd’ (Dull y De oedd dechrau canu yr un pryd â’r offeryn; Dull y Gogledd oedd aros am rai barrau cyn ‘taro i mewn’).
Un o Lanfair Talhaearn yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd John Jones, Talhaiarn (1810-69). Yn ei atgofion, ceir disgrifiad dadlennol (c.1828) o natur werinol y grefft o ‘ganu gyda’r tannau’:
- Pan oeddwn yn laslanc deunaw oed yr oeddwn yn ffond iawn o ganu gyda’r tannau. Fy nghyn- athro yn y gelfyddyd honno oedd Sam y Teiliwr, Efenechtyd. Yr oeddwn … yn y dafarn beunydd ben wedi bod nos. Yr oedd Efenechtyd yr amser hwnnw yn nodedig am ei ddatgeiniaid, sef Sam y Teiliwr, Huw Huws y Gof, Pwll Glas, John Davies y Clochydd, a minnau hefyd. Yr oedd Sam y pryd hwnnw rhwng hanner cant a thrigain oed ac yn ddigri i’w ryfeddu. Ni wyddai lythyren ar lyfr, ond er hynny yr oedd ganddo lond trol o garolau, cerddi a phenillion wedi eu storio yn ei benglog ...
Aiff ymlaen i ddyfynnu’r math o benillion yr oedd fwyaf hoff ohonynt, a hefyd y ceinciau y byddai’n canu arnynt, a daw’n amlwg mai’r dull ‘hoffusaf’ o ganu ganddo oedd y dull y cyfeirir ato heddiw fel ‘canu croesacen’.
Yn wahanol iawn i heddiw, ymddengys mai hwyl a miri oedd cerdd dant i lawer iawn, a bod llawer o’r geiriau yn fras ac yn anweddus. Ond yn ôl un llygad-dyst yn Eisteddfod Madog 1852, roedd y miri hwnnw yn gallu mynd dros ben llestri:
- Yn y rhagolygon am ddigonedd o fîr a bwyd, ac ychydig sylltau o arian hefyd, ymrestrai i’r gystadleuaeth hon bob math o faldorddwyr, gloddestwyr, baledwyr, pastynfeirdd, clerwyr, bolerwyr, diotwyr, meddwon – ysgubion y byd a sorod pob dim – fel y daeth yr hen ymarferiad a gwir Gymreig i warth a dirmyg, ac i gael edrych arno fel peth israddol ac annheilwng … yn Eisteddfod Madog yr oedd ysgrechfeydd, cabledd a rhegfeydd yr ymgeiswyr yn llawer mwy amlwg, yn eu hymosodiadau ar y naill a’r llall, nag ydoedd unrhyw gystadledd reolaidd a threfnus mewn datganu gyda’r tannau, a hynny er gwaethaf holl ymdrechion Talhaiarn (yr arweinydd ar y pryd) i’w cadw mewn trefn a dosbarth.
Canlyniad hyn, meddai, oedd i ganu penillion gael ei ddileu o raglen rhai eisteddfodau wedi hynny. Er enghraifft, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn hytrach na chynnal cystadleuaeth, dewiswyd tri chanwr penillion ‘o nodwedd parchus’ i ddifyrru’r gynulleidfa.
Un o’r cystadlaethau mwyaf poblogaidd oedd Canu Cylch. Byddai’r cystadleuwyr i gyd yn sefyll yn un rhes ar y llwyfan. Y gamp oedd canu pennill yn fyrfyfyr ar fesur o ddewis y beirniad, heb rybudd ymlaen llaw: prawf llym ar allu i osod ar y pryd, ond mwy fyth o brawf ar y cof. Gallai’r gystadleuaeth fynd ymlaen am amser maith iawn. Penderfynwyd yn ffurfiol mewn cynhadledd yn 1934 ddileu’r math hwn o ganu cerdd dant.
Un o’r ffigyrau pwysicaf ym myd cerdd dant y 19g. oedd Idris Fychan (1825-87), crydd o Ddolgellau a enillodd wobr am ysgrifennu traethawd ar ‘Hanes a Hynafiaeth Canu Gyda’r Tannau’ yn Eisteddfod Genedlaethol Caer (1866). Mae ei osodiadau yn wahanol iawn i rai ein dyddiau ni: y cyfalawon yn dilyn nodau’r gainc neu’n cadw at yr un nodyn am sawl bar. Ar ddiwedd ei draethawd mae Idris Fychan yn rhestru 64 o brif ddatgeiniaid y cyfnod, rhestr sy’n dangos pwysigrwydd ardaloedd Mawddwy, Dolgellau, Penllyn, Edeyrnion, Uwchaled a Bro Hiraethog yn y traddodiad cerdd dant ar y pryd.
Cyfraniad mawr Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy, oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw Y Tant Aur. Mae’r gwahaniaethau rhwng argraffiad cyntaf y llawlyfr hwn a’r ail yn arwyddocaol iawn, oherwydd iddo ddechrau rhoi mwy o bwyslais ar safon gerddorol y cyfalawon – pwyslais a gynyddodd wrth i’r ganrif fynd rhagddi.
Yn sgil y galw am reolau cydnabyddedig a’r angen am drefn, sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 1934. Roedd un o’r prif ysgogwyr, Dewi Mai o Feirion, yn frwd o blaid gwella safonau cerddorol y grefft, ond nid pawb oedd yn cytuno. Yn ei llyfr Cwpwrdd Nansi, meddai Nansi Richards (Telynores Maldwyn), ‘clywais rai o’r hen osodwyr yn dweud … pan o’wn i’n blentyn, “Pan aiff canu penillion i ddwylo cerddorion, mi fydd yn Ta-Ta arno!”’ Un o benderfyniadau cyntaf y gynhadledd a alwyd yn y Bala oedd dileu cystadleuaeth Canu Cylch, prif lwyfan y grefft fyrfyfyr.
Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd cerdd dant. Roedd y gosodiadau yn rhai digon undonog a diddychymyg gyda llawer o gamacennu a phethau y byddid yn ddiweddarach yn eu hystyried yn feiau. Drwy gydol y ganrif cafwyd gwared â’r beiau hyn a bu cryn broffesiynoli ar yr holl faes. Dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau, ac yna, o’r 1970au ymlaen, ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf.
Law yn llaw â’r cynnydd hwn, bu ambell i ymgais hefyd i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu. Un o’r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams (1950-82), brodor o Fôn a ddaeth yn hyfforddwr ar Gôr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ar ddechrau’r 1980au. Gyda’i osodiadau newydd a beiddgar sbardunodd drafodaeth frwd, ac er iddo farw’n ifanc, gwnaeth ei farc a chreu esiampl i eraill.
Bu newidiadau mawr yn natur cerdd dant yn ystod yr 20g. - newidiadau llesol ar y cyfan, er y gellid dadlau, gyda pheth cyfiawnhad, fod hynny wedi digwydd ar draul yr hen elfen werinol, hwyliog, fyrfyfyr. Ond goroesodd y grefft ac mae lle parchus iddi o fewn diwylliant y genedl.
Arfon Gwilym
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.