Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwerin, Arferion Dawnsio"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, Calan Mai (Calan Haf)...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
+ | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
+ | |||
Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, [[Calan]] Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur. | Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, [[Calan]] Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur. | ||
Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, ''Welsh Folk Customs)''. | Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, ''Welsh Folk Customs)''. | ||
− | Cyfeiriodd [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol. | + | Cyfeiriodd [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol. |
− | Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan [[ganu penillion]] a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r | + | Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan [[Canu Penillion (gwreiddiau) | ganu penillion]] a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r teulu drwy ganu atebion cyn ildio er mwyn sicrhau bod y Fari yn dymuno blwyddyn newydd lwyddiannus iddynt (am fwy am hanes y Fari Lwyd, gw. Lile, 1999). Dim ond mewn un neu ddwy o ardaloedd y parheid â’r arfer erbyn yr 21g. |
− | Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar | + | Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar arferion gwerin megis dawnsio. |
− | Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod | + | Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod adloniant yn tynnu sylw’r werin oddi wrth y nod o feithrin bywyd ysbrydol. Condemniwyd pob ‘chwarae’ fel rhywbeth ffôl a phechadurus. Oherwydd yr hinsawdd gymdeithasol fregus a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol llwyddodd y Piwritaniaid mewn ychydig flynyddoedd i wastrodi nifer o ddefodau ac arferion gwerin a oedd wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd lawer – ac roedd dawnsio gwerin yn weithgaredd amlwg i’w dargedu. |
− | Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r | + | Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r arddull Gymreig. Erbyn heddiw mae merched hefyd yn mwynhau clocsio. |
− | Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac | + | Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac Edward Jones (Bardd y Brenin), y gallai ymyrraeth y Piwritaniaid arwain at golled i’r diwylliant ac aethant ati i gofnodi’r dawnsiau Cymreig. Cyn hynny buasai John Playford, ei fab Henry a John Young yn casglu a chyhoeddi nifer o ddawnsiau Cymru yn eu tair cyfrol ''The English Dancing Master'' (cyhoeddwyd rhwng 1651 ac 1728), sef y llyfrau cyntaf erioed o gyfarwyddiadau a thonau dawnsio gwerin. Roedd llawer iawn o gyfnewid a benthyg dawnsfeydd rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ewrop, ac aeth nifer o’r rhai Cymreig i gasgliadau Prydeinig. Yn ffodus roedd [[Telyn Deires | telynau teires]] yn dal i gael eu chwarae yn y plastai mawr, a bu hynny’n fodd i gadw’r [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawns, yn fyw. Cofnododd William Jones dair dawns uned hir i dri chwpl a welodd yn cael eu dawnsio yn ardal Llangadfan, sef ‘Aly Grogan’, ‘Lumps of Pudding’ a ‘Roaring Hornpipe’, dawnsiau sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw. |
Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys. | Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys. | ||
− | Yn ystod y 19g. dechreuodd [[Augusta Hall]] (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y | + | Yn ystod y 19g. dechreuodd [[Hall, Augusta (1802-96) | Augusta Hall]] (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y ffugenw Gwenynen Gwent adferodd, ymysg llu o draddodiadau eraill, y ddawns werin Gymreig, y wisg draddodiadol ac alawon gwerin y wlad. Daeth dan ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a’r Fonesig Coffin Greenly o Swydd Henffordd (un o noddwyr [[Iolo Morganwg]]). Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob cwr o Gymru. Disgwylid i’r gweision wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig a dawnsio i’r gwesteion. Yn 1836 cyhoeddodd Arglwyddes Llanofer draethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau. Agorodd ffatri wlân Gwenffrwd yn yr ardal ac adferodd y Fari Lwyd a’r [[Canu Plygain | plygain]]. Y delyn deires oedd ei hoff offeryn. Bu hefyd yn casglu alawon gwerin Cymru gyda [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] (1795–1873), Aberpergwm. Mae o leiaf ddwy ddawns Gymreig yn deillio o’r cyfnod hwn, sef Dawns Llanofer, uned hir i unedau o drioedd, a Rhif Wyth, uned hir i dri chwpl. |
Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw ''Welsh Folk Dances – an Inquiry''. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig. | Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw ''Welsh Folk Dances – an Inquiry''. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig. | ||
− | Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen [[Eisteddfod]] yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad. | + | Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad. |
− | Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal [[gwyliau]] a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin | + | Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin Caerdydd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at ganol haf, mae’n denu cannoedd o ddawnswyr o bob cwr o Gymru yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn yr Wyddgrug cynhelir Gŵyl Cadi Haf adeg Calan Mai a cheir amryw o wyliau dawnsio gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r Gwyliau Dawnsio Plant hefyd yn llwyddiant mawr, gyda thros fil o blant yn cymryd rhan ynddynt. |
'''Eiry Palfrey''' | '''Eiry Palfrey''' | ||
Llinell 29: | Llinell 32: | ||
==Gwefannau== | ==Gwefannau== | ||
− | + | *Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) www.dawnsio.com | |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Trefor M. Owen, ''Welsh Folk Customs'' (Caerdydd, 1959) | |
+ | |||
+ | *Emma Lile, ''Troed yn Ôl a Throed Ymlaen: Dawnsio Gwerin Yng Nghymru'' (Caerdydd, 1999) | ||
− | : | + | {{CC BY-SA Cydymaith}} |
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:59, 8 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, Calan Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur.
Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, Welsh Folk Customs).
Cyfeiriodd Edward Jones (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol.
Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan ganu penillion a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r teulu drwy ganu atebion cyn ildio er mwyn sicrhau bod y Fari yn dymuno blwyddyn newydd lwyddiannus iddynt (am fwy am hanes y Fari Lwyd, gw. Lile, 1999). Dim ond mewn un neu ddwy o ardaloedd y parheid â’r arfer erbyn yr 21g.
Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar arferion gwerin megis dawnsio.
Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod adloniant yn tynnu sylw’r werin oddi wrth y nod o feithrin bywyd ysbrydol. Condemniwyd pob ‘chwarae’ fel rhywbeth ffôl a phechadurus. Oherwydd yr hinsawdd gymdeithasol fregus a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol llwyddodd y Piwritaniaid mewn ychydig flynyddoedd i wastrodi nifer o ddefodau ac arferion gwerin a oedd wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd lawer – ac roedd dawnsio gwerin yn weithgaredd amlwg i’w dargedu.
Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r arddull Gymreig. Erbyn heddiw mae merched hefyd yn mwynhau clocsio.
Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac Edward Jones (Bardd y Brenin), y gallai ymyrraeth y Piwritaniaid arwain at golled i’r diwylliant ac aethant ati i gofnodi’r dawnsiau Cymreig. Cyn hynny buasai John Playford, ei fab Henry a John Young yn casglu a chyhoeddi nifer o ddawnsiau Cymru yn eu tair cyfrol The English Dancing Master (cyhoeddwyd rhwng 1651 ac 1728), sef y llyfrau cyntaf erioed o gyfarwyddiadau a thonau dawnsio gwerin. Roedd llawer iawn o gyfnewid a benthyg dawnsfeydd rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ewrop, ac aeth nifer o’r rhai Cymreig i gasgliadau Prydeinig. Yn ffodus roedd telynau teires yn dal i gael eu chwarae yn y plastai mawr, a bu hynny’n fodd i gadw’r alawon gwerin traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawns, yn fyw. Cofnododd William Jones dair dawns uned hir i dri chwpl a welodd yn cael eu dawnsio yn ardal Llangadfan, sef ‘Aly Grogan’, ‘Lumps of Pudding’ a ‘Roaring Hornpipe’, dawnsiau sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw.
Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys.
Yn ystod y 19g. dechreuodd Augusta Hall (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y ffugenw Gwenynen Gwent adferodd, ymysg llu o draddodiadau eraill, y ddawns werin Gymreig, y wisg draddodiadol ac alawon gwerin y wlad. Daeth dan ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a’r Fonesig Coffin Greenly o Swydd Henffordd (un o noddwyr Iolo Morganwg). Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob cwr o Gymru. Disgwylid i’r gweision wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig a dawnsio i’r gwesteion. Yn 1836 cyhoeddodd Arglwyddes Llanofer draethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau. Agorodd ffatri wlân Gwenffrwd yn yr ardal ac adferodd y Fari Lwyd a’r plygain. Y delyn deires oedd ei hoff offeryn. Bu hefyd yn casglu alawon gwerin Cymru gyda Maria Jane Williams (1795–1873), Aberpergwm. Mae o leiaf ddwy ddawns Gymreig yn deillio o’r cyfnod hwn, sef Dawns Llanofer, uned hir i unedau o drioedd, a Rhif Wyth, uned hir i dri chwpl.
Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw Welsh Folk Dances – an Inquiry. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig.
Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor W. S. Gwynn Williams (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen Eisteddfod yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad.
Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal gwyliau a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin Caerdydd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at ganol haf, mae’n denu cannoedd o ddawnswyr o bob cwr o Gymru yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn yr Wyddgrug cynhelir Gŵyl Cadi Haf adeg Calan Mai a cheir amryw o wyliau dawnsio gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r Gwyliau Dawnsio Plant hefyd yn llwyddiant mawr, gyda thros fil o blant yn cymryd rhan ynddynt.
Eiry Palfrey
Gwefannau
- Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) www.dawnsio.com
Llyfryddiaeth
- Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959)
- Emma Lile, Troed yn Ôl a Throed Ymlaen: Dawnsio Gwerin Yng Nghymru (Caerdydd, 1999)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.