Jones, Richard Elfyn (g.1944): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
CadiW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''


Mae Richard Elfyn Jones, a aned ym Mlaenau Ffestiniog, yn un o gerddorion mwyaf amryddawn ei genhedlaeth, sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel [[arweinydd]] ac organydd, darlithydd, awdur, athronydd, [[ysgolhaig]], a beirniad cerdd, ac ymysg ei gyhoeddiadau ceir erthygl ar [[David Wynne]], A. N. Whitehead, a llyfr ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth ac athroniaeth (gw. Jones 1979, 2000 a 2007).
Mae Richard Elfyn Jones, a aned ym Mlaenau Ffestiniog, yn un o gerddorion mwyaf amryddawn ei genhedlaeth, sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]] ac organydd, darlithydd, awdur, athronydd, [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | ysgolhaig]], a beirniad cerdd, ac ymysg ei gyhoeddiadau ceir erthygl ar [[Wynne, David (1900-83) | David Wynne]], A. N. Whitehead, a llyfr ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth ac athroniaeth (gw. Jones 1979, 2000 a 2007).


Astudiodd gyfansoddi gyda [[William Mathias]] (1934-92) a [[Reginald Smith Brindle]] (1917-2003) yng Ngholeg [[Prifysgol]] Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd raddau BA ac MMus a bu’n fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth gan Goleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO) yn 1967 pan enillodd Wobr Limpus am ei berfformiadau. Yn 1978, dyfarnwyd iddo radd PhD am ei waith ar operâu y cyfansoddwr o Loegr, Michael Tippett (1905-98).
Astudiodd gyfansoddi gyda [[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]] (1934-92) a [[Smith Brindle, Reginald (1917-2003) | Reginald Smith Brindle]] (1917-2003) yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd raddau BA ac MMus a bu’n fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth gan Goleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO) yn 1967 pan enillodd Wobr Limpus am ei berfformiadau. Yn 1978, dyfarnwyd iddo radd PhD am ei waith ar operâu y cyfansoddwr o Loegr, Michael Tippett (1905-98).


Treuliodd ei yrfa gyfan yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr amryddawn ac eang ei ystod, bu’n awdur nifer o lyfrau, yn eu plith gyfrol ar waith ei gyfaill o gyfansoddwr David Wynne (1979) a ''The Early Operas of Michael Tippett'' (1996). Ond mae ei brif gyfraniad fel ysgolhaig ym maes athroniaeth cerddoriaeth, a gwelir hyn yn bennaf yn ''Music and the Numinous'' (2007), gwaith crefyddol ei naws sy’n trafod natur sylfaenol cerddoriaeth (ac i ryw raddau’r celfyddydau eraill) trwy dechnegau arloesol ymresymu athroniaeth Proses.
Treuliodd ei yrfa gyfan yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr amryddawn ac eang ei ystod, bu’n awdur nifer o lyfrau, yn eu plith gyfrol ar waith ei gyfaill o gyfansoddwr David Wynne (1979) a ''The Early Operas of Michael Tippett'' (1996). Ond mae ei brif gyfraniad fel ysgolhaig ym maes athroniaeth cerddoriaeth, a gwelir hyn yn bennaf yn ''Music and the Numinous'' (2007), gwaith crefyddol ei naws sy’n trafod natur sylfaenol cerddoriaeth (ac i ryw raddau’r celfyddydau eraill) trwy dechnegau arloesol ymresymu athroniaeth Proses.


Yn gynnar yn ei yrfa, gwnaeth enw iddo’i hun fel organydd gan ymddangos fel datgeinydd bymtheg o weithiau ar BBC Radio 3. Fel arweinydd cerddorfaol, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ryngwladol Guido Cantelli ym Milan yn 1980. Ond bu ei bwyslais mwyaf ar arwain [[corawl]]. Bu’n arweinydd Côr Poliffonig Caerdydd (1977-91) ac Ensemble Lleisiol Cymru. Bu’n gorws-feistr hefyd ar gyfer perfformiadau teledu a radio gan weithio’n agos gydag [[arweinyddion]] megis Colin Davis, Andrew Davies, Roger Norrington, John Eliot Gardiner a Neville Marriner.
Yn gynnar yn ei yrfa, gwnaeth enw iddo’i hun fel organydd gan ymddangos fel datgeinydd bymtheg o weithiau ar BBC Radio 3. Fel arweinydd cerddorfaol, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ryngwladol Guido Cantelli ym Milan yn 1980. Ond bu ei bwyslais mwyaf ar arwain [[Corau Cymysg | corawl]]. Bu’n arweinydd Côr Poliffonig Caerdydd (1977-91) ac Ensemble Lleisiol Cymru. Bu’n gorws-feistr hefyd ar gyfer perfformiadau teledu a radio gan weithio’n agos gydag arweinyddion megis Colin Davis, Andrew Davies, Roger Norrington, John Eliot Gardiner a Neville Marriner.


Cyfansoddodd ar gyfer nifer o gerddorion cyfoes adnabyddus, yn eu plith [[Bryn Terfel]], Gillian Weir, John Scott, Jack Brymer, Pedwarawd Llinynnol Britten, [[Llŷr Williams]], Huw Tregelles Williams; ysgrifennodd hefyd ar gyfer [[Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]]. Yn yr 1990au bu’n ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer [[ffilm]] a theledu, a denodd ei gerddoriaeth ar gyfer cyfresi teledu ''Timeline'' ac ''After the Warming'' (Maryland PBS, 1990) yn yr Unol Daleithiau sylw rhyngwladol. Rhwng 1996 a 2004, ef oedd ymgynghorydd [[cerddoriaeth glasurol]] S4C.
Cyfansoddodd ar gyfer nifer o gerddorion cyfoes adnabyddus, yn eu plith [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]], Gillian Weir, John Scott, Jack Brymer, Pedwarawd Llinynnol Britten, [[Williams, Llŷr (g.1976) | Llŷr Williams]], Huw Tregelles Williams; ysgrifennodd hefyd ar gyfer [[Cerddorfeydd, Corau, Cerddorfeydd Ieuenctid ac Ensemblau | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC]]. Yn yr 1990au bu’n ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer [[ffilm]] a theledu, a denodd ei gerddoriaeth ar gyfer cyfresi teledu ''Timeline'' ac ''After the Warming'' (Maryland PBS, 1990) yn yr Unol Daleithiau sylw rhyngwladol. Rhwng 1996 a 2004, ef oedd ymgynghorydd [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth glasurol]] S4C.


O ran arddull ei gyfansoddiadau, mae ei grefft ofalus yn cwmpasu’r traddodiadol ac yn ddyledus i raddau i waith cyfansoddwyr y tir canol megis ei hen athro, William Mathias. Ceir hefyd elfen o arddull gynnar a chyfnod canol Tippett a Messiaen. Mae’r rhythmau yn aml yn gymhleth ond cyplysir hynny gydag awydd amlwg i gyfathrebu. Ysgrifennodd ymhell dros gant o weithiau bach a mawr. Mae’n cwmpasu ''genres'' megis gweithiau siambr a darnau allweddellol, corawl a cherddorfaol fel ei gilydd. Derbyniodd gomisiynau gan y prif wyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Daw ei dras Gymreig yn amlwg ar brydiau megis yn y trefniannau o [[alawon gwerin]], ''Tair Cân Werin Gymreig'' ar gyfer mezzo-soprano a cherddorfa (a gymharwyd o ran arddull i’r ''Songs of the Auvergne'' gan Canteloube), a ''Cyfaredd Bro'' i gôr a cherddorfa a gyfansoddodd ar gyfer [[Eisteddfod]] Genedlaethol Abergwaun yn 1986.
O ran arddull ei gyfansoddiadau, mae ei grefft ofalus yn cwmpasu’r traddodiadol ac yn ddyledus i raddau i waith cyfansoddwyr y tir canol megis ei hen athro, William Mathias. Ceir hefyd elfen o arddull gynnar a chyfnod canol Tippett a Messiaen. Mae’r rhythmau yn aml yn gymhleth ond cyplysir hynny gydag awydd amlwg i gyfathrebu. Ysgrifennodd ymhell dros gant o weithiau bach a mawr. Mae’n cwmpasu ''genres'' megis gweithiau siambr a darnau allweddellol, corawl a cherddorfaol fel ei gilydd. Derbyniodd gomisiynau gan y prif wyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Daw ei dras Gymreig yn amlwg ar brydiau megis yn y trefniannau o [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]], ''Tair Cân Werin Gymreig'' ar gyfer mezzo-soprano a cherddorfa (a gymharwyd o ran arddull i’r ''Songs of the Auvergne'' gan Canteloube), a ''Cyfaredd Bro'' i gôr a cherddorfa a gyfansoddodd ar gyfer [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Abergwaun yn 1986.


Dangosodd allu arbennig yn y darnau corawl a lleisiol wrth osod geiriau gan [[Saunders Lewis]], Vernon Watkins, Gerard Manley Hopkins a sawl bardd Cymraeg cyfoes. Ymhlith ei weithiau mwyaf nodedig y mae’r ''Brangwyn Overture'' (1981) a gyfansoddwyd ar gyfer organ Neuadd y Brangwyn, Abertawe, i’w berfformio gan Gillian Weir, ac a recordiwyd ar label Vienna Modern Masters gan Gerddorfa Symffoni Kraków. Mae’n waith hynod effeithiol ac idiomatig a ddylai gael ei berfformio’n amlach yn rhyngwladol (‘a Proms must if not heard before on the South Bank,’ yn ôl un adolygiad yn ''The Sunday Times).''
Dangosodd allu arbennig yn y darnau corawl a lleisiol wrth osod geiriau gan [[Saunders Lewis]], Vernon Watkins, Gerard Manley Hopkins a sawl bardd Cymraeg cyfoes. Ymhlith ei weithiau mwyaf nodedig y mae’r ''Brangwyn Overture'' (1981) a gyfansoddwyd ar gyfer organ Neuadd y Brangwyn, Abertawe, i’w berfformio gan Gillian Weir, ac a recordiwyd ar label Vienna Modern Masters gan Gerddorfa Symffoni Kraków. Mae’n waith hynod effeithiol ac idiomatig a ddylai gael ei berfformio’n amlach yn rhyngwladol (‘a Proms must if not heard before on the South Bank,’ yn ôl un adolygiad yn ''The Sunday Times).''

Fersiwn ddiweddaraf yn ôl 20:50, 13 Awst 2021

__NOAUTOLINKS__ Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae Richard Elfyn Jones, a aned ym Mlaenau Ffestiniog, yn un o gerddorion mwyaf amryddawn ei genhedlaeth, sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel arweinydd ac organydd, darlithydd, awdur, athronydd, ysgolhaig, a beirniad cerdd, ac ymysg ei gyhoeddiadau ceir erthygl ar David Wynne, A. N. Whitehead, a llyfr ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth ac athroniaeth (gw. Jones 1979, 2000 a 2007).

Astudiodd gyfansoddi gyda William Mathias (1934-92) a Reginald Smith Brindle (1917-2003) yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd raddau BA ac MMus a bu’n fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth gan Goleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO) yn 1967 pan enillodd Wobr Limpus am ei berfformiadau. Yn 1978, dyfarnwyd iddo radd PhD am ei waith ar operâu y cyfansoddwr o Loegr, Michael Tippett (1905-98).

Treuliodd ei yrfa gyfan yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr amryddawn ac eang ei ystod, bu’n awdur nifer o lyfrau, yn eu plith gyfrol ar waith ei gyfaill o gyfansoddwr David Wynne (1979) a The Early Operas of Michael Tippett (1996). Ond mae ei brif gyfraniad fel ysgolhaig ym maes athroniaeth cerddoriaeth, a gwelir hyn yn bennaf yn Music and the Numinous (2007), gwaith crefyddol ei naws sy’n trafod natur sylfaenol cerddoriaeth (ac i ryw raddau’r celfyddydau eraill) trwy dechnegau arloesol ymresymu athroniaeth Proses.

Yn gynnar yn ei yrfa, gwnaeth enw iddo’i hun fel organydd gan ymddangos fel datgeinydd bymtheg o weithiau ar BBC Radio 3. Fel arweinydd cerddorfaol, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ryngwladol Guido Cantelli ym Milan yn 1980. Ond bu ei bwyslais mwyaf ar arwain corawl. Bu’n arweinydd Côr Poliffonig Caerdydd (1977-91) ac Ensemble Lleisiol Cymru. Bu’n gorws-feistr hefyd ar gyfer perfformiadau teledu a radio gan weithio’n agos gydag arweinyddion megis Colin Davis, Andrew Davies, Roger Norrington, John Eliot Gardiner a Neville Marriner.

Cyfansoddodd ar gyfer nifer o gerddorion cyfoes adnabyddus, yn eu plith Bryn Terfel, Gillian Weir, John Scott, Jack Brymer, Pedwarawd Llinynnol Britten, Llŷr Williams, Huw Tregelles Williams; ysgrifennodd hefyd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn yr 1990au bu’n ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu, a denodd ei gerddoriaeth ar gyfer cyfresi teledu Timeline ac After the Warming (Maryland PBS, 1990) yn yr Unol Daleithiau sylw rhyngwladol. Rhwng 1996 a 2004, ef oedd ymgynghorydd cerddoriaeth glasurol S4C.

O ran arddull ei gyfansoddiadau, mae ei grefft ofalus yn cwmpasu’r traddodiadol ac yn ddyledus i raddau i waith cyfansoddwyr y tir canol megis ei hen athro, William Mathias. Ceir hefyd elfen o arddull gynnar a chyfnod canol Tippett a Messiaen. Mae’r rhythmau yn aml yn gymhleth ond cyplysir hynny gydag awydd amlwg i gyfathrebu. Ysgrifennodd ymhell dros gant o weithiau bach a mawr. Mae’n cwmpasu genres megis gweithiau siambr a darnau allweddellol, corawl a cherddorfaol fel ei gilydd. Derbyniodd gomisiynau gan y prif wyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Daw ei dras Gymreig yn amlwg ar brydiau megis yn y trefniannau o alawon gwerin, Tair Cân Werin Gymreig ar gyfer mezzo-soprano a cherddorfa (a gymharwyd o ran arddull i’r Songs of the Auvergne gan Canteloube), a Cyfaredd Bro i gôr a cherddorfa a gyfansoddodd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1986.

Dangosodd allu arbennig yn y darnau corawl a lleisiol wrth osod geiriau gan Saunders Lewis, Vernon Watkins, Gerard Manley Hopkins a sawl bardd Cymraeg cyfoes. Ymhlith ei weithiau mwyaf nodedig y mae’r Brangwyn Overture (1981) a gyfansoddwyd ar gyfer organ Neuadd y Brangwyn, Abertawe, i’w berfformio gan Gillian Weir, ac a recordiwyd ar label Vienna Modern Masters gan Gerddorfa Symffoni Kraków. Mae’n waith hynod effeithiol ac idiomatig a ddylai gael ei berfformio’n amlach yn rhyngwladol (‘a Proms must if not heard before on the South Bank,’ yn ôl un adolygiad yn The Sunday Times).

Clywyd y gantata estynedig i soprano, côr a cherddorfa, Goroesiad Cenedl, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Roedd y gwaith hwn yn ffrwyth cydweithio llwyddiannus rhwng y cyfansoddwr a’r bardd Alan Llwyd. Gwaith tebyg ond gyda geiriau Saesneg yw In David’s Land (2006), gwaith corawl cenedlaetholgar arall ar raddfa eang i gôr, unawdwyr a cherddorfa a gomisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun yn 2006. Mae’r ddau waith corawl hyn yn arddangos dawn y cyfansoddwr i greu cerddoriaeth emosiynol bwerus wrth drin cynfas eang.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Richard Elfyn Jones, David Wynne (Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)
  • ———, ‘AN Whitehead and Music: Real Time’, The Musical Times, 14/1873 (Gaeaf, 2000), 47–52
  • ———, Music and the Numinous (Rodopi, 2007)
  • Tŷ Cerdd (archifau a gwefan)

__NOAUTOLINKS__


Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.