Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Williams, D. E. Parry (1900-96)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Addysgwr, cyfansoddwr, darlledwr ac ysgolhaig. Ganed David Ewart Parry Williams yng Nglyn-nedd ar adeg pan oedd addysg a chyfleoedd cerddorol yn brin a dirwasgiad troad y ganrif yn gwmwl dros y gymuned gyfan. Canu cynulleidfaol Capel y Bedyddwyr (Bethania) a menter ei ewythr yn prynu casgliad o offerynnau llinynnol a barodd iddo ymddiddori mewn cerddoriaeth. Fel chwaraewr ''cello'', bu’n aelod o bedwarawd a ddaeth, yn y man, i gyfeilio i berfformiadau o’r ''Messiah'' (Handel), a hynny’n groes i draddodiad Ymneilltuol y dydd. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn 17 oed ac ar sail ei brofiad gwyddonol dilynodd gwrs gradd mewn cemeg yng Ngholeg [[Prifysgol]] De Cymru a Mynwy, Caerdydd, gan nad oedd cerddoriaeth bryd hynny yn bwnc digon derbyniol ar gyfer gyrfa broffesiynol. | + | Addysgwr, cyfansoddwr, darlledwr ac ysgolhaig. Ganed David Ewart Parry Williams yng Nglyn-nedd ar adeg pan oedd addysg a chyfleoedd cerddorol yn brin a dirwasgiad troad y ganrif yn gwmwl dros y gymuned gyfan. Canu cynulleidfaol Capel y Bedyddwyr (Bethania) a menter ei ewythr yn prynu casgliad o offerynnau llinynnol a barodd iddo ymddiddori mewn cerddoriaeth. Fel chwaraewr ''cello'', bu’n aelod o bedwarawd a ddaeth, yn y man, i gyfeilio i berfformiadau o’r ''Messiah'' (Handel), a hynny’n groes i draddodiad Ymneilltuol y dydd. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn 17 oed ac ar sail ei brofiad gwyddonol dilynodd gwrs gradd mewn cemeg yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] De Cymru a Mynwy, Caerdydd, gan nad oedd cerddoriaeth bryd hynny yn bwnc digon derbyniol ar gyfer gyrfa broffesiynol. |
− | Yn 23 oed, fodd bynnag, wrth i’r dynfa i fyd cyfansoddi a pherfformio gryfhau, enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (dyfarnwyd ysgoloriaeth gyffelyb i [[Grace Williams]] yr un pryd). Treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn arbenigo yn y maes gan feithrin profiad, er enghraifft trwy gyfrwng gwersi arwain gyda Syr Adrian Boult (1889-1983) ac ennill doethuriaeth, cyn derbyn swydd athro cerdd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac Ysgol Lewis, Pengam. Sylwai Parry Williams, fodd bynnag, ar yr adfywiad cerddorol a oedd ar droed yn Lloegr yr adeg honno, a chyfraniad allweddol unigolion fel Elgar, Delius a Vaughan Williams. Ymddiddorai hefyd yng nghrefft y cyfansoddwyr Ewropeaidd gan gynnwys Debussy, Strauss a’r Schoenberg ifanc, a gresynai fod datblygiadau addysg gerddorol yng Nghymru mor araf a digyfeiriad. | + | Yn 23 oed, fodd bynnag, wrth i’r dynfa i fyd cyfansoddi a pherfformio gryfhau, enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (dyfarnwyd ysgoloriaeth gyffelyb i [[Williams, Grace (1906-77) | Grace Williams]] yr un pryd). Treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn arbenigo yn y maes gan feithrin profiad, er enghraifft trwy gyfrwng gwersi arwain gyda Syr Adrian Boult (1889-1983) ac ennill doethuriaeth, cyn derbyn swydd athro cerdd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac Ysgol Lewis, Pengam. Sylwai Parry Williams, fodd bynnag, ar yr adfywiad cerddorol a oedd ar droed yn Lloegr yr adeg honno, a chyfraniad allweddol unigolion fel Elgar, Delius a Vaughan Williams. Ymddiddorai hefyd yng nghrefft y cyfansoddwyr Ewropeaidd gan gynnwys Debussy, Strauss a’r Schoenberg ifanc, a gresynai fod datblygiadau addysg gerddorol yng Nghymru mor araf a digyfeiriad. |
− | Ei ddymuniad oedd adfer y sefyllfa er budd ei gyd- | + | Ei ddymuniad oedd adfer y sefyllfa er budd ei gyd-genedl. Cyhoeddwyd ei gyfrol ''Elfennau Cerddoriaeth'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938) fel cam i’r cyfeiriad hwnnw. Er mai gwrthbwynt yr 16g. oedd un o ddiddordebau pennaf Parry Williams, pwysleisiai bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth gadarn o gynghanedd gerddorol ac adleisir hynny yn ei gyfrol, y cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni yn 1953. |
− | genedl. Cyhoeddwyd ei gyfrol ''Elfennau Cerddoriaeth'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938) fel cam i’r cyfeiriad hwnnw. Er mai gwrthbwynt yr 16g. oedd un o ddiddordebau pennaf Parry Williams, pwysleisiai bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth gadarn o gynghanedd gerddorol ac adleisir hynny yn ei gyfrol, y cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni yn 1953. | ||
− | Fel cyfansoddwr, mae ei iaith greadigol yn gwbl donyddol a soniarus. Ni ddewisodd ymgorffori [[alawon traddodiadol]] Cymreig yn ei weithiau offerynnol, gan fodloni’n hytrach ar lunio trefniannau syml ond hynod effeithiol o ganeuon brodorol Cymru ar gyfer llais a chyfeiliant piano. Yn dilyn ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1943, gan olynu’r cyfansoddwr [[E. T. Davies]] (Dowlais), mynnodd ddenu darlithwyr ifanc ([[William Mathias]], [[Robert Smith]], [[Reginald Smith Brindle]], Bernard Rands a [[John Hywel]]) a fyddai’n dyrchafu’r adran i statws rhyngwladol ac a fyddai’n cynnig yr addysg gerddorol orau a mwyaf blaengar i gyw gerddorion y cyfnod. | + | Fel cyfansoddwr, mae ei iaith greadigol yn gwbl donyddol a soniarus. Ni ddewisodd ymgorffori [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon traddodiadol]] Cymreig yn ei weithiau offerynnol, gan fodloni’n hytrach ar lunio trefniannau syml ond hynod effeithiol o ganeuon brodorol Cymru ar gyfer llais a chyfeiliant piano. Yn dilyn ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1943, gan olynu’r cyfansoddwr [[Davies, E. T. (1878-1969) | E. T. Davies]] (Dowlais), mynnodd ddenu darlithwyr ifanc ([[Mathias, William (1934-92) | William Mathias]], [[Smith, Robert (1922-98) | Robert Smith]], [[Smith Brindle, Reginald (1917-2003) | Reginald Smith Brindle]], Bernard Rands a [[Hywel, John (g.1941) | John Hywel]]) a fyddai’n dyrchafu’r adran i statws rhyngwladol ac a fyddai’n cynnig yr addysg gerddorol orau a mwyaf blaengar i gyw gerddorion y cyfnod. |
− | Bu’n aelod o bwyllgor sefydlu Cyngor Celfyddydau Cymru (1945-49) ac yn gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerdd y Cyngor rhwng 1955 ac 1962. Treuliodd gyfnod fel aelod o fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru a sicrhau bod cerddoriaeth a chyfansoddiadau’r to newydd o gerddorion Cymreig yn hawlio’u lle. Fel un a ymddiddorodd gymaint mewn [[addysgu]] cerddoriaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, bu ei gyfraniad i Bwyllgor Termau Cerddoriaeth yn anfesuradwy (cyhoeddwyd y geiriadur yn 1984) a’i gyfraniad at [[ysgolheictod]] hefyd yn bwysig. Cefnogai [[Eisteddfod]] Llangollen oherwydd amrywiaeth y gerddoriaeth a ddeuai i sylw’r Cymry ond uwchlaw popeth ymhyfrydai yn natblygiad adran gerdd Coleg y Gogledd ym Mangor (Prifysgol Bangor erbyn heddiw) y bu’n gymaint rhan ohoni am gyfran sylweddol o’i oes. | + | Bu’n aelod o bwyllgor sefydlu Cyngor Celfyddydau Cymru (1945-49) ac yn gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerdd y Cyngor rhwng 1955 ac 1962. Treuliodd gyfnod fel aelod o fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru a sicrhau bod cerddoriaeth a chyfansoddiadau’r to newydd o gerddorion Cymreig yn hawlio’u lle. Fel un a ymddiddorodd gymaint mewn [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysgu]] cerddoriaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, bu ei gyfraniad i Bwyllgor Termau Cerddoriaeth yn anfesuradwy (cyhoeddwyd y geiriadur yn 1984) a’i gyfraniad at [[Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg | ysgolheictod]] hefyd yn bwysig. Cefnogai [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Llangollen oherwydd amrywiaeth y gerddoriaeth a ddeuai i sylw’r Cymry ond uwchlaw popeth ymhyfrydai yn natblygiad adran gerdd Coleg y Gogledd ym Mangor (Prifysgol Bangor erbyn heddiw) y bu’n gymaint rhan ohoni am gyfran sylweddol o’i oes. |
'''Wyn Thomas''' | '''Wyn Thomas''' | ||
Llinell 27: | Llinell 26: | ||
*———, ''A Music Course for Students'' (Rhydychen, 1953) | *———, ''A Music Course for Students'' (Rhydychen, 1953) | ||
− | *Enid Parry, ‘Yr Athro Emeritws D. E. Parry-Williams yn | + | *Enid Parry, ‘Yr Athro Emeritws D. E. Parry-Williams yn 90 oed’, ''Y Traethodydd'' (Ebrill, 1991), 65–7 |
− | 90 oed’, ''Y Traethodydd'' (Ebrill, 1991), 65–7 | ||
*John Hywel, ‘D. E. Parry Williams (1900–1996): Teyrnged’, ''Cerddoriaeth Cymru'', 9/9 (Haf, 1997), 15–20 | *John Hywel, ‘D. E. Parry Williams (1900–1996): Teyrnged’, ''Cerddoriaeth Cymru'', 9/9 (Haf, 1997), 15–20 |
Y diwygiad cyfredol, am 21:38, 13 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Addysgwr, cyfansoddwr, darlledwr ac ysgolhaig. Ganed David Ewart Parry Williams yng Nglyn-nedd ar adeg pan oedd addysg a chyfleoedd cerddorol yn brin a dirwasgiad troad y ganrif yn gwmwl dros y gymuned gyfan. Canu cynulleidfaol Capel y Bedyddwyr (Bethania) a menter ei ewythr yn prynu casgliad o offerynnau llinynnol a barodd iddo ymddiddori mewn cerddoriaeth. Fel chwaraewr cello, bu’n aelod o bedwarawd a ddaeth, yn y man, i gyfeilio i berfformiadau o’r Messiah (Handel), a hynny’n groes i draddodiad Ymneilltuol y dydd. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn 17 oed ac ar sail ei brofiad gwyddonol dilynodd gwrs gradd mewn cemeg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, gan nad oedd cerddoriaeth bryd hynny yn bwnc digon derbyniol ar gyfer gyrfa broffesiynol.
Yn 23 oed, fodd bynnag, wrth i’r dynfa i fyd cyfansoddi a pherfformio gryfhau, enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (dyfarnwyd ysgoloriaeth gyffelyb i Grace Williams yr un pryd). Treuliodd yr wyth mlynedd nesaf yn arbenigo yn y maes gan feithrin profiad, er enghraifft trwy gyfrwng gwersi arwain gyda Syr Adrian Boult (1889-1983) ac ennill doethuriaeth, cyn derbyn swydd athro cerdd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf, ac Ysgol Lewis, Pengam. Sylwai Parry Williams, fodd bynnag, ar yr adfywiad cerddorol a oedd ar droed yn Lloegr yr adeg honno, a chyfraniad allweddol unigolion fel Elgar, Delius a Vaughan Williams. Ymddiddorai hefyd yng nghrefft y cyfansoddwyr Ewropeaidd gan gynnwys Debussy, Strauss a’r Schoenberg ifanc, a gresynai fod datblygiadau addysg gerddorol yng Nghymru mor araf a digyfeiriad.
Ei ddymuniad oedd adfer y sefyllfa er budd ei gyd-genedl. Cyhoeddwyd ei gyfrol Elfennau Cerddoriaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938) fel cam i’r cyfeiriad hwnnw. Er mai gwrthbwynt yr 16g. oedd un o ddiddordebau pennaf Parry Williams, pwysleisiai bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth gadarn o gynghanedd gerddorol ac adleisir hynny yn ei gyfrol, y cyhoeddwyd fersiwn Saesneg ohoni yn 1953.
Fel cyfansoddwr, mae ei iaith greadigol yn gwbl donyddol a soniarus. Ni ddewisodd ymgorffori alawon traddodiadol Cymreig yn ei weithiau offerynnol, gan fodloni’n hytrach ar lunio trefniannau syml ond hynod effeithiol o ganeuon brodorol Cymru ar gyfer llais a chyfeiliant piano. Yn dilyn ei benodi’n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1943, gan olynu’r cyfansoddwr E. T. Davies (Dowlais), mynnodd ddenu darlithwyr ifanc ( William Mathias, Robert Smith, Reginald Smith Brindle, Bernard Rands a John Hywel) a fyddai’n dyrchafu’r adran i statws rhyngwladol ac a fyddai’n cynnig yr addysg gerddorol orau a mwyaf blaengar i gyw gerddorion y cyfnod.
Bu’n aelod o bwyllgor sefydlu Cyngor Celfyddydau Cymru (1945-49) ac yn gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerdd y Cyngor rhwng 1955 ac 1962. Treuliodd gyfnod fel aelod o fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru a sicrhau bod cerddoriaeth a chyfansoddiadau’r to newydd o gerddorion Cymreig yn hawlio’u lle. Fel un a ymddiddorodd gymaint mewn addysgu cerddoriaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, bu ei gyfraniad i Bwyllgor Termau Cerddoriaeth yn anfesuradwy (cyhoeddwyd y geiriadur yn 1984) a’i gyfraniad at ysgolheictod hefyd yn bwysig. Cefnogai Eisteddfod Llangollen oherwydd amrywiaeth y gerddoriaeth a ddeuai i sylw’r Cymry ond uwchlaw popeth ymhyfrydai yn natblygiad adran gerdd Coleg y Gogledd ym Mangor (Prifysgol Bangor erbyn heddiw) y bu’n gymaint rhan ohoni am gyfran sylweddol o’i oes.
Wyn Thomas
Cyfansoddiadau
- Ar Gynywair (1954), ar gyfer soprano a phiano
Llyfryddiaeth
- D. E. Parry Williams, Alawon Cenedlaethol Cymru Cyf. 2 (Caerdydd, 1922)
- ———, Elfennau Cerddoriaeth (Caerdydd, 1938)
- ———, A Music Course for Students (Rhydychen, 1953)
- Enid Parry, ‘Yr Athro Emeritws D. E. Parry-Williams yn 90 oed’, Y Traethodydd (Ebrill, 1991), 65–7
- John Hywel, ‘D. E. Parry Williams (1900–1996): Teyrnged’, Cerddoriaeth Cymru, 9/9 (Haf, 1997), 15–20
- D. E. Parry Williams, Cân y werin/Songs of the people [casgliad o 24 alaw werin Gymreig gyda’r hen benillion] (Penygroes, 2003)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.