Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cystadlaethau Cerddorol"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddori...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
+ | __NOAUTOLINKS__ | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | + | ==BBC Canwr y Byd== | |
− | Un o ddyrnaid dethol o gystadlaethau canu rhyngwladol sydd i’w cael ac un sy’n dwyn cryn sylw i Gymru. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn yn y brifddinas a’r trefnwyr yw BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor y Ddinas. Syniad J. Mervyn Williams (1935–2009), pan oedd yn bennaeth cerdd BBC Cymru, oedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1983, ac Anna Williams a fu’n gweinyddu’r digwyddiad o’r cychwyn. Yr enillydd cyntaf oedd Karita Mattila (g.1960), soprano o’r Ffindir sydd bellach yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd. | + | Un o ddyrnaid dethol o gystadlaethau canu rhyngwladol sydd i’w cael ac un sy’n dwyn cryn sylw i Gymru. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn yn y brifddinas a’r trefnwyr yw BBC Cymru ar y cyd ag [[Opera]] Cenedlaethol Cymru a Chyngor y Ddinas. Syniad J. Mervyn Williams (1935–2009), pan oedd yn bennaeth cerdd BBC Cymru, oedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1983, ac Anna Williams a fu’n gweinyddu’r digwyddiad o’r cychwyn. Yr enillydd cyntaf oedd Karita Mattila (g.1960), soprano o’r Ffindir sydd bellach yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd. |
− | Bydd rhai cannoedd o gantorion o bob cwr o’r byd yn ymgeisio am le yn y rowndiau terfynol a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant ( | + | Bydd rhai cannoedd o gantorion o bob cwr o’r byd yn ymgeisio am le yn y rowndiau terfynol a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant (Caerdydd), yn dilyn clyweliadau mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y byd. Fel arfer, enillydd cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymru sy’n cynrychioli’r famwlad. [[Noddwr]] cyntaf y gystadleuaeth oedd Joan Sutherland (1926–2010), ac fe’i holynwyd gan Kiri Te Kanawa (g.1944). Ceir darllediadau ar deledu gan BBC 4 a BBC Wales TV, ac ar radio gan BBC Radio 3 ynghyd â BBC Radio Cymru a Radio Wales. |
Yn 1989, dechreuwyd cyflwyno Gwobr Lieder, a ailenwyd yn Wobr y Gân yn 2001. O 2003, daeth y wobr hon yn gystadleuaeth ar wahân o dan yr enw BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Rosenblatt am Ddatganiad o Ganeuon; yn ddiweddarach newidiwyd yr enw i BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Caneuon y Byd. Yn 2001, enillwyd y ddwy wobr gan y tenor o Rwmania, Marios Brenciu (g.1973), ac ymhlith enillwyr y brif wobr y mae Nicole Cabell (2005), Shen Yang (2007) a Jamie Barton (2013). | Yn 1989, dechreuwyd cyflwyno Gwobr Lieder, a ailenwyd yn Wobr y Gân yn 2001. O 2003, daeth y wobr hon yn gystadleuaeth ar wahân o dan yr enw BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Rosenblatt am Ddatganiad o Ganeuon; yn ddiweddarach newidiwyd yr enw i BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Caneuon y Byd. Yn 2001, enillwyd y ddwy wobr gan y tenor o Rwmania, Marios Brenciu (g.1973), ac ymhlith enillwyr y brif wobr y mae Nicole Cabell (2005), Shen Yang (2007) a Jamie Barton (2013). | ||
− | Roedd yr ymgiprys yng nghystadleuaeth 1989 rhwng y [[Bryn Terfel]] ifanc a’r bariton o Siberia, Dimitri Hvorostovsky ( | + | Roedd yr ymgiprys yng nghystadleuaeth 1989 rhwng y [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] ifanc a’r bariton o Siberia, Dimitri Hvorostovsky (1962-2017), gyda’r naill yn ennill y Wobr Lieder a’r llall yn cipio’r brif wobr yn hynod o gofiadwy. Cafodd y ddau yrfaoedd hynod lewyrchus wedi hynny er mai’r Cymro a fwynhaodd yr ystod fwyaf eang o waith o safbwynt ''repertoire''. Ymhlith y beirniaid bu rhai o’r cantorion a’r cerddorion gorau, yn eu plith Syr [[Evans, Geraint (1922-92) | Geraint Evans]], Carlo Bergonzi, Marilyn Horne, Anne Evans, Gwyneth Jones a Gundula Janowitz. Mae ennill y gystadleuaeth yn sicr yn hwb mawr i yrfa canwr ifanc ar drothwy gyrfa ryngwladol, ond mae’r broses o gystadlu ynddi ei hun yn cynnig cyfle i gantorion droedio un o’r llwyfannau pwysicaf o’i fath yn y byd cerdd cyfoes. |
'''Lyn Davies''' | '''Lyn Davies''' | ||
Llinell 15: | Llinell 16: | ||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *''https://cy.wikipedia.org/wiki/BBC_Canwr_y_Byd_Caerdydd'' | |
− | + | *''https://www.bbc.co.uk/programmes/po1c4fsn'' | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 22:07, 16 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
BBC Canwr y Byd
Un o ddyrnaid dethol o gystadlaethau canu rhyngwladol sydd i’w cael ac un sy’n dwyn cryn sylw i Gymru. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn yn y brifddinas a’r trefnwyr yw BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor y Ddinas. Syniad J. Mervyn Williams (1935–2009), pan oedd yn bennaeth cerdd BBC Cymru, oedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1983, ac Anna Williams a fu’n gweinyddu’r digwyddiad o’r cychwyn. Yr enillydd cyntaf oedd Karita Mattila (g.1960), soprano o’r Ffindir sydd bellach yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd.
Bydd rhai cannoedd o gantorion o bob cwr o’r byd yn ymgeisio am le yn y rowndiau terfynol a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant (Caerdydd), yn dilyn clyweliadau mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y byd. Fel arfer, enillydd cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymru sy’n cynrychioli’r famwlad. Noddwr cyntaf y gystadleuaeth oedd Joan Sutherland (1926–2010), ac fe’i holynwyd gan Kiri Te Kanawa (g.1944). Ceir darllediadau ar deledu gan BBC 4 a BBC Wales TV, ac ar radio gan BBC Radio 3 ynghyd â BBC Radio Cymru a Radio Wales.
Yn 1989, dechreuwyd cyflwyno Gwobr Lieder, a ailenwyd yn Wobr y Gân yn 2001. O 2003, daeth y wobr hon yn gystadleuaeth ar wahân o dan yr enw BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Rosenblatt am Ddatganiad o Ganeuon; yn ddiweddarach newidiwyd yr enw i BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Caneuon y Byd. Yn 2001, enillwyd y ddwy wobr gan y tenor o Rwmania, Marios Brenciu (g.1973), ac ymhlith enillwyr y brif wobr y mae Nicole Cabell (2005), Shen Yang (2007) a Jamie Barton (2013).
Roedd yr ymgiprys yng nghystadleuaeth 1989 rhwng y Bryn Terfel ifanc a’r bariton o Siberia, Dimitri Hvorostovsky (1962-2017), gyda’r naill yn ennill y Wobr Lieder a’r llall yn cipio’r brif wobr yn hynod o gofiadwy. Cafodd y ddau yrfaoedd hynod lewyrchus wedi hynny er mai’r Cymro a fwynhaodd yr ystod fwyaf eang o waith o safbwynt repertoire. Ymhlith y beirniaid bu rhai o’r cantorion a’r cerddorion gorau, yn eu plith Syr Geraint Evans, Carlo Bergonzi, Marilyn Horne, Anne Evans, Gwyneth Jones a Gundula Janowitz. Mae ennill y gystadleuaeth yn sicr yn hwb mawr i yrfa canwr ifanc ar drothwy gyrfa ryngwladol, ond mae’r broses o gystadlu ynddi ei hun yn cynnig cyfle i gantorion droedio un o’r llwyfannau pwysicaf o’i fath yn y byd cerdd cyfoes.
Lyn Davies
Llyfryddiaeth
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.