Cystadlaethau Cerddorol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

BBC Canwr y Byd

Un o ddyrnaid dethol o gystadlaethau canu rhyngwladol sydd i’w cael ac un sy’n dwyn cryn sylw i Gymru. Fe’i cynhelir bob yn ail flwyddyn yn y brifddinas a’r trefnwyr yw BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru a Chyngor y Ddinas. Syniad J. Mervyn Williams (1935–2009), pan oedd yn bennaeth cerdd BBC Cymru, oedd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1983, ac Anna Williams a fu’n gweinyddu’r digwyddiad o’r cychwyn. Yr enillydd cyntaf oedd Karita Mattila (g.1960), soprano o’r Ffindir sydd bellach yn un o gantorion mwyaf adnabyddus y byd.

Bydd rhai cannoedd o gantorion o bob cwr o’r byd yn ymgeisio am le yn y rowndiau terfynol a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant (Caerdydd), yn dilyn clyweliadau mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y byd. Fel arfer, enillydd cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymru sy’n cynrychioli’r famwlad. Noddwr cyntaf y gystadleuaeth oedd Joan Sutherland (1926–2010), ac fe’i holynwyd gan Kiri Te Kanawa (g.1944). Ceir darllediadau ar deledu gan BBC 4 a BBC Wales TV, ac ar radio gan BBC Radio 3 ynghyd â BBC Radio Cymru a Radio Wales.

Yn 1989, dechreuwyd cyflwyno Gwobr Lieder, a ailenwyd yn Wobr y Gân yn 2001. O 2003, daeth y wobr hon yn gystadleuaeth ar wahân o dan yr enw BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Rosenblatt am Ddatganiad o Ganeuon; yn ddiweddarach newidiwyd yr enw i BBC Canwr y Byd Caerdydd – Gwobr Caneuon y Byd. Yn 2001, enillwyd y ddwy wobr gan y tenor o Rwmania, Marios Brenciu (g.1973), ac ymhlith enillwyr y brif wobr y mae Nicole Cabell (2005), Shen Yang (2007) a Jamie Barton (2013).

Roedd yr ymgiprys yng nghystadleuaeth 1989 rhwng y Bryn Terfel ifanc a’r bariton o Siberia, Dimitri Hvorostovsky (1962-2017), gyda’r naill yn ennill y Wobr Lieder a’r llall yn cipio’r brif wobr yn hynod o gofiadwy. Cafodd y ddau yrfaoedd hynod lewyrchus wedi hynny er mai’r Cymro a fwynhaodd yr ystod fwyaf eang o waith o safbwynt repertoire. Ymhlith y beirniaid bu rhai o’r cantorion a’r cerddorion gorau, yn eu plith Syr Geraint Evans, Carlo Bergonzi, Marilyn Horne, Anne Evans, Gwyneth Jones a Gundula Janowitz. Mae ennill y gystadleuaeth yn sicr yn hwb mawr i yrfa canwr ifanc ar drothwy gyrfa ryngwladol, ond mae’r broses o gystadlu ynddi ei hun yn cynnig cyfle i gantorion droedio un o’r llwyfannau pwysicaf o’i fath yn y byd cerdd cyfoes.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.