Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hughes, Arwel (1909-1988)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Gadawodd Arwel Hughes gorff sylweddol o weithiau swmpus. Roedd dylanwad Vaughan Williams yn drwm arno ac yn ei weithiau gorau ceir naws gyfriniol, ‘Geltaidd’ hefyd. Roedd yn felodist naturiol, yn gyfansoddwr greddfol ar gyfer cerddorfa, yn dechnegol gywrain ac yn medru rheoli cynfasau eang trwy ei ddefnydd o’r telynegol a’r dramatig yn eu tro. Wrth iddo ddatblygu, daeth ei waith yn agosach at y brif ffrwd mewn [[moderniaeth]] a dechreuodd wneud defnydd dychmygus o anghytgordiau. | Gadawodd Arwel Hughes gorff sylweddol o weithiau swmpus. Roedd dylanwad Vaughan Williams yn drwm arno ac yn ei weithiau gorau ceir naws gyfriniol, ‘Geltaidd’ hefyd. Roedd yn felodist naturiol, yn gyfansoddwr greddfol ar gyfer cerddorfa, yn dechnegol gywrain ac yn medru rheoli cynfasau eang trwy ei ddefnydd o’r telynegol a’r dramatig yn eu tro. Wrth iddo ddatblygu, daeth ei waith yn agosach at y brif ffrwd mewn [[moderniaeth]] a dechreuodd wneud defnydd dychmygus o anghytgordiau. | ||
− | Mae dylanwad Vaughan Williams ar ei amlycaf mewn nifer o’i weithiau cynnar, megis y ''Fantasia i Gerddorfa Linynnol'' (1936) sy’n seiliedig ar hen alaw Gymreig. Felly hefyd un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, ''Gweddi'' (1944), ar gyfer côr a cherddorfa, a’r ''Preliwd i Gerddorfa'' (1947). Ceir peth adlais o Jean Sibelius (1865–1957) yn y gwaith cerddorfaol ''Anatiomaros'' (1943). Erbyn yr 1950au cynnar roedd profiad blynyddoedd o drefnu ac ysgrifennu (yn aml ar fyr rybudd) ar gyfer cerddorfa’r BBC wedi talu ar ei ganfed iddo. Dyma gyfnod gweithiau mawr, megis yr operâu ''Menna'' (1954) a ''Serch yw’r Doctor'' (1960), addasiad gan [[Saunders Lewis]] o gomedi Molière, y ddwy yn gynyrchiadau Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yn yr un cyfnod roedd yr oratorios ''Dewi Sant'' (1950) a ''Pantycelyn'' (1963) yn ffrwyth cydweithio rhwng y cyfansoddwr ac Aneirin Talfan Davies, a oedd hefyd ar staff y BBC, ac maent yn esiamplau nodedig o’i feistrolaeth ar adnoddau cerddorol ar raddfa fawr. | + | [[Delwedd:Salm 148 Arwel Hughes.png|bawd|chwith|<small>Agoriad ''Salm 148'' gan Arwel Hughes (Cyhoeddiadau Oriana).</small>]] Mae dylanwad Vaughan Williams ar ei amlycaf mewn nifer o’i weithiau cynnar, megis y ''Fantasia i Gerddorfa Linynnol'' (1936) sy’n seiliedig ar hen alaw Gymreig. Felly hefyd un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, ''Gweddi'' (1944), ar gyfer côr a cherddorfa, a’r ''Preliwd i Gerddorfa'' (1947). Ceir peth adlais o Jean Sibelius (1865–1957) yn y gwaith cerddorfaol ''Anatiomaros'' (1943). Erbyn yr 1950au cynnar roedd profiad blynyddoedd o drefnu ac ysgrifennu (yn aml ar fyr rybudd) ar gyfer cerddorfa’r BBC wedi talu ar ei ganfed iddo. Dyma gyfnod gweithiau mawr, megis yr operâu ''Menna'' (1954) a ''Serch yw’r Doctor'' (1960), addasiad gan [[Saunders Lewis]] o gomedi Molière, y ddwy yn gynyrchiadau Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yn yr un cyfnod roedd yr oratorios ''Dewi Sant'' (1950) a ''Pantycelyn'' (1963) yn ffrwyth cydweithio rhwng y cyfansoddwr ac Aneirin Talfan Davies, a oedd hefyd ar staff y BBC, ac maent yn esiamplau nodedig o’i feistrolaeth ar adnoddau cerddorol ar raddfa fawr. |
− | + | Rhai o’i weithiau pwysig eraill yw ei dri phedwarawd llinynnol (1948, 1976 a 1983), nifer helaeth o ddarnau [[Corau Cymysg | corawl]] a chaneuon, a darnau i gorau meibion megis ''Psalm 148'' (1969), a gyhoeddwyd gan Ricordi, ac sy’n rhythmig ymwthiol o’r cychwyn. | |
Ymhlith ei ddarnau cerddorfaol amrywiol y mae ei ''Simffoni'' (1971) yn waith pwysig sy’n haeddu mwy o sylw. Mae ystod eang ei gerddoriaeth a chysondeb ei dechneg yn ddrych o feddylfryd cerddorol aruchel ar ei orau. | Ymhlith ei ddarnau cerddorfaol amrywiol y mae ei ''Simffoni'' (1971) yn waith pwysig sy’n haeddu mwy o sylw. Mae ystod eang ei gerddoriaeth a chysondeb ei dechneg yn ddrych o feddylfryd cerddorol aruchel ar ei orau. |
Y diwygiad cyfredol, am 16:22, 26 Awst 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Petai Arwel Hughes heb gyfansoddi yr un darn arall ac eithrio’r emyn-dôn odidog ‘Tydi a roddaist’ (1938), byddai ei enw fel cyfansoddwr yn para tra pery canu crefyddol. Ond roedd llawer mwy i fywyd a gwaith y cerddor a’r cyfansoddwr, yr organydd, yr arweinydd a’r gweinyddwr hwn. Un o fechgyn Rhosllannerchrugog ydoedd a datblygodd ei yrfa gerddorol yn gynnar iawn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon cyn mynd i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain lle daeth o dan ddylanwad Ralph Vaughan Williams (1872–1958) a derbyn yn ogystal wersi gyda Charles Herbert Kitson (1874–1944), awdur llyfrau ar harmoni a gwrthbwynt.
Roedd Arwel Hughes yn organydd dawnus ac am gyfnod bu’n chwarae yn Eglwys St Philip a St James yn Rhydychen cyn symud i Gaerdydd lle bu’n aelod o staff y BBC o 1935 ymlaen. Ynghyd â Mansel Thomas (1909–86) ac Idris Lewis (1889–1952), bu ei ddylanwad ar gerddoriaeth Cymru o’r pwys mwyaf, yn arbennig yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Fe’i penodwyd yn bennaeth cerdd yn BBC Cymru yn 1965, i olynu Thomas, ac wedi ymddeol bu’n drefnydd cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o 1978 hyd 1986. Derbyniodd MMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a chafodd yr OBE yn 1969.
Mae’r gymhariaeth rhwng Arwel Hughes a’i gyfaill Mansel Thomas yn ddifyr ddigon. Gweithiau bychain yw’r mwyafrif o gyfansoddiadau Thomas, ond roedd Hughes yn hoffi gweithio ar raddfa fwy. Fel y dengys cofnodion y BBC yn Llundain, roedd y ddau’n brwydro’n galed dros fuddiannau cerddorol Cymru gyda’r awdurdodau yn Llundain a gellir dadlau bod pwysau galwedigaethol yn gyffredinol, ynghyd â’r ddyletswydd i hybu gyrfaoedd cyfansoddwyr eraill megis Alun Hoddinott, William Mathias, Daniel Jones, Grace Williams a David Wynne, wedi golygu na allent ymroi mor llwyr i gyfansoddi ag y byddent wedi dymuno. Ar sail eu cyfraniad yn annog eraill, cyflwynwyd Gwobr Goffa John Edwards i’r ddau yn eu tro gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Gadawodd Arwel Hughes gorff sylweddol o weithiau swmpus. Roedd dylanwad Vaughan Williams yn drwm arno ac yn ei weithiau gorau ceir naws gyfriniol, ‘Geltaidd’ hefyd. Roedd yn felodist naturiol, yn gyfansoddwr greddfol ar gyfer cerddorfa, yn dechnegol gywrain ac yn medru rheoli cynfasau eang trwy ei ddefnydd o’r telynegol a’r dramatig yn eu tro. Wrth iddo ddatblygu, daeth ei waith yn agosach at y brif ffrwd mewn moderniaeth a dechreuodd wneud defnydd dychmygus o anghytgordiau.
Mae dylanwad Vaughan Williams ar ei amlycaf mewn nifer o’i weithiau cynnar, megis y Fantasia i Gerddorfa Linynnol (1936) sy’n seiliedig ar hen alaw Gymreig. Felly hefyd un o’i weithiau mwyaf poblogaidd, Gweddi (1944), ar gyfer côr a cherddorfa, a’r Preliwd i Gerddorfa (1947). Ceir peth adlais o Jean Sibelius (1865–1957) yn y gwaith cerddorfaol Anatiomaros (1943). Erbyn yr 1950au cynnar roedd profiad blynyddoedd o drefnu ac ysgrifennu (yn aml ar fyr rybudd) ar gyfer cerddorfa’r BBC wedi talu ar ei ganfed iddo. Dyma gyfnod gweithiau mawr, megis yr operâu Menna (1954) a Serch yw’r Doctor (1960), addasiad gan Saunders Lewis o gomedi Molière, y ddwy yn gynyrchiadau Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yn yr un cyfnod roedd yr oratorios Dewi Sant (1950) a Pantycelyn (1963) yn ffrwyth cydweithio rhwng y cyfansoddwr ac Aneirin Talfan Davies, a oedd hefyd ar staff y BBC, ac maent yn esiamplau nodedig o’i feistrolaeth ar adnoddau cerddorol ar raddfa fawr.Rhai o’i weithiau pwysig eraill yw ei dri phedwarawd llinynnol (1948, 1976 a 1983), nifer helaeth o ddarnau corawl a chaneuon, a darnau i gorau meibion megis Psalm 148 (1969), a gyhoeddwyd gan Ricordi, ac sy’n rhythmig ymwthiol o’r cychwyn.
Ymhlith ei ddarnau cerddorfaol amrywiol y mae ei Simffoni (1971) yn waith pwysig sy’n haeddu mwy o sylw. Mae ystod eang ei gerddoriaeth a chysondeb ei dechneg yn ddrych o feddylfryd cerddorol aruchel ar ei orau.
Lyn Davies
Disgyddiaeth
- Dewi Sant [et al] (Chandos CHAN8890, 1990)
- Through Gold and Silver Clouds [yn cynnwys ei Fantasia in A minor] (BIS BISCD1589, 2007)
- Anatiomaros [yn cynnwys Prelude for Orchestra, Suite for Orchestra, agorawd i Serch yw’r Doctor, ayyb.] (BIS, BISCD1674, 2011)
Gwefannau
Llyfryddiaeth
- John Davies, Broadcasting and the BBC in Wales (Caerdydd, 1994)
- Malcolm Boyd a Meuryn Hughes, ‘Hughes, Arwel’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain, 2001)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.