Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Church, Charlotte (g.1986)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn [[eisteddfodau]] yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998. | + | Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998. |
− | Wedi ymddangosiadau ar y [[rhaglenni teledu]] ''This Morning'' a ''The Big Big Talent Show'' yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus ''Voice of an Angel'' (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton. | + | Wedi ymddangosiadau ar y [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] ''This Morning'' a ''The Big Big Talent Show'' yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus ''Voice of an Angel'' (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton. |
− | Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm ''Charlotte Church'' (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, [[emyn-donau]] ac alawon [[gwerin]] poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, ''Dream a Dream'' (Sony, 2000), ar [[garolau]] Nadolig. Rhyddhawyd ''Enchantment'' flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, ''A Beautiful Mind'' (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei [[hunangofiant]] cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad [[canu pop]] gyda’r albwm ''Tissues & Issues'' (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer ''genres'' cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig. | + | Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm ''Charlotte Church'' (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, [[Emyn-donau | emyn-donau]] ac alawon [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]] poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, ''Dream a Dream'' (Sony, 2000), ar [[Carolau | garolau]] Nadolig. Rhyddhawyd ''Enchantment'' flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, ''A Beautiful Mind'' (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei [[hunangofiant]] cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] gyda’r albwm ''Tissues & Issues'' (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer ''genres'' cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig. [[Delwedd:Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).jpeg|thumb|<small>Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).</small>]] |
Am gyfnod, bu’r ''tabloids'' yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y [[papur newydd]] ''News of the World'' a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd ''The Charlotte Church Show'' ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008. | Am gyfnod, bu’r ''tabloids'' yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y [[papur newydd]] ''News of the World'' a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd ''The Charlotte Church Show'' ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008. | ||
− | Yn 2010 rhyddhawyd ''Back to Scratch'' (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y [[cwmnïau recordio]], fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: ''One'' (2012), ''Two'' (2013), ''Three'' (2013) a ''Four'' (2014). | + | Yn 2010 rhyddhawyd ''Back to Scratch'' (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y [[Cwmnïau Recordio yng Nghymru | cwmnïau recordio]], fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: ''One'' (2012), ''Two'' (2013), ''Three'' (2013) a ''Four'' (2014). |
− | Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a [[gwyliau]] roc. Nododd mewn | + | Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn ''Golwg'' ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999. |
− | Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel [[Aled Jones]]), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’. | + | Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel [[Jones, Aled (g.1970) | Aled Jones]]), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’. |
'''Tristian Evans''' | '''Tristian Evans''' | ||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Voice of an Angel'' (Sony SK60957, 1998) | |
− | + | *''Charlotte Church'' (Sony SK89003, 1999) | |
− | + | *''Dream a Dream'' (Sony SK89459, 2000) | |
− | + | *''Enchantment'' (Sony SK89710, 2001) | |
− | + | *''Tissues & Issues'' (Sony 5203462, 2005) | |
− | + | *''Back to Scratch'' (Dooby DOOBY001, 2010) | |
− | + | *''One'' [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012) | |
− | + | *''Two'' [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013) | |
− | + | *''Three'' [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013) | |
− | + | *''Four'' [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014) | |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Charlotte Church, ''Voice of an Angel: My Life (So Far)'' (Efrog Newydd, 2001) | |
− | + | *Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, ''The Observer'' (22 Mai 2005) | |
− | + | *Charlotte Church, ''Keep Smiling'' (Llundain, 2007) | |
− | + | *Fraser McAlpine, ‘Charlotte Church: Back to Scratch Review (2010)’ ''http://www.bbc.co.uk/music/reviews/fzx2'' | |
− | + | *Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, ''Golwg'' 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13 | |
− | + | *Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, ''The Independent'' (21 Hydref 2012) | |
− | + | *Elizabeth Day, ‘Charlotte Church: “After Leveson, the façade fell away. I became Aware”’, ''The Observer'' (24 Chwefror 2013) ''http://www.theguardian.com/music/2013/feb/24/charlotte-church-leveson-changed-outlook'' | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 13:57, 11 Medi 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn eisteddfodau yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998.
Wedi ymddangosiadau ar y rhaglenni teledu This Morning a The Big Big Talent Show yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus Voice of an Angel (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton.
Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm Charlotte Church (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, emyn-donau ac alawon gwerin poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, Dream a Dream (Sony, 2000), ar garolau Nadolig. Rhyddhawyd Enchantment flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, A Beautiful Mind (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei hunangofiant cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad canu pop gyda’r albwm Tissues & Issues (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer genres cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig.Am gyfnod, bu’r tabloids yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y papur newydd News of the World a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd The Charlotte Church Show ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008.
Yn 2010 rhyddhawyd Back to Scratch (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y cwmnïau recordio, fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: One (2012), Two (2013), Three (2013) a Four (2014).
Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a gwyliau roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn Golwg ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999.
Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel Aled Jones), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’.
Tristian Evans
Disgyddiaeth
- Voice of an Angel (Sony SK60957, 1998)
- Charlotte Church (Sony SK89003, 1999)
- Dream a Dream (Sony SK89459, 2000)
- Enchantment (Sony SK89710, 2001)
- Tissues & Issues (Sony 5203462, 2005)
- Back to Scratch (Dooby DOOBY001, 2010)
- One [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012)
- Two [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013)
- Three [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013)
- Four [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014)
Llyfryddiaeth
- Charlotte Church, Voice of an Angel: My Life (So Far) (Efrog Newydd, 2001)
- Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, The Observer (22 Mai 2005)
- Charlotte Church, Keep Smiling (Llundain, 2007)
- Fraser McAlpine, ‘Charlotte Church: Back to Scratch Review (2010)’ http://www.bbc.co.uk/music/reviews/fzx2
- Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, Golwg 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13
- Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, The Independent (21 Hydref 2012)
- Elizabeth Day, ‘Charlotte Church: “After Leveson, the façade fell away. I became Aware”’, The Observer (24 Chwefror 2013) http://www.theguardian.com/music/2013/feb/24/charlotte-church-leveson-changed-outlook
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.