Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Pan ymddangosodd cyfrol [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] (1795–1873), ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'', yn 1844, daeth tro ar fyd yn hanes a datblygiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Wedi canrif a mwy o gyhoeddi ceinciau offerynnol (yn bennaf ar gyfer y delyn) mewn casgliadau tebyg i ''Antient British Music'' (1742), ''British Harmony'' (1781), ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784), ''The Bardic Museum'' (1802), ''Hen Ganiadau Cymru/Cambro-British Melodies'' (1820) a ''The Welsh Harper'' (1839), cyhoeddwyd y casgliad cyntaf hwn o [[Ffurfiau, Arferion a Dulliau Canu Gwerin | alawon gwerin]] y genedl a hynny o ganlyniad i gystadleuaeth a noddwyd gan y Fonesig Coffin Greenly yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Cymreigyddion y Fenni yn 1837 ‘for the best collection of original Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales’. Ymhlith y deugain a thair o eitemau a geir yn y gyfrol hon, ymddengys caneuon megis ‘Y Ddafad Gyrnig’, ‘Y Ferch o’r Scer’, ‘Y Deryn Pur’, ‘Y Deryn Du Pigfelyn’, ‘Merch y Melinydd’ a ‘Bugeila’r Gwenith Gwyn’ (gw. Eng.1, trosodd) a ddaeth yn hynod boblogaidd yng Nghymru’r 19g. Atgynhyrchwyd yr alawon ond ychwanegwyd hefyd gyfeiliant digon disylwedd ar gyfer y delyn neu’r piano ynghyd ag addurniadau lleisiol (troadau, triliau, ''appoggiatura'' a.y.b.) sy’n tystio mai cynulleidfa estron a ymddiddorai’n bennaf mewn [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth glasurol]], Ewropeaidd ei naws a oedd ym meddwl y golygydd. Ceir yn y cyhoeddiad nifer o alawon serch, [[Gwasael, Canu | caneuon gwasael]] a thribannau, ac er bod rhai wedi eu gosod yn y modd Doraidd, cyweiriau llon yw’r graddfeydd ar gyfer y mwyafrif ohonynt.
+
Pan ymddangosodd cyfrol [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] (1795–1873), ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'', yn 1844, daeth tro ar fyd yn hanes a datblygiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Wedi canrif a mwy o gyhoeddi ceinciau offerynnol (yn bennaf ar gyfer y delyn) mewn casgliadau tebyg i ''Antient British Music'' (1742), ''British Harmony'' (1781), ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1784), ''The Bardic Museum'' (1802), ''Hen Ganiadau Cymru/Cambro-British Melodies'' (1820) a ''The Welsh Harper'' (1839), cyhoeddwyd y casgliad cyntaf hwn o [[Ffurfiau, Arferion a Dulliau Canu Gwerin | alawon gwerin]] y genedl a hynny o ganlyniad i gystadleuaeth a noddwyd gan y Fonesig Coffin Greenly yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Cymreigyddion y Fenni yn 1837 ‘for the best collection of original Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales’. Ymhlith y deugain a thair o eitemau a geir yn y gyfrol hon, ymddengys caneuon megis ‘Y Ddafad Gyrnig’, ‘Y Ferch o’r Scer’, ‘Y Deryn Pur’, ‘Y Deryn Du Pigfelyn’, ‘Merch y Melinydd’ a ‘Bugeila’r Gwenith Gwyn’ (gw. Eng.1) [[Delwedd:Eng 1. Bugeilio'r Gwenith Gwyn.png|thumb|<small>Eng.1. ‘Bugeilio’r gwenith gwyn’ allan o ANAGM.</small>]] a ddaeth yn hynod boblogaidd yng Nghymru’r 19g. Atgynhyrchwyd yr alawon ond ychwanegwyd hefyd gyfeiliant digon disylwedd ar gyfer y delyn neu’r piano ynghyd ag addurniadau lleisiol (troadau, triliau, ''appoggiatura'' a.y.b.) sy’n tystio mai cynulleidfa estron a ymddiddorai’n bennaf mewn [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth glasurol]], Ewropeaidd ei naws a oedd ym meddwl y golygydd. Ceir yn y cyhoeddiad nifer o alawon serch, [[Gwasael, Canu | caneuon gwasael]] a thribannau, ac er bod rhai wedi eu gosod yn y modd Doraidd, cyweiriau llon yw’r graddfeydd ar gyfer y mwyafrif ohonynt.
  
[[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | John Thomas]] (Ieuan Ddu; 1795–1871) oedd enillydd yr ail wobr yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni (1837). Er bod ei gasgliad yntau, ''Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel'' (1845) yn cynnwys dros gant o alawon ynghyd â geiriau Cymraeg a Saesneg (gw. Eng.2), gwelir eu bod yn gyfuniad o ganeuon brodorol, ceinciau [[telyn]] (wedi eu dethol o gasgliadau rhai fel [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]] (Parry Ddall) ac [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin) yn bennaf, a chyfansoddiadau gwreiddiol o waith y golygydd ei hun. Rhyw ddeugain o’r alawon hyn sy’n ganeuon gwerin ond mynnodd [[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | Ieuan Ddu]] gyfnewid y geiriau traddodiadol am ei eiriau a’i benillion ef ei hun ac o ganlyniad, dibrisir gwerth y casgliad hwn yn fawr. Eto i gyd, ceir ynddo rai alawon gwerin hynod swynol a chrefftus sy’n gynnyrch y traddodiad llafar ac ôl blynyddoedd o newid, o ddatblygu a mireinio’r arddull arnynt.
+
[[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | John Thomas]] (Ieuan Ddu; 1795–1871) oedd enillydd yr ail wobr yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni (1837). Er bod ei gasgliad yntau, ''Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel'' (1845) yn cynnwys dros gant o alawon ynghyd â geiriau Cymraeg a Saesneg (gw. Eng.2), [[Delwedd:Eng 2. Pa Bryd y Deui Eto?.png|bawd|chwith|<small>Eng.2. ‘Pa bryd y deui eto?’ allan o gasgliad John Thomas (Ieuan Ddu).</small>]] gwelir eu bod yn gyfuniad o ganeuon brodorol, ceinciau [[telyn]] (wedi eu dethol o gasgliadau rhai fel [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]] (Parry Ddall) ac [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin) yn bennaf, a chyfansoddiadau gwreiddiol o waith y golygydd ei hun. Rhyw ddeugain o’r alawon hyn sy’n ganeuon gwerin ond mynnodd [[Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871) | Ieuan Ddu]] gyfnewid y geiriau traddodiadol am ei eiriau a’i benillion ef ei hun ac o ganlyniad, dibrisir gwerth y casgliad hwn yn fawr. Eto i gyd, ceir ynddo rai alawon gwerin hynod swynol a chrefftus sy’n gynnyrch y traddodiad llafar ac ôl blynyddoedd o newid, o ddatblygu a mireinio’r arddull arnynt.
  
Gwelir bod cwmpas yr alawon yng nghyfrol Ieuan Ddu yn gydnaws â’r hyn a gasglwyd gan ei ragflaenwyr, [[Iolo Morganwg]] a Maria Jane Williams, ond addaswyd rhai o eitemau’r ''Caniedydd Cymreig'' hefyd ar gyfer eu perfformio gan ddeuawdau, triawdau a phartïon lleisiol mewn cyngherddau ac [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]], fel y rhai y byddai Ieuan yn eu harwain yn rhinwedd ei alwedigaeth. Brychwyd y gyfrol hon, er hynny, gan gamgymeriadau cerddorol, camosodiadau o eiriau a thestun, gwendidau yn y gynghanedd (gerddorol) a diofalwch cyffredinol sy’n arwydd o’r brys i gyhoeddi’r gwaith yn ei gyfanrwydd.
+
Gwelir bod cwmpas yr alawon yng nghyfrol Ieuan Ddu yn gydnaws â’r hyn a gasglwyd gan ei ragflaenwyr, [[Williams, Edward (Iolo Morganwg) (1747-1826) | Iolo Morganwg]] a Maria Jane Williams, ond addaswyd rhai o eitemau’r ''Caniedydd Cymreig'' hefyd ar gyfer eu perfformio gan ddeuawdau, triawdau a phartïon lleisiol mewn cyngherddau ac [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]], fel y rhai y byddai Ieuan yn eu harwain yn rhinwedd ei alwedigaeth. Brychwyd y gyfrol hon, er hynny, gan gamgymeriadau cerddorol, camosodiadau o eiriau a thestun, gwendidau yn y gynghanedd (gerddorol) a diofalwch cyffredinol sy’n arwydd o’r brys i gyhoeddi’r gwaith yn ei gyfanrwydd.
  
 
Nodweddwyd y bywyd Cymreig yn y 19g. gan dwf syfrdanol yn y boblogaeth yn sgil datblygu’r ardaloedd diwydiannol. Daeth gweithwyr yn eu miloedd i’r meysydd glo, y gweithfeydd haearn a dur, y chwareli llechi ac ati, gan ymsefydlu mewn lleoedd fel y Rhondda, Abertawe a Llanelli yn y de a Bethesda a Rhosllannerchrugog yn y gogledd. Wrth i’r iaith Saesneg raddol ennill tir dros y Gymraeg yn sgil mewnfudo, newidiodd natur diwylliant y wlad; tyfodd poblogrwydd y cyngherddau cyhoeddus, y ''music halls'', y traddodiad [[Baled | baledi]] (Cymraeg a Saesneg), corau mawr a [[Corau Meibion | chorau meibion]], a gwelid dylanwad diwylliant oes Victoria a nodweddai’r bywyd y tu hwnt i Glawdd Offa.
 
Nodweddwyd y bywyd Cymreig yn y 19g. gan dwf syfrdanol yn y boblogaeth yn sgil datblygu’r ardaloedd diwydiannol. Daeth gweithwyr yn eu miloedd i’r meysydd glo, y gweithfeydd haearn a dur, y chwareli llechi ac ati, gan ymsefydlu mewn lleoedd fel y Rhondda, Abertawe a Llanelli yn y de a Bethesda a Rhosllannerchrugog yn y gogledd. Wrth i’r iaith Saesneg raddol ennill tir dros y Gymraeg yn sgil mewnfudo, newidiodd natur diwylliant y wlad; tyfodd poblogrwydd y cyngherddau cyhoeddus, y ''music halls'', y traddodiad [[Baled | baledi]] (Cymraeg a Saesneg), corau mawr a [[Corau Meibion | chorau meibion]], a gwelid dylanwad diwylliant oes Victoria a nodweddai’r bywyd y tu hwnt i Glawdd Offa.
  
Er hynny, parhaodd y diddordeb ym   myd canu gwerin ymhlith rhai, gan gynnwys [[Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829) | John Jenkins]] (Ifor Ceri; 1770–1829) y mae ei gasgliad [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llawysgrifol]] ar gadw yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], Nicholas Bennett (1823–99) a gyhoeddodd ''Alawon fy Ngwlad'' (1896), sy’n gyfuniad o tua 500 o alawon a cheinciau telyn a gasglwyd o ffynonellau llafar (yn eu plith y sipsiwn Cymreig), a detholion o lawysgrif Thomas David Llewelyn (Llewelyn Alaw; 1828–79), a oedd yn delynor teuluol i Blas Aberpergwm, cartref Maria Jane Williams. Yn ogystal, lluniodd rhai o gerddorion amlwg Cymru’r 19g. gyfrolau o drefniannau o alawon brodorol y genedl (caneuon gwerin a cheinciau offerynnol) a fu’n gyfrwng i boblogeiddio’r traddodiad. Yn eu plith, gwelwyd cyhoeddiadau [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]] (Bardd Alaw; 1776–1851), [[Owen, John (Owain Alaw; 1821-83) | John Owen (Owain Alaw]]; 1821–83), [[Richards, Brinley (1817-85) | Brinley Richards]] (Cerddor Towy; 1817–85), [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903) a [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | D. Emlyn Evans]] (1843–1913).
+
Er hynny, parhaodd y diddordeb ym myd canu gwerin ymhlith rhai, gan gynnwys [[Jenkins, John (Ifor Ceri; 1770-1829) | John Jenkins]] (Ifor Ceri; 1770–1829) y mae ei gasgliad [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | llawysgrifol]] ar gadw yn [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], Nicholas Bennett (1823–99) a gyhoeddodd ''Alawon fy Ngwlad'' (1896), sy’n gyfuniad o tua 500 o alawon a cheinciau telyn a gasglwyd o ffynonellau llafar (yn eu plith y sipsiwn Cymreig), a detholion o lawysgrif Thomas David Llewelyn (Llewelyn Alaw; 1828–79), a oedd yn delynor teuluol i Blas Aberpergwm, cartref Maria Jane Williams. Yn ogystal, lluniodd rhai o gerddorion amlwg Cymru’r 19g. gyfrolau o drefniannau o alawon brodorol y genedl (caneuon gwerin a cheinciau offerynnol) a fu’n gyfrwng i boblogeiddio’r traddodiad. Yn eu plith, gwelwyd cyhoeddiadau [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]] (Bardd Alaw; 1776–1851), [[Owen, John (Owain Alaw; 1821-83) | John Owen (Owain Alaw]]; 1821–83), [[Richards, Brinley (1817-85) | Brinley Richards]] (Cerddor Towy; 1817–85), [[Parry, Joseph (1841-1903) | Joseph Parry]] (1841–1903) a [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | D. Emlyn Evans]] (1843–1913).
  
Yn sgil sefydlu colegau [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | prifysgol]] yng Nghymru ar ddiwedd y 19g. a’r awydd am [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] uwch o safon, gwelwyd hefyd ddyfodiad [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] (1907) a [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] (1907), gyda’u pwyslais ar gadwraeth ac ymchwil i’r byd a’r bywyd Cymreig. Yn 1906 sefydlwyd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a than arweiniad [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] (1854– 1945), [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]] (Mair Mynorydd; 1855–1930), [[Lewis, Ruth Herbert (1871-1946) | Ruth Herbert Lewis]] (1871–1946) ac eraill profwyd adfywiad ym maes canu gwerin Cymraeg. Trwy gyfrwng  ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' (1909–77) a ''Canu Gwerin'' (1978–), diogelwyd rhai cannoedd o alawon traddodiadol Cymreig, gan gynnwys ‘Dacw nghariad i lawr yn y berllan’, ‘Ffarwél i Aberystwyth’ (gw. Eng.3), ‘Lisa Lân’, ‘Tra bo dau’, ‘Gwcw fach’ a ‘Suo Gân’.
+
Yn sgil sefydlu colegau [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | prifysgol]] yng Nghymru ar ddiwedd y 19g. a’r awydd am [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | addysg]] uwch o safon, gwelwyd hefyd ddyfodiad [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] (1907) a [[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] (1907), gyda’u pwyslais ar gadwraeth ac ymchwil i’r byd a’r bywyd Cymreig. [[Delwedd:Eng 3. 'Ffarwel i Aberystwyth'.png|thumb|<small>Eng.3. ‘Ffarwel i Aberystwyth’ CCAGC.</small>]] Yn 1906 sefydlwyd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a than arweiniad [[Williams, J. Lloyd (1854-1945) | J. Lloyd Williams]] (1854– 1945), [[Davies, Mary (1855-1930) | Mary Davies]] (Mair Mynorydd; 1855–1930), [[Lewis, Ruth Herbert (1871-1946) | Ruth Herbert Lewis]] (1871–1946) ac eraill profwyd adfywiad ym maes canu gwerin Cymraeg. Trwy gyfrwng  ''Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' (1909–77) a ''Canu Gwerin'' (1978–), diogelwyd rhai cannoedd o alawon traddodiadol Cymreig, gan gynnwys ‘Dacw nghariad i lawr yn y berllan’, ‘Ffarwél i Aberystwyth’ (gw. Eng.3), ‘Lisa Lân’, ‘Tra bo dau’, ‘Gwcw fach’ a ‘Suo Gân’.  
  
Sbardunwyd nifer o aelodau cynnar y Gymdeithas i gywain alawon trwy gyfrwng gwaith maes mewn ardaloedd penodol o Gymru. Aeth [[Ruth Herbert Lewis]], er enghraifft, ati i gasglu alawon gyda chymorth ffonograff yn Sir y Fflint a Dyffryn Clwyd gan gyhoeddi ffrwyth ei hymchwil, a oedd yn cynnwys caneuon fel ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ (gw. Eng.4) a ‘Chwech o eifr’, yn 1914 ac 1934. Ar Ynys Môn bu [[Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944) | Grace Gwyneddon Davies]] yn casglu ei deunydd ac ymddangosodd ei threfniannau o ganeuon fel ‘Cyfri’r geifr’ ac ‘Un o fy mrodyr’ yn 1914 ac 1923–4.
+
[[Delwedd:Eng 4. 'Gwenni aeth i ffair Pwllheli'.png|bawd|chwith|<small>Eng.4. ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ allan o gasgliad RHL.</small>]] Sbardunwyd nifer o aelodau cynnar y Gymdeithas i gywain alawon trwy gyfrwng gwaith maes mewn ardaloedd penodol o Gymru. Aeth [[Ruth Herbert Lewis]], er enghraifft, ati i gasglu alawon gyda chymorth ffonograff yn Sir y Fflint a Dyffryn Clwyd gan gyhoeddi ffrwyth ei hymchwil, a oedd yn cynnwys caneuon fel ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ (gw. Eng.4) a ‘Chwech o eifr’, yn 1914 ac 1934. Ar Ynys Môn bu [[Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944) | Grace Gwyneddon Davies]] yn casglu ei deunydd ac ymddangosodd ei threfniannau o ganeuon fel ‘Cyfri’r geifr’ ac ‘Un o fy mrodyr’ yn 1914 ac 1923–4.
  
Bu’r cyswllt a’r cydweithio rhwng [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn agos ac yn adeiladol ers dechrau’r 20g. a chafwyd cystadlaethau canu caneuon gwerin, canu [[Carolau | carolau]] traddodiadol a [[Baled | baledi]] (yn ogystal â llunio trefniannau lleisiol ohonynt) fel dull o hyrwyddo’r traddodiad a chynnal y grefft. Pan ymddangosodd cenhedlaeth newydd o arbenigwyr yn y maes yng nghanol y ganrif, unigolion fel William Hubert Davies (1893–1965), [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978) ac Emrys Cleaver (1904–85), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyhoeddiadau a’r casgliadau o alawon traddodiadol Cymreig a ddaeth o’r wasg, a chafwyd cryn bwyslais ar boblogeiddio’r maes ac addysgu plant a phobl ifanc. Un o’r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol oedd ''Caneuon Traddodiadol y Cymry'' (1961 ac 1963) a oedd yn cyfuno alawon a gasglwyd gan selogion [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a chynnyrch cyhoeddiadau poblogaidd y dydd. Ers yr 1960au ac ymdrechion [[Saer, Roy (g.1936) | D. Roy Saer]] ([[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan) i gasglu alawon a baledi yn Llŷn a charolau [[Canu Plygain | plygain]] (yng ngogledd-ddwyrain Cymru), cafwyd cyfres gyfoes o gyhoeddiadau, ''Caneuon Llafar Gwlad/ Songs from Oral Tradition'' (1974 ac 1994), yn seiliedig ar waith a chasglu alawon traddodiadol yn y maes (gw. Eng.5).
+
Bu’r cyswllt a’r cydweithio rhwng [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn agos ac yn adeiladol ers dechrau’r 20g. a chafwyd cystadlaethau canu caneuon gwerin, canu [[Carolau | carolau]] traddodiadol a [[Baled | baledi]] (yn ogystal â llunio trefniannau lleisiol ohonynt) fel dull o hyrwyddo’r traddodiad a chynnal y grefft. Pan ymddangosodd cenhedlaeth newydd o arbenigwyr yn y maes yng nghanol y ganrif, unigolion fel William Hubert Davies (1893–1965), [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978) ac Emrys Cleaver (1904–85), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyhoeddiadau a’r casgliadau o alawon traddodiadol Cymreig a ddaeth o’r wasg, a chafwyd cryn bwyslais ar boblogeiddio’r maes ac addysgu plant a phobl ifanc. Un o’r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol oedd ''Caneuon Traddodiadol y Cymry'' (1961 ac 1963) a oedd yn cyfuno alawon a gasglwyd gan selogion [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] a chynnyrch cyhoeddiadau poblogaidd y dydd. Ers yr 1960au ac ymdrechion [[Saer, Roy (g.1936) | D. Roy Saer]] ([[Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd | Amgueddfa Werin Cymru]], Sain Ffagan) i gasglu alawon a baledi yn Llŷn a charolau [[Canu Plygain | plygain]] (yng ngogledd-ddwyrain Cymru), cafwyd cyfres gyfoes o gyhoeddiadau, ''Caneuon Llafar Gwlad/ Songs from Oral Tradition'' (1974 ac 1994), yn seiliedig ar waith a chasglu alawon traddodiadol yn y maes (gw. Eng.5). [[Delwedd:Eng 5. 'Carol y Bwlch'.png|thumb|<small>Eng.5. Un o garolau Roy Saer allan o ''Caneuon Llafar Gwlad''.</small>]]
  
 
Dilynwyd y rhain gan gyfres o recordiadau masnachol (gan Sain) a ddarlledwyd yn gyson mewn [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | rhaglenni radio]] wedi hynny. Yr awydd i gyfoethogi adnoddau addysg gerddorol yng Nghymru a chefnogi’r ifanc i ddysgu a chanu caneuon traddodiadol fu’r symbyliad i [[Kinney, Phyllis (g.1922) | Phyllis Kinney]] a [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]] i gyhoeddi eu ''Caneuon Gwerin i blant'' (1981) a ''Canu’r Cymry'' (1984 ac 1987), ac ateb gofyn partïon a chorau gwerin (SSA, TTBB, SATB) oedd nod y gyfres amrywiol o drefniannau cyhoeddedig, ''Lleisiau’r Werin'' (1980, 1986, 1989, 1999, 2002, 2009).
 
Dilynwyd y rhain gan gyfres o recordiadau masnachol (gan Sain) a ddarlledwyd yn gyson mewn [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | rhaglenni radio]] wedi hynny. Yr awydd i gyfoethogi adnoddau addysg gerddorol yng Nghymru a chefnogi’r ifanc i ddysgu a chanu caneuon traddodiadol fu’r symbyliad i [[Kinney, Phyllis (g.1922) | Phyllis Kinney]] a [[Evans, Meredydd (1919-2015) | Meredydd Evans]] i gyhoeddi eu ''Caneuon Gwerin i blant'' (1981) a ''Canu’r Cymry'' (1984 ac 1987), ac ateb gofyn partïon a chorau gwerin (SSA, TTBB, SATB) oedd nod y gyfres amrywiol o drefniannau cyhoeddedig, ''Lleisiau’r Werin'' (1980, 1986, 1989, 1999, 2002, 2009).

Y diwygiad cyfredol, am 16:14, 26 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Pan ymddangosodd cyfrol Maria Jane Williams (1795–1873), Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, yn 1844, daeth tro ar fyd yn hanes a datblygiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Wedi canrif a mwy o gyhoeddi ceinciau offerynnol (yn bennaf ar gyfer y delyn) mewn casgliadau tebyg i Antient British Music (1742), British Harmony (1781), Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784), The Bardic Museum (1802), Hen Ganiadau Cymru/Cambro-British Melodies (1820) a The Welsh Harper (1839), cyhoeddwyd y casgliad cyntaf hwn o alawon gwerin y genedl a hynny o ganlyniad i gystadleuaeth a noddwyd gan y Fonesig Coffin Greenly yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni yn 1837 ‘for the best collection of original Welsh airs, with the words as sung by the peasantry of Wales’. Ymhlith y deugain a thair o eitemau a geir yn y gyfrol hon, ymddengys caneuon megis ‘Y Ddafad Gyrnig’, ‘Y Ferch o’r Scer’, ‘Y Deryn Pur’, ‘Y Deryn Du Pigfelyn’, ‘Merch y Melinydd’ a ‘Bugeila’r Gwenith Gwyn’ (gw. Eng.1)
Eng.1. ‘Bugeilio’r gwenith gwyn’ allan o ANAGM.
a ddaeth yn hynod boblogaidd yng Nghymru’r 19g. Atgynhyrchwyd yr alawon ond ychwanegwyd hefyd gyfeiliant digon disylwedd ar gyfer y delyn neu’r piano ynghyd ag addurniadau lleisiol (troadau, triliau, appoggiatura a.y.b.) sy’n tystio mai cynulleidfa estron a ymddiddorai’n bennaf mewn cerddoriaeth glasurol, Ewropeaidd ei naws a oedd ym meddwl y golygydd. Ceir yn y cyhoeddiad nifer o alawon serch, caneuon gwasael a thribannau, ac er bod rhai wedi eu gosod yn y modd Doraidd, cyweiriau llon yw’r graddfeydd ar gyfer y mwyafrif ohonynt. John Thomas (Ieuan Ddu; 1795–1871) oedd enillydd yr ail wobr yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni (1837). Er bod ei gasgliad yntau, Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel (1845) yn cynnwys dros gant o alawon ynghyd â geiriau Cymraeg a Saesneg (gw. Eng.2),
Eng.2. ‘Pa bryd y deui eto?’ allan o gasgliad John Thomas (Ieuan Ddu).
gwelir eu bod yn gyfuniad o ganeuon brodorol, ceinciau telyn (wedi eu dethol o gasgliadau rhai fel John Parry (Parry Ddall) ac Edward Jones (Bardd y Brenin) yn bennaf, a chyfansoddiadau gwreiddiol o waith y golygydd ei hun. Rhyw ddeugain o’r alawon hyn sy’n ganeuon gwerin ond mynnodd Ieuan Ddu gyfnewid y geiriau traddodiadol am ei eiriau a’i benillion ef ei hun ac o ganlyniad, dibrisir gwerth y casgliad hwn yn fawr. Eto i gyd, ceir ynddo rai alawon gwerin hynod swynol a chrefftus sy’n gynnyrch y traddodiad llafar ac ôl blynyddoedd o newid, o ddatblygu a mireinio’r arddull arnynt.

Gwelir bod cwmpas yr alawon yng nghyfrol Ieuan Ddu yn gydnaws â’r hyn a gasglwyd gan ei ragflaenwyr, Iolo Morganwg a Maria Jane Williams, ond addaswyd rhai o eitemau’r Caniedydd Cymreig hefyd ar gyfer eu perfformio gan ddeuawdau, triawdau a phartïon lleisiol mewn cyngherddau ac eisteddfodau, fel y rhai y byddai Ieuan yn eu harwain yn rhinwedd ei alwedigaeth. Brychwyd y gyfrol hon, er hynny, gan gamgymeriadau cerddorol, camosodiadau o eiriau a thestun, gwendidau yn y gynghanedd (gerddorol) a diofalwch cyffredinol sy’n arwydd o’r brys i gyhoeddi’r gwaith yn ei gyfanrwydd.

Nodweddwyd y bywyd Cymreig yn y 19g. gan dwf syfrdanol yn y boblogaeth yn sgil datblygu’r ardaloedd diwydiannol. Daeth gweithwyr yn eu miloedd i’r meysydd glo, y gweithfeydd haearn a dur, y chwareli llechi ac ati, gan ymsefydlu mewn lleoedd fel y Rhondda, Abertawe a Llanelli yn y de a Bethesda a Rhosllannerchrugog yn y gogledd. Wrth i’r iaith Saesneg raddol ennill tir dros y Gymraeg yn sgil mewnfudo, newidiodd natur diwylliant y wlad; tyfodd poblogrwydd y cyngherddau cyhoeddus, y music halls, y traddodiad baledi (Cymraeg a Saesneg), corau mawr a chorau meibion, a gwelid dylanwad diwylliant oes Victoria a nodweddai’r bywyd y tu hwnt i Glawdd Offa.

Er hynny, parhaodd y diddordeb ym myd canu gwerin ymhlith rhai, gan gynnwys John Jenkins (Ifor Ceri; 1770–1829) y mae ei gasgliad llawysgrifol ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Nicholas Bennett (1823–99) a gyhoeddodd Alawon fy Ngwlad (1896), sy’n gyfuniad o tua 500 o alawon a cheinciau telyn a gasglwyd o ffynonellau llafar (yn eu plith y sipsiwn Cymreig), a detholion o lawysgrif Thomas David Llewelyn (Llewelyn Alaw; 1828–79), a oedd yn delynor teuluol i Blas Aberpergwm, cartref Maria Jane Williams. Yn ogystal, lluniodd rhai o gerddorion amlwg Cymru’r 19g. gyfrolau o drefniannau o alawon brodorol y genedl (caneuon gwerin a cheinciau offerynnol) a fu’n gyfrwng i boblogeiddio’r traddodiad. Yn eu plith, gwelwyd cyhoeddiadau John Parry (Bardd Alaw; 1776–1851), John Owen (Owain Alaw; 1821–83), Brinley Richards (Cerddor Towy; 1817–85), Joseph Parry (1841–1903) a D. Emlyn Evans (1843–1913).

Yn sgil sefydlu colegau prifysgol yng Nghymru ar ddiwedd y 19g. a’r awydd am addysg uwch o safon, gwelwyd hefyd ddyfodiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1907) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1907), gyda’u pwyslais ar gadwraeth ac ymchwil i’r byd a’r bywyd Cymreig.
Eng.3. ‘Ffarwel i Aberystwyth’ CCAGC.
Yn 1906 sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a than arweiniad J. Lloyd Williams (1854– 1945), Mary Davies (Mair Mynorydd; 1855–1930), Ruth Herbert Lewis (1871–1946) ac eraill profwyd adfywiad ym maes canu gwerin Cymraeg. Trwy gyfrwng Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1909–77) a Canu Gwerin (1978–), diogelwyd rhai cannoedd o alawon traddodiadol Cymreig, gan gynnwys ‘Dacw nghariad i lawr yn y berllan’, ‘Ffarwél i Aberystwyth’ (gw. Eng.3), ‘Lisa Lân’, ‘Tra bo dau’, ‘Gwcw fach’ a ‘Suo Gân’.
Eng.4. ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ allan o gasgliad RHL.
Sbardunwyd nifer o aelodau cynnar y Gymdeithas i gywain alawon trwy gyfrwng gwaith maes mewn ardaloedd penodol o Gymru. Aeth Ruth Herbert Lewis, er enghraifft, ati i gasglu alawon gyda chymorth ffonograff yn Sir y Fflint a Dyffryn Clwyd gan gyhoeddi ffrwyth ei hymchwil, a oedd yn cynnwys caneuon fel ‘Gwenni aeth i ffair Pwllheli’ (gw. Eng.4) a ‘Chwech o eifr’, yn 1914 ac 1934. Ar Ynys Môn bu Grace Gwyneddon Davies yn casglu ei deunydd ac ymddangosodd ei threfniannau o ganeuon fel ‘Cyfri’r geifr’ ac ‘Un o fy mrodyr’ yn 1914 ac 1923–4. Bu’r cyswllt a’r cydweithio rhwng Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn agos ac yn adeiladol ers dechrau’r 20g. a chafwyd cystadlaethau canu caneuon gwerin, canu carolau traddodiadol a baledi (yn ogystal â llunio trefniannau lleisiol ohonynt) fel dull o hyrwyddo’r traddodiad a chynnal y grefft. Pan ymddangosodd cenhedlaeth newydd o arbenigwyr yn y maes yng nghanol y ganrif, unigolion fel William Hubert Davies (1893–1965), W. S. Gwynn Williams (1896–1978) ac Emrys Cleaver (1904–85), gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cyhoeddiadau a’r casgliadau o alawon traddodiadol Cymreig a ddaeth o’r wasg, a chafwyd cryn bwyslais ar boblogeiddio’r maes ac addysgu plant a phobl ifanc. Un o’r cyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol oedd Caneuon Traddodiadol y Cymry (1961 ac 1963) a oedd yn cyfuno alawon a gasglwyd gan selogion Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a chynnyrch cyhoeddiadau poblogaidd y dydd. Ers yr 1960au ac ymdrechion D. Roy Saer ( Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan) i gasglu alawon a baledi yn Llŷn a charolau plygain (yng ngogledd-ddwyrain Cymru), cafwyd cyfres gyfoes o gyhoeddiadau, Caneuon Llafar Gwlad/ Songs from Oral Tradition (1974 ac 1994), yn seiliedig ar waith a chasglu alawon traddodiadol yn y maes (gw. Eng.5).
Eng.5. Un o garolau Roy Saer allan o Caneuon Llafar Gwlad.

Dilynwyd y rhain gan gyfres o recordiadau masnachol (gan Sain) a ddarlledwyd yn gyson mewn rhaglenni radio wedi hynny. Yr awydd i gyfoethogi adnoddau addysg gerddorol yng Nghymru a chefnogi’r ifanc i ddysgu a chanu caneuon traddodiadol fu’r symbyliad i Phyllis Kinney a Meredydd Evans i gyhoeddi eu Caneuon Gwerin i blant (1981) a Canu’r Cymry (1984 ac 1987), ac ateb gofyn partïon a chorau gwerin (SSA, TTBB, SATB) oedd nod y gyfres amrywiol o drefniannau cyhoeddedig, Lleisiau’r Werin (1980, 1986, 1989, 1999, 2002, 2009).

Er mai prin iawn fu’r ymgyrchoedd casglu alawon gwerin yng Nghymru’r 1990au, rhoddwyd cryn bwyslais gan ysgolheigion y maes ( Meredydd Evans, Rhidian Griffiths, Rhiannon Ifans, Phyllis Kinney, E. Wyn James, D. Roy Saer a’u tebyg) ar ddwyn alawon y traddodiad o ffynonellau llawysgrifol mewn llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru i sylw ehangach. Tra mae gweithgaredd y Gymdeithas Alawon Gwerin yn ffynnu a’i chynhadledd flynyddol yn parhau, cafwyd cryn bwyslais ym mlynyddoedd cynnar yr 21g. ar adfywio’r traddodiad gwerin offerynnol (y delyn, y delyn deires, ffidil a phib) yn dilyn sefydlu Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru (Clera yn ddiweddarach), Y Glerorfa a trac.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • John Parry (Bardd Alaw), The Welsh Harper (Llundain, 1839, 1848)
  • Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Llanymddyfri, 1844)
  • John Thomas (Ieuan Ddu), Y Caniedydd Cymreig/The Cambrian Minstrel (Merthyr, 1845)
  • John Jenkins (Ifor Ceri), Ancient Welsh Music (Dinbych-y-Pysgod, 1859)
  • John Owen (Owain Alaw), Gems of Welsh Melody (Rhuthun, 1860)
  • Henry Brinley Richards, The Songs of Wales/Caneuon Cymru (Llundain, 1873)
  • John Parry (Bardd Alaw), A Select Collection of Welch Airs (Llundain, c.1886)
  • D. Emlyn Evans, Alawon Cymru/Melodies of Wales (Aberystwyth, c.1889)
  • Joseph Parry, Cambrian Minstrelsie/Alawon Gwalia(Caeredin, 1893)
  • Nicholas Bennett, Alawon fy ngwlad/The Lays of my land(Y Drenewydd, 1896)
  • J. Lloyd Williams ac Arthur Somervell, Sixteen Welsh Melodies (Llundain, 1907 & 1909)
  • Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru/Journal of the Welsh Folk Song Society (1909–77)
  • Ruth Herbert Lewis, Folk Songs Collected in Flintshire and the Vale of Clwyd (Wrecsam, 1914 & 1934)
  • Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Wrecsam, 1914, 1923 ac 1924)
  • W. Hubert Davies, Welsh Folk Songs/Caneuon Gwerin Cymru (Wrecsam, 1919)
  • W. S. Gwynn Williams, Hen Ganeuon Cymreig Gwaith a Chwarae (Llangollen, 1943)
  • ———, (gol.), Caneuon Traddodiadol y Cymry (Llangollen, 1961 ac 1963)
  • Canu Gwerin/Folk Song [Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru/Journal of the Welsh Folk Song Society], 1978–
  • D. Roy Saer, Caneuon Llafar Gwlad (Caerdydd, 1974 ac 1994)
  • Phyllis Kinney a Meredydd Evans, Caneuon Gwerin i blant(Llandysul, 1981)
  • ———, Canu’r Cymry (Penygroes, 1984 ac 1987)
  • Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Lleisiau’r Werin (Penygroes, 1980, 1986, 1989, 1999, 2002 a 2009)
  • Rhiannon Ifans, Yn Dyrfa Weddus – Carolau ar gyfer Y Plygain (Aberystwyth, 2003)
  • Leila Salisbury (gol.), Alawon Gwerin Iolo Morganwg (Aberystwyth, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.