Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "O'Neill, Dennis (g.1948)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) (Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...') |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Mae’r cerddor a’r canwr Dennis O’Neill, a aned ym Mhontarddulais, yn un o ddyrnaid bach o denoriaid mawr y byd [[opera]]. Mae wedi arbenigo ar ganu ''repertoire'' Eidalaidd gan berfformio dros ugain rôl o waith Verdi yn ystod ei yrfa. Astudiodd gyda Frederic Cox (1905–85) yn breifat ym Manceinion, yna yn Mantua gyda Ettore Campogalliani (1903–92) ac yn Rhufain gyda Luigi Ricci (1893–1981). | Mae’r cerddor a’r canwr Dennis O’Neill, a aned ym Mhontarddulais, yn un o ddyrnaid bach o denoriaid mawr y byd [[opera]]. Mae wedi arbenigo ar ganu ''repertoire'' Eidalaidd gan berfformio dros ugain rôl o waith Verdi yn ystod ei yrfa. Astudiodd gyda Frederic Cox (1905–85) yn breifat ym Manceinion, yna yn Mantua gyda Ettore Campogalliani (1903–92) ac yn Rhufain gyda Luigi Ricci (1893–1981). | ||
− | Dysgodd ei grefft yn ofalus ac araf, a bu’n cysgodi eraill megis José Carreras, Plácido Domingo a Carlo Bergonzi cyn cael cyfle yn 1979 i ganu gyda Shirley Verret yn rôl Flavio yn ''Norma'' gan Bellini. Mae ei lais naturiol gyfoethog yn llenwi pob awditoriwm, ac mae ei ofal dros iaith ynghyd â thechneg sicr yn ei gadw yn rheng flaen cantorion ei faes. Ar sail ei gyfraniad derbyniodd Fedal Verdi gan Amici di Verdi yn 2005. Fel llawer o’i gyfoedion yng Nghymru mae’n ddyledus i’r cyfleoedd niferus a gafodd ar lwyfannau [[eisteddfodau]] Cymru yn gynnar yn ei fywyd. | + | Dysgodd ei grefft yn ofalus ac araf, a bu’n cysgodi eraill megis José Carreras, Plácido Domingo a Carlo Bergonzi cyn cael cyfle yn 1979 i ganu gyda Shirley Verret yn rôl Flavio yn ''Norma'' gan Bellini. Mae ei lais naturiol gyfoethog yn llenwi pob awditoriwm, ac mae ei ofal dros iaith ynghyd â thechneg sicr yn ei gadw yn rheng flaen cantorion ei faes. Ar sail ei gyfraniad derbyniodd Fedal Verdi gan Amici di Verdi yn 2005. Fel llawer o’i gyfoedion yng Nghymru mae’n ddyledus i’r cyfleoedd niferus a gafodd ar lwyfannau [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] Cymru yn gynnar yn ei fywyd. |
Yn ystod ei yrfa hir mae wedi dal cysylltiad agos â’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, y Metropolitan yn Efrog Newydd, y Lyric yn Chicago a thai opera San Francisco, San Diego, Vancouver, y Bayerische Staatsoper yn Munich, Fienna, Sydney, Paris a thai opera yn Ne America. Yn ôl yn ei famwlad mae wedi perfformio droeon gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n aelod o’u bwrdd rheoli. | Yn ystod ei yrfa hir mae wedi dal cysylltiad agos â’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, y Metropolitan yn Efrog Newydd, y Lyric yn Chicago a thai opera San Francisco, San Diego, Vancouver, y Bayerische Staatsoper yn Munich, Fienna, Sydney, Paris a thai opera yn Ne America. Yn ôl yn ei famwlad mae wedi perfformio droeon gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n aelod o’u bwrdd rheoli. | ||
− | Bu O’Neill hefyd yn unawdydd mewn cyngherddau gyda’r prif gerddorfeydd ar draws y byd a bu croeso mawr i’w berfformiadau yn ''Requiem'' Verdi. Perfformiodd fel unawdydd mewn uchel wyliau a recordiodd nifer helaeth o ganeuon a rolau operatig. Daeth yn gymeriad poblogaidd ymhlith y cyhoedd yn sgil cyfresi teledu megis ''Dennis O’Neill'' (1987) a ''Dennis O’Neill a’i Ffrindiau'' (1989). Derbyniodd DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru; mae’n Gymrawd nifer o’r colegau cerdd ac yn 2000 fe’i hanrhydeddwyd â’r CBE. O 2007 ymlaen ef fu’n arwain yr Academi Llais Ryngwladol yng Nghaerdydd (rhan o Brifysgol Caerdydd yn wreiddiol ond bellach o dan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), lle mae’n trosglwyddo’r hyn a ddysgodd i genhedlaeth newydd o gantorion. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel beirniad yn y prif gystadlaethau llais, gan gynnwys [[BBC Canwr y Byd]] Caerdydd. | + | Bu O’Neill hefyd yn unawdydd mewn cyngherddau gyda’r prif gerddorfeydd ar draws y byd a bu croeso mawr i’w berfformiadau yn ''Requiem'' Verdi. Perfformiodd fel unawdydd mewn uchel wyliau a recordiodd nifer helaeth o ganeuon a rolau operatig. Daeth yn gymeriad poblogaidd ymhlith y cyhoedd yn sgil cyfresi teledu megis ''Dennis O’Neill'' (1987) a ''Dennis O’Neill a’i Ffrindiau'' (1989). Derbyniodd DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru; mae’n Gymrawd nifer o’r colegau cerdd ac yn 2000 fe’i hanrhydeddwyd â’r CBE. O 2007 ymlaen ef fu’n arwain yr Academi Llais Ryngwladol yng Nghaerdydd (rhan o Brifysgol Caerdydd yn wreiddiol ond bellach o dan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), lle mae’n trosglwyddo’r hyn a ddysgodd i genhedlaeth newydd o gantorion. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel beirniad yn y prif gystadlaethau llais, gan gynnwys [[Cystadlaethau Cerddorol | BBC Canwr y Byd]] Caerdydd. |
Am restr o recordiau gw.: ''http://www.prestoclassical.co.uk'' | Am restr o recordiau gw.: ''http://www.prestoclassical.co.uk'' |
Y diwygiad cyfredol, am 17:22, 28 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Mae’r cerddor a’r canwr Dennis O’Neill, a aned ym Mhontarddulais, yn un o ddyrnaid bach o denoriaid mawr y byd opera. Mae wedi arbenigo ar ganu repertoire Eidalaidd gan berfformio dros ugain rôl o waith Verdi yn ystod ei yrfa. Astudiodd gyda Frederic Cox (1905–85) yn breifat ym Manceinion, yna yn Mantua gyda Ettore Campogalliani (1903–92) ac yn Rhufain gyda Luigi Ricci (1893–1981).
Dysgodd ei grefft yn ofalus ac araf, a bu’n cysgodi eraill megis José Carreras, Plácido Domingo a Carlo Bergonzi cyn cael cyfle yn 1979 i ganu gyda Shirley Verret yn rôl Flavio yn Norma gan Bellini. Mae ei lais naturiol gyfoethog yn llenwi pob awditoriwm, ac mae ei ofal dros iaith ynghyd â thechneg sicr yn ei gadw yn rheng flaen cantorion ei faes. Ar sail ei gyfraniad derbyniodd Fedal Verdi gan Amici di Verdi yn 2005. Fel llawer o’i gyfoedion yng Nghymru mae’n ddyledus i’r cyfleoedd niferus a gafodd ar lwyfannau eisteddfodau Cymru yn gynnar yn ei fywyd.
Yn ystod ei yrfa hir mae wedi dal cysylltiad agos â’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, y Metropolitan yn Efrog Newydd, y Lyric yn Chicago a thai opera San Francisco, San Diego, Vancouver, y Bayerische Staatsoper yn Munich, Fienna, Sydney, Paris a thai opera yn Ne America. Yn ôl yn ei famwlad mae wedi perfformio droeon gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n aelod o’u bwrdd rheoli.
Bu O’Neill hefyd yn unawdydd mewn cyngherddau gyda’r prif gerddorfeydd ar draws y byd a bu croeso mawr i’w berfformiadau yn Requiem Verdi. Perfformiodd fel unawdydd mewn uchel wyliau a recordiodd nifer helaeth o ganeuon a rolau operatig. Daeth yn gymeriad poblogaidd ymhlith y cyhoedd yn sgil cyfresi teledu megis Dennis O’Neill (1987) a Dennis O’Neill a’i Ffrindiau (1989). Derbyniodd DMus er anrhydedd gan Brifysgol Cymru; mae’n Gymrawd nifer o’r colegau cerdd ac yn 2000 fe’i hanrhydeddwyd â’r CBE. O 2007 ymlaen ef fu’n arwain yr Academi Llais Ryngwladol yng Nghaerdydd (rhan o Brifysgol Caerdydd yn wreiddiol ond bellach o dan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), lle mae’n trosglwyddo’r hyn a ddysgodd i genhedlaeth newydd o gantorion. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd fel beirniad yn y prif gystadlaethau llais, gan gynnwys BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Am restr o recordiau gw.: http://www.prestoclassical.co.uk
Lyn Davies
Llyfryddiaeth
- Frank Lincoln, Y Trwbadŵr: Cofiant Dennis O’Neill (Llandysul, 2006)
- A. Mourby, ‘Dennis O’Neill: Barga – the town that changed my life’, The Independent, 25 Tachwedd 2007
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.