Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Plethyn"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Triawd gwerin o ardal Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn a wnaeth gryn argraff yn ystod yr 1980au a’r 1990au, ac a fu’n bennaf cyfrifol am ddwyn y traddodiad o ganu harmoni yn null y [[Plygain]] i ganol prif ffrwd y [[canu gwerin]] cyfoes Cymraeg. Eu camp oedd poblogeiddio dwsinau o ganeuon traddodiadol yn ogystal â chyflwyno nifer fawr o ganeuon newydd.
+
Triawd gwerin o ardal Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn a wnaeth gryn argraff yn ystod yr 1980au a’r 1990au, ac a fu’n bennaf cyfrifol am ddwyn y traddodiad o ganu harmoni yn null y [[Canu Plygain | Plygain]] i ganol prif ffrwd y [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] cyfoes Cymraeg. Eu camp oedd poblogeiddio dwsinau o ganeuon traddodiadol yn ogystal â chyflwyno nifer fawr o ganeuon newydd.
  
 
Y tri aelod oedd Roy a Linda Griffiths, brawd a chwaer, a John Gittins, un o’u cymdogion yn ardal Meifod. Un o’r dylanwadau arnynt oedd Elfed Lewys, gweinidog yn yr ardal a oedd yn gredwr mawr mewn cyflwyno’r traddodiad gwerin mewn arddull naturiol ac anffurfiol. Cyfrinach eu llwyddiant yw llais unigryw Linda, gyda Roy (tenor) a John (bas) yn ffrâm berffaith iddi. Roedd canu’n ddigyfeiliant yn dod yn hawdd iddynt, ond fel arall defnyddiwyd gitâr a mandolin, pib a chonsertina fel cyfeiliant. Yn y cyfnod diweddarach ychwanegwyd allweddellau hefyd (Beryl Watkins). Trefniannau lleisiol ac offerynnol o ganeuon gwerin yw rhan fawr o’u ''repertoire'', ond roedd beirdd megis Myrddin ap Dafydd hefyd yn cyfansoddi caneuon newydd ar eu cyfer.
 
Y tri aelod oedd Roy a Linda Griffiths, brawd a chwaer, a John Gittins, un o’u cymdogion yn ardal Meifod. Un o’r dylanwadau arnynt oedd Elfed Lewys, gweinidog yn yr ardal a oedd yn gredwr mawr mewn cyflwyno’r traddodiad gwerin mewn arddull naturiol ac anffurfiol. Cyfrinach eu llwyddiant yw llais unigryw Linda, gyda Roy (tenor) a John (bas) yn ffrâm berffaith iddi. Roedd canu’n ddigyfeiliant yn dod yn hawdd iddynt, ond fel arall defnyddiwyd gitâr a mandolin, pib a chonsertina fel cyfeiliant. Yn y cyfnod diweddarach ychwanegwyd allweddellau hefyd (Beryl Watkins). Trefniannau lleisiol ac offerynnol o ganeuon gwerin yw rhan fawr o’u ''repertoire'', ond roedd beirdd megis Myrddin ap Dafydd hefyd yn cyfansoddi caneuon newydd ar eu cyfer.
  
Roedd y triawd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995. Yn y cyfnod hwnnw rhyddhawyd wyth record a chryno-ddisg i gyd ar label Sain: ''Blas y Pridd'' (1979), ''Golau Tan Gwmwl'' (1980), ''Rhown Garreg ar Garreg'' (1981), ''Teulu’r Tir'' (1983), ''Caneuon Gwerin i Blant'' (1984), ''Byw a Bod'' (1987), ''Drws Agored'' (1990) a ''Seidir Ddoe'' (1994). Yna, yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn 2003 (ym Meifod), rhyddhawyd ''Goreuon Plethyn'', eto ar label Sain.
+
Roedd y triawd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995. Yn y cyfnod hwnnw rhyddhawyd wyth record a chryno-ddisg i gyd ar label Sain: ''Blas y Pridd'' (1979), ''Golau Tan Gwmwl'' (1980), ''Rhown Garreg ar Garreg'' (1981), ''Teulu’r Tir'' (1983), ''Caneuon Gwerin i Blant'' (1984), ''Byw a Bod'' (1987), ''Drws Agored'' (1990) a ''Seidir Ddoe'' (1994). Yna, yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Maldwyn 2003 (ym Meifod), rhyddhawyd ''Goreuon Plethyn'', eto ar label Sain.
  
 
Fel pedwarawd y gwnaethant eu perfformiad cyntaf, gyda Kathy Gittins, un arall o’u cymdogion, a hynny yn hen ysgol Pontrobert yn Nhachwedd 1974. Ond fel triawd y daethant yn adnabyddus, gan wneud eu hymddangosiad teledu cyntaf ar y rhaglen ''Twndish'' (cynhyrchydd, Ruth Price) yn canu [[carolau]] plygain. Buont yn perfformio’n rheolaidd ar hyd a lled Cymru, yn enwedig ar ôl rhyddhau ''Blas y Pridd''. Teithiodd y grŵp y tu hwnt i Gymru hefyd. Buont yn cynrychioli Cymru ddwywaith yng [[Ngŵyl]] Lorient yn Llydaw, yn Iwerddon (cystadleuaeth [[Cân i Gymru]] 1980), Paris, Sardinia, California, Seattle a Vancouver. Un o’r uchafbwyntiau oedd recordio rhaglen deledu ym Methlehem. Ymddangosodd y tri yn gyson ar y teledu, gan gynnwys cyfres o chwe rhaglen ''Teulu’r Tir''.
 
Fel pedwarawd y gwnaethant eu perfformiad cyntaf, gyda Kathy Gittins, un arall o’u cymdogion, a hynny yn hen ysgol Pontrobert yn Nhachwedd 1974. Ond fel triawd y daethant yn adnabyddus, gan wneud eu hymddangosiad teledu cyntaf ar y rhaglen ''Twndish'' (cynhyrchydd, Ruth Price) yn canu [[carolau]] plygain. Buont yn perfformio’n rheolaidd ar hyd a lled Cymru, yn enwedig ar ôl rhyddhau ''Blas y Pridd''. Teithiodd y grŵp y tu hwnt i Gymru hefyd. Buont yn cynrychioli Cymru ddwywaith yng [[Ngŵyl]] Lorient yn Llydaw, yn Iwerddon (cystadleuaeth [[Cân i Gymru]] 1980), Paris, Sardinia, California, Seattle a Vancouver. Un o’r uchafbwyntiau oedd recordio rhaglen deledu ym Methlehem. Ymddangosodd y tri yn gyson ar y teledu, gan gynnwys cyfres o chwe rhaglen ''Teulu’r Tir''.
  
Arbenigrwydd mwyaf Plethyn yw eu perfformiadau byw, sy’n aml yn ennyn ymateb brwd oherwydd swyn eu lleisiau a naturioldeb eu cyflwyniadau. Roedd y noson yng ngwesty’r Victoria yn Llanberis adeg Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, yn fuan wedi rhyddhau ''Blas y Pridd'', yn un gofiadwy i lawer oedd yno. Felly hefyd, 36 o flynyddoedd yn ddiweddarach, berfformiad yng Nghlwb Rygbi Cobra ym Meifod adeg Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2015, lle’r oedd cenhedlaeth newydd wedi datblygu’n gefnogwyr brwd. Gellir olrhain y twf diweddar mewn canu plygain ymysg cantorion megis Gwilym Bowen Rhys (gynt o’r [[Bandana]]), yn rhannol i ymdrechion Plethyn i boblogeiddio’r ffurf yn ystod degawdau olaf yr 20g. Dilynodd Linda Griffiths yrfa lwyddiannus fel cantores unigol hefyd, gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, gan gynnwys ''Plant y Môr'' (1994), ''Ôl ei droed'' (2003) a ''Storm Nos'' (2009), yn aml yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd a’r gitarydd talentog Tudur Morgan.
+
Arbenigrwydd mwyaf Plethyn yw eu perfformiadau byw, sy’n aml yn ennyn ymateb brwd oherwydd swyn eu lleisiau a naturioldeb eu cyflwyniadau. Roedd y noson yng ngwesty’r Victoria yn Llanberis adeg Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, yn fuan wedi rhyddhau ''Blas y Pridd'', yn un gofiadwy i lawer oedd yno. Felly hefyd, 36 o flynyddoedd yn ddiweddarach, berfformiad yng Nghlwb Rygbi Cobra ym Meifod adeg Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2015, lle’r oedd cenhedlaeth newydd wedi datblygu’n gefnogwyr brwd. Gellir olrhain y twf diweddar mewn canu plygain ymysg cantorion megis Gwilym Bowen Rhys (gynt o’r [[Bandana, Y | Bandana]]), yn rhannol i ymdrechion Plethyn i boblogeiddio’r ffurf yn ystod degawdau olaf yr 20g. Dilynodd Linda Griffiths yrfa lwyddiannus fel cantores unigol hefyd, gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, gan gynnwys ''Plant y Môr'' (1994), ''Ôl ei droed'' (2003) a ''Storm Nos'' (2009), yn aml yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd a’r gitarydd talentog Tudur Morgan.
  
 
'''Arfon Gwilym'''
 
'''Arfon Gwilym'''

Diwygiad 17:26, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Triawd gwerin o ardal Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn a wnaeth gryn argraff yn ystod yr 1980au a’r 1990au, ac a fu’n bennaf cyfrifol am ddwyn y traddodiad o ganu harmoni yn null y Plygain i ganol prif ffrwd y canu gwerin cyfoes Cymraeg. Eu camp oedd poblogeiddio dwsinau o ganeuon traddodiadol yn ogystal â chyflwyno nifer fawr o ganeuon newydd.

Y tri aelod oedd Roy a Linda Griffiths, brawd a chwaer, a John Gittins, un o’u cymdogion yn ardal Meifod. Un o’r dylanwadau arnynt oedd Elfed Lewys, gweinidog yn yr ardal a oedd yn gredwr mawr mewn cyflwyno’r traddodiad gwerin mewn arddull naturiol ac anffurfiol. Cyfrinach eu llwyddiant yw llais unigryw Linda, gyda Roy (tenor) a John (bas) yn ffrâm berffaith iddi. Roedd canu’n ddigyfeiliant yn dod yn hawdd iddynt, ond fel arall defnyddiwyd gitâr a mandolin, pib a chonsertina fel cyfeiliant. Yn y cyfnod diweddarach ychwanegwyd allweddellau hefyd (Beryl Watkins). Trefniannau lleisiol ac offerynnol o ganeuon gwerin yw rhan fawr o’u repertoire, ond roedd beirdd megis Myrddin ap Dafydd hefyd yn cyfansoddi caneuon newydd ar eu cyfer.

Roedd y triawd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995. Yn y cyfnod hwnnw rhyddhawyd wyth record a chryno-ddisg i gyd ar label Sain: Blas y Pridd (1979), Golau Tan Gwmwl (1980), Rhown Garreg ar Garreg (1981), Teulu’r Tir (1983), Caneuon Gwerin i Blant (1984), Byw a Bod (1987), Drws Agored (1990) a Seidir Ddoe (1994). Yna, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 (ym Meifod), rhyddhawyd Goreuon Plethyn, eto ar label Sain.

Fel pedwarawd y gwnaethant eu perfformiad cyntaf, gyda Kathy Gittins, un arall o’u cymdogion, a hynny yn hen ysgol Pontrobert yn Nhachwedd 1974. Ond fel triawd y daethant yn adnabyddus, gan wneud eu hymddangosiad teledu cyntaf ar y rhaglen Twndish (cynhyrchydd, Ruth Price) yn canu carolau plygain. Buont yn perfformio’n rheolaidd ar hyd a lled Cymru, yn enwedig ar ôl rhyddhau Blas y Pridd. Teithiodd y grŵp y tu hwnt i Gymru hefyd. Buont yn cynrychioli Cymru ddwywaith yng Ngŵyl Lorient yn Llydaw, yn Iwerddon (cystadleuaeth Cân i Gymru 1980), Paris, Sardinia, California, Seattle a Vancouver. Un o’r uchafbwyntiau oedd recordio rhaglen deledu ym Methlehem. Ymddangosodd y tri yn gyson ar y teledu, gan gynnwys cyfres o chwe rhaglen Teulu’r Tir.

Arbenigrwydd mwyaf Plethyn yw eu perfformiadau byw, sy’n aml yn ennyn ymateb brwd oherwydd swyn eu lleisiau a naturioldeb eu cyflwyniadau. Roedd y noson yng ngwesty’r Victoria yn Llanberis adeg Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, yn fuan wedi rhyddhau Blas y Pridd, yn un gofiadwy i lawer oedd yno. Felly hefyd, 36 o flynyddoedd yn ddiweddarach, berfformiad yng Nghlwb Rygbi Cobra ym Meifod adeg Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau yn 2015, lle’r oedd cenhedlaeth newydd wedi datblygu’n gefnogwyr brwd. Gellir olrhain y twf diweddar mewn canu plygain ymysg cantorion megis Gwilym Bowen Rhys (gynt o’r Bandana), yn rhannol i ymdrechion Plethyn i boblogeiddio’r ffurf yn ystod degawdau olaf yr 20g. Dilynodd Linda Griffiths yrfa lwyddiannus fel cantores unigol hefyd, gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, gan gynnwys Plant y Môr (1994), Ôl ei droed (2003) a Storm Nos (2009), yn aml yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd a’r gitarydd talentog Tudur Morgan.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Blas Y Pridd (Sain 1145M, 1979)
  • Golau Tan Gwmwl (Sain 1188M, 1980)
  • Rhown Garreg Ar Garreg (Sain 1226M, 1981)
  • Teulu’r Tir (Sain 1274M, 1983)
  • Byw A Bod (Sain 1393M, 1987)
  • Drws Agored (Sain SCD4033, 1990)
  • Seidir Ddoe (Sain SCD2083, 1994)

Casgliadau:

  • Blas Y Pridd/Golau Tan Gwmwl (Sain SCD6045, 1990)
  • Goreuon (Sain SCD2375, 2003)
  • Popeth Arall Ar CD... (Sain SCD2437, 2004)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.