Rhyddfrydiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:01, 8 Medi 2024 gan AdamPierceCaerdydd (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Liberalism)

1. Cyflwyno Rhyddfrydiaeth

Dadleir fod rhyddfrydiaeth wedi datblygu i ddod yn ideoleg wleidyddol bwysicaf a fwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, ac ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Yn wir, mae rhyddfrydiaeth wedi cael effaith enfawr ar sut mae pobl yn byw eu bywydau ac mae egwyddorion sylfaenol Rhyddfrydol megis rhyddid, cydraddoldeb ac unigolyddiaeth yn nodweddiadol iawn o ddemocratiaethau modern y gorllewin ac yntau wedi’u gwreiddio’n ddwfn iawn yn ein cymdeithas, gan gyfrannu’n helaeth at siapio ein daliadau mwyaf sylfaenol. Yn wir, cymaint fu dylanwad rhyddfrydiaeth ar fydolwg cymdeithasau Gorllewinol nes ei bod yn anodd iawn ar brydiau i wahaniaethu mewn modd ystyron rhwng rhyddfrydiaeth a’r hyn y gellid ei ddisgrifio fel ‘y ffordd o fyw Gorllewinol’ neu’r ‘gwareiddiad Gorllewinol’.

2. Datblygiad Rhyddfrydiaeth

Mae’n bwysig cofio na ddaeth rhyddfrydiaeth i gael ei fabwysiadu fel label gwleidyddol penodol – hynny yw fel modd o ddiffinio ymlyniad gwleidyddol person neu grŵp – hyd at ddegawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n bosib mai yn Sbaen ym 1812 y gwelwyd hyn yn digwydd am y tro cyntaf, pan fabwysiadwyd yr enw Liberales gan blaid newydd a sefydlwyd mewn gwrthwynebiad i garfanau mwy ceidwadol oedd yn gefnogol i’r frenhiniaeth (Paquette 2015). Wedi hynny, datblygodd y defnydd gwleidyddol o’r term yn gyflym iawn. Erbyn tua’r 1840au, câi rhyddfrydiaeth ei gydnabod ar draws Ewrop fel term a oedd yn cyfeirio at gasgliad cydlynol o syniadau gwleidyddol cymharol radical.

Fodd bynnag, penllanw ar gyfnod o ddatblygu oedd hyn. Tra na châi rhyddfrydiaeth ei chydnabod fel safbwynt gwleidyddol penodol hyd at ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y math o syniadau ac egwyddorion a gynrychioliad ganddi yn rhai a fu’n datblygu’n raddol am bron i dri canrif cyn hynny. Mae’r drafodaeth ynglŷn â pha ffactorau’n union arweiniodd at hybu datblygiad syniadau rhyddfrydol yn ystod y cyfnod hwn – 1600au-1800au – yn un eang dros ben. Mae ysgolheigion megis Manent (1996) a Rosenblatt (2018) sy’n astudio hanes syniadau gwleidyddol wedi dewis dilyn sawl trywydd gwahanol, gan roi sylw i ystod o ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol arwyddocaol.

Mae’r rhain yn cynnwys cyfres o chwyldroadau gwleidyddol mawr a welwyd yn Lloegr (1688), America (1776) a Ffrainc (1789); digwyddiadau a oedd oll, mewn amrywiol ffyrdd, yn rhoi mynegiant i themâu Rhyddfrydol allweddol, gan gynnwys unigolyddiaeth, goddefgarwch, rhyddid a’r angen i osod cyfyngiadau ar rym gwleidyddol. Yn ogystal â hyn, credai fod syniadau Rhyddfrydol wedi deillio o gyfnod yr Ymoleuo sef y mudiad diwylliannol a deallusol a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y ddeunawfed ganrif. Arweinodd tuag at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg trwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio eu gallu i resymu er mwyn deall y byd.

Yn olaf, credir fod datblygiad cyfalafiaeth o’r ail ganrif ar bymtheg ymlaen wedi hybu syniadau rhyddfrydol. Fe wnaeth cyfalafiaeth arwain ymhlith pethau eraill, at ddatblygiad dosbarth canol niferus oedd yn gynyddol amharod i dderbyn y cyfyngiadau ar ryddid gwleidyddol ac economaidd a oedd wedi nodweddu cyfundrefnau brenhinol absoliwt y canrifoedd cynt.

Gwelir felly fod ystod o ddatblygiadau arwyddocaol wedi cyfrannu at ddatblygiad syniadau rhyddfrydol. Ar y lefel fwyaf cyffredinol, yr hyn y gellir ei gasglu yw bod y cyfnod rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi bod yn un a brofodd drawsnewidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol ac mai un o ganlyniadau’r broses honno oedd rhyddfrydiaeth.

3. Nodweddion Allweddol Rhyddfrydiaeth

Wrth gwrs, dros y canrifoedd mae’r dadleuon a’r egwyddorion a gysylltir â rhyddfrydiaeth wedi esblygu cryn dipyn. Fel y dadleuodd yr hanesydd syniadau blaenllaw John Gray (2000), nid un corff taclus a chydlynol o syniadau mo rhyddfrydiaeth. Er bod rhai ysgolheigion wedi ceisio dadlau o blaid bodolaeth un athrawiaeth ryddfrydol bur, yr arfer ymhlith y mwyafrif yw mynnu ei bod yn fwy priodol gwahaniaethu rhwng amrywiol ffrydiau rhyddfrydol. Ymhlith y ffrydiau hyn, y mwyaf blaenllaw yw Rhyddfrydiaeth glasurol a Rhyddfrydiaeth fodern. Ceir hefyd ffrydiau eraill sy’n deillio o ideoleg ryddfrydol sef Neoryddfrydiaeth a Ffeministiaeth ryddfrydol. Er i’r ffrydiau yma rhannu cred mewn egwyddorion rhyddfrydol creiddiol, fel unigolyddiaeth a rhyddid, dros y blynyddoedd mae meddylwyr sy’n perthyn i’r naill ffrwd neu’r llall wedi dehongli’r egwyddorion hyn mewn ffyrdd gwahanol ac mae hyn wedi arwain at gasgliadau gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylid trefnu cymdeithas. Fodd bynnag, gellir rhestru cyfres o elfennau pwysig, sy’n tueddu i gael eu hystyried fel rhai sy’n allweddol i’r bydolwg rhyddfrydol.

3.1. Unigolyddiaeth

Mae unigolyddiaeth yn egwyddor ryddfrydol cwbl greiddiol (Smith 2013). Golyga bod rhyddfrydwyr o’r farn y dylid gosod lles a buddiannau bodau dynol unigol uwchlaw rhai cymdeithas, neu unrhyw grŵp torfol arall. Dadleuir y dylid cydnabod bod bodau dynol, yn y lle cyntaf, oll yn unigolion gwahanol, a bod i’r ffaith hon arwyddocâd moesol pellgyrhaeddol. I ddechrau, golyga y dylid cydnabod bod pob person yn greadur unigryw sy’n meddu ar gymeriad, chwaeth a hunaniaeth benodol. Yn ogystal, golyga y dylid cydnabod bod pob person yn gydradd o ran ei statws moesol, gan fod pawb, yn y lle cyntaf, yn unigolyn.

O ganlyniad i’r daliadau hyn, y nod gwleidyddol i ryddfrydwyr fu creu cymdeithas a fyddai’n caniatáu i unigolion fedru byw eu bywydau yn ôl eu dymuniadau personol. Golyga hyn fod rhyddfrydwr wedi tueddu i fod yn amheus o unrhyw safbwynt gwleidyddol sy’n ceisio estyn gormod o reolaeth dros fywyd yr unigolyn, gan gyfyngu ar ei allu i osod ei gwrs ei hun ar gyfer ei fywyd.

Fodd bynnag, er bod unigolyddiaeth wedi bod yn egwyddor allweddol mewn gwaith rhyddfrydol o bob math dros y canrifoedd, dylid nodi nad yw rhyddfrydwyr wedi bod yn gwbl gytûn ar sut ddylid ei dehongli. Mae rhyddfrydiaeth glasurol yn tueddu dehongli cymdeithas fel dim mwy na chasgliad o unigolion annibynnol, tra bo rhyddfrydiaeth fodern yn fwy parod i roi sylw i bwysigrwydd y cyswllt rhwng bodau unigol ac unedau ehangach, megis y teulu, y gymuned neu’r genedl. Eto i gyd, er gwaetha’r gwahaniaethau hyn, mae pob rhyddfrydwr yn tueddu i fod yn gytûn ar y pwynt cyffredinol y dylai lles yr unigolyn gael ei drin fel mater o flaenoriaeth. Mewn geiriau eraill, yr unigolyn yw’r man cychwyn ar gyfer pob rhyddfrydwr – yr uned fwyaf sylfaenol.

3.2. Rhyddid

Law yn llaw ag unigolyddiaeth, mae rhyddfrydwyr hefyd yn trin rhyddid fel egwyddor hollbwysig. Mae’r pwyslais ar ryddid yn deillio’n naturiol o’r gred y dylai cymdeithas gael ei threfnu mewn modd sy’n caniatáu i’r unigolyn i fyw ei fywyd fel y mae ef neu hi’n dymuno. Er mwyn medru gwneud hynny, rhaid i’r unigolyn fod yn rydd.

Fodd bynnag, tuedda rhyddfrydwyr i dderbyn nad yw’n ymarferol i unigolion feddu ar ryddid absoliwt, di-derfyn. Byddai rhyddid o’r fath yn medru creu sefyllfa lle gallai rhai unigolion ddefnyddio eu rhyddid i niweidio neu gaethiwo eraill, gan arwain at anrhefn. O ganlyniad, er bod rhyddid yn egwyddor sylfaenol i ryddfrydwyr, maent yn barod i osod rhai cyfyngiadau ar y rhyddid hwnnw er mwyn i bawb fedru cyd-fyw. Yn fras, argymhellir y dylai pawb gael gymaint o ryddid ag sy’n bosib heb amharu ar ryddid eraill. Yng ngeiriau John Rawls (1971: 60): …each person is to have an equal right to the most extensive basic liberty compatible with a similar liberty for others.

Fodd bynnag, tra bo rhyddfrydwyr yn gytûn ar yr angen i drin rhyddid fel egwyddor sylfaenol, nid ydynt wastad wedi cyd-weld ynglŷn a sut, yn ymarferol, y dylid gwarantu’r rhyddid hwnnw. Ar y naill law, mae rhyddfrydwyr clasurol wedi mynnu bod rhyddid unigolion yn ddibynnol ar adael llonydd iddynt geisio diddymu unrhyw rwystrau a allai eu hatal rhag gwneud fel y mynnont. Ar y llaw arall, mae rhyddfrydwyr modern wedi mynnu bod gwarantu rhyddid unigolion yn galw am gymryd cyfres o gamau cadarnhaol er mwyn creu amodau cymdeithasol ac economaidd a fydd yn caniatáu iddynt ddatblygu eu galluoedd a’u dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.

3.3. Cydraddoldeb

Ymhlyg yn yr unigolyddiaeth a gaiff ei harddel gan ryddfrydwyr fel Rawls (1971), mae cred mewn cydraddoldeb sylfaenol – hynny yw y gred fod pob person yn gydradd o ran ei statws moesol, gan fod pawb, yn y lle cyntaf, yn unigolyn. Mae hyn wedyn yn arwain rhyddfrydwyr i ddadlau y dylai pawb feddu ar yr un statws ffurfiol o fewn cymdeithas, ac yn benodol y dylai pob unigolyn, beth bynnag fo’i cefndir, gael yr un hawliau a breintiau. O ganlyniad, mae rhyddfrydwyr yn gwrthwynebu unrhyw drefniadau sy’n rhoi cyfleoedd i rai carfannau ond ddim i eraill ar sail nodweddion megis rhywedd, ethnigrwydd, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Rhai o’r enghreifftiau mwyaf cyfarwydd o’r cydraddoldeb ffurfiol hwn ar waith yw ‘cydraddoldeb cyfreithiol’ a ‘chydraddoldeb gwleidyddol’. Mae’r cyntaf yn mynnu y dylai’r gyfundrefn gyfreithiol drin pob aelod o gymdeithas yn gyson ac yn ddiwahân, gan ddiystyru unrhyw ffactorau cymdeithasol eraill (ethnigrwydd, rhywedd, dosbarth) wrth weinyddu’r gyfraith. Mae’r ail yn mynnu y dylai’r gyfundrefn wleidyddol drin pawb yn gyfartal, er enghraifft trwy estyn yr un hawliau pleidleisio i bawb a sicrhau y bydd pleidlais pawb yn gydradd o ran gwerth.

Fodd bynnag, nid yw rhyddfrydwyr yn credu mewn cydraddoldeb absoliwt – hynny yw, y dylai canlyniadau bywyd fod yn gydradd ar gyfer pawb ac na ddylai fod unrhyw wahaniaethau o ran amodau byw neu gyfoeth ymhlith aelodau cymdeithas. Yn hytrach, mae rhyddfrydwyr yn ffafrio’r syniad o gyfle cyfartal (Swift a Brighouse 2003). Mynnir mai’r nod ddylai fod creu man cychwyn cyfartal i bawb, gan dderbyn wedyn y bydd unigolion yn mynd i gyfeiriadau gwahanol yn ystod eu bywydau. Mae rhyddfrydwyr wedi tueddu i fod yn amheus o’r syniad mwy pellgyrhaeddol o gydraddoldeb absoliwt, gan ein bod oll yn unigolion sy’n meddu ar dalentau gwahanol a hefyd yn tueddu i amrywio o ran ein chwaeth, ein personoliaeth a’n dyhead i hunan-ddyrchafu.

3.4. Goddefgarwch

Gan fod cymdeithas yn dwyn ynghyd nifer helaeth o unigolion gwahanol, mae’n anochel y bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o arferion o ran daliadau moesol, diwylliant a gwleidyddiaeth. Caiff goddefgarwch o amrywiaethau fel hyn ei drin gan ryddfrydwyr fel angen cwbl sylfaenol. Dadleuir mai dim ond trwy sicrhau bod pobl yn barod i dderbyn y bydd eraill, o bosib, yn dewis meddwl neu ymddwyn mewn ffyrdd nad ydynt hwy yn eu cymeradwyo y gellir creu amodau cymdeithasol a fydd yn caniatáu i unigolion gwahanol fyw bywydau rhydd. Mae hanes hir i’r pwyslais hwn ar oddefgarwch a’r cysylltiad rhyngddo a rhyddid yr unigolyn o fewn y traddodiad rhyddfrydol. Er enghraifft, mae’r athronydd Ffrengig, Voltaire (1694-1778), yn enwog am ddweud:

I detest what you say but I will defend to the death your right to say it.

Mae ymrwymiad ymysg rhyddfrydwyr i barchu rhyddid eraill. Roedd yn bwnc canolog yng ngwaith rhyddfrydwyr cynnar megis John Locke (1632-1704) ac yn benodol ei ymgais i amddiffyn y syniad o ryddid crefyddol. Yn ei ysgrif enwog, A Letter Concerning Toleration, dadleuodd Locke (1689/2010 :48) nad oedd yn briodol bod y wladwriaeth yn ymyrryd yn y dasg o ‘ofalu am enaid pob dyn [the care of each man’s soul].’

Fodd bynnag, yn nhyb rhai rhyddfrydwyr, nid dim ond rhywbeth y dylid ei oddef yw cymdeithas sy’n cynnwys amrywiaethau moesol, diwylliannol a gwleidyddol. Dadleuir y dylai plwraliaeth gymdeithasol o’r fath gael ei thrin fel nodwedd gadarnhaol y dylid ei dathlu a’i hybu. Er enghraifft, yn ei gyfrol enwog, On Liberty, dadleuodd J. S. Mill (1859/2011) o blaid cymdeithas sy’n caniatáu i ystod o syniadau gwahanol gael eu harddel a’u trafod yn agored. Mynnodd fod amgylchiadau o’r fath yn debygol o hybu trafod, dysg a chynnydd cymdeithasol.

3.5. Rheswm

Mae rhyddfrydiaeth yn ideoleg a ddatblygodd yng nghysgod yr Ymoleuo – mudiad diwylliannol a deallusol yn ystod y ddeunawfed ganrif arweiniodd at danseilio dehongliadau traddodiadol o grefydd, gwleidyddiaeth a dysg trwy ddyrchafu cred yng ngallu pobl i ddefnyddio eu gallu i resymu er mwyn deall y byd. Canlyniad hyn yw bod dylanwad yr Ymoleuo a’i bwyslais ar resymoliad wedi dylanwadu ar ddatblygiad rhyddfrydiaeth mewn amryw o ffyrdd (gweler Ryan 2012).

I ddechrau, mae’r awydd ymhlith rhyddfrydwyr i estyn rhyddid i bob unigolyn yn deillio’n rhannol o’r gred fod bodau dynol yn greaduriaid rhesymol sy’n meddu ar y gallu i feddwl drostynt eu hunain, a thrwy hynny, i benderfynu ar lwybr addas i’w ddilyn yn ystod eu bywydau. Nid yw’r ffydd hwn yn ein gallu i resymu yn golygu bod rhyddfrydwyr yn meddwl bod pobl yn gwbl anffaeledig. Fodd bynnag, golyga fod rhyddfrydwyr yn amharod iawn i arddel syniadau tadol (paternal) a nodweddir gan duedd i gyfarwyddo pobl ar sut y dylent fyw eu bywydau.

Yn ail, mae’r pwyslais ar rinweddau rhesymoliaeth wedi esgor ar y gred ryddfrydol mewn cynnydd. Yn nhyb rhyddfrydwyr, mae’r modd y cafodd ffiniau gwybodaeth eu hehangu’n barhaol dros y canrifoedd diwethaf, yn benodol yn sgil y Chwyldro Gwyddonol, wedi creu sefyllfa lle mae modd i fodau dynol ddeall ac egluro natur eu byd. Ymhellach, ar sail ein gallu i resymu, golyga y gall pobl fynd ati i geisio trefnu’r byd er gwell. Disgwylir hefyd y bydd pob cenhedlaeth, yn ei thro, yn medru ychwanegu at stôr y ddynoliaeth o wybodaeth, a thrwy hynny, gyfrannu at gynyddu’r potensial ar gyfer cynnydd pellach yn y dyfodol.

Yn drydydd, mae’r pwyslais ar reswm wedi arwain rhyddfrydwyr i roi ffydd yn rhinweddau trafodaeth. Derbynnir bod gwrthdaro – er enghraifft ynglŷn â sut i rannu neu sut i ddefnyddio adnoddau prin – yn anochel mewn unrhyw gymdeithas. Eto i gyd, pan fo hyn yn codi, cred rhyddfrydwyr mai’r unig ffordd o ddatrys yr anghydweld yw trwy gyfrwng trafodaeth agored. Credir bod hwn yn ddull a fydd yn dwyn ffrwyth, gan fod bodau dynol yn greaduriaid rhesymol. Yn sgil hynny, trwy drafod byddant yn dod i weld mai ofer yw parhau â’r gwrthdaro ac y gallai peidio cymodi arwain at ganlyniadau anffodus iawn, gan gynnwys trais neu ryfela.

3.6. Cydsyniad

Yn nhyb rhyddfrydwyr dylai awdurdod gwleidyddol a hefyd unrhyw drefniadau cymdeithasol fod yn seiliedig ar gytundeb a chydsyniad (Dienstag 1996). O ganlyniad, dylai unrhyw lywodraeth feddu ar gydsyniad y rhai y mae’n llywodraethu drostynt. Dyma’r dybiaeth sydd wedi arwain rhyddfrydwyr i ffafrio trefniadau llywodraethol cynrychioladol a democrataidd yn hytrach na rhai unbenaethol. Yn yr un modd dylai unrhyw gymdeithasau neu rwydweithiau sy’n bodoli o fewn cymuned gael eu dehongli fel endidau sy’n deillio o gytundeb rhydd rhwng gwahanol unigolion, ac sydd felly ond yn meddu ar werth cyhyd ag y bo’r unigolion sy’n eu cynnal yn cydsynio. At ei gilydd felly, gwelir fod rhyddfrydwyr yn tueddu i gredu bod awdurdod a dilysrwydd yn nodweddion sydd wastad yn codi o’r gwaelod – o blith yr unigolion sy’n ffurfio cymdeithas.

3.7. Cyfansoddiadaeth

Ochr yn ochr â chydsyniad, mae trafodaethau rhyddfrydol ynglŷn â natur llywodraeth yn tueddu i bwysleisio egwyddor cyfansoddiadaeth. Er bod rhyddfrydwyr yn derbyn bod rhaid sefydlu llywodraeth o ryw fath er mwyn cadw trefn, credant fod peryg i bob llywodraeth – hyd yn oed y rhai sy’n seiliedig ar gydsyniad – ymyrryd yn ormodol ym mywyd yr unigolyn. Caiff y pryder hwn ei grynhoi’n effeithiol gan eiriau enwog yr Arglwydd Acton (1887):

Power tends to corrupt, and absolute power corrupts absolutely.

O ganlyniad, mae rhyddfrydwyr wedi tueddu i ddadlau o blaid trefniadau gwleidyddol a chyfreithiol a fydd yn ffrwyno grym y wladwriaeth mewn ffyrdd pwysig – dyma hanfod y syniad o gyfansoddiadaeth.

Yn gyffredinol, casgliad o reolau yw cyfansoddiad sy’n amlinellu dyletswyddau a grymoedd y sefydliadau gwahanol sy’n rhan o’r wladwriaeth. Un o nodweddion allweddol cyfansoddiadaeth ryddfrydol yw’r gred y dylai cyfansoddiad gwlad osod terfynau cyfreithiol clir ar hyd a lled grym y wladwriaeth. Yn ymarferol, mae hyn wedi tueddu i olygu mabwysiadu cyfansoddiadau ysgrifenedig sy’n nodi’n glir beth yw swyddogaethau’r wladwriaeth, ond hefyd beth yw’r meysydd hynny lle na ddylai ei grym gael ei estyn. Yr enghraifft gyntaf o gyfansoddiad ysgrifenedig o’r math hwn oedd Cyfansoddiad Unol Daleithiau America a luniwyd ym 1787. Yn dilyn hynny, daeth yr arfer o fabwysiadu cyfansoddiadau ysgrifenedig yn gyffredin iawn ar draws gwladwriaethau rhyddfrydol-ddemocratiaidd ac erbyn heddiw Israel, Seland Newydd a’r Deyrnas Unedig yw’r unig eithriadau (Comparative Constitutions Project 2014).

O ganlyniad, cred rhyddfrydwyr y dylid sicrhau bod cyfyngiadau pendant yn cael eu gosod ar allu’r llywodraeth i ymyrryd mewn rhai meysydd pwysig. Un ffordd gyffredin o wneud hyn yw trwy fabwysiadu cyfansoddiad sy’n gosod terfyn ar yr hyn y caiff gwladwriaeth ei wneud.

4. Rhyddfrydiaeth a Chymru

Mae traddodiad hir o feddylwyr rhyddfrydol wedi bodoli yng Nghymru. Un o feddylwyr ryddfrydol cynharaf Cymreig oedd Richard Price, gweinidog Presbyteraidd ac athronydd. Yn 1789, cyflwynodd Richard Price bregeth o’r enw, Cariad at ein Gwlad [A Discourse on the Love of Our Country]. Yn y bregeth, dangosodd Richard Price ei gefnogaeth i’r Chwyldro Gogoneddus digwyddodd yn Lloegr yn 1688 a’r Chwyldro Ffrengig oedd yn digwydd ar y pryd gan eu bod nhw’n anelu i ehangu rhyddid unigolion. Yn ystod yr pedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yna twf yn nylanwad rhyddfrydiaeth yng Nghymru yn rhannol oherwydd cynnydd mewn Anghydffurfiaeth Gymreig (Chambers a Thompson 2005). O’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, daeth nifer o ffigurau sydd yn gysylltiedig gyda rhyddfrydiaeth i’r amlwg. Un o’r rhyddfrydwyr Cymreig enwocaf y cyfnod yma oedd David Lloyd George, wnaeth ddod yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng 1916 ac 1922. Yn y llyfr, David Lloyd George and Welsh Liberalism, ceir trafodaeth manylach gan Dr John Graham Jones (2010) am fywyd a syniadau David Lloyd George ac rhai o rhyddfrydwyr eraill y cyfnod yma. Fe wnaeth dylawnad Rhyddfrydiaeth barhau i’r ugeinfed ganrif tan i Sosialaeth fod yn ddylanwad mawr ar Gymru, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, a tan i’r Blaid Lafur ddod yn un o bleidiau blaengar yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain (Chambers a Thompson 2005).

Mae’r cofnod yma yn seiliedig ar Rhyddfrydiaeth: Nodweddion Allweddol gan Dr. Huw Lewis (rhan o e-lawlyfrau Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol sydd ar gael ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), wedi’i addasu gan Adam Pierce a Dr. Siôn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.

Llyfryddiaeth

Arglwydd Acton (1887), Lord Acton writes to Bishop Creighton that the same moral standards should be applied to all men, political and religious leaders included, especially since “Power tends to corrupt and absolute power corrupts absolutely” (1887). https://oll.libertyfund.org/quote/lord-acton-writes-to-bishop-creighton-that-the-same-moral-standards-should-be-applied-to-all-men-political-and-religious-leaders-included-especially-since-power-tends-to-corrupt-and-absolute-power-corrupts-absolutely-1887 [Cyrchwyd: 17 Mawrth 2021]

Brighouse, H., a Swift, A. (2003), ‘Defending liberalism in education theory’. Journal of Education Policy, 18 (4), 355-373

Chambers, P. a Thompson, A. (2005). ‘Public Religion and Political Change in Wales’. Sociology, 39 (1), 29-46

Comparative Constitutions Project (2014). What is the UK Constitution? http://eprints.lse.ac.uk/83165/1/Constitution%20UK%20_%20Constitution%20UK_What%20is%20the%20UK%20Constitiution.pdf [Cyrchwyd: 1 April 2021]

Dienstag, J. (1996) ‘Between History and Nature: Social Contract Theory in Locke and the Founders’, The Journal of Politics, 58 (4), 985-1009

Gray, J. (2000), Two Faces of Liberalism. (Cambridge: Polity Press) Jones, J. G. (2010), David Lloyd George and Welsh Liberalism. (Aberystwyth: National Library of Wales)

Locke, J. (1689/2010), ‘A Letter Concerning Toleration’ yn Goldie, M. (gol.), A Letter Concerning Toleration and Other Writings. (Indianapolis: Liberty Fund)

Manent, P. (1996), An Intellectual History of Liberalism. (Princeton: Princeton University Press)

Mill, J. S. (1859/2011), On Liberty (Luton: Andrews UK)

Paquette, G. (2015), ‘Introduction: Liberalism in the Early Nineteenth-century Iberian World’, History of European Ideas, 41 (2), 153-165

Price, R. (1789/1989), Cariad at ein Gwlad [A Discourse on the Love of Our Country]. (Aberystwyth: National Library of Wales)

Rawls, J. (1971), A Theory of Justice (Cambridge, MA: The Belknap Press of Harvard University Press)

Ryan, A. (2012). The Making of Modern Liberalism. (Princeton: Princeton University Press)

Rosenblatt, H. (2018), The Lost History of Liberalism: From Ancient Rome to the Twenty-First Century. (Princeton: Princeton University Press)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.