Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Church, Charlotte (g.1986)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn [[eisteddfodau]] yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998.
+
Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998.
  
Wedi ymddangosiadau ar y [[rhaglenni teledu]] ''This Morning'' a ''The Big Big Talent Show'' yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus ''Voice of an Angel'' (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton.
+
Wedi ymddangosiadau ar y [[Rhaglenni Teledu Pop | rhaglenni teledu]] ''This Morning'' a ''The Big Big Talent Show'' yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus ''Voice of an Angel'' (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton.
  
Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm ''Charlotte Church'' (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, [[emyn-donau]] ac alawon [[gwerin]] poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, ''Dream a Dream'' (Sony, 2000), ar [[garolau]] Nadolig. Rhyddhawyd ''Enchantment'' flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, ''A Beautiful Mind'' (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei [[hunangofiant]] cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad [[canu pop]] gyda’r albwm ''Tissues & Issues'' (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer ''genres'' cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig.
+
Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm ''Charlotte Church'' (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, [[Emyn-donau | emyn-donau]] ac alawon [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]] poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, ''Dream a Dream'' (Sony, 2000), ar [[Carolau | garolau]] Nadolig. Rhyddhawyd ''Enchantment'' flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, ''A Beautiful Mind'' (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei [[hunangofiant]] cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | canu pop]] gyda’r albwm ''Tissues & Issues'' (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer ''genres'' cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig. [[Delwedd:Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).jpeg|thumb|<small>Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).</small>]]
  
 
Am gyfnod, bu’r ''tabloids'' yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y [[papur newydd]] ''News of the World'' a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd ''The Charlotte Church Show'' ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008.
 
Am gyfnod, bu’r ''tabloids'' yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y [[papur newydd]] ''News of the World'' a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd ''The Charlotte Church Show'' ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008.
  
Yn 2010 rhyddhawyd ''Back to Scratch'' (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y [[cwmnïau recordio]], fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: ''One'' (2012), ''Two'' (2013), ''Three'' (2013) a ''Four'' (2014).
+
Yn 2010 rhyddhawyd ''Back to Scratch'' (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y [[Cwmnïau Recordio yng Nghymru | cwmnïau recordio]], fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: ''One'' (2012), ''Two'' (2013), ''Three'' (2013) a ''Four'' (2014).
  
Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a [[gwyliau]] roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn ''Golwg'' ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999.
+
Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn ''Golwg'' ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999.
  
Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel [[Aled Jones]]), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’.
+
Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel [[Jones, Aled (g.1970) | Aled Jones]]), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’.
  
 
'''Tristian Evans'''
 
'''Tristian Evans'''
Llinell 20: Llinell 20:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Voice of an Angel'' (Sony SK60957, 1998)  
+
*''Voice of an Angel'' (Sony SK60957, 1998)  
  
:''Charlotte Church'' (Sony SK89003, 1999)  
+
*''Charlotte Church'' (Sony SK89003, 1999)  
  
:''Dream a Dream'' (Sony SK89459, 2000)  
+
*''Dream a Dream'' (Sony SK89459, 2000)  
  
:''Enchantment'' (Sony SK89710, 2001)  
+
*''Enchantment'' (Sony SK89710, 2001)  
  
:''Tissues & Issues'' (Sony 5203462, 2005)
+
*''Tissues & Issues'' (Sony 5203462, 2005)
  
:''Back to Scratch'' (Dooby DOOBY001, 2010)  
+
*''Back to Scratch'' (Dooby DOOBY001, 2010)  
  
:''One'' [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012)  
+
*''One'' [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012)  
  
:''Two'' [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013)  
+
*''Two'' [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013)  
  
:''Three'' [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013)  
+
*''Three'' [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013)  
  
:''Four'' [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014)
+
*''Four'' [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014)
  
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Charlotte Church, ''Voice of an Angel: My Life (So Far)'' (Efrog Newydd, 2001)
+
*Charlotte Church, ''Voice of an Angel: My Life (So Far)'' (Efrog Newydd, 2001)
  
:Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, ''The Observer'' (22 Mai 2005)
+
*Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, ''The Observer'' (22 Mai 2005)
  
:Charlotte Church, ''Keep Smiling'' (Llundain, 2007)
+
*Charlotte Church, ''Keep Smiling'' (Llundain, 2007)
  
:Fraser McAlpine, ‘Charlotte Church: Back to Scratch Review (2010)’ http://www.bbc.co.uk/music/reviews/fzx2
+
*Fraser McAlpine, ‘Charlotte Church: Back to Scratch Review (2010)’ ''http://www.bbc.co.uk/music/reviews/fzx2''
  
:Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, ''Golwg'' 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13
+
*Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, ''Golwg'' 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13
  
:Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, ''The Independent'' (21 Hydref 2012)
+
*Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, ''The Independent'' (21 Hydref 2012)
  
:Elizabeth Day, ‘Charlotte Church: “After Leveson, the façade fell away. I became Aware”’, ''The Observer'' (24 Chwefror 2013) http://www.theguardian.com/music/2013/feb/24/charlotte-church-leveson-changed-outlook
+
*Elizabeth Day, ‘Charlotte Church: “After Leveson, the façade fell away. I became Aware”’, ''The Observer'' (24 Chwefror 2013) ''http://www.theguardian.com/music/2013/feb/24/charlotte-church-leveson-changed-outlook''
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:57, 11 Medi 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn eisteddfodau yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998.

Wedi ymddangosiadau ar y rhaglenni teledu This Morning a The Big Big Talent Show yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus Voice of an Angel (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton.

Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm Charlotte Church (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, emyn-donau ac alawon gwerin poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, Dream a Dream (Sony, 2000), ar garolau Nadolig. Rhyddhawyd Enchantment flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, A Beautiful Mind (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei hunangofiant cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad canu pop gyda’r albwm Tissues & Issues (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer genres cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig.
Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).

Am gyfnod, bu’r tabloids yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y papur newydd News of the World a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd The Charlotte Church Show ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008.

Yn 2010 rhyddhawyd Back to Scratch (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y cwmnïau recordio, fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: One (2012), Two (2013), Three (2013) a Four (2014).

Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a gwyliau roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn Golwg ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999.

Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel Aled Jones), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Voice of an Angel (Sony SK60957, 1998)
  • Charlotte Church (Sony SK89003, 1999)
  • Dream a Dream (Sony SK89459, 2000)
  • Enchantment (Sony SK89710, 2001)
  • Tissues & Issues (Sony 5203462, 2005)
  • Back to Scratch (Dooby DOOBY001, 2010)
  • One [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012)
  • Two [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013)
  • Three [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013)
  • Four [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014)

Llyfryddiaeth

  • Charlotte Church, Voice of an Angel: My Life (So Far) (Efrog Newydd, 2001)
  • Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, The Observer (22 Mai 2005)
  • Charlotte Church, Keep Smiling (Llundain, 2007)
  • Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, Golwg 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13
  • Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, The Independent (21 Hydref 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.