Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, Alun (Alun Tan Lan; g.1974)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad [[Meic Stevens]].
+
Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad [[Stevens, Meic (g.1942) | Meic Stevens]].
  
Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, ''[[Aderyn Papur]]'' (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr [[ffidil]] gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o [[alawon gwerin]]. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân [[roc]] gan [[Y Cyrff]], ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a [[Catatonia]], ar y cyd â Toni Schiavone).
+
Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, ''Aderyn Papur'' (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr [[ffidil]] gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]]. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc]] gan [[Cyrff, Y | Y Cyrff]], ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a [[Catatonia]], ar y cyd â Toni Schiavone).
  
Dilynwyd ''Aderyn Papur'' flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw ''Y Distawrwydd'' (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon [[Meic Stevens]], ‘Cwm y Pren Helyg’.
+
Dilynwyd ''Aderyn Papur'' flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw ''Y Distawrwydd'' (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon Meic Stevens, ‘Cwm y Pren Helyg’.
  
Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y [[Super Furry Animals]], [[Gruff Rhys]] – edmygwr mawr o ''Aderyn Papur'' – a bu’n cydweithio gydag [[Euros Childs]], gynt o [[Gorky’s Zygotic Mynci]].
+
Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y [[Super Furry Animals]], [[Rhys, Gruff (g.1970) | Gruff Rhys]] – edmygwr mawr o ''Aderyn Papur'' – a bu’n cydweithio gydag [[Childs, Euros (g.1975) | Euros Childs]], gynt o [[Gorky's Zygotic Mynci]].
  
 
Rhyddhaodd ''Yr Aflonydd'' ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw ''Cymylau'' ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ''ukulele'', gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt.
 
Rhyddhaodd ''Yr Aflonydd'' ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw ''Cymylau'' ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ''ukulele'', gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt.
  
Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, [[Gareth Bonello]] ([[The Gentle Good]]), [[Gwyneth Glyn]] a [[Lleuwen Steffan]], cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau.
+
Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, [[Gentle Good, The | Gareth Bonello]] ([[Gentle Good, The | The Gentle Good]]), [[Glyn, Gwyneth (g.1979) | Gwyneth Glyn]] a [[Steffan, Lleuwen (g.1979) | Lleuwen Steffan]], cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''
Llinell 17: Llinell 18:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:''Aderyn Papur'' (Rasal CD001, 2004)
+
*''Aderyn Papur'' (Rasal CD001, 2004)
  
:''Y Distawrwydd'' (Rasal CD010, 2005)
+
*''Y Distawrwydd'' (Rasal CD010, 2005)
  
:''Yr Aflonydd'' (Aderyn Papur ADERYN 001, 2007)
+
*''Yr Aflonydd'' (Aderyn Papur ADERYN 001, 2007)
  
:''Cymylau'' (soundcloud.com, 2012)
+
*''Cymylau'' (soundcloud.com, 2012)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 22:33, 1 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad Meic Stevens.

Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, Aderyn Papur (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr ffidil gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o alawon gwerin. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân roc gan Y Cyrff, ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a Catatonia, ar y cyd â Toni Schiavone).

Dilynwyd Aderyn Papur flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw Y Distawrwydd (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon Meic Stevens, ‘Cwm y Pren Helyg’.

Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys – edmygwr mawr o Aderyn Papur – a bu’n cydweithio gydag Euros Childs, gynt o Gorky's Zygotic Mynci.

Rhyddhaodd Yr Aflonydd ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw Cymylau ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ukulele, gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt.

Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, Gareth Bonello ( The Gentle Good), Gwyneth Glyn a Lleuwen Steffan, cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Aderyn Papur (Rasal CD001, 2004)
  • Y Distawrwydd (Rasal CD010, 2005)
  • Yr Aflonydd (Aderyn Papur ADERYN 001, 2007)
  • Cymylau (soundcloud.com, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.