Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Evans, Alun (Alun Tan Lan; g.1974)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad [[Meic Stevens]]. | + | Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad [[Stevens, Meic (g.1942) | Meic Stevens]]. |
− | Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, ''Aderyn Papur'' (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr [[ffidil]] gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o [[alawon gwerin]]. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân [[roc]] gan [[Y Cyrff]], ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a [[Catatonia]], ar y cyd â Toni Schiavone). | + | Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, ''Aderyn Papur'' (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr [[ffidil]] gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]]. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc]] gan [[Cyrff, Y | Y Cyrff]], ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a [[Catatonia]], ar y cyd â Toni Schiavone). |
− | Dilynwyd ''Aderyn Papur'' flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw ''Y Distawrwydd'' (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon | + | Dilynwyd ''Aderyn Papur'' flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw ''Y Distawrwydd'' (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon Meic Stevens, ‘Cwm y Pren Helyg’. |
− | Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y [[Super Furry Animals]], [[Gruff Rhys]] – edmygwr mawr o ''Aderyn Papur'' – a bu’n cydweithio gydag [[Euros Childs]], gynt o [[ | + | Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y [[Super Furry Animals]], [[Rhys, Gruff (g.1970) | Gruff Rhys]] – edmygwr mawr o ''Aderyn Papur'' – a bu’n cydweithio gydag [[Childs, Euros (g.1975) | Euros Childs]], gynt o [[Gorky's Zygotic Mynci]]. |
Rhyddhaodd ''Yr Aflonydd'' ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw ''Cymylau'' ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ''ukulele'', gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt. | Rhyddhaodd ''Yr Aflonydd'' ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw ''Cymylau'' ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ''ukulele'', gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt. | ||
− | Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, [[Gareth Bonello]] ([[The Gentle Good]]), [[Gwyneth Glyn]] a [[Lleuwen Steffan]], cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau. | + | Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, [[Gentle Good, The | Gareth Bonello]] ([[Gentle Good, The | The Gentle Good]]), [[Glyn, Gwyneth (g.1979) | Gwyneth Glyn]] a [[Steffan, Lleuwen (g.1979) | Lleuwen Steffan]], cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau. |
'''Pwyll ap Siôn''' | '''Pwyll ap Siôn''' |
Y diwygiad cyfredol, am 22:33, 1 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Canwr, gitarydd a chyfansoddwr caneuon acwstig a gwerinol eu naws yn bennaf. Fe’i ganed ym Mhandy Tudur ger Llanrwst. Yn ei arddegau cynnar bu’n aelod o nifer o grwpiau ysgol megis y band pync Dail Te Pawb a Boff Frank Bough, gan chwarae’r gitâr fas. Ond daeth i sylw yn bennaf fel canwr a gitarydd acwstig unigol a hynny i raddau yn nhraddodiad Meic Stevens.
Clywir y sain acwstig hon ar ei albwm unigol cyntaf, Aderyn Papur (Rasal, 2004), a recordiodd ar ôl cyfnod yn byw yn Iwerddon. Perthyn naws werinol, ymlaciol i sain gyffredinol y record, gyda chyfraniadau pwysig i’w clywed gan y chwaraewr ffidil gwerin-jazz amryddawn Billy Thompson ar nifer o’r caneuon (er enghraifft ‘Plant y Tonnau’ a ‘Clown’). Dengys y record hoffter Alun Tan Lan o ysgrifennu traciau offerynnol, ond er ei sain werinol ni cheir arni enghreifftiau na threfniannau o alawon gwerin. Yn hytrach, clywir trefniant acwstig arni o gân roc gan Y Cyrff, ‘Pethau Achlysurol’ (cynhyrchwyd y record gan Mark Roberts, cyn-aelod o’r Cyrff a Catatonia, ar y cyd â Toni Schiavone).
Dilynwyd Aderyn Papur flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm unigol o’r enw Y Distawrwydd (Rasal, 2005), a oedd yn debyg o ran sain a chynhyrchiad ond a oedd yn ymdrin â pherthynas y canwr gyda’r amgylchfyd naturiol o’i gwmpas, megis yn ‘Heulwen Haf’, ‘Glaw’ ac ‘Eira’. Roedd arno hefyd drefniant effeithiol o un o ganeuon Meic Stevens, ‘Cwm y Pren Helyg’.
Yn sgil llwyddiant y ddwy record, derbyniodd Alun Tan Lan wobr prif leisydd a phrif gyfansoddwr y flwyddyn yn seremoni Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2005. Yn ystod yr un flwyddyn aeth hefyd ar daith yn cefnogi canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys – edmygwr mawr o Aderyn Papur – a bu’n cydweithio gydag Euros Childs, gynt o Gorky's Zygotic Mynci.
Rhyddhaodd Yr Aflonydd ar label Aderyn Papur yn 2007 ac yna albwm dwbl o’r enw Cymylau ar wefan Soundcloud yn 2012, gyda chyfraniadau arno gan nifer o artistiaid megis Gruffudd ab Arwel a’r cerddor/cynhyrchydd David Wrench, gynt o’r band Nid Madagascar. Bu Alun Tan Lan hefyd yn gitarydd blaen i’r grŵp offerynnol poblogaidd Y Niwl, ac yn hyrwyddo dysgu chwarae’r ukulele, gan gynnal dosbarthiadau nos i’r diben hwnnw yn ardal Dyffryn Conwy a thu hwnt.
Ynghyd ag artistiaid megis Gwilym Morys, Gareth Bonello ( The Gentle Good), Gwyneth Glyn a Lleuwen Steffan, cynrychiola Alun Tan Lan genhedlaeth o gantorion sydd wedi ailddehongli’r traddodiad ‘gwerin’ Cymraeg trwy fynd yn ôl at sylfeini’r grefft o gyfansoddi, gan symleiddio’r trefniannau, y technegau recordio a chynhyrchu, a hynny er mwyn pwysleisio hanfod y gân a’i geiriau.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Aderyn Papur (Rasal CD001, 2004)
- Y Distawrwydd (Rasal CD010, 2005)
- Yr Aflonydd (Aderyn Papur ADERYN 001, 2007)
- Cymylau (soundcloud.com, 2012)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.