Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwerin, Arferion Dawnsio"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, Calan Mai (Calan Haf)...')
 
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
 +
__NOAUTOLINKS__
 +
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 +
 
Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, [[Calan]] Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur.
 
Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, [[Calan]] Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur.
  
 
Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, ''Welsh Folk Customs)''.
 
Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, ''Welsh Folk Customs)''.
  
Cyfeiriodd [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol.
+
Cyfeiriodd [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol.
  
Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan [[ganu penillion]] a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r [[teulu]] drwy ganu atebion cyn ildio er mwyn sicrhau bod y Fari yn dymuno blwyddyn newydd lwyddiannus iddynt (am fwy am hanes y Fari Lwyd, gw. Lile, 1999). Dim ond mewn un neu ddwy o ardaloedd y parheid â’r arfer erbyn yr 21g.
+
Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan [[Canu Penillion (gwreiddiau) | ganu penillion]] a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r teulu drwy ganu atebion cyn ildio er mwyn sicrhau bod y Fari yn dymuno blwyddyn newydd lwyddiannus iddynt (am fwy am hanes y Fari Lwyd, gw. Lile, 1999). Dim ond mewn un neu ddwy o ardaloedd y parheid â’r arfer erbyn yr 21g.
  
Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar [[arferion gwerin]] megis dawnsio.
+
Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar arferion gwerin megis dawnsio.
  
Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod [[adloniant]] yn tynnu sylw’r werin oddi wrth y nod o feithrin bywyd ysbrydol. Condemniwyd pob ‘chwarae’ fel rhywbeth ffôl a phechadurus. Oherwydd yr hinsawdd gymdeithasol fregus a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol llwyddodd y Piwritaniaid mewn ychydig flynyddoedd i wastrodi nifer o ddefodau ac arferion gwerin a oedd wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd lawer – ac roedd dawnsio gwerin yn weithgaredd amlwg i’w dargedu.
+
Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod adloniant yn tynnu sylw’r werin oddi wrth y nod o feithrin bywyd ysbrydol. Condemniwyd pob ‘chwarae’ fel rhywbeth ffôl a phechadurus. Oherwydd yr hinsawdd gymdeithasol fregus a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol llwyddodd y Piwritaniaid mewn ychydig flynyddoedd i wastrodi nifer o ddefodau ac arferion gwerin a oedd wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd lawer – ac roedd dawnsio gwerin yn weithgaredd amlwg i’w dargedu.
  
Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r [[arddull]] Gymreig. Erbyn heddiw mae merched hefyd yn mwynhau clocsio.
+
Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r arddull Gymreig. Erbyn heddiw mae merched hefyd yn mwynhau clocsio.
  
Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin), y gallai ymyrraeth y Piwritaniaid arwain at golled i’r diwylliant ac aethant ati i gofnodi’r dawnsiau Cymreig. Cyn hynny buasai John Playford, ei fab Henry a John Young yn casglu a chyhoeddi nifer o ddawnsiau Cymru yn eu [[tair]] cyfrol ''The English Dancing Master'' (cyhoeddwyd rhwng 1651 ac 1728), sef y llyfrau cyntaf erioed o gyfarwyddiadau a thonau dawnsio gwerin. Roedd llawer iawn o gyfnewid a benthyg dawnsfeydd rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ewrop, ac aeth nifer o’r rhai Cymreig i gasgliadau Prydeinig. Yn ffodus roedd [[telynau teires]] yn dal i gael eu chwarae yn y plastai mawr, a bu hynny’n fodd i gadw’r [[alawon gwerin]] traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawns, yn fyw. Cofnododd William Jones dair dawns uned hir i dri chwpl a welodd yn cael eu dawnsio yn ardal Llangadfan, sef ‘Aly Grogan’, ‘Lumps of Pudding’ a ‘Roaring Hornpipe’, dawnsiau sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw.
+
Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac Edward Jones (Bardd y Brenin), y gallai ymyrraeth y Piwritaniaid arwain at golled i’r diwylliant ac aethant ati i gofnodi’r dawnsiau Cymreig. Cyn hynny buasai John Playford, ei fab Henry a John Young yn casglu a chyhoeddi nifer o ddawnsiau Cymru yn eu tair cyfrol ''The English Dancing Master'' (cyhoeddwyd rhwng 1651 ac 1728), sef y llyfrau cyntaf erioed o gyfarwyddiadau a thonau dawnsio gwerin. Roedd llawer iawn o gyfnewid a benthyg dawnsfeydd rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ewrop, ac aeth nifer o’r rhai Cymreig i gasgliadau Prydeinig. Yn ffodus roedd [[Telyn Deires | telynau teires]] yn dal i gael eu chwarae yn y plastai mawr, a bu hynny’n fodd i gadw’r [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | alawon gwerin]] traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawns, yn fyw. Cofnododd William Jones dair dawns uned hir i dri chwpl a welodd yn cael eu dawnsio yn ardal Llangadfan, sef ‘Aly Grogan’, ‘Lumps of Pudding’ a ‘Roaring Hornpipe’, dawnsiau sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw.
  
 
Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys.
 
Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys.
  
Yn ystod y 19g. dechreuodd [[Augusta Hall]] (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y [[ffugenw]] Gwenynen Gwent adferodd, ymysg llu o draddodiadau eraill, y ddawns werin Gymreig, y wisg draddodiadol ac alawon gwerin y wlad. Daeth dan  ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a’r Fonesig Coffin Greenly o Swydd Henffordd (un o noddwyr [[Iolo Morganwg]]). Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob cwr o Gymru. Disgwylid i’r gweision wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig a dawnsio i’r gwesteion. Yn 1836 cyhoeddodd Arglwyddes Llanofer draethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau. Agorodd ffatri wlân Gwenffrwd yn yr ardal ac adferodd y Fari Lwyd a’r [[plygain]]. Y delyn deires oedd ei hoff offeryn. Bu hefyd yn casglu alawon gwerin Cymru gyda [[Maria Jane Williams]] (1795–1873), Aberpergwm. Mae o leiaf ddwy ddawns Gymreig yn deillio o’r cyfnod hwn, sef Dawns Llanofer, uned hir i unedau o drioedd, a Rhif Wyth, uned hir i dri chwpl.
+
Yn ystod y 19g. dechreuodd [[Hall, Augusta (1802-96) | Augusta Hall]] (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y ffugenw Gwenynen Gwent adferodd, ymysg llu o draddodiadau eraill, y ddawns werin Gymreig, y wisg draddodiadol ac alawon gwerin y wlad. Daeth dan  ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a’r Fonesig Coffin Greenly o Swydd Henffordd (un o noddwyr [[Iolo Morganwg]]). Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob cwr o Gymru. Disgwylid i’r gweision wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig a dawnsio i’r gwesteion. Yn 1836 cyhoeddodd Arglwyddes Llanofer draethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau. Agorodd ffatri wlân Gwenffrwd yn yr ardal ac adferodd y Fari Lwyd a’r [[Canu Plygain | plygain]]. Y delyn deires oedd ei hoff offeryn. Bu hefyd yn casglu alawon gwerin Cymru gyda [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]] (1795–1873), Aberpergwm. Mae o leiaf ddwy ddawns Gymreig yn deillio o’r cyfnod hwn, sef Dawns Llanofer, uned hir i unedau o drioedd, a Rhif Wyth, uned hir i dri chwpl.
  
 
Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw ''Welsh Folk Dances – an Inquiry''. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig.
 
Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw ''Welsh Folk Dances – an Inquiry''. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig.
  
Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen [[Eisteddfod]] yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad.
+
Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor [[Williams, W. S. Gwynn (Gwynn o'r Llan; 1896-1978) | W. S. Gwynn Williams]] (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad.
  
Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal [[gwyliau]] a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin [[Caerdydd]] ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at ganol haf, mae’n denu cannoedd o ddawnswyr o bob cwr o Gymru yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn yr Wyddgrug cynhelir Gŵyl Cadi Haf adeg Calan Mai a cheir amryw o wyliau dawnsio gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r Gwyliau Dawnsio Plant hefyd yn llwyddiant mawr, gyda thros fil o blant yn cymryd rhan ynddynt.
+
Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin Caerdydd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at ganol haf, mae’n denu cannoedd o ddawnswyr o bob cwr o Gymru yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn yr Wyddgrug cynhelir Gŵyl Cadi Haf adeg Calan Mai a cheir amryw o wyliau dawnsio gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r Gwyliau Dawnsio Plant hefyd yn llwyddiant mawr, gyda thros fil o blant yn cymryd rhan ynddynt.
  
 
'''Eiry Palfrey'''
 
'''Eiry Palfrey'''
Llinell 29: Llinell 32:
 
==Gwefannau==
 
==Gwefannau==
  
:Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) www.dawnsio.com
+
*Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) www.dawnsio.com
  
 
==Llyfryddiaeth==
 
==Llyfryddiaeth==
  
:Trefor M. Owen, ''Welsh Folk Customs'' (Caerdydd, 1959)  
+
*Trefor M. Owen, ''Welsh Folk Customs'' (Caerdydd, 1959)
 +
 
 +
*Emma Lile, ''Troed yn Ôl a Throed Ymlaen: Dawnsio Gwerin Yng Nghymru'' (Caerdydd, 1999)
  
:Emma Lile, ''Troed yn Ôl a Throed Ymlaen: Dawnsio Gwerin Yng Nghymru'' (Caerdydd, 1999)
+
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 15:59, 8 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Hyd ddiwedd y 18g. roedd dawnsio gwerin a chlocsio yn rhan annatod o fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl y calendr Celtaidd, Calan Mai (Calan Haf) oedd diwrnod cyntaf yr haf a’r diwrnod pan fyddai chwarae’r haf yn dechrau – megis codi’r gangen neu’r fedwen Fai a dawnsio o’i chwmpas, mewn ffurf Gymreig o’r arferiad byd-eang o ddathlu atgyfodiad natur.

Yn ardal Clwyd dethlid Calan Mai trwy godi’r gangen haf a’i haddurno gyda blodau, rhubanau a darnau arian megis llwyau, oriorau ac yn y blaen. Awgryma disgrifiad Nefydd (William Roberts, Llanefydd) yn 1852 fod y dawnsio yn debyg i ddawnsio Morys gyda thîm o ddynion, a dau gymeriad – sef y Ffŵl a’r Cadi – yn casglu arian mewn lletwad ac iddi goes hir (Owen, Welsh Folk Customs).

Cyfeiriodd Edward Jones (Bardd y Brenin; 1752–1824), at dwmpathau a gynhelid ar nosweithiau o haf ar dwmpath chwarae sawl pentref. Ym Morgannwg cyfeirid atynt fel Taplasau Haf. Gosodid y fedwen haf yn y ddaear adeg Gŵyl Ifan (canol haf a dydd hiraf y flwyddyn) a byddai’r gynulleidfa yn dawnsio o’i hamgylch am naw diwrnod i gyfeiliant cerddoriaeth un neu ddau delynor, gan barhau i wneud hynny, os byddai’r tywydd yn ffafriol, am naw diwrnod. Byddai merched y plwy yn ei haddurno gyda thorchau o flodau gan roi’r torchau prydferthaf ar y canghennau uchaf. Mae’r faled ‘Taplas Gwainfo’ a gyfansoddwyd tua chanol y 18g. gan William Roberts, y bardd dall o Lancarfan, yn disgrifio codi’r fedwen yng Ngwenfô, Bro Morgannwg. Dethlid Calan Mai a Gŵyl Ifan trwy gynnau coelcerthau, adrodd straeon ysbryd a darogan y dyfodol.

Dethlid dydd sant y plwy adeg y gwyliau Mabsant. Roedd i bob plwyf ei arferion a’i ddyddiad gwahanol ac roedd dawnsio’n rhan bwysig o’r dathlu. Gallai’r dathliadau barhau am ddyddiau lawer a denu cannoedd o bobl. Ceid dawnsio hefyd wrth ddathlu’r cynhaeaf a Chalan Gaeaf, ac adeg y Nadolig a’r Calan gallai defod y Fari Lwyd gynnwys elfen o ddawns er nad oedd yn rhan annatod o’r seremoni. Mewn sawl ardal ym Morgannwg a Gwent âi nifer o ddynion, gydag un mewn gwisg ceffyl – sef y Fari Lwyd – o ddrws i ddrws dan ganu penillion a oedd yn gofyn am ganiatâd i ddod i’r tŷ. Atebai’r teulu drwy ganu atebion cyn ildio er mwyn sicrhau bod y Fari yn dymuno blwyddyn newydd lwyddiannus iddynt (am fwy am hanes y Fari Lwyd, gw. Lile, 1999). Dim ond mewn un neu ddwy o ardaloedd y parheid â’r arfer erbyn yr 21g.

Hyd y 18g. trigai’r werin mewn cymunedau clos lle’r oedd chwarae cyn bwysiced â gwaith a chrefydd a bu hynny’n fodd i gynnal yr arfer o ddawnsio gwerin. Ond tua diwedd y ganrif honno daeth y Chwyldro Diwydiannol i Gymru gan ddod â mewnlifiad anferth o Loegr a thu hwnt yn ei sgil. Wrth i bobl o wahanol dras a chefndir ymgymysgu fwyfwy, ac wrth i drafnidiaeth ddatblygu a galluogi pawb i deithio ymhellach o’u cynefin, gwasgarwyd y cymunedau bach gwledig ac nid oedd y fath fri bellach ar arferion gwerin megis dawnsio.

Yn ystod yr un cyfnod bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad negyddol ar arferion a difyrrwch cymdeithasol o bob math. Pregethai’r diwygwyr crefyddol fod adloniant yn tynnu sylw’r werin oddi wrth y nod o feithrin bywyd ysbrydol. Condemniwyd pob ‘chwarae’ fel rhywbeth ffôl a phechadurus. Oherwydd yr hinsawdd gymdeithasol fregus a grëwyd gan y Chwyldro Diwydiannol llwyddodd y Piwritaniaid mewn ychydig flynyddoedd i wastrodi nifer o ddefodau ac arferion gwerin a oedd wedi bodoli yng Nghymru ers canrifoedd lawer – ac roedd dawnsio gwerin yn weithgaredd amlwg i’w dargedu.

Fodd bynnag, goroesodd clocsio yn draddodiad di-dor am ei fod yn weithgarwch mwy cuddiedig yn y lloft stabl ac ar garreg yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ym Mhowys a Gwynedd. Ran amlaf, dynion – yn enwedig gweision fferm a chwarelwyr – a fyddai’n ymarfer y grefft, gan gystadlu’n ymffrostgar yn erbyn ei gilydd. Y clocsiwr gyda’r camau mwyaf cymhleth a’r triciau mwyaf beiddgar a fyddai’n fuddugol. Clocsio sawdl a gwadn yw’r arddull Gymreig. Erbyn heddiw mae merched hefyd yn mwynhau clocsio.

Sylweddolodd rhai, megis William Jones, Llangadfan (1727–1795), ac Edward Jones (Bardd y Brenin), y gallai ymyrraeth y Piwritaniaid arwain at golled i’r diwylliant ac aethant ati i gofnodi’r dawnsiau Cymreig. Cyn hynny buasai John Playford, ei fab Henry a John Young yn casglu a chyhoeddi nifer o ddawnsiau Cymru yn eu tair cyfrol The English Dancing Master (cyhoeddwyd rhwng 1651 ac 1728), sef y llyfrau cyntaf erioed o gyfarwyddiadau a thonau dawnsio gwerin. Roedd llawer iawn o gyfnewid a benthyg dawnsfeydd rhwng Lloegr, Cymru, Yr Alban, Iwerddon ac Ewrop, ac aeth nifer o’r rhai Cymreig i gasgliadau Prydeinig. Yn ffodus roedd telynau teires yn dal i gael eu chwarae yn y plastai mawr, a bu hynny’n fodd i gadw’r alawon gwerin traddodiadol, llawer iawn ohonynt yn alawon dawns, yn fyw. Cofnododd William Jones dair dawns uned hir i dri chwpl a welodd yn cael eu dawnsio yn ardal Llangadfan, sef ‘Aly Grogan’, ‘Lumps of Pudding’ a ‘Roaring Hornpipe’, dawnsiau sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw.

Parhaodd ambell ardal yng Nghymru i ymarfer y ddawns werin. Diolch i gof ffrwythlon Mrs Margretta Thomas (1880–1972) o Nantgarw, goroesodd casgliad ardderchog o naw o ddawnsiau a elwir yn Ddawnsiau Nantgarw. Fe’u cofnodwyd gan ei merch Ceinwen Thomas (1911–2008), eu trosglwyddo i Lois Blake (gw. isod) a’u cyhoeddi gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen. Dawnsiau ffair ydynt gan fwyaf, yn deillio o ffeiriau caws Caerffili a dathliadau’r Sulgwyn yn Nantgarw a’r Groes-wen. Er gwaethaf dylanwad y Piwritaniaid arferwyd y dawnsiau yn y tafarnau yn ardal Nantgarw. Adeg y Sulgwyn byddai grwpiau o bentrefi gwahanol yn ymarfer y dawnsiau haf hyn, sy’n dangos cryn dipyn o ddylanwad dawnsio Morys.

Yn ystod y 19g. dechreuodd Augusta Hall (1802–96), Arglwyddes Llanofer, ymddiddori mewn traddodiadau gwerin Cymreig. O dan y ffugenw Gwenynen Gwent adferodd, ymysg llu o draddodiadau eraill, y ddawns werin Gymreig, y wisg draddodiadol ac alawon gwerin y wlad. Daeth dan ddylanwad Thomas Price (Carnhuanawc) a’r Fonesig Coffin Greenly o Swydd Henffordd (un o noddwyr Iolo Morganwg). Roedd Llys Llanofer yn noddfa i delynorion a beirdd o bob cwr o Gymru. Disgwylid i’r gweision wisgo’r wisg draddodiadol Gymreig a dawnsio i’r gwesteion. Yn 1836 cyhoeddodd Arglwyddes Llanofer draethawd ar ‘Y Wisg Gymreig’ yn cynnwys darluniau. Agorodd ffatri wlân Gwenffrwd yn yr ardal ac adferodd y Fari Lwyd a’r plygain. Y delyn deires oedd ei hoff offeryn. Bu hefyd yn casglu alawon gwerin Cymru gyda Maria Jane Williams (1795–1873), Aberpergwm. Mae o leiaf ddwy ddawns Gymreig yn deillio o’r cyfnod hwn, sef Dawns Llanofer, uned hir i unedau o drioedd, a Rhif Wyth, uned hir i dri chwpl.

Erbyn dechrau’r 20g. gweithgaredd ymylol iawn oedd dawnsio gwerin yng Nghymru. Yn 1935 cyhoeddodd cwmni Novello lyfr gan Hugh Mellor o’r enw Welsh Folk Dances – an Inquiry. Yn yr 1930au hefyd rhoddodd Urdd Gobaith Cymru hwb bychan i’r achos drwy gynnwys dawnsio gwerin yn eu mabolgampau, er mai dawnsiau syml oeddynt ar wahân i Ddawns Llanofer – yr unig ddawns werin a oedd wedi’i chofnodi a’i chyhoeddi – ac un a gâi ei dawnsio gan ferched yn unig.

Gwnaed cyfraniad enfawr i’r maes gan Lois Blake (1890–1974), Saesnes a ddaeth i fyw i Langwm, Sir Ddinbych. A hithau’n ymddiddori mewn dawnsio gwerin Lloegr ac Ewrop ac yn aelod brwd o’r English Folk Dance and Song Society (EFDSS), darganfu nad oedd y Cymry bellach yn ymarfer eu dawnsiau traddodiadol ac aeth ati, gyda chefnogaeth y cerddor W. S. Gwynn Williams (1896–1978), Llangollen, i chwilio am ddawnsiau Cymreig a’u hailargraffu. Yn 1949 ffurfiwyd Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) i hybu ac ail-greu’r traddodiad. Gwahoddwyd Lois Blake i Aduniad yr Urdd i ddysgu dawnsio gwerin a pharhawyd i gynnal cyrsiau am rai blynyddoedd. Yn ystod yr 1950au ffurfiwyd nifer o grwpiau dawns, a daeth cystadlaethau dawns yn rhan o raglen Eisteddfod yr Urdd, ac yn ddiweddarach yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd twmpathau rheolaidd yn yr 1960au gan esgor ar lu o ddawnsiau syml cymdeithasol a ddaeth yn boblogaidd ar hyd a lled y wlad.

Heddiw mae mwy o ddawnswyr nag a fu erioed, yn cystadlu, yn cynnal gwyliau a theithio i wledydd tramor. Mae’r ddawns werin bellach yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion yng Nghymru. Cynhelir Gŵyl Ifan yng Nghaerdydd bob blwyddyn, yr ŵyl ddawnsio gwerin sefydlog fwyaf o’i bath yng Nghymru. A hithau wedi’i sefydlu yn 1976 gan Gwmni Dawnsio Gwerin Caerdydd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol ar y penwythnos agosaf at ganol haf, mae’n denu cannoedd o ddawnswyr o bob cwr o Gymru yn eu gwisgoedd traddodiadol. Yn yr Wyddgrug cynhelir Gŵyl Cadi Haf adeg Calan Mai a cheir amryw o wyliau dawnsio gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r Gwyliau Dawnsio Plant hefyd yn llwyddiant mawr, gyda thros fil o blant yn cymryd rhan ynddynt.

Eiry Palfrey

Gwefannau

  • Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru (CGDWC) www.dawnsio.com

Llyfryddiaeth

  • Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959)
  • Emma Lile, Troed yn Ôl a Throed Ymlaen: Dawnsio Gwerin Yng Nghymru (Caerdydd, 1999)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.