Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hardy, John (g.1952)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Ystyrir John Hardy yn un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf llwyddiannus Cymru yn arbennig ym maes cerddoriaeth ffilm a’r [[cyfryngau]]. Yn ogystal â cherddoriaeth ffilm, mae ei allu amryddawn yn cynnwys gweithiau [[corawl]] a lleisiol, siambr ac [[opera]], ac fe gafodd ei gyfansoddiadau comisiwn dderbyniad gwresog gan y beirniaid cerdd yn ogystal â bod yn llwyddiant masnachol. Fe’i comisiynwyd gan nifer o’r prif gerddorion, [[cwmnïau opera]], [[gwyliau cerdd]] a cherddorfeydd, ac ar draws ei yrfa dangosodd afael sicr ar drai a llanw dramatig, yn arbennig yn ei weithiau ar gyfer Music Theatre Wales a Brith Gof.
+
Ystyrir John Hardy yn un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf llwyddiannus Cymru yn arbennig ym maes cerddoriaeth ffilm a’r [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]]. Yn ogystal â cherddoriaeth ffilm, mae ei allu amryddawn yn cynnwys gweithiau [[Corau Cymysg | corawl]] a lleisiol, siambr ac [[opera]], ac fe gafodd ei gyfansoddiadau comisiwn dderbyniad gwresog gan y beirniaid cerdd yn ogystal â bod yn llwyddiant masnachol. Fe’i comisiynwyd gan nifer o’r prif gerddorion, [[cwmnïau opera]], [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau cerdd]] a cherddorfeydd, ac ar draws ei yrfa dangosodd afael sicr ar drai a llanw dramatig, yn arbennig yn ei weithiau ar gyfer Music Theatre Wales a Brith Gof.
  
Fe’i ganed yn Exmouth, Lloegr. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn blentyn gan ganu yng nghôr bechgyn Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Y Frenhines, [[Prifysgol]] Rhydychen ac yna yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ar y ''Laboratory Theatre'' yng Nghaerdydd, [[Gŵyl]] Edington a Brith Gof.
+
Fe’i ganed yn Exmouth, Lloegr. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn blentyn gan ganu yng nghôr bechgyn Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Y Frenhines, [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Rhydychen ac yna yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ar y ''Laboratory Theatre'' yng Nghaerdydd, Gŵyl Edington a Brith Gof.
  
 
Ymhlith y mwyaf nodedig o’i weithiau o’r cyfnod hwn yr oedd ei gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau Brith Gof o ''Gododdin'' (1989) a ''Pax'' (1990), traciau sain pwerus a rhythmig sy’n defnyddio seiniau diwydiannol ynghyd â chyfuno offerynnau acwstig a thechnoleg gyfoes (megis allweddellau a samplau) i gyd-fynd â chynyrchiadau egnïol y cwmni. Daeth i’w lawn dwf fel artist creadigol yn ystod yr 1990au a daeth yn enw cyfarwydd drwy gyfrwng ei sgorau cefndirol ar gyfer cynyrchiadau theatr megis ''[[House of America]]'' (1988), ''Song from a Forgotten City'' (1995), ''Gas Station Angel'' (1998) a ''Stone City Blue'' (2004), y cyfan mewn cydweithrediad â’r dramodydd Ed Thomas.
 
Ymhlith y mwyaf nodedig o’i weithiau o’r cyfnod hwn yr oedd ei gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau Brith Gof o ''Gododdin'' (1989) a ''Pax'' (1990), traciau sain pwerus a rhythmig sy’n defnyddio seiniau diwydiannol ynghyd â chyfuno offerynnau acwstig a thechnoleg gyfoes (megis allweddellau a samplau) i gyd-fynd â chynyrchiadau egnïol y cwmni. Daeth i’w lawn dwf fel artist creadigol yn ystod yr 1990au a daeth yn enw cyfarwydd drwy gyfrwng ei sgorau cefndirol ar gyfer cynyrchiadau theatr megis ''[[House of America]]'' (1988), ''Song from a Forgotten City'' (1995), ''Gas Station Angel'' (1998) a ''Stone City Blue'' (2004), y cyfan mewn cydweithrediad â’r dramodydd Ed Thomas.

Diwygiad 17:08, 12 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ystyrir John Hardy yn un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf llwyddiannus Cymru yn arbennig ym maes cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau. Yn ogystal â cherddoriaeth ffilm, mae ei allu amryddawn yn cynnwys gweithiau corawl a lleisiol, siambr ac opera, ac fe gafodd ei gyfansoddiadau comisiwn dderbyniad gwresog gan y beirniaid cerdd yn ogystal â bod yn llwyddiant masnachol. Fe’i comisiynwyd gan nifer o’r prif gerddorion, cwmnïau opera, gwyliau cerdd a cherddorfeydd, ac ar draws ei yrfa dangosodd afael sicr ar drai a llanw dramatig, yn arbennig yn ei weithiau ar gyfer Music Theatre Wales a Brith Gof.

Fe’i ganed yn Exmouth, Lloegr. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn blentyn gan ganu yng nghôr bechgyn Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Y Frenhines, Prifysgol Rhydychen ac yna yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ar y Laboratory Theatre yng Nghaerdydd, Gŵyl Edington a Brith Gof.

Ymhlith y mwyaf nodedig o’i weithiau o’r cyfnod hwn yr oedd ei gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau Brith Gof o Gododdin (1989) a Pax (1990), traciau sain pwerus a rhythmig sy’n defnyddio seiniau diwydiannol ynghyd â chyfuno offerynnau acwstig a thechnoleg gyfoes (megis allweddellau a samplau) i gyd-fynd â chynyrchiadau egnïol y cwmni. Daeth i’w lawn dwf fel artist creadigol yn ystod yr 1990au a daeth yn enw cyfarwydd drwy gyfrwng ei sgorau cefndirol ar gyfer cynyrchiadau theatr megis House of America (1988), Song from a Forgotten City (1995), Gas Station Angel (1998) a Stone City Blue (2004), y cyfan mewn cydweithrediad â’r dramodydd Ed Thomas.

Cychwynnodd ei waith ar gyfer cwmni opera blaengar Music Theatre Wales yn 1994 gyda’i opera Flowers, gwaith trawiadol sy’n amlygu meistrolaeth Hardy yn cyfuno sain a delweddau mewn cyd-destun a oedd yn llawn gwrthdaro dramatig. Yn 1997 ymddangosodd The Roswell Incident, unwaith eto ar gyfer Music Theatre Wales, a Mis Du Bach/Black February ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a Gŵyl Ryngwladol Abergwaun. Perfformiwyd De Profundis yn 1998 gan Gôr Abaty Westminster, y BBC Singers a London Brass i ddathlu cwblhau cerfluniau o ddeg merthyr rhyngwladol, ac yn ddiweddarach cyfansoddodd Fever i Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl ar gyfer noson olaf Proms Cymru yn 2000.

Cyfansoddodd hefyd ar gyfer plant, er enghraifft A.C.T.I.O.N.–Sing Wales 2000, a berfformiwyd gan 800 o blant. Un o’i weithiau gorau yw Blue Letters from Tanganyika (1997), cathl symffonig liwgar ar gyfer cerddorfa lawn yn seiliedig ar gyfres o lythyrau a ysgrifennwyd gan fam Hardy yn ystod yr 1950au, pan oedd yn gweithio mewn ysgol genhadol yn Tanzania.

Ffurfiodd grŵp o’r enw Ensembl8 yn 2007 ar gyfer perfformio ei gerddoriaeth ei hun ynghyd â gwaith gan eraill er mwyn cyfuno trefniannau gyda cherddoriaeth electronig a fideo. Diau mai’r gerddoriaeth a sicrhaodd y sylw pennaf iddo oedd yr hyn a gyfansoddodd ar gyfer y ffilm Hedd Wyn (1994), sgôr naturiol sy’n ategu’r digwyddiadau ar y sgrin ond gan gadw hunaniaeth artistig ar yr un pryd; enwebwyd y ffilm ar gyfer Oscar.

Yn ystod 2010, derbyniodd John Hardy swydd fel Pennaeth Cerddoriaeth Gyfoes yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle mae ei brofiad helaeth wedi dylanwadu ar lawer o fyfyrwyr. Prif nodweddion ei waith creadigol yw’r diddordeb mewn drama, y gallu i gydweithio gyda dramodwyr a chyfarwyddwyr teledu, i greu cerddoriaeth gofiadwy sy’n cadw o fewn terfynau ieithwedd draddodiadol (canolbwyntiau cyweiraidd a.y.b.), ymwybyddiaeth o’r tueddiadau diweddaraf ond heb eu hefelychu’n slafaidd, crefftwaith glân a chymen, adnabyddiaeth o’r hyn sy’n addas ar gyfer y proffesiynol a’r amatur fel ei gilydd, ynghyd â dawn i ddewis a dethol geiriau’n bwrpasol.

Lyn Davies

Disgyddiaeth

  • John Hardy, Blue Letters from Tanganyika (Ffin Records FFN016, 2009)

Llyfryddiaeth

  • Kenneth Loveland, adolygiad o Flowers, Opera Magazine (Mai, 1994)
  • Stephen Pettitt, adolygiad o Flowers, The Times (21 Mawrth 1994)
  • Stephen Walsh, adolygiad o Flowers, The Independent (19 Mawrth 1994)
  • Archif Tŷ Cerdd



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.