Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Humphreys, Alwyn (g.1944)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Cerddor, [[arweinydd]], awdur a ffigwr hynod bwysig a dylanwadol ym maes [[cerddoriaeth glasurol]] yng Nghymru.
+
Cerddor, [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinydd]], awdur a ffigwr hynod bwysig a dylanwadol ym maes [[Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth | cerddoriaeth glasurol]] yng Nghymru.
  
Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o [[Brifysgol]] Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y [[cyfryngau]], gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd [[Côr]] Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig.
+
Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Brifysgol]] Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y [[Diwylliant a'r Diwydiant Cerddoriaeth | cyfryngau]], gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd [[Corau Meibion | Côr]] Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig.
  
Bu’n wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C, yn sylwebu o lwyfan yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol ac yn gyflwynydd rhaglenni megis ''Prynhawn Da, Heno'' a ''Dechrau Canu, Dechrau Canmol.'' Gyda’i osgo hamddenol ond gwybodus o’r maes, fe lwyddodd ei raglen radio glasurol ''Cywair'' ar Radio Cymru ar foreau Sul yn ystod yr 1980au i agor clustiau cenedlaethau o wrandawyr i gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol o bob math, gyda sain nodweddiadol y cymbalom i’w chlywed yn y gerddoriaeth agoriadol: intermezzo allan o opera ''Háry János'' Zoltán Kodály.
+
Bu’n wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C, yn sylwebu o lwyfan yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol ac yn gyflwynydd rhaglenni megis ''Prynhawn Da, Heno'' a ''Dechrau Canu, Dechrau Canmol.'' Gyda’i osgo hamddenol ond gwybodus o’r maes, fe lwyddodd ei raglen radio glasurol ''Cywair'' ar Radio Cymru ar foreau Sul yn ystod yr 1980au i agor clustiau cenedlaethau o wrandawyr i gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol o bob math, gyda sain nodweddiadol y cymbalom i’w chlywed yn y gerddoriaeth agoriadol: intermezzo allan o opera ''Háry János'' Zoltán Kodály.
  
Fel [[cyflwynydd]] teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio [[cerddoriaeth offerynnol]], [[cerddoriaeth gorawl]] a ''repertoire'' yr [[opera]] ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru.
+
Fel [[cyflwynydd]] teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio [[Ffurfiau Offerynnol | cerddoriaeth offerynnol]], [[Corau Cymysg | cerddoriaeth gorawl]] a ''repertoire'' yr [[opera]] ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Y diwygiad cyfredol, am 17:41, 12 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor, arweinydd, awdur a ffigwr hynod bwysig a dylanwadol ym maes cerddoriaeth glasurol yng Nghymru.

Yn dod yn wreiddiol o Ynys Môn, graddiodd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Hull yn 1966 cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod, Llundain. Bu’n darlithio am gyfnod yng ngholeg Mabel Fletcher yn Lerpwl cyn symud i fyd y cyfryngau, gan ddod yn ddarlledwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda’r BBC. Bu’n gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd Côr Orpheus Treforys am 25 mlynedd gan roi’r gorau i’r gwaith yn 2005. Yn ystod y cyfnod yma llwyddodd y côr i dderbyn dwy ddisg aur gan gyrraedd deg uchaf y siartiau clasurol Prydeinig.

Bu’n wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C, yn sylwebu o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyflwynydd rhaglenni megis Prynhawn Da, Heno a Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Gyda’i osgo hamddenol ond gwybodus o’r maes, fe lwyddodd ei raglen radio glasurol Cywair ar Radio Cymru ar foreau Sul yn ystod yr 1980au i agor clustiau cenedlaethau o wrandawyr i gerddoriaeth glasurol a chelfyddydol o bob math, gyda sain nodweddiadol y cymbalom i’w chlywed yn y gerddoriaeth agoriadol: intermezzo allan o opera Háry János Zoltán Kodály.

Fel cyflwynydd teledu a radio fe wnaeth Alwyn Humphreys ymron mwy na neb arall i boblogeiddio cerddoriaeth offerynnol, cerddoriaeth gorawl a repertoire yr opera ymysg Cymry Cymraeg drwy ei ddarllediadau diddorol a deallus o’r maes. Derbyniodd MBE yn 2001 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru.

Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant (Talybont, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.