Jones, John (Eos Bradwen) (1831-99)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gerddorion amlwg Cymru’r 19g. a phlentyn ei gyfnod oedd John Jones, neu Eos Bradwen fel y’i hadwaenid. Fe’i ganed yn Nhal-y-llyn, Sir Feirionnydd, cyn i’r teulu symud i Ddolgellau lle bu’n gyfrifol am Y Seraph neu Gyfaill y Cerddor Ieuanc, cyfrol o donau ac alawon. Fel Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77) a Joseph Parry (1841–1903) ar ei ôl, anelai at y patrwm Fictoraidd o gynhyrchu deunydd dyrchafedig, addysgiadol er mwyn codi safonau moesoldeb yn y gymdeithas. Symudodd i Aberystwyth yn 1858 cyn symud eto i Lanelwy lle bu’n gyfrifol am godi safonau corawl fel arweinydd yn yr Eglwys Gadeiriol.

Bu yn Llanelwy am bymtheng mlynedd a thra oedd yno enillodd wobr am gyfansoddi geiriau i’r gantata Y Mab Afradlon (1870). Cyfansoddodd gerddoriaeth y gantata Owain Glyndŵr a bu canu mawr ar ei unawdau ‘Bugeiles yr Wyddfa’ a ‘Y Gŵr â’r Siaced Wen’. Enillodd yr opera Dafydd ap Siencyn wobr iddo yn eisteddfod Llandudno yn 1885. Yn 1878 symudodd i’r Rhyl cyn ymsefydlu’n ddiweddarach yng Nghaernarfon, lle treuliodd weddill ei oes.

Fel cymaint o’i gyfoeswyr cerddorol, mae ei fywyd yn batrwm o’r norm sef codi o gefndir cyffredin, hunanaddysgu a chynnig ei wasanaeth i gymdeithas. Nid yw ei weithiau creadigol wedi goroesi fodd bynnag. Gweithiwr tawel yn y winllan ydoedd, un o lawer na fyddai cerddoriaeth yng Nghymru wedi datblygu’r un fath hebddynt.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Y Cerddor (Gorffennaf, 1899)
  • Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901, 23.


Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.