Newyddiaduraeth gwyddoniaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Science journalism

Math o newyddiaduraeth sy’n ymdrin â gwyddoniaeth ac, i raddau llai, technoleg fel elfen benodol o ddigwyddiadau sy’n deilwng o fod yn y newyddion. Er nad yw newyddiaduraeth gwyddoniaeth fel genre wedi ei dogfennu’n llawn eto, mae i’w chael ledled y byd. Ym Mhrydain, daeth newyddiaduraeth gwyddoniaeth i’r amlwg ochr yn ochr â thueddiadau ehangach i wneud gwyddoniaeth a thechnoleg yn boblogaidd. Yng nghanol y 1800au ym Mhrydain, cyhoeddwyd cylchgronau megis y Quarterly Journal of Science, Scientific Opinion a Nature; cyfnodolion fel Popular Science Monthly, Hardwicke’s Science-Gossip, Pearson’s Magazine, Tit-Bits, Cassel’s Magazine a Knowledge: An illustrated Magazine of Science. Roedd y rhain yn hyrwyddo gwyddoniaeth a’i werthfawrogiad er budd moderniaeth a chynnydd cymdeithasol. Yn yr un modd, bu pob teitl yn gymorth i ddatblygu cymunedau ‘lleyg’ – darllenwyr yr oedd ganddynt ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac a oedd yn awyddus i glywed y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau gwyddonol ac arloesedd.

Yng Nghymru, sefydlwyd cylchgrawn Saesneg ei iaith, yr Archeologia Cambrensis a gyhoeddwyd yn flynyddol o 1846 tan 1899 gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, ac ynddo cafwyd erthyglau ysgolheigaidd am archaeoleg Cymru. Yn Llanymddyfri, cyhoeddwyd cylchgrawn misol Cymraeg, Cylchgrawn y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol, rhwng 1834 a 1835 a oedd yn cynnwys erthyglau ar fyd natur a daearyddiaeth. Er mwyn poblogeiddio gwyddoniaeth i Gymry Cymraeg ifanc, cyhoeddwyd Trysorfa y Plant yn 1862, cylchgrawn crefyddol a oedd yn cynnwys erthyglau am fyd natur. Daeth y cyhoeddiad i ben yn 1910.

Yn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd newyddion gwyddoniaeth fel y genre y gellir ei adnabod heddiw, wedi’i hwyluso’n rhannol gan broffesiynoldeb y rhai a oedd yn ysgrifennu ar y pwnc gan eu bod yn defnyddio dulliau adrodd ‘gwrthrychol’. Fe’i gwelwyd yn rheolaidd mewn ffilmiau newyddion yn y sinema, yn ogystal ag ar rwydwaith radio y BBC ar ddechrau’r 1920au. Erbyn diwedd y 1930au, roedd nifer cynyddol o newyddiadurwyr papur newydd yn cyflwyno adroddiadau gwyddoniaeth fel gohebwyr arbenigol, gydag unigolion megis J. G. Crowther, gohebydd y Manchester Guardian a Peter Ritchie Calder o’r Daily Herald yn arwain y ffordd.

Wrth i’r momentwm dyfu, ffurfiwyd y British Association of Science Writers yn 1947, gan gyfoethogi’r ddadl ynghylch arferion gweithio a safonau moesegol. Gyda dyfodiad teledu, darlledwyd rhaglenni gwyddoniaeth, megis The Sky at Night ym mis Ebrill 1957, ac yna’r gyfres ddogfen wyddoniaeth Horizon yn 1964.

Dilynodd newyddiaduraeth wyddonol Unol Daleithiau America (UDA) yr un llwybr. Yn ogystal â chyhoeddiadau’r brif ffrwd, gallai’r cyhoedd droi at deitlau arbenigol, megis Scientific American, Popular Science Monthly, National Geographic a Popular Mechanics. Bwriad y rhain oedd i helpu pobl i ddysgu am wyddoniaeth ar eu liwt eu hunain.

Gwnaeth LaFollette (1990) archwiliad o’r cynnwys gwyddonol mewn cylchgronau i’r teulu yn UDA rhwng 1910 a 1955. Roedd yn dadlau bod rhoi sylw i wyddoniaeth wedi cyfrannu at hinsawdd o ddisgwyliadau lle roedd gwyddoniaeth a gwyddonwyr yn cael ei/eu dathlu, gydag erthyglau yn sicrhau darllenwyr y byddai dyfodol o gynnydd di-dor o’u blaenau.

Yn ystod y 1920au, sefydlwyd y Science Service (gwasanaeth newyddion wedi ei sindiceiddio) yn UDA a ddaeth yn enghraifft o’r ddelfryd i’w hefelychu gan brif bapurau newydd. Wedi’i sefydlu gyda chymorth ariannol cyhoeddwr papur newydd E. W. Scripps yn 1921, roedd yn dosbarthu deunydd newyddion ac erthyglau nodwedd i fwy na chant o bapurau newydd erbyn y 1940au. Yn y blynyddoedd i ddilyn, gan fod sefydliadau newyddion yn araf ddechrau ychwanegu gohebwyr gwyddoniaeth llawn amser i’w staff (megis Waldemar Kaempffert a William Laurence o’r New York Times), dechreuwyd ystyried newyddiaduraeth gwyddoniaeth fel aseiniad ar wahân neu fel arbenigedd newyddiadurol.

Erbyn y 1960au, gwelwyd newid cyfeiriad amlwg mewn cylchgronau gwyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig (DU) a’r UDA, yn ogystal â chyd-destunau cenedlaethol eraill. Daeth mathau mwy ymosodol o adroddiadau gwyddoniaeth i’r amlwg, gyda safbwyntiau sgeptig, hyd yn oed rhai beirniadol. Roedd cyhoeddi llyfr Silent Spring gan Rachel Carson yn 1963 yn arwyddocaol.

Yn Silent Spring, llyfr sy’n aml yn cael ei ystyried fel gwaith nodedig am yr amgylchedd, mae Rachel Carson yn troi ei sylw at effeithiau posibl niweidiol plaladdwyr ar yr amgylchedd, yn enwedig y plaladdwyr hynny (gan gynnwys DDT) a oedd yn cael eu chwistrellu o’r awyr er mwyn rheoli poblogaethau pryfed ar raddfa enfawr. Mewn sawl ffordd, gwelwyd Silent Spring fel rhybudd cyhoeddus, a oedd yn casglu barn arbenigol ar beryglon yr ymarfer cynyddol ddinistriol hwn.

Gwelwyd y duedd hon yn parhau dros y degawdau diwethaf, gyda rhai sylwebwyr yn mynegi’r ofn mai’r unig dro y bydd gwyddoniaeth yn cael ei ystyried yn newyddion yw pan y bydd yn cael ei drafod yng nghyd-destun perygl.

Ar y llaw arall, mae rhai’n fwy optimistaidd gan gyfeirio at sut y mae’r rhyngrwyd yn trawsnewid yr hyn a ystyrir fel newyddion gwyddoniaeth, yn enwedig trwy roi’r modd i wyddonwyr-ddinasyddion gymryd rhan yn y sgwrs (yn bennaf trwy flogiau), sy’n cael ei ystyried fel democrateiddio’r drafodaeth wyddonol. Ar adeg pan fo sefydliadau newyddion dan bwysau cyllidebol i dorri neu leihau meysydd adrodd arbenigol megis gwyddoniaeth, mae’n bosibl y bydd y gwefannau hyn yn gynyddol arwyddocaol mewn perthynas â newyddiaduraeth gwyddoniaeth.


Llyfryddiaeth

LaFollette,M.C.1990. Making Science Our Own: Public Images of Science 1910-1955. Chicago,Il: University of Chicago Press



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.