Parri, Annette Bryn (g.1956)
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Roedd y pianydd amryddawn Annette Bryn Parri yn un o dair o ferched a fagwyd ar aelwyd chwarelyddol yn Neiniolen, Gwynedd. Dechreuodd chwarae’r piano yn ifanc eithriadol, a bu ei hathrawes biano gyntaf, Rhiannon Gabrielson, yn gryn ysbrydoliaeth iddi. O Ysgol Brynrefail aeth i astudio’r piano yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion gyda Marjorie Clementi gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 1984. Ar ôl priodi dechreuodd ar ei hastudiaethau ôl-radd ym Manceinion, ac fe’i penodwyd i ddysgu piano ym Mhrifysgol Bangor yng nghyfnod William Mathias. Penderfynodd roi’r gorau i’r cwrs ôl-radd er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa ym Mangor, lle parhaodd i weithio hyd at 2000.
Datblygodd ei gyrfa fel perfformwraig ac athrawes yn ystod yr 1980au gan berfformio gydag artistiaid blaenllaw Cymru, gan gynnwys Margaret Williams, Rosalind a Myrddin, Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa. Ymddangosodd ar y rhaglen adloniant ysgafn Noson Lawen am y tro cyntaf yn 1985 a pherfformiodd ar y rhaglen Meistroli gyda Syr Geraint Evans yn ogystal. Cystadlodd a chyfeiliodd mewn nifer sylweddol o eisteddfodau, gan ennill Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1985.
Cyfeilia i nifer o gantorion enwog gan gynnwys Arthur Davies, Rebecca Evans, Timothy Evans, Gwyn Hughes Jones, Aled Jones, Rhys Meirion a Bryn Terfel, ac fe’i clywir yn perfformio ar o leiaf 80 o recordiadau ar label Sain. Cyfeiriwyd yn y wasg gerddorol at ei pherfformiad ‘cydymdeimladol’ wrth gyd-berfformio â Bryn Terfel ar y recordiad Caneuon Meirion Williams (Sain, 1993) ac fe’i canmolwyd yn arbennig am ei dehongliad synhwyrol o gerddoriaeth operatig Puccini ar y recordiad Tenor gan Arthur Davies a Susan Bullock (Sain, 1995).
Yn 1993 dechreuodd gyfeilio i’r ysgol berfformio Ysgol Glanaethwy. Chwe mlynedd yn ddiweddarach gwelwyd peth newid cyfeiriad yn ei gyrfa wrth iddi sefydlu siop asiant teithio yn Llanberis o’r enw Teithiau Peris; am ddwy flynedd bu’n trefnu teithiau i sioeau cerdd a chyngherddau clasurol a phoblogaidd, o gyngherddau Bryn Terfel i Westlife. Yn ystod y cyfnod hwn rhyddhawyd ei halbwm unawdol cyntaf, Annette, gan Sain (2000). Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn arweinydd Côr y Traeth, Ynys Môn, ac yn 2005 ffurfiodd y ddeuawd telyn a phiano Piantel gyda’r telynor Dylan Cernyw, gan ryddhau’r albwm Un Enaid yn 2012.
Yn ychwanegol at ei phrofiad fel perfformiwr, tiwtor piano a chyfarwyddwr busnes, enillodd brofiad sylweddol fel athrawes gerdd, cyfansoddwr, cyfarwyddwr cerdd a therapydd cerdd megis yn Ysgol Dyffryn Nantlle lle cyfansoddwyd y sioe Nadolig Helo Pwy Sy ’Na? tra oedd yn athrawes lanw yno. Yn 2008 dechreuodd weithio gyda phlant ag anawsterau dysgu ac anableddau yng Nghanolfan Addysg y Bont, Llangefni, ac Ysgol Pendalar, Caernarfon, ac yn sgil ei chyfraniad tuag at ddarparu therapi cerdd rhyddhaodd y gryno-ddisg Myfyrdod ar label Aran yn 2010. Cyhoeddodd wasg Y Lolfa hunangofiant yn 2010. Tristian Evans
Disgyddiaeth
- Caneuon Meirion Williams (Sain C2013, 1993)
- Song Recital (Sain SCD2085, 1995)
- Annette (Sain SCD2248, 2000)
- Un Mondo a Parte (Sain SCD2368, 2005)
- Myfyrdod (Aran, 2010)
- Piantel, Un Enaid (Sain SCD2644, 2012)
Llyfryddiaeth
- Annette Bryn Parri, Bywyd ar Ddu a Gwyn (Talybont, 2010)
- ‘Stiwdio’r Cerddor: Annette Bryn Parri’, Golwg, 23/xiii (25 Tachwedd 2010), 25
- John B. Steane, Adolygiad o ‘Caneuon Meirion Williams’, Gramophone (Awst, 1993), 74
- John B. Steane, Adolygiad o ‘Song Recital’ gyda Susan Bullock (soprano) ac Arthur Davies (tenor), Gramophone (Tachwedd, 1995), 165
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.