Perthynoliaeth ddiwylliannol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: Cultural relativism)

Datblygwyd y cysyniad o berthynoliaeth ddiwylliannol yng ngweithiau’r anthropolegydd Franz Boas (1940). Yn greiddiol i’r cysyniad o berthynoliaeth ddiwylliannol y mae bod diwylliannau yn sylfaenol wahanol i’w gilydd. Felly, mae cyd-destun diwylliannol yn hanfodol i ddealltwriaeth o werthoedd, credoau ac arferion diwylliant a’i bobl gan fod profiadau’r unigolyn yn cael eu pennu yn bennaf gan y diwylliant y mae’n byw ynddo (Boas 1940). Fel y dywedodd Herskovits (1948: 63), ‘judgments are based on experience, and experience is interpreted by each individual in terms of his own enculturation’.

Mae perthynoliaeth ddiwylliannol yn cael ei gweld fel cysyniad cyferbyniol i ethnoganoledd (ethnocentrism). Dyma’r gred yng ngoruchafiaeth un diwylliant dros ddiwylliannau eraill, sef y duedd i ystyried eich diwylliant eich hun yn uwchraddol i rai eraill, a defnyddio safonau a gwerthoedd y grŵp hwnnw er mwyn beirniadu diwylliannau (grwpiau) eraill.

Adam Pierce

Llyfryddiaeth

Boas, F. (1940), Race, Language and Culture (New York: The MacMillan Company).

Herskovits, M. (1948), Man and his Works: The Sciences of Cultural Anthropology (New York: A. A. Knopf).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.