Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Anhrefn"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.''' | ||
− | (gw. hefyd [[Mwyn, Rhys]]) | + | (gw. hefyd [[Mwyn, Rhys (g.1962) | Mwyn, Rhys]]) |
Grŵp pync roc Cymraeg dylanwadol oedd yr Anhrefn a fu’n weithgar yn bennaf yn ystod yr 1980au. Roedd y band, a oedd â’u gwreiddiau yn Llanfair Caereinion, Powys, yn nodedig am eu hagwedd heriol a gwrthsefydliadol. Yn sgil eu hymdrechion ffynnodd y sîn danddaearol yng Nghymru yn y cyfnod hwn, gan fraenaru’r tir ar gyfer llwyddiant grwpiau roc amgen megis [[Catatonia]] a’r [[Super Furry Animals]] yn yr 1990au. | Grŵp pync roc Cymraeg dylanwadol oedd yr Anhrefn a fu’n weithgar yn bennaf yn ystod yr 1980au. Roedd y band, a oedd â’u gwreiddiau yn Llanfair Caereinion, Powys, yn nodedig am eu hagwedd heriol a gwrthsefydliadol. Yn sgil eu hymdrechion ffynnodd y sîn danddaearol yng Nghymru yn y cyfnod hwn, gan fraenaru’r tir ar gyfer llwyddiant grwpiau roc amgen megis [[Catatonia]] a’r [[Super Furry Animals]] yn yr 1990au. | ||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
Gweddol ansefydlog oedd aelodaeth y band yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Chwaraeodd Rhys Mwyn gitâr fas ar sengl gyntaf y band, ‘Dim Heddwch’/‘Priodas Hapus’ (Recordiau Anhrefn, 1984), a ryddhawyd ar feinyl llachar gwyrdd, gyda Dic Ben (drymiau) a Mark Whitley (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd. Yn dilyn hyn daeth mwy o gydnabyddiaeth i’r band gyda gwahoddiad i berfformio yn Pesda Roc, ynghyd â chyfweliad yn y cylchgrawn pop Saesneg, y ''New Musical Express''. Fodd bynnag, erbyn iddynt recordio tair cân ar gyfer y record hir amlgyfrannog ''Cam o’r Tywyllwch'' (Recordiau Anhrefn, 1985), roedd Dewi Gwyn (gynt o Bismyth a’r Sefydliad) a Hefin Huws (gynt o [[Maffia Mr Huws]]) wedi ymuno, y naill ar y bas a’r llall yn chwarae’r drymiau. | Gweddol ansefydlog oedd aelodaeth y band yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Chwaraeodd Rhys Mwyn gitâr fas ar sengl gyntaf y band, ‘Dim Heddwch’/‘Priodas Hapus’ (Recordiau Anhrefn, 1984), a ryddhawyd ar feinyl llachar gwyrdd, gyda Dic Ben (drymiau) a Mark Whitley (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd. Yn dilyn hyn daeth mwy o gydnabyddiaeth i’r band gyda gwahoddiad i berfformio yn Pesda Roc, ynghyd â chyfweliad yn y cylchgrawn pop Saesneg, y ''New Musical Express''. Fodd bynnag, erbyn iddynt recordio tair cân ar gyfer y record hir amlgyfrannog ''Cam o’r Tywyllwch'' (Recordiau Anhrefn, 1985), roedd Dewi Gwyn (gynt o Bismyth a’r Sefydliad) a Hefin Huws (gynt o [[Maffia Mr Huws]]) wedi ymuno, y naill ar y bas a’r llall yn chwarae’r drymiau. | ||
− | Rhoddwyd cryn sylw i ''Cam o’r Tywyllwch'' - a oedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan grwpiau amgen megis [[Datblygu]], [[Y Cyrff]] a’r Tynal Tywyll - gan droellwr recordiau Radio 1, John Peel. Gyda Rhys Mwyn yn ôl ar y bas a Dewi Gwyn erbyn hyn ar y gitâr flaen, recordiodd y band eu sesiwn gyntaf i raglen Peel yng Ngorffennaf 1986. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd eu record hir gyntaf, ''Defaid, Skateboards a Wellies'' (Workers Playtime, 1987), gyda Ronnie Stone (gynt o’r grŵp China Crisis) yn cynhyrchu. Gwerthodd y record oddeutu 5,000 o gopïau, gyda’r rhan fwyaf o’r gwerthiant yn dod o’r tu hwnt i Glawdd Offa. | + | Rhoddwyd cryn sylw i ''Cam o’r Tywyllwch'' - a oedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan grwpiau amgen megis [[Datblygu]], [[Cyrff, Y | Y Cyrff]] a’r Tynal Tywyll - gan droellwr recordiau Radio 1, John Peel. Gyda Rhys Mwyn yn ôl ar y bas a Dewi Gwyn erbyn hyn ar y gitâr flaen, recordiodd y band eu sesiwn gyntaf i raglen Peel yng Ngorffennaf 1986. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd eu record hir gyntaf, ''Defaid, Skateboards a Wellies'' (Workers Playtime, 1987), gyda Ronnie Stone (gynt o’r grŵp China Crisis) yn cynhyrchu. Gwerthodd y record oddeutu 5,000 o gopïau, gyda’r rhan fwyaf o’r gwerthiant yn dod o’r tu hwnt i Glawdd Offa. |
Yn wir, gyda’r berthynas rhwng yr Anhrefn a’r [[cyfryngau]] Cymraeg yn prysur ddirywio o ganlyniad i sylwadau di-flewyn-ar-dafod Mwyn mewn cyfweliadau radio ac yn ei golofn ddadleuol yn ''Y Faner,'' ymbellhaodd y band oddi wrth y sîn roc Gymraeg a bu mwy o weithgaredd ganddynt y tu hwnt i Gymru. Bu cyfweliad gyda Rhys Mwyn a Siôn Sebon ar y ''Whistle Test'' (BBC 2) ynghyd â fideo ar gyfer rhaglen ''The Tube'' (Sianel 4). Bu’r band hefyd yn cefnogi canwr The Clash, Joe Strummer, ar y daith ‘Rock Against The Rich’ yn 1988. Yn wir, rhwng 1988 ac 1991 bu’r Anhrefn yn teithio’n rheolaidd trwy Ewrop gan gynnwys yr Almaen, yr Iseldiroedd, Tsiecoslofacia, y Swistir, Awstria, Gwlad y Basg a Llydaw. | Yn wir, gyda’r berthynas rhwng yr Anhrefn a’r [[cyfryngau]] Cymraeg yn prysur ddirywio o ganlyniad i sylwadau di-flewyn-ar-dafod Mwyn mewn cyfweliadau radio ac yn ei golofn ddadleuol yn ''Y Faner,'' ymbellhaodd y band oddi wrth y sîn roc Gymraeg a bu mwy o weithgaredd ganddynt y tu hwnt i Gymru. Bu cyfweliad gyda Rhys Mwyn a Siôn Sebon ar y ''Whistle Test'' (BBC 2) ynghyd â fideo ar gyfer rhaglen ''The Tube'' (Sianel 4). Bu’r band hefyd yn cefnogi canwr The Clash, Joe Strummer, ar y daith ‘Rock Against The Rich’ yn 1988. Yn wir, rhwng 1988 ac 1991 bu’r Anhrefn yn teithio’n rheolaidd trwy Ewrop gan gynnwys yr Almaen, yr Iseldiroedd, Tsiecoslofacia, y Swistir, Awstria, Gwlad y Basg a Llydaw. | ||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
Erbyn 1989 roedd Gwyn Jones (hefyd o Maffia Mr Huws, a brawd Siôn Jones) wedi cymryd lle Dylan Hughes ar y drymiau, gan greu band a oedd yn cynnwys dwy set o frodyr. Dyna’r aelodaeth a glywir ar ''The Dave Goodman Sessions'' (Crai, 1990), a ryddhawyd ar is-label Sain, a ''Live! Rhedeg i Bohemia'' (Pro Art, 1991) - uchafbwyntiau gigs a gynhaliwyd yn Slofacia ym Medi 1990. Ychydig fisoedd ynghynt lansiwyd sengl a oedd yn cynnwys y gân ‘Rhedeg i Paris’ (Crai, 1990) mewn gig a drefnwyd ar gopa’r Wyddfa. Ysbrydolwyd geiriau’r gân gan ‘[derfysgoedd] y myfyrwyr ym Mharis yn 1968’ (Mwyn 2006, 110). Daeth y gân yn boblogaidd yn ddiweddarach yn sgil llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, pan recordiodd y grŵp [[Candelas]] drefniant ohoni. Clywir sain fwy masnachol ar drydedd record hir y grŵp, ''Dial y Ddraig/Dragon’s Revenge'' (Crai, 1990). | Erbyn 1989 roedd Gwyn Jones (hefyd o Maffia Mr Huws, a brawd Siôn Jones) wedi cymryd lle Dylan Hughes ar y drymiau, gan greu band a oedd yn cynnwys dwy set o frodyr. Dyna’r aelodaeth a glywir ar ''The Dave Goodman Sessions'' (Crai, 1990), a ryddhawyd ar is-label Sain, a ''Live! Rhedeg i Bohemia'' (Pro Art, 1991) - uchafbwyntiau gigs a gynhaliwyd yn Slofacia ym Medi 1990. Ychydig fisoedd ynghynt lansiwyd sengl a oedd yn cynnwys y gân ‘Rhedeg i Paris’ (Crai, 1990) mewn gig a drefnwyd ar gopa’r Wyddfa. Ysbrydolwyd geiriau’r gân gan ‘[derfysgoedd] y myfyrwyr ym Mharis yn 1968’ (Mwyn 2006, 110). Daeth y gân yn boblogaidd yn ddiweddarach yn sgil llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, pan recordiodd y grŵp [[Candelas]] drefniant ohoni. Clywir sain fwy masnachol ar drydedd record hir y grŵp, ''Dial y Ddraig/Dragon’s Revenge'' (Crai, 1990). | ||
− | Erbyn 1991 roedd Gwyn Jones wedi gadael y band a Dafydd Ieuan o [[Ffa Coffi Pawb]] wedi cymryd ei le, ond gyda’r sîn ''rave'' a ''techno'' ar ei anterth ar ddechrau’r 1990au, lleihaodd dylanwad cerddoriaeth pync yn gyffredinol. Daeth gyrfa’r grŵp i ben i bob pwrpas gyda rhyddhau’r CD sengl ‘Clutter from the Gutter’ (Crai, 1994) ar y cyd â’r gantores a’r actores Margi Clarke, ar wahân i’r record hir arbrofol ''Hen Wlad Fy Mamau'' (Crai, 1995) – prosiect ar y cyd rhwng Anhrefn a cherddorion fel y gantores [[Siân James]] a’r delynores glasurol [[Elinor Bennett]], a geisiai gyfuno dylanwadau electronaidd ''house'' a ''techno'' gyda thraddodiadau cerddorol Cymru. Gydag elfennau mwy ysbrydol i’w clywed yn ''Hen Wlad Fy Mamau,'' nid oedd sloganau’r Anhrefn yn berthnasol mwyach. | + | Erbyn 1991 roedd Gwyn Jones wedi gadael y band a Dafydd Ieuan o [[Ffa Coffi Pawb]] wedi cymryd ei le, ond gyda’r sîn ''rave'' a ''techno'' ar ei anterth ar ddechrau’r 1990au, lleihaodd dylanwad cerddoriaeth pync yn gyffredinol. Daeth gyrfa’r grŵp i ben i bob pwrpas gyda rhyddhau’r CD sengl ‘Clutter from the Gutter’ (Crai, 1994) ar y cyd â’r gantores a’r actores Margi Clarke, ar wahân i’r record hir arbrofol ''Hen Wlad Fy Mamau'' (Crai, 1995) – prosiect ar y cyd rhwng Anhrefn a cherddorion fel y gantores [[James, Siân (g.1961) | Siân James]] a’r delynores glasurol [[Bennett, Elinor (g.1943) | Elinor Bennett]], a geisiai gyfuno dylanwadau electronaidd ''house'' a ''techno'' gyda thraddodiadau cerddorol Cymru. Gydag elfennau mwy ysbrydol i’w clywed yn ''Hen Wlad Fy Mamau,'' nid oedd sloganau’r Anhrefn yn berthnasol mwyach. |
− | Ailffurfiodd y band yn 2007 heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu. Mewn cyfweliad yn 1996 dywedodd Rhys Mwyn: ‘gyda’r [gân honno, ‘Clutter from the Gutter’] roedden ni wedi sgwennu y gân olaf. Roedden ni wedi ei wneud o a’i ddweud o ...’ (yn ap Siôn, 1996). Yn sicr ni wnaeth yr un band arall o Gymru ei ‘wneud o’ na’i ‘ddweud o’ cweit fel y gwnaeth yr Anhrefn. Yng ngeiriau [[Sarah Hill]], ‘[Anhrefn] gained notoriety in their home territory without acknowledgment of their relative success in England and beyond’ (Hill 2007, 86–7). | + | Ailffurfiodd y band yn 2007 heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu. Mewn cyfweliad yn 1996 dywedodd Rhys Mwyn: ‘gyda’r [gân honno, ‘Clutter from the Gutter’] roedden ni wedi sgwennu y gân olaf. Roedden ni wedi ei wneud o a’i ddweud o ...’ (yn ap Siôn, 1996). Yn sicr ni wnaeth yr un band arall o Gymru ei ‘wneud o’ na’i ‘ddweud o’ cweit fel y gwnaeth yr Anhrefn. Yng ngeiriau [[Hill, Sarah (g.1966) | Sarah Hill]], ‘[Anhrefn] gained notoriety in their home territory without acknowledgment of their relative success in England and beyond’ (Hill 2007, 86–7). |
'''Pwyll ap Siôn''' | '''Pwyll ap Siôn''' |
Diwygiad 16:24, 25 Mai 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
(gw. hefyd Mwyn, Rhys)
Grŵp pync roc Cymraeg dylanwadol oedd yr Anhrefn a fu’n weithgar yn bennaf yn ystod yr 1980au. Roedd y band, a oedd â’u gwreiddiau yn Llanfair Caereinion, Powys, yn nodedig am eu hagwedd heriol a gwrthsefydliadol. Yn sgil eu hymdrechion ffynnodd y sîn danddaearol yng Nghymru yn y cyfnod hwn, gan fraenaru’r tir ar gyfer llwyddiant grwpiau roc amgen megis Catatonia a’r Super Furry Animals yn yr 1990au.
Ffurfiwyd y grŵp yn 1982 gan Siôn Sebon (llais, gitâr) a fu cyn hynny mewn grŵp ysgol o’r enw The Chaos. Bwriad Siôn, ynghyd â’i frawd Rhys Mwyn - a fu’n rheoli a hyrwyddo’r band i ddechrau cyn dod yn aelod maes o law – oedd creu ‘grŵp tanddaearol, punk, swnllyd, anarchaidd, amrwd fel gwrthgyferbyniad i’r roc Cymraeg saff, canol y ffordd, henffasiwn’ (Mwyn 2006, 7). Daeth sylw cynnar i’r Anhrefn yn sgil eu cân dros hawliau anifeiliaid, ‘Stwffiwch y Dolig’, a ymddangosodd ar y record amlgyfrannog Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd (Lola, 1983).
Gweddol ansefydlog oedd aelodaeth y band yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Chwaraeodd Rhys Mwyn gitâr fas ar sengl gyntaf y band, ‘Dim Heddwch’/‘Priodas Hapus’ (Recordiau Anhrefn, 1984), a ryddhawyd ar feinyl llachar gwyrdd, gyda Dic Ben (drymiau) a Mark Whitley (gitâr) yn cwblhau’r pedwarawd. Yn dilyn hyn daeth mwy o gydnabyddiaeth i’r band gyda gwahoddiad i berfformio yn Pesda Roc, ynghyd â chyfweliad yn y cylchgrawn pop Saesneg, y New Musical Express. Fodd bynnag, erbyn iddynt recordio tair cân ar gyfer y record hir amlgyfrannog Cam o’r Tywyllwch (Recordiau Anhrefn, 1985), roedd Dewi Gwyn (gynt o Bismyth a’r Sefydliad) a Hefin Huws (gynt o Maffia Mr Huws) wedi ymuno, y naill ar y bas a’r llall yn chwarae’r drymiau.
Rhoddwyd cryn sylw i Cam o’r Tywyllwch - a oedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan grwpiau amgen megis Datblygu, Y Cyrff a’r Tynal Tywyll - gan droellwr recordiau Radio 1, John Peel. Gyda Rhys Mwyn yn ôl ar y bas a Dewi Gwyn erbyn hyn ar y gitâr flaen, recordiodd y band eu sesiwn gyntaf i raglen Peel yng Ngorffennaf 1986. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd eu record hir gyntaf, Defaid, Skateboards a Wellies (Workers Playtime, 1987), gyda Ronnie Stone (gynt o’r grŵp China Crisis) yn cynhyrchu. Gwerthodd y record oddeutu 5,000 o gopïau, gyda’r rhan fwyaf o’r gwerthiant yn dod o’r tu hwnt i Glawdd Offa.
Yn wir, gyda’r berthynas rhwng yr Anhrefn a’r cyfryngau Cymraeg yn prysur ddirywio o ganlyniad i sylwadau di-flewyn-ar-dafod Mwyn mewn cyfweliadau radio ac yn ei golofn ddadleuol yn Y Faner, ymbellhaodd y band oddi wrth y sîn roc Gymraeg a bu mwy o weithgaredd ganddynt y tu hwnt i Gymru. Bu cyfweliad gyda Rhys Mwyn a Siôn Sebon ar y Whistle Test (BBC 2) ynghyd â fideo ar gyfer rhaglen The Tube (Sianel 4). Bu’r band hefyd yn cefnogi canwr The Clash, Joe Strummer, ar y daith ‘Rock Against The Rich’ yn 1988. Yn wir, rhwng 1988 ac 1991 bu’r Anhrefn yn teithio’n rheolaidd trwy Ewrop gan gynnwys yr Almaen, yr Iseldiroedd, Tsiecoslofacia, y Swistir, Awstria, Gwlad y Basg a Llydaw.
Gyda drymiwr Y Cyrff, Dylan Hughes, bellach yn aelod yn lle Hefin Huws, a gitarydd Maffia Mr Huws, Siôn Jones, yn ymuno yn lle Dewi Gwyn, rhyddhawyd y sengl ‘Be Nesa 89’/‘Bach Dy Ben’ (Recordiau Anhrefn, 1989) ac yna, flwyddyn yn ddiweddarach, ail record hir, Bwrw Cwrw (Workers Playtime, 1989), a ddangosai ddylanwadau reggae (bu’r grŵp reggae One Style MDV yn aml yn perfformio gyda’r band). Fodd bynnag, siomedig oedd gwerthiant Bwrw Cwrw o’i gymharu â Defaid, Skateboards a Wellies, er i fideos o rai o’r caneuon gael eu darlledu ar Sky, Super Channel a BBC 2 (Mwyn 2006, 102).
Erbyn 1989 roedd Gwyn Jones (hefyd o Maffia Mr Huws, a brawd Siôn Jones) wedi cymryd lle Dylan Hughes ar y drymiau, gan greu band a oedd yn cynnwys dwy set o frodyr. Dyna’r aelodaeth a glywir ar The Dave Goodman Sessions (Crai, 1990), a ryddhawyd ar is-label Sain, a Live! Rhedeg i Bohemia (Pro Art, 1991) - uchafbwyntiau gigs a gynhaliwyd yn Slofacia ym Medi 1990. Ychydig fisoedd ynghynt lansiwyd sengl a oedd yn cynnwys y gân ‘Rhedeg i Paris’ (Crai, 1990) mewn gig a drefnwyd ar gopa’r Wyddfa. Ysbrydolwyd geiriau’r gân gan ‘[derfysgoedd] y myfyrwyr ym Mharis yn 1968’ (Mwyn 2006, 110). Daeth y gân yn boblogaidd yn ddiweddarach yn sgil llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016, pan recordiodd y grŵp Candelas drefniant ohoni. Clywir sain fwy masnachol ar drydedd record hir y grŵp, Dial y Ddraig/Dragon’s Revenge (Crai, 1990).
Erbyn 1991 roedd Gwyn Jones wedi gadael y band a Dafydd Ieuan o Ffa Coffi Pawb wedi cymryd ei le, ond gyda’r sîn rave a techno ar ei anterth ar ddechrau’r 1990au, lleihaodd dylanwad cerddoriaeth pync yn gyffredinol. Daeth gyrfa’r grŵp i ben i bob pwrpas gyda rhyddhau’r CD sengl ‘Clutter from the Gutter’ (Crai, 1994) ar y cyd â’r gantores a’r actores Margi Clarke, ar wahân i’r record hir arbrofol Hen Wlad Fy Mamau (Crai, 1995) – prosiect ar y cyd rhwng Anhrefn a cherddorion fel y gantores Siân James a’r delynores glasurol Elinor Bennett, a geisiai gyfuno dylanwadau electronaidd house a techno gyda thraddodiadau cerddorol Cymru. Gydag elfennau mwy ysbrydol i’w clywed yn Hen Wlad Fy Mamau, nid oedd sloganau’r Anhrefn yn berthnasol mwyach.
Ailffurfiodd y band yn 2007 heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu. Mewn cyfweliad yn 1996 dywedodd Rhys Mwyn: ‘gyda’r [gân honno, ‘Clutter from the Gutter’] roedden ni wedi sgwennu y gân olaf. Roedden ni wedi ei wneud o a’i ddweud o ...’ (yn ap Siôn, 1996). Yn sicr ni wnaeth yr un band arall o Gymru ei ‘wneud o’ na’i ‘ddweud o’ cweit fel y gwnaeth yr Anhrefn. Yng ngeiriau Sarah Hill, ‘[Anhrefn] gained notoriety in their home territory without acknowledgment of their relative success in England and beyond’ (Hill 2007, 86–7).
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- ‘Dim Heddwch’/‘Priodas Hapus’ [sengl] (Recordiau Anhrefn 001, 1984)
- Defaid, Skateboards a Wellies (Workers Playtime PLAY LP1, 1987)
- ‘Be Nesa 89’/‘Bach Dy Ben’ [sengl] (Recordiau Anhrefn 015, 1988)
- Bwrw Cwrw (Workers Playtime PLAY LP5, 1989)
- Live (Incognito INC010, 1990)
- Bwtleg Powerhaus Llundain 1.3.90 [EP] (Crai 010, 1990)
- Dial y Ddraig/Dragon’s Revenge (Crai 012, 1990)
- The Dave Goodman Sessions (Incognito INC019, 1990)
- [gyda Margi Clarke] ‘Clutter from the Gutter’/‘Croeso i Gymru’ [sengl] (Crai CD037, 1994)
- [amrywiol] Hen Wlad Fy Mamau (Crai CD048, 1995)
Casgliadau:
- [amrywiol] ‘Stwffiwch y Dolig’ yn Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd (Lola MW006, 1983)
- [amrywiol] ‘Action Man’/‘Rhywle yn Moscow’/‘Dagrau yn eu Llygaid’ yn Cam o’r Tywyllwch (Recordiau Anhrefn 002, 1985)
Llyfryddiaeth
- Pwyll ap Siôn, ‘Lawr yn y Disgo: Pwyll ap Siôn yn sgwrsio gyda Rhys Mwyn a Jonny ‘R’’, Barn (Tachwedd, 1996), 16–17
- Rhys Mwyn, Cam o’r Tywyllwch (Lolfa, 2006)
- Sarah Hill, ‘Blerwytirhwng?’ The Place of Welsh Pop Music (Aldershot, 2007)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.