Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edwards, Trebor (g.1939)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Yn ystod yr 1970au cynnar bu Trebor Edwards yn canu mewn cyngherddau gyda Hogiau Clwyd a Lleisiau’r Alwen, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau radio a theledu megis ''Sêr y Siroedd'', ''Dewch i’r Llwyfan'', ''Dyma Gyfle'' ac ''Opportunity Knocks''. Yn yr ail gyfres o ''Dyma Gyfle'' yn 1971 canodd ‘Holy City’, gan ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth a ddeuai â chantorion o bob rhan o ogledd Cymru i berfformio o flaen torf o dros fil ym Mhafiliwn Corwen. | Yn ystod yr 1970au cynnar bu Trebor Edwards yn canu mewn cyngherddau gyda Hogiau Clwyd a Lleisiau’r Alwen, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau radio a theledu megis ''Sêr y Siroedd'', ''Dewch i’r Llwyfan'', ''Dyma Gyfle'' ac ''Opportunity Knocks''. Yn yr ail gyfres o ''Dyma Gyfle'' yn 1971 canodd ‘Holy City’, gan ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth a ddeuai â chantorion o bob rhan o ogledd Cymru i berfformio o flaen torf o dros fil ym Mhafiliwn Corwen. | ||
− | Yn dilyn ei lwyddiant ar ''Dyma Gyfle'', cynyddodd y galw am ei lais tenor persain. Roedd Trebor Edwards yn hunanddysgedig ar y cyfan ac yn ganwr naturiol wrth reddf ond datblygodd dechneg leisiol drwy dderbyn hyfforddiant gyda’r [[arweinyddes]] a’r gyfeilyddes Manon Easter Lewis, [[Gwilym Gwalchmai Jones]] (1921–70) a fu’n darlithio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) a’r tenor Rowland Jones (1912–78) a fu’n canu am flynyddoedd gyda chwmni Sadler’s Wells, Llundain. Bu’r pianydd [[Annette Bryn Parri]] hefyd yn gyfeilydd iddo am gyfnod gan gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu caneuon. | + | Yn dilyn ei lwyddiant ar ''Dyma Gyfle'', cynyddodd y galw am ei lais tenor persain. Roedd Trebor Edwards yn hunanddysgedig ar y cyfan ac yn ganwr naturiol wrth reddf ond datblygodd dechneg leisiol drwy dderbyn hyfforddiant gyda’r [[Arweinydd, Arweinyddion | arweinyddes]] a’r gyfeilyddes Manon Easter Lewis, [[Jones, Gwilym Gwalchmai (1921-70) | Gwilym Gwalchmai Jones]] (1921–70) a fu’n darlithio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) a’r tenor Rowland Jones (1912–78) a fu’n canu am flynyddoedd gyda chwmni Sadler’s Wells, Llundain. Bu’r pianydd [[Parri, Annette Bryn (g.1956) | Annette Bryn Parri]] hefyd yn gyfeilydd iddo am gyfnod gan gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu caneuon. |
− | Yn fuan yn ei yrfa, penderfynodd Trebor Edwards mai gwell fyddai canu mewn cyngherddau a nosweithiau llawen yn hytrach na chystadlu mewn [[eisteddfodau]]. Dechreuodd ei yrfa recordio yn 1973 gyda dwy EP ar label Tŷ ar y Graig, is-gwmni Sain. Bu gwerthiant calonogol i’w recordiau cynnar, megis ''Dyma Fy Nghân'' (Sain, 1976) a ''Cân y Bugail'' (Sain, 1978), gyda ‘’Rhen Shep’ – cyfieithiad a wnaed gan [[Edward Morus Jones]] pan oedd ond yn bedair ar ddeg oed – yn ffefryn ar ''Dyma Fy Nghân''. | + | Yn fuan yn ei yrfa, penderfynodd Trebor Edwards mai gwell fyddai canu mewn cyngherddau a nosweithiau llawen yn hytrach na chystadlu mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]]. Dechreuodd ei yrfa recordio yn 1973 gyda dwy EP ar label Tŷ ar y Graig, is-gwmni Sain. Bu gwerthiant calonogol i’w recordiau cynnar, megis ''Dyma Fy Nghân'' (Sain, 1976) a ''Cân y Bugail'' (Sain, 1978), gyda ‘’Rhen Shep’ – cyfieithiad a wnaed gan [[Jones, Edward Morus (g.1944) | Edward Morus Jones]] pan oedd ond yn bedair ar ddeg oed – yn ffefryn ar ''Dyma Fy Nghân''. |
− | Daeth llwyddiant ysgubol i ran Trebor Edwards ar ôl recordio’r gân ‘Un Dydd ar y Tro’, trefniant o’r gân ‘One Day at a Time, Sweet Jesus’ gan Marijohn Wilkins a Kris Kristofferson a recordiwyd yn wreiddiol gan Marilyn Sellars yn 1974. Roedd y gân yn hynod o addas i ansawdd sain a chwmpas ei lais. O fewn rhai misoedd o’i ryddhau gwerthodd yr albwm o’r un enw 24,000 o gopïau gan wneud y canwr yn un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus erioed yn yr iaith Gymraeg. Rhyddhawyd ''Ychydig Hedd'' yn 1982 ac yna ''Gwelaf dy Wên'' yn 1984, recordiau a oedd yn cynnwys trefniannau o ganeuon gan artistiaid megis [[Ryan Davies]], [[Caryl Parry Jones]], [[Robat Arwyn]] a Linda Gittins, ynghyd â nifer o [[emynau]] Cymraeg. | + | Daeth llwyddiant ysgubol i ran Trebor Edwards ar ôl recordio’r gân ‘Un Dydd ar y Tro’, trefniant o’r gân ‘One Day at a Time, Sweet Jesus’ gan Marijohn Wilkins a Kris Kristofferson a recordiwyd yn wreiddiol gan Marilyn Sellars yn 1974. Roedd y gân yn hynod o addas i ansawdd sain a chwmpas ei lais. O fewn rhai misoedd o’i ryddhau gwerthodd yr albwm o’r un enw 24,000 o gopïau gan wneud y canwr yn un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus erioed yn yr iaith Gymraeg. Rhyddhawyd ''Ychydig Hedd'' yn 1982 ac yna ''Gwelaf dy Wên'' yn 1984, recordiau a oedd yn cynnwys trefniannau o ganeuon gan artistiaid megis [[Davies, Ryan (1937-77) | Ryan Davies]], [[Jones, Caryl Parry (g.1958) | Caryl Parry Jones]], [[Arwyn, Robat (g.1959) | Robat Arwyn]] a Linda Gittins, ynghyd â nifer o [[Emyn-donau | emynau]] Cymraeg. |
Roedd ‘Ychydig Hedd’ yn drefniant o ‘Ein bißchen Frieden’ gan Ralph Siegel a Bernd Meinunger, cân a enillodd gystadleuaeth yr Eurovision i Nicole o’r Almaen yn 1982. Ar gyfer y fersiwn Cymraeg, ymunodd disgyblion Ysgol Uwchradd Llangefni o dan Mary S. Jones gyda Trebor Edwards, ac er na fu’n gymaint o lwyddiant ag ‘Un Dydd ar y Tro’, gwerthodd y record ymhell dros 10,000 o gopïau. | Roedd ‘Ychydig Hedd’ yn drefniant o ‘Ein bißchen Frieden’ gan Ralph Siegel a Bernd Meinunger, cân a enillodd gystadleuaeth yr Eurovision i Nicole o’r Almaen yn 1982. Ar gyfer y fersiwn Cymraeg, ymunodd disgyblion Ysgol Uwchradd Llangefni o dan Mary S. Jones gyda Trebor Edwards, ac er na fu’n gymaint o lwyddiant ag ‘Un Dydd ar y Tro’, gwerthodd y record ymhell dros 10,000 o gopïau. | ||
− | Rhwng 1976 a 2008 rhyddhaodd y canwr bymtheg o recordiau, ynghyd ag ambell record yn Saesneg, megis ''Presenting Trebor Edwards'' (Sain, 1983). Ar sail gwerthiant ei recordiau, derbyniodd Trebor Edwards bum disg aur. Fodd bynnag, o ganlyniad i boblogrwydd digyffelyb ei recordiau bu rhai adolygwyr yn feirniadol o’r dewis diantur o ''repertoire'' a’r ddibyniaeth ar brydiau ar ganeuon sentimental megis ‘Capel y Wlad’ a ‘Croesffordd y Llan’. Ond yn ôl y cerddor [[Rhys Jones]], roedd ei ganeuon yn llenwi bwlch amlwg ac arwyddocaol iawn ym maes [[adloniant]] Cymraeg: | + | Rhwng 1976 a 2008 rhyddhaodd y canwr bymtheg o recordiau, ynghyd ag ambell record yn Saesneg, megis ''Presenting Trebor Edwards'' (Sain, 1983). Ar sail gwerthiant ei recordiau, derbyniodd Trebor Edwards bum disg aur. Fodd bynnag, o ganlyniad i boblogrwydd digyffelyb ei recordiau bu rhai adolygwyr yn feirniadol o’r dewis diantur o ''repertoire'' a’r ddibyniaeth ar brydiau ar ganeuon sentimental megis ‘Capel y Wlad’ a ‘Croesffordd y Llan’. Ond yn ôl y cerddor [[Jones, Rhys (1927-2015) | Rhys Jones]], roedd ei ganeuon yn llenwi bwlch amlwg ac arwyddocaol iawn ym maes [[adloniant]] Cymraeg: |
− | :[does] dim dadl | + | :[does] dim dadl ... fod Trebor [Edwards] wedi ennill ei le yng nghalonnau’r rhan fwyaf ohonom ni. Mae’n anodd dirnad weithiau beth yn union yw’r gyfrinach ... [un] o’m gofidiau i yw mai ychydig iawn, iawn o’n cantorion cyfoes sy’n anelu at gerddoriaeth ‘canol y ffordd’, hynny yw at chwaeth y rhan fwyaf o’r boblogaeth. A dyma gyfrinach Trebor ddwedwn i. (Edwards a Pritchard 2008, 144–5) |
Dywedodd awdur cofiant Trebor Edwards, Elfyn Pritchard, mai cyfrinach ei lwyddiant oedd y ffaith ei fod yn rhoi’r un parch a sylw i bawb wrth ganu, ac yn sicr roedd naturioldeb a diffuantrwydd ei ganeuon yn dod â’r gynulleidfa’n nes ato. | Dywedodd awdur cofiant Trebor Edwards, Elfyn Pritchard, mai cyfrinach ei lwyddiant oedd y ffaith ei fod yn rhoi’r un parch a sylw i bawb wrth ganu, ac yn sicr roedd naturioldeb a diffuantrwydd ei ganeuon yn dod â’r gynulleidfa’n nes ato. | ||
− | Erbyn 1994, roedd recordiau Trebor Edwards ar label Sain wedi gwerthu dros 100,000 o gopïau, ac ers hynny mae’r cyfanswm wedi cyrraedd ymhell dros 200,000. Bu hyn yn fodd i gwmni Sain ddatblygu ''repertoire'' estynedig o artistiaid a ''genres'' trwy ryddhau cynnyrch [[roc | + | Erbyn 1994, roedd recordiau Trebor Edwards ar label Sain wedi gwerthu dros 100,000 o gopïau, ac ers hynny mae’r cyfanswm wedi cyrraedd ymhell dros 200,000. Bu hyn yn fodd i gwmni Sain ddatblygu ''repertoire'' estynedig o artistiaid a ''genres'' trwy ryddhau cynnyrch [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | roc, pop]] a [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]] mwy amgen ac arbrofol, neu’n wir ambell record glasurol nad oedd yn debygol o werthu mwy na rhai cannoedd. Fel y dywedodd rheolwr Sain, [[Iwan, Dafydd (g.1943) | Dafydd Iwan]]: |
− | :Mae record gan Trebor Edwards yn gwerthu cymaint ddengwaith â goreuon y recordiau roc Cymraeg. Mae Côr Meibion da neu record o oreuon [[Cerdd Dant]] Cymru yn gwerthu cymaint deirgwaith â’r grwpiau roc mwyaf poblogaidd. I raddau helaeth iawn, Trebor Edwards a [[Chorau Meibion]] sy’n cynnal recordiau roc Cymraeg. (Wyn 2002, 378) | + | :Mae record gan Trebor Edwards yn gwerthu cymaint ddengwaith â goreuon y recordiau roc Cymraeg. Mae Côr Meibion da neu record o oreuon [[Cerdd Dant]] Cymru yn gwerthu cymaint deirgwaith â’r grwpiau roc mwyaf poblogaidd. I raddau helaeth iawn, Trebor Edwards a [[Corau Meibion | Chorau Meibion]] sy’n cynnal recordiau roc Cymraeg. (Wyn 2002, 378) |
Parhaodd Trebor Edwards i ganu yn ystod yr 1990au, gan ymddangos ar nifer o raglenni teledu megis ''Cais am Gân'', ''Trebor, Taro Tant'' a ''Noson Lawen'', ynghyd â theithio’r byd yn perfformio mewn cyngherddau ac achlysuron amrywiol a chan ddifyrru môr-deithwyr ar longau pleser. Fe’i hetholwyd yn llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008. | Parhaodd Trebor Edwards i ganu yn ystod yr 1990au, gan ymddangos ar nifer o raglenni teledu megis ''Cais am Gân'', ''Trebor, Taro Tant'' a ''Noson Lawen'', ynghyd â theithio’r byd yn perfformio mewn cyngherddau ac achlysuron amrywiol a chan ddifyrru môr-deithwyr ar longau pleser. Fe’i hetholwyd yn llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008. | ||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Ave Maria'' [EP] (Tŷ ar y Graig TAG245, 1973) | |
− | + | *''Duw Ŵyr'' [EP] (Tŷ ar y Graig TAG249, 1974) | |
− | + | *''Dyma Fy Nghân'' (Sain 1048D, 1976) | |
− | + | *''Cân y Bugail'' (Sain 1113D, 1978) | |
− | + | *''Un Dydd ar y Tro'' (Sain 1193D, 1980) | |
− | + | *''Ychydig Hedd'' (Sain C860, 1982) | |
− | + | *''Gwelaf dy Wên'' (Sain 1313D, 1984) | |
− | + | *''Diolch'' (Sain 1387D, 1986) | |
− | + | *''Edrych Ymlaen'' (Sain C696, 1990) | |
− | + | *''Ceidwad Byd'' (Sain SCD2061, 1993) | |
− | + | *''Ffefrynnau Newydd'' (Sain SCD2183, 1998) | |
− | + | *''Sicrwydd Bendigaid'' (Sain SCD2530, 2008) | |
− | + | *''Ceidwad Byd'' (Sain SCD2061, 1993) | |
'''Casgliadau:''' | '''Casgliadau:''' | ||
− | + | *''Presenting Trebor Edwards'' (Sain 1280D, 1983) | |
− | + | *''Goreuon Trebor'' (Sain SCD9031, 1988) | |
− | + | *''The Very Best of Trebor Edwards'' (Sain SCD2169, 1997) | |
− | + | *''Trebor ar ei Orau'' (Sain SCD2377, 2007) | |
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
− | + | *Hefin Wyn, ''Be Bop a Lula’r Delyn Aur'' (Talybont, 2002) | |
− | + | *Trebor Edwards ac Elfyn Pritchard, ''Un Dydd ar y Tro'' (Talybont, 2008) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 21:54, 1 Mehefin 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Un o gantorion mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Cymru yn ystod chwarter olaf yr 20g. Fe’i ganed yn Ninbych a bu’n ffermio ar hyd ei oes yn ardal Betws Gwerful Goch ger Corwen. Er mai amaethyddiaeth oedd prif gynhaliaeth y teulu, roedd i gerddoriaeth le pwysig ar yr aelwyd, ac roedd ei daid – a fu’n ffermio ym Mhen Bryniau, Betws Gwerful Goch – yn berchen ar lais bariton cryf.
Yn ystod yr 1970au cynnar bu Trebor Edwards yn canu mewn cyngherddau gyda Hogiau Clwyd a Lleisiau’r Alwen, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau radio a theledu megis Sêr y Siroedd, Dewch i’r Llwyfan, Dyma Gyfle ac Opportunity Knocks. Yn yr ail gyfres o Dyma Gyfle yn 1971 canodd ‘Holy City’, gan ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth a ddeuai â chantorion o bob rhan o ogledd Cymru i berfformio o flaen torf o dros fil ym Mhafiliwn Corwen.
Yn dilyn ei lwyddiant ar Dyma Gyfle, cynyddodd y galw am ei lais tenor persain. Roedd Trebor Edwards yn hunanddysgedig ar y cyfan ac yn ganwr naturiol wrth reddf ond datblygodd dechneg leisiol drwy dderbyn hyfforddiant gyda’r arweinyddes a’r gyfeilyddes Manon Easter Lewis, Gwilym Gwalchmai Jones (1921–70) a fu’n darlithio yn y Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion (ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd) a’r tenor Rowland Jones (1912–78) a fu’n canu am flynyddoedd gyda chwmni Sadler’s Wells, Llundain. Bu’r pianydd Annette Bryn Parri hefyd yn gyfeilydd iddo am gyfnod gan gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu caneuon.
Yn fuan yn ei yrfa, penderfynodd Trebor Edwards mai gwell fyddai canu mewn cyngherddau a nosweithiau llawen yn hytrach na chystadlu mewn eisteddfodau. Dechreuodd ei yrfa recordio yn 1973 gyda dwy EP ar label Tŷ ar y Graig, is-gwmni Sain. Bu gwerthiant calonogol i’w recordiau cynnar, megis Dyma Fy Nghân (Sain, 1976) a Cân y Bugail (Sain, 1978), gyda ‘’Rhen Shep’ – cyfieithiad a wnaed gan Edward Morus Jones pan oedd ond yn bedair ar ddeg oed – yn ffefryn ar Dyma Fy Nghân.
Daeth llwyddiant ysgubol i ran Trebor Edwards ar ôl recordio’r gân ‘Un Dydd ar y Tro’, trefniant o’r gân ‘One Day at a Time, Sweet Jesus’ gan Marijohn Wilkins a Kris Kristofferson a recordiwyd yn wreiddiol gan Marilyn Sellars yn 1974. Roedd y gân yn hynod o addas i ansawdd sain a chwmpas ei lais. O fewn rhai misoedd o’i ryddhau gwerthodd yr albwm o’r un enw 24,000 o gopïau gan wneud y canwr yn un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus erioed yn yr iaith Gymraeg. Rhyddhawyd Ychydig Hedd yn 1982 ac yna Gwelaf dy Wên yn 1984, recordiau a oedd yn cynnwys trefniannau o ganeuon gan artistiaid megis Ryan Davies, Caryl Parry Jones, Robat Arwyn a Linda Gittins, ynghyd â nifer o emynau Cymraeg.
Roedd ‘Ychydig Hedd’ yn drefniant o ‘Ein bißchen Frieden’ gan Ralph Siegel a Bernd Meinunger, cân a enillodd gystadleuaeth yr Eurovision i Nicole o’r Almaen yn 1982. Ar gyfer y fersiwn Cymraeg, ymunodd disgyblion Ysgol Uwchradd Llangefni o dan Mary S. Jones gyda Trebor Edwards, ac er na fu’n gymaint o lwyddiant ag ‘Un Dydd ar y Tro’, gwerthodd y record ymhell dros 10,000 o gopïau.
Rhwng 1976 a 2008 rhyddhaodd y canwr bymtheg o recordiau, ynghyd ag ambell record yn Saesneg, megis Presenting Trebor Edwards (Sain, 1983). Ar sail gwerthiant ei recordiau, derbyniodd Trebor Edwards bum disg aur. Fodd bynnag, o ganlyniad i boblogrwydd digyffelyb ei recordiau bu rhai adolygwyr yn feirniadol o’r dewis diantur o repertoire a’r ddibyniaeth ar brydiau ar ganeuon sentimental megis ‘Capel y Wlad’ a ‘Croesffordd y Llan’. Ond yn ôl y cerddor Rhys Jones, roedd ei ganeuon yn llenwi bwlch amlwg ac arwyddocaol iawn ym maes adloniant Cymraeg:
- [does] dim dadl ... fod Trebor [Edwards] wedi ennill ei le yng nghalonnau’r rhan fwyaf ohonom ni. Mae’n anodd dirnad weithiau beth yn union yw’r gyfrinach ... [un] o’m gofidiau i yw mai ychydig iawn, iawn o’n cantorion cyfoes sy’n anelu at gerddoriaeth ‘canol y ffordd’, hynny yw at chwaeth y rhan fwyaf o’r boblogaeth. A dyma gyfrinach Trebor ddwedwn i. (Edwards a Pritchard 2008, 144–5)
Dywedodd awdur cofiant Trebor Edwards, Elfyn Pritchard, mai cyfrinach ei lwyddiant oedd y ffaith ei fod yn rhoi’r un parch a sylw i bawb wrth ganu, ac yn sicr roedd naturioldeb a diffuantrwydd ei ganeuon yn dod â’r gynulleidfa’n nes ato.
Erbyn 1994, roedd recordiau Trebor Edwards ar label Sain wedi gwerthu dros 100,000 o gopïau, ac ers hynny mae’r cyfanswm wedi cyrraedd ymhell dros 200,000. Bu hyn yn fodd i gwmni Sain ddatblygu repertoire estynedig o artistiaid a genres trwy ryddhau cynnyrch roc, pop a gwerin mwy amgen ac arbrofol, neu’n wir ambell record glasurol nad oedd yn debygol o werthu mwy na rhai cannoedd. Fel y dywedodd rheolwr Sain, Dafydd Iwan:
- Mae record gan Trebor Edwards yn gwerthu cymaint ddengwaith â goreuon y recordiau roc Cymraeg. Mae Côr Meibion da neu record o oreuon Cerdd Dant Cymru yn gwerthu cymaint deirgwaith â’r grwpiau roc mwyaf poblogaidd. I raddau helaeth iawn, Trebor Edwards a Chorau Meibion sy’n cynnal recordiau roc Cymraeg. (Wyn 2002, 378)
Parhaodd Trebor Edwards i ganu yn ystod yr 1990au, gan ymddangos ar nifer o raglenni teledu megis Cais am Gân, Trebor, Taro Tant a Noson Lawen, ynghyd â theithio’r byd yn perfformio mewn cyngherddau ac achlysuron amrywiol a chan ddifyrru môr-deithwyr ar longau pleser. Fe’i hetholwyd yn llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2008.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Ave Maria [EP] (Tŷ ar y Graig TAG245, 1973)
- Duw Ŵyr [EP] (Tŷ ar y Graig TAG249, 1974)
- Dyma Fy Nghân (Sain 1048D, 1976)
- Cân y Bugail (Sain 1113D, 1978)
- Un Dydd ar y Tro (Sain 1193D, 1980)
- Ychydig Hedd (Sain C860, 1982)
- Gwelaf dy Wên (Sain 1313D, 1984)
- Diolch (Sain 1387D, 1986)
- Edrych Ymlaen (Sain C696, 1990)
- Ceidwad Byd (Sain SCD2061, 1993)
- Ffefrynnau Newydd (Sain SCD2183, 1998)
- Sicrwydd Bendigaid (Sain SCD2530, 2008)
- Ceidwad Byd (Sain SCD2061, 1993)
Casgliadau:
- Presenting Trebor Edwards (Sain 1280D, 1983)
- Goreuon Trebor (Sain SCD9031, 1988)
- The Very Best of Trebor Edwards (Sain SCD2169, 1997)
- Trebor ar ei Orau (Sain SCD2377, 2007)
Llyfryddiaeth
- Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)
- Trebor Edwards ac Elfyn Pritchard, Un Dydd ar y Tro (Talybont, 2008)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.