Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Glyn, Gwyneth (g.1979)"
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
CadiW (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Cantores a chyfansoddwraig caneuon. Yn wreiddiol o Lanarmon, Eifionydd, derbyniodd Gwyneth Glyn ei haddysg yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio Athroniaeth a [[Diwinyddiaeth]], gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf. | Cantores a chyfansoddwraig caneuon. Yn wreiddiol o Lanarmon, Eifionydd, derbyniodd Gwyneth Glyn ei haddysg yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio Athroniaeth a [[Diwinyddiaeth]], gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf. | ||
− | Ei chariad cyntaf oedd barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol yn gyffredinol. Enillodd y Goron yn [[Eisteddfod]] yr Urdd Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth tra oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, trwy berfformio mewn cynyrchiadau gan Gymdeithas Ddrama’r Brifysgol a chanu mewn clybiau [[gwerin]] i gyfeiliant ei gitâr acwstig. | + | Ei chariad cyntaf oedd barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol yn gyffredinol. Enillodd y Goron yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] yr Urdd Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth tra oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, trwy berfformio mewn cynyrchiadau gan Gymdeithas Ddrama’r Brifysgol a chanu mewn clybiau [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | gwerin]] i gyfeiliant ei gitâr acwstig. |
− | Parhaodd i ganu ar ôl dychwelyd i Gymru, yn gyntaf ar daith trwy Gymru fel rhan o’r sioe farddoniaeth a noddwyd gan yr Academi Gymreig, ''Un Cês a Sawl Lodes Lèn'' (2003–4). Plethai ei chaneuon ddylanwadau canu gwlad a chanu gwerin-protest Eingl-Americanaidd yr 1960au (megis Joan Baez a Bob Dylan) gyda’r traddodiad gwerin Cymraeg, a chlywir hyn ar ei record hir gyntaf, ''Wyneb Dros Dro'' (Slacyr, 2005). Mae ambell gyffyrddiad o’r blŵs yn y trac agoriadol ‘Tasa Ti Yma’, tra bod ‘Cân y Llong’ yn awgrymu dylanwad yr hen benillion. Daeth y gân werin-gwlad ‘Adra’, gyda’i defnydd clyfar ond cynnil o ddyfyniadau allan o ganeuon gan Neil Young, Lynyrd Skynyrd, | + | Parhaodd i ganu ar ôl dychwelyd i Gymru, yn gyntaf ar daith trwy Gymru fel rhan o’r sioe farddoniaeth a noddwyd gan yr Academi Gymreig, ''Un Cês a Sawl Lodes Lèn'' (2003–4). Plethai ei chaneuon ddylanwadau canu gwlad a chanu gwerin-protest Eingl-Americanaidd yr 1960au (megis Joan Baez a Bob Dylan) gyda’r traddodiad gwerin Cymraeg, a chlywir hyn ar ei record hir gyntaf, ''Wyneb Dros Dro'' (Slacyr, 2005). Mae ambell gyffyrddiad o’r blŵs yn y trac agoriadol ‘Tasa Ti Yma’, tra bod ‘Cân y Llong’ yn awgrymu dylanwad yr hen benillion. Daeth y gân werin-gwlad ‘Adra’, gyda’i defnydd clyfar ond cynnil o ddyfyniadau allan o ganeuon gan Neil Young, Lynyrd Skynyrd, [[Tebot Piws, Y | Y Tebot Piws]] a John Denver, yn hynod boblogaidd. Sefydlodd ''Wyneb Dros Dro'' Gwyneth Glyn fel un o artistiaid amlycaf yr adfywiad acwstig a chanu gwerin yng Nghymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Cydnabuwyd ei phoblogrwydd yn ystod y cyfnod hwn pan enillodd wobr Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2006. |
− | Dilynwyd ''Wyneb Dros Dro'' gan ail record hir, ''Tonau'' (Gwinllan, 2007). Symudai’r record hon oddi wrth arddull acwstig ''Wyneb Dros Dro'' at sain lawnach a mwy trydanol. Clywid cyfraniadau arni gan gerddorion megis [[Heather Jones]] ac [[Alun Tan Lan]], ac roedd yn arwydd o awydd cyson Gwyneth Glyn i gydweithio gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhaodd fersiwn o’r gân werin ‘Paid â Deud’ ar y cyd â [[Cowbois Rhos Botwnnog]] (Sbrigyn Ymborth, 2008). Bu’n | + | Dilynwyd ''Wyneb Dros Dro'' gan ail record hir, ''Tonau'' (Gwinllan, 2007). Symudai’r record hon oddi wrth arddull acwstig ''Wyneb Dros Dro'' at sain lawnach a mwy trydanol. Clywid cyfraniadau arni gan gerddorion megis [[Jones, Heather (g.1949) | Heather Jones]] ac [[Evans, Alun (Alun Tan Lan; g.1974) | Alun Tan Lan]], ac roedd yn arwydd o awydd cyson Gwyneth Glyn i gydweithio gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhaodd fersiwn o’r gân werin ‘Paid â Deud’ ar y cyd â [[Cowbois Rhos Botwnnog]] (Sbrigyn Ymborth, 2008). Bu’n perfformio gyda’r band ynghyd â recordio gyda Derwyddon Dr Gonzo, ac yn 2009 cynrychiolodd Gymru yng Ngŵyl y Smithsonian, Washington D.C. Yn ddiweddarach, cydweithiodd am gyfnod gyda’r delynores amryddawn [[Finch, Catrin (g.1980) | Catrin Finch]]. |
− | Perthyn ysbryd mwy hwyliog a direidus i’w thrydedd record hir, ''Cainc'' (Gwinllan, 2011), mewn caneuon megis ‘Ewbanamandda’ a ‘Dansin Bêr’. Ar yr un pryd, roedd y record hefyd yn ceisio mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyflwyno [[Cass Meurig]] ar y [[ffidil]] a’r [[crwth]]. Cyfrannodd Twm Morys, canwr [[Bob Delyn | + | Perthyn ysbryd mwy hwyliog a direidus i’w thrydedd record hir, ''Cainc'' (Gwinllan, 2011), mewn caneuon megis ‘Ewbanamandda’ a ‘Dansin Bêr’. Ar yr un pryd, roedd y record hefyd yn ceisio mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyflwyno [[Meurig, Cass | Cass Meurig]] ar y [[ffidil]] a’r [[crwth]]. Cyfrannodd Twm Morys, canwr [[Bob Delyn a'r Ebillion]], eiriau i un gân yn ogystal. |
− | Fodd bynnag, gyda’r arddull werin gyfoes Gymraeg wedi ei dihysbyddu i raddau helaeth erbyn y cyfnod hwn yn ei gyrfa, trodd Gwyneth Glyn ei golygon y tu hwnt i draddodiadau cynhenid Cymru. Yn 2012, trwy gyswllt â’r cynhyrchydd sain Donal Whelan, cyfarfu â’r cerddor o Mumbai, Tauseef Akhtar, ac aeth y ddau ati i greu plethiad gwreiddiol a chwbl unigryw o farddoniaeth Wrdw a [[hen benillion]] Cymraeg. | + | Fodd bynnag, gyda’r arddull werin gyfoes Gymraeg wedi ei dihysbyddu i raddau helaeth erbyn y cyfnod hwn yn ei gyrfa, trodd Gwyneth Glyn ei golygon y tu hwnt i draddodiadau cynhenid Cymru. Yn 2012, trwy gyswllt â’r cynhyrchydd sain Donal Whelan, cyfarfu â’r cerddor o Mumbai, Tauseef Akhtar, ac aeth y ddau ati i greu plethiad gwreiddiol a chwbl unigryw o farddoniaeth Wrdw a [[Canu Penillion (gwreiddiau) | hen benillion]] Cymraeg. |
− | Penllanw’r prosiect oedd Ghazalaw. Gyda’r gantores [[Georgia Ruth Williams]] a’r cerddorion Indiaidd Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das yn rhan o ''ensemble'' a oedd yn cynnwys [[telyn]], tabla, gitâr a harmoniwm, perfformiodd Ghazalaw mewn nifer o wyliau cerdd, gan gynnwys y Desert Festival, Delhi, yn 2012, [[gŵyl]] Exchange yn Chennai yn 2012 a gŵyl WOMEX yng Nghaerdydd yn Hydref 2013. Ffrwyth y cydweithio hwn oedd y record hir ''Ghazalaw'', a ryddhawyd ar Marvels of The Universe, label y gantores [[Cerys Matthews]], ym Medi 2015. | + | Penllanw’r prosiect oedd Ghazalaw. Gyda’r gantores [[Williams, Georgia Ruth (g.1988) | Georgia Ruth Williams]] a’r cerddorion Indiaidd Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das yn rhan o ''ensemble'' a oedd yn cynnwys [[telyn]], tabla, gitâr a harmoniwm, perfformiodd Ghazalaw mewn nifer o wyliau cerdd, gan gynnwys y Desert Festival, Delhi, yn 2012, [[Gwyliau Cerddoriaeth | gŵyl]] Exchange yn Chennai yn 2012 a gŵyl WOMEX yng Nghaerdydd yn Hydref 2013. Ffrwyth y cydweithio hwn oedd y record hir ''Ghazalaw'', a ryddhawyd ar Marvels of The Universe, label y gantores [[Matthews, Cerys (g.1969) | Cerys Matthews]], ym Medi 2015. |
− | Profai ''Ghazalaw'' allu Gwyneth Glyn i barhau i’w hailddyfeisio ei hun trwy weithio gyda cherddorion eraill yng Nghymru a thu hwnt. Bu ei chyfraniad i’r sîn werin-roc Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn bwysig, ynghyd â’i pharodrwydd i ledaenu apêl y canu Cymraeg y tu hwnt i ffiniau’r wlad. Yn ogystal â’i gwaith ym maes cerddoriaeth, fodd bynnag, y mae hefyd yn llwyddo i gynnal gyrfa fel dramodydd, sgriptiwr ac awdur llyfrau, a hi a ysgrifennodd [[libreto]] [[opera]] ''Y Tŵr'' gan y cyfansoddwr [[Guto Puw]]. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2006–7. | + | Profai ''Ghazalaw'' allu Gwyneth Glyn i barhau i’w hailddyfeisio ei hun trwy weithio gyda cherddorion eraill yng Nghymru a thu hwnt. Bu ei chyfraniad i’r sîn werin-roc Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn bwysig, ynghyd â’i pharodrwydd i ledaenu apêl y canu Cymraeg y tu hwnt i ffiniau’r wlad. Yn ogystal â’i gwaith ym maes cerddoriaeth, fodd bynnag, y mae hefyd yn llwyddo i gynnal gyrfa fel dramodydd, sgriptiwr ac awdur llyfrau, a hi a ysgrifennodd [[libreto]] [[opera]] ''Y Tŵr'' gan y cyfansoddwr [[Puw, Guto (g.1971) | Guto Puw]]. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2006–7. |
'''Pwyll ap Siôn''' | '''Pwyll ap Siôn''' | ||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
==Disgyddiaeth== | ==Disgyddiaeth== | ||
− | + | *''Wyneb Dros Dro'' (Slacyr SLAC007, 2005) | |
− | + | *''Tonau'' (Recordiau Gwinllan, 2007) | |
− | + | *''Cainc'' (Recordiau Gwinllan, 2011) | |
− | + | *''Ghazalaw'' (Marvels of The Universe, 2015) | |
{{CC BY-SA Cydymaith}} | {{CC BY-SA Cydymaith}} | ||
+ | [[Categori:Cerddoriaeth]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:41, 8 Gorffennaf 2021
Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.
Cantores a chyfansoddwraig caneuon. Yn wreiddiol o Lanarmon, Eifionydd, derbyniodd Gwyneth Glyn ei haddysg yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, a Choleg Meirion-Dwyfor cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen, i astudio Athroniaeth a Diwinyddiaeth, gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf.
Ei chariad cyntaf oedd barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol yn gyffredinol. Enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth tra oedd yn fyfyriwr yn Rhydychen, trwy berfformio mewn cynyrchiadau gan Gymdeithas Ddrama’r Brifysgol a chanu mewn clybiau gwerin i gyfeiliant ei gitâr acwstig.
Parhaodd i ganu ar ôl dychwelyd i Gymru, yn gyntaf ar daith trwy Gymru fel rhan o’r sioe farddoniaeth a noddwyd gan yr Academi Gymreig, Un Cês a Sawl Lodes Lèn (2003–4). Plethai ei chaneuon ddylanwadau canu gwlad a chanu gwerin-protest Eingl-Americanaidd yr 1960au (megis Joan Baez a Bob Dylan) gyda’r traddodiad gwerin Cymraeg, a chlywir hyn ar ei record hir gyntaf, Wyneb Dros Dro (Slacyr, 2005). Mae ambell gyffyrddiad o’r blŵs yn y trac agoriadol ‘Tasa Ti Yma’, tra bod ‘Cân y Llong’ yn awgrymu dylanwad yr hen benillion. Daeth y gân werin-gwlad ‘Adra’, gyda’i defnydd clyfar ond cynnil o ddyfyniadau allan o ganeuon gan Neil Young, Lynyrd Skynyrd, Y Tebot Piws a John Denver, yn hynod boblogaidd. Sefydlodd Wyneb Dros Dro Gwyneth Glyn fel un o artistiaid amlycaf yr adfywiad acwstig a chanu gwerin yng Nghymru yn ystod degawd cyntaf yr 21g. Cydnabuwyd ei phoblogrwydd yn ystod y cyfnod hwn pan enillodd wobr Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2006.
Dilynwyd Wyneb Dros Dro gan ail record hir, Tonau (Gwinllan, 2007). Symudai’r record hon oddi wrth arddull acwstig Wyneb Dros Dro at sain lawnach a mwy trydanol. Clywid cyfraniadau arni gan gerddorion megis Heather Jones ac Alun Tan Lan, ac roedd yn arwydd o awydd cyson Gwyneth Glyn i gydweithio gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr eraill. Flwyddyn yn ddiweddarach rhyddhaodd fersiwn o’r gân werin ‘Paid â Deud’ ar y cyd â Cowbois Rhos Botwnnog (Sbrigyn Ymborth, 2008). Bu’n perfformio gyda’r band ynghyd â recordio gyda Derwyddon Dr Gonzo, ac yn 2009 cynrychiolodd Gymru yng Ngŵyl y Smithsonian, Washington D.C. Yn ddiweddarach, cydweithiodd am gyfnod gyda’r delynores amryddawn Catrin Finch.
Perthyn ysbryd mwy hwyliog a direidus i’w thrydedd record hir, Cainc (Gwinllan, 2011), mewn caneuon megis ‘Ewbanamandda’ a ‘Dansin Bêr’. Ar yr un pryd, roedd y record hefyd yn ceisio mynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin gan gyflwyno Cass Meurig ar y ffidil a’r crwth. Cyfrannodd Twm Morys, canwr Bob Delyn a'r Ebillion, eiriau i un gân yn ogystal.
Fodd bynnag, gyda’r arddull werin gyfoes Gymraeg wedi ei dihysbyddu i raddau helaeth erbyn y cyfnod hwn yn ei gyrfa, trodd Gwyneth Glyn ei golygon y tu hwnt i draddodiadau cynhenid Cymru. Yn 2012, trwy gyswllt â’r cynhyrchydd sain Donal Whelan, cyfarfu â’r cerddor o Mumbai, Tauseef Akhtar, ac aeth y ddau ati i greu plethiad gwreiddiol a chwbl unigryw o farddoniaeth Wrdw a hen benillion Cymraeg.
Penllanw’r prosiect oedd Ghazalaw. Gyda’r gantores Georgia Ruth Williams a’r cerddorion Indiaidd Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das yn rhan o ensemble a oedd yn cynnwys telyn, tabla, gitâr a harmoniwm, perfformiodd Ghazalaw mewn nifer o wyliau cerdd, gan gynnwys y Desert Festival, Delhi, yn 2012, gŵyl Exchange yn Chennai yn 2012 a gŵyl WOMEX yng Nghaerdydd yn Hydref 2013. Ffrwyth y cydweithio hwn oedd y record hir Ghazalaw, a ryddhawyd ar Marvels of The Universe, label y gantores Cerys Matthews, ym Medi 2015.
Profai Ghazalaw allu Gwyneth Glyn i barhau i’w hailddyfeisio ei hun trwy weithio gyda cherddorion eraill yng Nghymru a thu hwnt. Bu ei chyfraniad i’r sîn werin-roc Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn bwysig, ynghyd â’i pharodrwydd i ledaenu apêl y canu Cymraeg y tu hwnt i ffiniau’r wlad. Yn ogystal â’i gwaith ym maes cerddoriaeth, fodd bynnag, y mae hefyd yn llwyddo i gynnal gyrfa fel dramodydd, sgriptiwr ac awdur llyfrau, a hi a ysgrifennodd libreto opera Y Tŵr gan y cyfansoddwr Guto Puw. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2006–7.
Pwyll ap Siôn
Disgyddiaeth
- Wyneb Dros Dro (Slacyr SLAC007, 2005)
- Tonau (Recordiau Gwinllan, 2007)
- Cainc (Recordiau Gwinllan, 2011)
- Ghazalaw (Marvels of The Universe, 2015)
- Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.